minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Archesgob Cymru i ddathlu deng mlwyddiant Gŵyl Barddoniaeth a Chelfyddydau Aberdaron

Bydd Archesgob Cymru, Andrew John, yn dathlu 10 mlwyddiant yr Ŵyl Barddoniaeth a Chelfyddydau mewn gwasanaeth arbennig yn Aberdaron ddydd Sul, 16 Mehefin.

Bydd Archesgob Cymru yn llywyddu dros wasanaeth dydd Sul yr Ŵyl am 10:30 yn Eglwys Sant Hywyn, sydd wedi bod yn rhan annatod o’r ŵyl flynyddol. Nicola Slee, Athro Diwinyddiaeth Ymarferol Ffeministaidd yn y Vrije Universiteit, Amsterdam fydd y pregethwr gwadd.

Cymdeithas RS Thomas ac ME Eldridge sy’n trefnu’r ŵyl. Eglwys Sant Hywyn yn Aberdaron oedd plwyf olaf RS Thomas, y bardd-offeiriad Cymreig enwog o’r 20fed ganrif. Mae thema gŵyl 2024, sef “Awduron Ysbrydol Anglicanaidd yr 20fed Ganrif”, yn cyd-fynd â chyhoeddi antholeg gysylltiedig.

Bydd yr Archesgob hefyd yn westai anrhydeddus yng nghyngerdd nos Sadwrn yr ŵyl wedi’i harwain gan M. Wynn Thomas o Abertawe, awdur Poems from the Soul: Twelve of the Great Hymns of Wales. Bydd y cyngerdd yn cynnwys perfformiadau gan y delynores Gwenan Gibbard a Chôr yr Heli, a fydd yn dod â’r emynau annwyl hyn yn fyw.

Mae Poems from the Soul yn datgelu calon ac enaid barddoniaeth Gymreig, ac mae llawer o’r cerddi wedi’u hysgrifennu gan ofaint, ffermwyr a phregethwyr sydd wedi chwarae rhan hanfodol wrth lunio hunaniaeth Cymru. Mae’r casgliad yn cynnwys darluniau gwreiddiol gan Ruth Jên Evans ac mae’n tynnu sylw at bŵer trawsnewidiol cân wrth greu cenedl fodern.

Dywedodd Archesgob Cymru, “Mae’n bleser cael llywyddu yng ngwasanaeth deng mlwyddiant yr Ŵyl Barddoniaeth a Chelfyddydau. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae’r ŵyl wedi dod yn un o berlau’r sîn gelfyddydau yng Ngogledd Cymru. Bydd y thema eleni yn dathlu ein treftadaeth gyfoethog o awduron ysbrydol Anglicanaidd sydd wedi helpu cymaint o bobl i ddyfnhau eu perthynas â Duw.

“Fe wnaeth RS Thomas, a oedd ei hun yn un o offeiriaid yr Eglwys yng Nghymru, ddangos sut y gall gweinidogaeth trwy farddoniaeth gysylltu’n ddwfn â’r ysbryd dynol. Yn hanesyddol, mae’r eglwys wedi bod yn noddwr mawr y celfyddydau, ac mae’r ŵyl hon yn parhau â’r traddodiad cyfoethog hwnnw trwy ddathlu croestoriadedd ffydd a chreadigrwydd.”

Meddai Susan Fogarty, cyfarwyddwr yr ŵyl, “Mae pobl yn dod o bob cornel o’r byd i ymweld ag Eglwys Sant Hywyn ac Aberdaron i weld y lleoedd a’r dirwedd a ysbrydolodd farddoniaeth Thomas. Eleni, rydym wedi gweld mwy o alw am docynnau ac mae gweithdai barddoniaeth, darlithoedd ar farddoniaeth ac ysbrydolrwydd a phererindod wedi bod yn arbennig o boblogaidd.”

Mae Susan yn cael ei chydnabod fel Gweinidog Arloesi Lleyg yn Esgobaeth Bangor a’i harbenigedd yw darllen gwaith RS Thomas ac ennyn diddordeb ei chynulleidfa i gysylltu â barddoniaeth mewn eglwysi ac yn yr amgylchedd naturiol.

Am fwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau, ewch i https://rsthomaspoetry.co.uk/


Ynglŷn â’r Ŵyl

Mae’r 10fed Ŵyl Barddoniaeth a Chelfyddydau flynyddol yn dathlu RS Thomas ac ME Eldridge ym mhentref glan môr Aberdaron, lle’r oedd ef yn ficer a hithau’n artist.

Cafodd yr ŵyl gyntaf ei chynnal yn 2014. Ers hynny, mae hi wedi bod yn fraint cael croesawu siaradwyr nodedig o’r Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau, gan gynnwys ein noddwr Rowan Williams, cyn-Archesgob Caergaint. Mae’r ŵyl wedi noddi ffyrdd newydd o fynegi barddoniaeth a chelf ar gyfer cynulleidfaoedd newydd. Mae lleoliad ein gŵyl yn Aberdaron ym Mhen Llŷn yn galluogi pobl i brofi drostyn nhw eu hunain y tirweddau a ysbrydolodd farddoniaeth Thomas a chelf Eldridge.

Erbyn hyn, mae’r Ŵyl yn cael ei rheoli gan Gymdeithas RS Thomas ac ME Eldridge ac mae’n rhan allweddol o’i chenhadaeth i ddod â phobl ynghyd, gan werthfawrogi gweithiau llenyddol ac artistig, cyfansoddiadau cerddorol, pobl a lleoedd sy’n gysylltiedig ag RS Thomas ac ME Eldridge.

Cymraeg

Archbishop of Wales to celebrate 10th anniversary of Aberdaron’s Poetry and Arts Festival

The Archbishop of Wales Andrew John will celebrate the 10th anniversary of the Poetry and Arts Festival at a special service in Aberdaron on Sunday, 16th June.

The Archbishop of Wales will preside at the Festival’s 10:30 Sunday service at St Hywyn’s Church, which has been an integral part of the annual festival. Nicola Slee, Professor of Feminist Practical Theology at the Vrije Universiteit, Amsterdam will be the guest preacher.

The festival is organised by the RS Thomas & ME Eldridge Society. St Hywyn’s Church in Aberdaron was the final parish of RS Thomas, the renowned 20th-century Welsh poet-priest. The 2024 festival theme, "Anglican Spiritual Writers of the 20th Century," coincides with the upcoming publication of a related anthology.

The Archbishop will also be the guest of honour at the festival’s Saturday night concert hosted by M. Wynn Thomas of Swansea, author of Poems from the Soul: Twelve of the Great Hymns of Wales. The concert will feature performances by harpist Gwenan Gibbard and Côr y Heli, who will bring these beloved hymns to life.

Poems from the Soul reveals the heart and soul of Welsh poetry, with many of the poems written by blacksmiths, farmers, and preachers who have played a vital role in shaping Welsh identity. The collection includes original illustrations by Ruth Jên Evans and highlights the transformative power of song in creating a modern nation.

The Archbishop of Wales said, “It is a pleasure to be presiding at the 10th anniversary service of the Poetry and Arts Festival. For the past 10 years the festival has become a jewel in the crown of North Wales’ art scene. This year’s theme will celebrate our rich heritage of Anglican spiritual writers who have helped so many people deepen their relationship with God.

“RS Thomas, himself a priest of The Church in Wales, exemplified how ministry through poetry can connect deeply with the human spirit. Historically, the church has been a great patron of the arts, and this festival continues that rich tradition by celebrating the intersection of faith and creativity.”

Festival director Susan Fogarty, says, “People come from all over the world to visit St Hywyn’s and Aberdaron to see the places and landscape which inspired Thomas’s poetry. This year we have seen a higher demand for tickets with poetry workshops, lectures on poetry and spirituality and a pilgrimage being especially popular.”

Susan is recognised as a Lay Pioneer Minister in the Diocese of Bangor who specialises in reading RS Thomas’s work and engaging her audience to connect with poetry in churches and the natural environment.

For more information and to secure your tickets, please visit https://rsthomaspoetry.co.uk/


About the Festival

The 10th annual Poetry & Arts Festival celebrates RS Thomas & ME Eldridge in the Welsh coastal village of Aberdaron where he was vicar and she an artist.

The first festival was held in 2014. Since then we have been honoured to welcome distinguished speakers from the United Kingdom and the United States, including our patron Rowan Williams, the former Archbishop of Canterbury. The festival has sponsored fresh expressions of the poetry and art for new audiences. Our festival location in Aberdaron on the Llŷn Peninsula enables people to experience first-hand the landscapes that inspired the poetry of Thomas and the art of Eldridge.

The Festival is now managed by the RS Thomas & ME Eldridge Society and is a key part of its mission to bring together people with an appreciation of the literary and artistic works, musical compositions, people and places associated with RS Thomas and ME Eldridge.