minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Twf yr Eglwys yn Y Bermo diolch i Llan Llanast

Daeth cynulleidfa niferus i Eglwys Ioan Sant yn Y Bermo i’r digwyddiad Llan Llanast diwerddaf ym mis Mawrth, gyda 60 o blant yn cymryd rhan. Mae hyn yn gynnydd sylweddol o haf 2023, pan nad oedd dim ond 15 o blant yn bresennol.

Mae Llan Llanast yn Eglwys Ioan Sant yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau hwyliog, gan gynnwys crefftau, gemau a gweithgareddau hwyliog sy’n gysylltiedig â bwyd fel addurno crempogau. Mae’n rhoi cyfle i blant archwilio ffydd trwy fynegiant creadigol wrth ddysgu am gariad, caredigrwydd a thrugaredd. Mae pob sesiwn yn cynnwys amser ar gyfer addoli. Yn ystod darlleniadau penodol o'r Beibl, megis stori Iesu yn cael ei demtio gan y Diafol, mae'r plant yn gweiddi “Hwre!” yn frwdfrydig pan glywant enw Iesu ac “Bŵ!” pan enwir y Diafol. Mae’r dull rhyngweithiol hwn yn helpu i atgyfnerthu’r neges bod Iesu’n dod â newyddion da.

Llan Llanast, Bermo

Wedi ei sefydlu 21 mlynedd yn ôl, mae Llan Llanast bellach wedi ei sefydlu mewn 30 o wledydd fel ffordd ledaenu neges Gristnogol ymysg teuluoedd. Dengys ymchwil o 2019 fod mwy na 60 y cant o'r teuluoedd sy’n mynychu Llan Llanast yn newydd i’r eglwys. Roedd yr adroddiad ‘Playfully Serious,’ a oedd yn seiliedig ar ddwy flynedd o ymchwil gan Lu’r Eglwys, yn cynnwys cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda arweinwyr eglwys, gwirfoddolwyr, a chyfranogwyr. Canfu fod 40 y cant o'r rhai sy’n mynychu yn dod o deuluoedd heb fawr ddim neu ddim cysylltiad blaenorol o gwbl â’r eglwys, ac 20 y cant o deuluoedd oedd wedi rhoi’r gorau i fynychu’r eglwys yn llwyr. Mae Eglwys Ioan Sant bellach yn lle croesawgar i deuluoedd, gan ddenu pobl o bell ac agos, gan gynnwys Tywyn a Dolgellau, i ymuno â'r gymuned.

Llan Llanast, Bermo

Dywedodd y Tad Ben Griffith, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Ardudwy ac arweinydd Llan Llanast, “Mae Llan Llanast wedi dod yn borth i lawer o deuluoedd ymgysylltu â’u ffydd mewn amgylchedd hamddenol. Rydym wrth ein boddau yn gweld ei dwf a’r effaith gadarnhaol ar ein cymuned eglwysig ehangach.”

Dywedodd Esgob Enlli, David Morris, “Mae gweinidogaeth plant Eglwys Ioan Sant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant. Trwy gymuned, cyfeillgarwch a chwarae, mae’n darparu lle croesawgar lle gall plant ymgysylltu a ffynnu. Mae’n galonogol gweld cymaint o fywydau ifanc yn cael eu cyfoethogi a’u cefnogi, gan atal unigrwydd ac annog ymdeimlad o berthyn.”

Bydd Llan Llanast nesaf Eglwys Ioan Sant yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn, Ebrill 19 am 11am.


Gall Eglwys Ioan Sant, yr un fwyaf ym Mermo, dderbyn hyd at 1,000 o bobl ac mae’n ymdebygu i gadeirlan fach. Mae ar agor bob dydd rhwng 10am a 4pm, ac yn aml mae ymwelwyr yn nodi’n fynych fod y ddringfa serth at yr eglwys werth yr ymdrech bob cam, a’u bod wedi cyrraedd yn cael cael eu gwobrwyo gan y gofod hardd a thawelwch heddychlon y tu mewn.

Cymraeg

Church growth in Barmouth thanks to Messy Church

St John's Church in Barmouth celebrated a remarkable turnout at its latest Messy Church event, with 60 children participating in March. This marks a significant increase from the summer of 2023, when attendance was just 15 children.

Messy Church at St John’s offers a range of fun activities, including crafts, games, and food-related fun like pancake decorating. It gives children a chance to explore faith through creative expression while learning about love, kindness, and compassion. Each session includes a time for worship. During certain Bible readings, such as the story of Jesus being tempted by the Devil, children enthusiastically shout "Hooray!" whenever they hear Jesus's name and “Boo!” when the Devil is mentioned. This interactive approach helps reinforce the message that Jesus brings good news.

Messy Church, Barmouth

Founded 21 years ago, Messy Church has expanded to over 30 countries as a Christian outreach for families. Research from 2019 indicates that more than 60 percent of families attending Messy Church are new to church. The report 'Playfully Serious,' based on two years of research by the Church Army, used interviews and focus groups with church leaders, volunteers, and participants. It found that 40 percent of attendees came from families with little or no previous contact with church, and 20 percent from families who had stopped attending church altogether. St John's has become a welcoming place for families, attracting people from as far as Tywyn and Dolgellau to join the community.

Happy kids at Messy Church

Father Ben Griffith, the Ministry Area Leader for Bro Ardudwy and the leader of Messy Church, says, "Messy Church has become a gateway for many families to engage with faith in a relaxed environment. We're delighted to see its growth and the positive impact on our wider church community."

Bishop of Bardsey David Morris says, “St John's children's ministry is making a real difference in children's lives. Through community, friendship, and play, St John’s is provides a welcoming space where children can connect and thrive. It's heartening to see so many young lives enriched and supported, preventing isolation and fostering a sense of belonging.”

Happy kids at Messy Church

The next Messy Church at St John's will be held on Saturday, April 19 at 11am.


St John's Church, the largest in Barmouth, can accommodate up to 1,000 people and resembles a small cathedral. Open daily from 10am to 4pm, visitors often remark that the climb up the hill is rewarded by the beautiful and serene space inside.