Gŵyl newydd i ddathlu llwybr pererindod Ynys Môn
Bydd gŵyl newydd sy’n dathlu llwybr pererindod Cybi a Seiriol ar Ynys Môn yn cael ei chynnal yr haf hwn, gyda theithiau cerdded, sgyrsiau, cerddoriaeth a digwyddiadau treftadaeth mewn eglwysi ledled yr ynys.
Cynhelir Gŵyl Cybi a Seiriol rhwng 3 a 5 Gorffennaf. Dyma’r ŵyl gyntaf sy’n canolbwyntio ar Lwybr Cybi a Seiriol, llwybr pererindod 57 milltir o hyd a ysbrydolwyd gan hanes y seintiau o’r chweched ganrif, Sant Cybi a Sant Seiriol.
Wedi’i threfnu gan Esgobaeth Bangor, bydd yr ŵyl yn gwahodd ymwelwyr i ddarganfod rhai o eglwysi hanesyddol Ynys Môn a dysgu mwy am dreftadaeth Gristnogol yr ynys.
Mae’r llwybr yn dilyn rhannau o Lwybr Arfordir Cymru a hen lwybrau mewndirol rhwng Caergybi a Phenmon, gan fynd trwy dirweddau arfordirol, gwledig a hanesyddol ar draws yr ynys.
Mae’r rhaglen yn cynnwys teithiau pererindod dan arweiniad, datganiad ar y sielo ym Mhenmon, sgyrsiau ar hanes lleol a thirweddau cysegredig, perfformiad yn archwilio trychineb llong y Royal Charter, gwasanaeth pererindod a bendith ym Mhenmon, a Chymanfa Ganu yng Nghaergybi.
Gall pererinion sy’n dilyn y llwybr brynu pasbort a chasglu 11 stamp mewn eglwysi ar hyd y ffordd. Crëwyd dyluniadau’r stampiau gan ddisgyblion ysgolion lleol i’r llwybr ac maent yn adlewyrchu hanes a chymeriad yr eglwysi a’r safleoedd y maent yn eu cynrychioli.
Dywedodd Archddiacon Môn, John Harvey, "Rydym yn gweld diddordeb cynyddol mewn pererindod ledled Cymru oherwydd rhaglenni fel Pilgrimage y BBC. Mae pobl yn mwynhau’r cyfle i gerdded, darganfod lleoedd newydd a dysgu am rai o eglwysi hanesyddol Ynys Môn.
"Mae llawer yn adnabod arfordir Ynys Môn, ond mae llai yn gyfarwydd â straeon yr eglwysi a’r seintiau sydd i’w cael ar hyd y ffordd. Mae’r ŵyl yn gyfle i gyflwyno’r straeon hynny i gynulleidfa ehangach."
Ychwanegodd, "Mae’r ŵyl hon yn gyfle i brofi’r llwybr drwy gerdded, cerddoriaeth, hanes neu addoliad. Gobeithiwn y bydd yn annog mwy o bobl i ymweld â’r eglwysi a’r cymunedau sy’n gwneud y llwybr hwn yn brofiad pererindod gwirioneddol arbennig."
Mae pob digwyddiad yn rhad ac am ddim, er bod angen archebu ymlaen llaw ar gyfer y rhan fwyaf o’r gweithgareddau. Gellir dod o hyd i fanylion ar dudalen Eventbrite yr ŵyl.
New festival to celebrate Anglesey pilgrimage route
A new festival celebrating Anglesey's Cybi a Seiriol pilgrimage route will take place this summer, with walks, talks, music and heritage events held in churches across the island.
Gŵyl Cybi a Seiriol will be held from 3–5 July and is the first festival centred on Llwybr Cybi a Seiriol, a 57-mile pilgrimage route inspired by the story of the sixth-century saints Cybi and Seiriol.
Organised by the Diocese of Bangor, the festival will invite visitors to discover some of Anglesey's historic churches and learn more about the island's Christian heritage.
The route follows sections of the Wales Coast Path and ancient inland footpaths between Holyhead and Penmon, passing through coastal, rural and historic landscapes across the island.
The programme includes guided pilgrim walks, a cello recital at Penmon, talks on local history and sacred landscapes, a performance exploring the Royal Charter shipwreck, a pilgrimage service and blessing at Penmon, and a Cymanfa Ganu at Holyhead.
Pilgrims following the route can purchase a passport and collect 11 stamps at churches along the way. The stamp designs were created by pupils from schools near the pilgrimage route and reflect the history and character of the churches and sites they represent.
Archdeacon of Anglesey John Harvey, says, "We're seeing growing interest in pilgrimage across Wales because of programmes like BBC Pilgrimage. People enjoy the chance to walk, discover new places and learn about some of Anglesey's historic churches.
"Many people know Anglesey's coastline, but fewer know the stories of the churches and saints found along the way. The festival is an opportunity to bring those stories to a wider audience."
He added: "This festival is a chance to experience the route through walking, music, history or worship. We hope it will encourage more people to visit the churches and communities that make this route a truly special pilgrimage experience."
All events are free, although advance booking is required for most activities. Details can be found on the festival's Eventbrite page.