minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Proffil Bro Eryry | Bro Eryri Profile

Yr Wyddfa
English

Yn gwasanaethu cymunedau gwledig ym mynyddoedd mawreddog a Bwlch Llanberis Eryri.


Rydym yn chwilio am arweinydd sydd:

  • Yn llawn egni a gallu, gydag angerdd a gweledigaeth i weld Teyrnas Dduw yn dod i Fro Eryri.
  • Yn awyddus i ymgysylltu â'n cymunedau a'n pobl nad ydynt yn dod i'r eglwys, i ysbrydoli a rhannu Ffydd yn greadigol a pherthnasol.
  • Yn annog rhoi lletygarwch i ymwelwyr a phererinion, ac sy'n gallu gwella ein cyfleusterau.
  • Yn alluogwr medrus sy'n rhyddhau rhoddion eraill ac yn adeiladu ffyrdd newydd o weithio gyda'n gilydd.
  • Yn gallu gweinidogaethu drwy gyfrwng y Gymraeg eisoes (ond os nad yw, rydym ni a'r esgobaeth wedi ymrwymo i gefnogi dysgwyr Cymraeg i gaffael sgiliau newydd).
Eglwys Crist, Deiniolen

Cyflwyniad

Cafodd y diwydiant chwareli llechi a ddiffiniodd yr ardal hon tan y 1960au ei gydnabod yn ddiweddar fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Heddiw mae cyflogaeth dymhorol mewn twristiaeth, rhai diwydiannau ysgafn a phobl yn cymudo i drefi cyfagos.Mae amaethyddiaeth yn dal i fod yn bwysig, gyda ffermydd defaid hynafol yr ucheldir wedi'u cysylltu gan lwybrau mynydd cul. Mae miloedd o bobl yn dod i chwilio am antur a her wrth iddynt ddringo, cerdded, beicio, ceufadu, padlfyrddio neu redeg yng nghanol ein golygfeydd godidog.

Mae gan bob pentref ym Mro Eryri ei hanes a'i hunaniaeth ei hun. Mae grwpiau celfyddydau creadigol a chymunedol yn gryf. Mae rhai ohonom yn mynd yn ôl sawl cenhedlaeth, ac eraill wedi cael eu denu i Eryri yn llawer mwy diweddar. Mae'r ffaith fod cymaint o bobl newydd yn barod i ddysgu Cymraeg a chofleidio bywyd yma drwy’r cyfrwng hwnnw yn rhoi gobaith o ran gwarchod y diwylliant gwledig gwerthfawr a bregus hwn.

Rydym wedi bod heb aelod ar ddyletswydd am dros 5 mlynedd, ond fe'n cefnogir gan ein clerigwyr anghyflogedig sydd wedi ymddeol, yr archddiacon a'r archesgob, darllenydd lleyg ac, yn gynyddol, aelodau eraill o'r lleygwyr sy'n cymryd rhan weithredol ym Mro Eryri. Erbyn hyn mae arweinwyr addoli (ac mae mwy newydd gwblhau eu hyfforddiant) ac ymwelwyr bugeiliol. Mae’r aelodau lleyg hefyd yn hanfodol mewn rhwydweithiau cymunedol a gyda gweithgareddau codi arian.

Gofynnwyd i ni mewn cyfarfod arweinwyr diweddar, pa resymau oedd gennym ni yn yr Ardal Weinidogaeth dros fod yn ddiolchgar. Dywedodd un aelod o'r tîm ar unwaith: "Rydyn ni'n dal yma, yn eistedd o gwmpas y bwrdd yma, yn cynllunio ein gwasanaethau a'n digwyddiadau ac yn mwynhau cwmni ein gilydd".

Padarn Sant, Llanberis

Y cynulleidfaoedd

Ceir gwasanaethau wythnosol yn eglwys hynafol Sant Peris (yn y bwlch yn Nant Peris), yn Eglwys Sant Padarn yn stryd fawr pentref Llanberis, Eglwys Santes Helen ym Mhenisa'r-waun (gyda'i Neuadd Eglwys gyfagos) ac Eglwys Crist yn Neiniolen. Yn ogystal, ceir Eglwys Gaffi bob pythefnos yn Sefydliad Pentref Llanrug ac ail-gychwynnwyd addoliad misol yn ddiweddar yn Eglwys Llanddeiniolen, wedi'i hamgylchynu gan ei choed ywen sy’n dyddio’n ôl dros fil o flynyddoedd. Mae gan bob eglwys ei gwirfoddolwyr a'i bywyd ymroddedig ei hun, ond rydym hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd ar gyfer gwasanaethau a digwyddiadau ar y cyd.

Nid oes gennym gynulleidfaoedd mawr, ac nid yw rhai wedi’u hadfer yn dilyn cyfnod cyfyngiadau symud y Pandemig, ond mae gennym ystod lawn, reolaidd ac eang o wasanaethau dwyieithog ar draws ardal y weinidogaeth. Yn ogystal â Chymun, a Boreol Weddi a Hwyrol Weddi fel y byddech yn ei ddisgwyl, rydym yn cynnal llawer o wasanaethau eraill (ac wedi cyfarfod ar-lein). Mae'r cyhoedd ehangach yn dal i ddod atom ar gyfer priodasau, bedyddiadau ac angladdau. Rydym yn cynnal gwasanaethau arbennig ar adegau gwyliau mawr, yn enwedig adeg y Nadolig (gan gynnwys gwasanaethau preseb poblogaidd), y Pasg a'r Cynhaeaf, ac adegau coffâd. Rydym yn cynnal gwasanaethau achlysurol sy'n berthnasol i weithgareddau lleol, er enghraifft, dathlu'r gwasanaeth achub mynydd lleol. Rydym yn ymdrechu i fod yn arloesol yn rhai o'n gwasanaethau, megis gwasanaethau teuluol, gwasanaethau awyr agored, gwasanaethau golau cannwyll ac Eglwys Gaffi.

Yn ystod yr Adfent a'r Grawys, mae grwpiau o blwyfolion yn cyfarfod yn wythnosol i drafod ein ffydd. Roedd un o'r grwpiau hyn mor boblogaidd mae wedi parhau i gyfarfod fwy neu lai yn fisol ers hynny. Mae ein hadeiladau'n bwysig i bobl leol ac ymwelwyr ac mae rhai yn gadael ceisiadau am weddi. Mae eglwysi yn fannau casglu ar gyfer y Banc Bwyd lleol.

Mae llawer o'n hallgymorth yn cynnwys bwyd. Yn ogystal â’r Eglwys Gaffi, rydym yn darparu prydau bwyd fel Brecwast Mawr ar gyfer Cymorth Cristnogol, Swper y Cynhaeaf a The Mefus. Mae un o'n heglwysi yn cynnal brecwast rheolaidd ar fore Llun o de a thost. Mae gan un arall berthynas waith agos gyda'r dafarn drws nesaf, sy'n aml yn lleoliad ar gyfer prydau eglwys a ffeiriau Nadolig. Mae un arall yn trefnu prydau rheolaidd, a theithiau achlysurol. Rydym yn gweini te a choffi (a bisgedi a chacennau os ydych chi'n lwcus) ar ôl ein gwasanaethau ar y Sul, sy'n cael eu croesawu gan gwsmeriaid rheolaidd ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Ardal i dwristiaid yw hon, a rhan o'n gweinidogaeth yw cadw ein heglwysi yn agored yn ystod y dydd. Mae'r enwau a'r cyfeiriadau yn llyfrau'r ymwelwyr yn awgrymu bod hwn yn bolisi llwyddiannus. Rydym yn ceisio estyn allan at bobl y tu hwnt i'n cynulleidfaoedd bach, drwy gynnal cyngherddau rheolaidd (sy'n aml yn ddigwyddiadau codi arian ar gyfer achosion lleol), sy'n cynnwys ysgolion lleol, y Band Arian lleol, corau a cherddorion. Rydym yn cynnal gwyliau ac arddangosfeydd blodau yn ein heglwysi a'n ffeiriau ar y tir, ac mae'r cofrestru ar gyfer Ras yr Wyddfa yn digwydd yn yr eglwys.

Llyn Padarn

Y dyfodol

Rydyn ni'n dal i ddysgu sut i gydweithio yn dda fel Ardal Weinidogaeth, ac mae angen Ficer i'n helpu ni i dyfu yn hynny o beth. Rydym yn wynebu heriau sylweddol iawn gydag adeiladau a chyllid eglwysig; mae yna broblemau hirsefydlog i'w datrys.Gall fod yn rhwystredig, felly wrth gwrs rydym weithiau'n teimlo'n fregus, yn amddiffynnol neu o dan bwysau. Ond yn ein cynulleidfaoedd a'r cymunedau hyn mae yna hefyd lawer o chwerthin, cyfeillgarwch, caredigrwydd a lletygarwch. Rydym ni y bobl yn dal yma gyda'n gilydd, ac rydym ni'n dal eisiau bod yma, oherwydd rydyn ni'n ymddiried yn Nuw sy'n caru'r lle hwn.


Darllenwch y broses ymgeisio.

Cymraeg

Serving rural communities in the majestic mountains and Llanberis Pass of Eryri (Snowdonia).


We are looking for a leader who is:

  • Energetic and capable, with passion and vision to see God’s Kingdom come in Bro Eryri.
  • Eager to engage with our communities and people who don’t come to church, to inspire, share Faith creatively and be relatable.
  • Encouraging of our hospitality to visitors and pilgrims, able to enhance our facilities.
  • A skilled enabler who releases the gifts of others and builds new ways of working together.
  • Already able to minister through the medium of Welsh (but if not, we and the diocese are committed to supporting Welsh learners in the acquisition of new skills).
  • Servant-hearted, prayerful, compassionate, wise, able to reconcile and foster unity
  • Creative and adaptable, experienced in a range of traditions, comfortable with worship in a variety of styles and settings, able to encourage school and youth work.
  • A positive team-player with a sense of fun
Eglwys Crist, Deiniolen

Introduction

The slate quarrying industry which so defined this area until the 1960s was recently recognised as a UNESCO World Heritage Site. Today there is seasonal employment in tourism, some light industry and people commute to neighbouring towns.Agriculture is still important, with ancient upland sheep farms linked by narrow mountain tracks. Thousands of people come seeking adventure, challenge and meaning as they climb, walk, cycle, kayak, paddleboard or run in our awe-inspiring scenery.

Each village in Bro Eryri has its own history and identity.Creative Arts and community groups are strong.Some of us go back many generations, others have been drawn to Eryri much more recently.It gives hope for the preservation of this precious and vulnerable rural culture that so many new people are willing to learn Welsh and embrace life here in that medium.

We've been without an incumbent for more than 5 years, but we are supported by our non-stipendiary and retired clergy, the archdeacon and archbishop, a lay reader and, increasingly, other members of the laity who are taking active roles in Bro Eryri. There are now worship leaders (and more have just completed their training) and pastoral visitors. Members of the laity are also crucial in community networks and fund-raising.

We were asked in a recent leaders’ meeting, what reasons did we in the Ministry Area have for being grateful? One member of the team quickly spoke up: "We're still here, sitting around this table, planning our services and events and enjoying each other’s company".

Saint Padarn's, Llanberis

The congregations

There are weekly services in the ancient church of St Peris (at Nant Peris in the mountain pass), St Padarn’s in the village High Street of Llanberis, Santes Helen in Penisa’rwaun (with its adjacent Church Hall) and Eglwys Crist in Deiniolen.In addition, fortnightly Café Church is held in the Llanrug Village Institute and monthly worship was recently restarted in Llandeiniolen Church, surrounded by its millennia-old yew trees.Each church has its own committed volunteers and life, but we also meet regularly for joint services and events.

We don't have big congregations, and some have not recovered from the Pandemic lockdown, but we have a full, regular and wide range of bilingual services across the ministry area. As well as Communion, and Morning and Evening Prayer that you would expect, we hold many other services (and have met online). The wider public still come to us for weddings, baptisms and funerals. We hold special services at the times of major festivals, especially at Christmas (including popular crib services), Easter and Harvest, and times of commemoration. We hold occasional services that are relevant to local activities, for example, celebrating the local mountain rescue service. We endeavour to be innovative in some of our services, such as family services, outdoor services, candle services and Café Church.

During Advent and Lent, groups of parishioners meet weekly to discuss our faith. One of these groups was so popular that it has carried on meeting, on a more or less monthly basis, ever since. Our buildings are important to local people and visitors and some leave prayer requests. Churches are collection points for the local Food Bank.

A lot of our outreach involves food. As well as Café Church, we provide meals such as Big Breakfast for Christian Aid, Harvest suppers, and Strawberry Teas. One of our churches holds a regular Monday morning breakfast of tea and toast. Another has a close working relationship with the pub next door, which is often the venue for church meals and Christmas fairs. Another arranges regular meals, and occasional trips, out. We serve tea and coffee (and biscuits and cakes if you're lucky) after our Sunday services, which is welcomed by regulars and visitors alike.

This is a Tourist area, and part of our ministry is to keep our churches open during the daytime. The names and addresses in the visitors' books suggest that this is a successful policy. We are trying to reach out to people beyond our small congregations, by holding regular concerts (which are often fund-raising events for local causes), involving local schools, the local Silver Band, choirs and musicians. We hold flower festivals and exhibitions in our churches and fairs in the grounds, and the registration for Ras yr Wyddfa (the Snowdon Race) takes place in church.

Llyn Padarn

The future

We’re still learning how to work together well as a Ministry Area, and we need a Vicar to help us grow in that. We face some really significant challenges with church buildings and finances; there are long-standing problems to solve. It can be frustrating, so of course we sometimes feel fragile, defensive or under pressure. But in our congregations and these communities there is also a lot of laughter, friendship, kindness and hospitality. We the people are still here together, and we still want to be here, because we trust in God who loves this place.


Read more about the application process