minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Cyflwyno Bro Seiriol

Biwmares | Beaumaris

Mae Bro Seiriol, yng nghornel dde-ddwyreiniol Ynys Môn, yn llawn hanes, natur a diwylliant. Mae'n cynnwys Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, mae ganddi arfordir unigryw o bwysigrwydd cenedlaethol, ac mae'r ardal gyfan yn nodedig am ei hadar, gwarchodfeydd natur ac archaeoleg.

Mae'r ardal gyfan yn gyrchfan wyliau boblogaidd iawn gyda darpariaeth dda o adnoddau gwersylla a llety hunanarlwyo. Mae hyn yn denu pobl sy’n frwdfrydig dros fywyd gwyllt, cerddwyr, artistiaid a physgotwyr. Mae'n ddelfrydol ar gyfer gwyliau glan môr teuluol. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn ar gyrion yr ardal ac mae arweinlyfrau cerdded a beicio printiedig ar gael. Mae twristiaeth yn dod â chyflogaeth ac incwm mawr eu hangen i'r ardal.

Y brif dref yw Biwmares gyda'i chastell Safle Treftadaeth y Byd enwog, yr hen eglwys (gyda rhannau o'r adeilad gwreiddiol o waith adeiladwyr cestyll Edward I), y llys a'r carchar. Mae gan y dref hanesyddol hon brif stryd fywiog, sy'n cynnig dewis da o fwytai a siopau. Mae teithiau cychod ar gael o'r pier ar gyfer pysgota ac archwilio Afon Menai. Mae gan y dref lyfrgell, canolfan feddygol ac ysgol gynradd. Mae gan y ganolfan hamdden neuadd chwaraeon dan do ac ystafell ffitrwydd. Mae dau glwb hwylio, clwb rhwyfo a regata flynyddol. Cynhelir Gŵyl Gelfyddydau Biwmares yn flynyddol hefyd sy’n croesawu artistiaid a pherfformwyr adnabyddus.

Mae'r pentrefi eraill ym Mro Seiriol yn gymunedau bywiog, ac mae gan ddau ohonynt neuaddau pentref sy'n gartrefi i nifer o gymdeithasau sy'n cwmpasu amrywiaeth eang o ddiddordebau. Mae ysgol gynradd yn Llangoed. Ar gyfer addysg uwchradd yn yr ardal hon, mae'r disgyblion yn teithio i Borthaethwy.

Nid nepell mae trefi Porthaethwy a Llangefni (y dref Sirol) yn cynnig amrywiaeth ehangach o siopau a chyfleusterau eraill, ac mae'n hawdd cyrraedd dinas gadeiriol Bangor gyda'i harchfarchnadoedd, prifysgol, gorsaf reilffordd ac ysbyty cyffredinol drwy deithio dros un o'r ddwy bont sy'n croesi Afon Menai – mae’r rhain hefyd yn byrth i Eryri gyda'i holl atyniadau.

Ochr yn ochr â'r hanes cyfoethog a'r harddwch naturiol, mae Bro Seiriol o arwyddocâd cenedlaethol o ran treftadaeth Gristnogol. Roedd yn gartref i Sant Seiriol yn y chwechedganrif ac i lawr drwy'r canrifoedd bu'n ganolbwynt i ffydd a thystiolaeth Gristnogol.

Mae llawer o bobl yn symud yma ar ôl ymddeol ac ychydig iawn o gyflogwyr mawr sydd yn yr ardal. Felly, mae llawer o’r bobl mewn cyflogaeth incwm isel neu'n ddi-waith, yn wahanol i'r twristiaid a pherchnogion ail gartrefi sy'n cael eu denu i le mor hardd. Mae Cyfrifiad 2021 yn dangos bod poblogaeth yr ardal tua 3500; mae ardaloedd sifil Llangoed a Llanddona wedi bod yn gyson dros gyfnod o ugain mlynedd (1244 a 641 yn y drefn honno ar hyn o bryd); mae'r ffigurau ar gyfer Biwmares efallai yn adlewyrchu’r cynnydd sydyn ym mherchnogaeth ail gartrefi (dywedir bellach ei fod yn 60%), mae’r boblogaeth bresennol o 1614 wedi gostwng o 1938 yn 2021.

Fel sy’n gyffredin yn y rhan fwyaf o enwadau Cristnogol eraill, rydym yn wynebu'r her o ostyngiad mewn presenoldeb ar y Sul a chynulleidfaoedd sy'n heneiddio. Mae potensial newydd hefyd yn cael ei wireddu trwy'r cyfleoedd pererindod sy'n datblygu, gweinidogaeth i'r ymwelwyr yn yr ardal a chydnabyddiaeth gynyddol bod y gweinidogaethau newydd a datblygol hyn yn cynnig cyfleoedd cyffrous.


Eglwysi Bro Seiriol

Ceir chwe eglwys a mynwent eglwys segur (hen Eglwys y Santes Gathrin, Llan-faes) yn yr Ardal Weinidogaeth. Maent yn gartrefi i bedair cymuned gynulleidfaol wahanol sef Biwmares, Llanfihangel Din Silwy, Llanddona a Llaniestyn gyda'i gilydd, Llangoed a Phenmon gyda'i gilydd.

Staff clerigwyr presennol yr Ardal Weinidogaeth yw'r Arweinydd Ardal Weinidogaeth cyflogedig ac un offeiriad cyswllt sy'n hunangynhaliol. Cefnogir y rhain gan dimau addoli mewn dwy gynulleidfa, Darllenydd Emeritws a chlerigwr sydd wedi ymddeol. Mae gwirfoddolwyr gweithredol ym mhob eglwys ochr yn ochr â'r wardeiniaid er mwyn galluogi addoli ar y Sul a gweithgareddau yn ystod yr wythnos.

Mae'r Ardal Weinidogaeth yn cael ei gwasanaethu a'i llywodraethu gan Gyngor yr Ardal Weinidogaeth y cynrychiolir yr holl eglwysi arno. Mae hyn wedi datblygu hunaniaeth gydlynol ar gyfer yr Ardal Weinidogaeth a chynnal ar yr un pryd hynodrwydd pob un o'r cymunedau eglwysig unigol. Mae'r weinidogaeth a'r genhadaeth a rennir gyda'i gilydd yn cynnwys gwaith yn y ddwy ysgol gynradd, yn y cartrefi preswyl, yn y Grŵp Plant Bach 'Camau Bach', ac ym mhrosiect yr Eglwys Agored a ddatblygodd yn ystod y pandemig.

Roedd yr Eglwys Agored yn ymateb i'r sefyllfa pan oedd yn amhosibl addoli y tu mewn i adeilad ond mae wedi parhau a ffynnu wrth iddi ddiwallu’r angen am ffordd newydd o addoli. Un llinyn o hyn yw 'Myfyrdodau'r Ardd'; pryd ceir cyfarfod ar ddydd Gwener am awr, sy’n cynnig amser ar gyfer myfyrio ystyriol a gweddïo myfyrgar. Am ran helaeth o'r flwyddyn, cynhelir y cyfarfod yn yr awyr agored mewn gerddi gwahanol, ac ar Zoom yn y gaeaf. 'Teithiau Cerdded' yw'r llinyn arall, a gynhelir yn fisol ar fore Sul mewn gwahanol rannau o'r Ardal Weinidogaeth, ac sy’n cynnig barddoniaeth, rhyddiaith a gweddi fyfyriol mewn mannau aros ar hyd y daith, a sgwrsio ar hyd y daith. Cynrychiolir y rhan fwyaf o'r eglwysi yn y gweithgareddau hyn, ynghyd â phobl nad ydynt fel arall yn dod i'r eglwys.   

Eglwys y Santes Fair a Sant Niclas, Biwmares | St Mary and St Nicholas Church, Beaumaris

Eglwys y Santes Fair a Sant Niclas, Biwmares

Mae Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas yn eglwys restredig Gradd 1 sy’n dyddio’n ôl i’r 14eg ganrif ac wedi ei lleoli yng nghanol y dref ac mae'n chwarae rhan bwysig iawn yn y gymuned. Mae'n gartref i'r Gwasanaethau Dinesig ac yn fwy diweddar fe'i defnyddiwyd fel lleoliad ar gyfer cyngherddau, a hefyd mae’n cynnal gwasanaethau tymhorol i elusennau.

Mae'r eglwys yn agored bob dydd i groesawu ymwelwyr a phererinion ac mae'n cael ei staffio gan dywyswyr gwirfoddol yn ystod y tymor gwyliau. Yn ddiweddar agorwyd Gardd Dangnefedd ym mynwent yr eglwys, sef gardd groesawgar ar gyfer myfyrio a gynhelir gan wirfoddolwyr.

Mae gan y tŵr wyth cloch, sy'n canu bob dydd Sul, mewn priodasau ac achlysuron arbennig, yn ogystal â chroesawu clochyddion sy’n ymweld â’r eglwys.

Mae cyfranogiad lleyg gweithredol yn yr addoliad ar y Sul, a mwynheir lluniaeth a chymdeithasu wedyn.

Mae angen rhywfaint o waith adfer ar do’r eglwys. Mae Cyngor yr Ardal Weinidogaeth wedi penderfynu datblygu'r adeilad i fod yn fan addoli ysbrydoledig ynghyd â bod yn gyfleuster buddiol ar gyfer defnydd cymunedol ac yn atyniad hanesyddol ar gyfer twristiaeth. Mae hwn yn gynnig cyffrous a realistig a bydd yn datblygu'r weinidogaeth o efengylu a chroesawu mewn ffyrdd newydd.

Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel Din Silwy

Mae hon yn eglwys fach ynysig, hanesyddol, restredig Gradd II*, wedi'i lleoli ar lwybr rhwng Glanrafon a Llanddona. Ceir mynediad trwy gae cyfagos ac nid oes trydan na dŵr yn yr eglwys - ond ceir golygfeydd trawiadol a godidog o'r fynwent.

Mae'r gangell a'r corff yn dyddio’n ôl i ddechrau'r bymthegfed ganrif, ac fe’u hadferwyd ym 1855, ac eto yn ddiweddar. Mae croes a’r geiriau SANTA MARIA wedi’u harysgrifennu ar y gloch sy'n dyddio’n ôl i hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg. Ceir pulpud derw cerfiedig gyda’r dyddiad 1628 wedi'i gerfio ar un panel, a bedyddfaen carreg wythonglog o'r bymthegfed ganrif.

Mae pawb yn meddwl y byd o’r eglwys ac fe’i cedwir mewn cyflwr rhagorol y tu mewn a'r tu allan.

Cynhelir gwasanaethau ar Sul cyntaf y mis yn Gymraeg, neu'n ddwyieithog yn ôl yr angen. 

Eglwys Sant Mihangel

Eglwys Cawrdaf Sant, Llangoed

Mae’r eglwys wedi’i lleoli yn hen bentref Llangoed tua hanner milltir o'r pentref presennol. Ac eithrio'r Transept Gogleddol, sy'n dyddio’n ôl i 1612, mae'r eglwys yn gymharol fodern ar ôl cael ei hailadeiladu ym 1881, ac mae'n adeilad rhestredig Gradd II. Fodd bynnag, mae gosodiadau'r eglwys yn cynnwys pulpud derw cerfiedig mawreddog sy'n dyddio’n ôl i 1622, bedyddfaen carreg wythonglog o'r 14eg ganrif, seren ganhwyllau bres â’r arysgrifen 1818, ond mae’n debyg ei bod yn hŷn, carreg gladdu â chroes Geltaidd wedi’i harysgrifennu arni, placiau coffa, a phwll bedyddio, sydd bellach wedi'i orchuddio.

Mae'r eglwys, y man addoli olaf sydd ar ôl yn y pentref, yn bwysig i'r gymuned leol - ar gyfer angladd, bedydd ac ambell briodas.

Mae'r gynulleidfa bresennol yn rhannu ei hun rhwng y fan hon a Phenmon, felly mae patrwm misol arferol o ddau wasanaeth Sul ym Mhenmon ac un yn Llangoed.

Eglwys Seiriol Sant, Penmon

Eglwys Seiriol Sant, Penmon

Mae Eglwys Sant Seiriol yn adeilad rhestredig Gradd I. Sefydlwyd Eglwys wreiddiol y Priordy yn y 6ed ganrif ac mae'r adeilad presennol yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif, gyda datblygiadau ychwanegol yn y 13eg ganrif a'r 15fed ganrif. Yn dilyn Diddymu'r Mynachlogydd roedd y Priordy yn adfail ond cafodd ei atgyweirio yn y 19egganrif, pan ailadeiladwyd y gangell. O fewn yr Eglwys mae dwy groes Geltaidd, y ddwy yn hŷn na'r Eglwys.

Mae'r safle cyfan, gan gynnwys yr olion Mynachaidd, Ffynnon Sant Seiriol a'r colomendy (dan ofal CADW) yn denu llawer o ymwelwyr i'r Priordy.

Mae'r eglwys yn agored i ymwelwyr bob dydd. Mae ar Lwybr Arfordir Cymru, a ddefnyddir gan filoedd o bobl bob blwyddyn ac sy’n rhoi cyfle gwych i ddenu mwy o ymwelwyr a phererinion i'r eglwys. Mae'r Priordy ar wahân i'r gymuned breswyl agosaf, ond mae'n rhannu cynulleidfa reolaidd gyda Llangoed, a thîm addoli gweithredol, sy'n cael hwb mawr adeg y prif wyliau pan welwn lawer o ymwelwyr.

Mae yna dŷ â thenantiaid ger y Priordy sy'n eiddo i'r Eglwys yng Nghymru.

Mae’r safle yn cynnig cyfleoedd enfawr ar gyfer datblygu megis cyrchfan pererindod, man encil, ysbrydolrwydd a gweddi, ac mae Penmon ar hyn o bryd yn ganolbwynt prosiect adnewyddu mawr o dan brosiectau Llefa’r Cerrig a Llan yr esgobaeth. Y bwriad yw cyflawni gwaith datblygu mawr ar seilwaith ac adeiladwaith Eglwys y Priordy a’r cyffiniau ac ehangu ei chenhadaeth i'r eglwys a'r byd ehangach.

Eglwys Llanddona

Santes Dona, Llanddona a Llaniestyn

Yr un yw cynulleidfa Eglwysi Sant Dona a Sant Iestyn gan fod y ddwy eglwys yn gwasanaethu pentref Llanddona, sydd ychydig bellter i ffwrdd o’r ddwy eglwys. Mae'r ddau adeilad yn agored.

Mae Eglwys Sant Iestyn wedi'i lleoli ar gyrion SoDdGA, mae'r adeilad yn bennaf o'r 14eg ganrif (rhestredig Gradd II*) gyda bedyddfaen o'r 12fed ganrif a charreg goffa nodedig i Sant Iestyn; mae'r safle gwreiddiol yn dyddio’n ôl i'r 7fed ganrif. O ganlyniad uniongyrchol i'r adroddiad EZRA (arolygiad pum mlynedd +) mae cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer gwaith atgyweirio/adfer helaeth, mae'r cam cyntaf eisoes wedi'i gwblhau trwy roddion hael a gweithgareddau codi arian.

Eglwys Sant Dona (adeilad rhestredig Gradd II), sydd wedi'i lleoli ar gyrion Llanddona i lawr ger y traeth, yw'r eglwys gyntaf yng Nghymru i gynnig ‘Preglwysio’ (gwersylla mewn eglwys). Dechreuwyd tymor treialu yn 2022 gyda'r costau cychwynnol yn cael eu hadennill yn y flwyddyn gyntaf. Mae tymor 2023 wedi cael sylw sylweddol gan y cyfryngau ac mae'r eglwys wedi'i hurio’n llawn. Mae tîm bychan, ymroddedig yn rhedeg y ddwy eglwys. Cefnogir yr eglwysi gan holl gymuned Llanddona ac mae'r eglwys yn cymryd rhan weithredol i drefnu digwyddiadau cymunedol fel Sioe Gŵn y Gwanwyn, Rali Tractorau Blynyddol a Chystadleuaeth Castell Tywod.


Safbwynt esgobaethol

'Addoli Duw, Tyfu'r Eglwys, Caru'r Byd' yw datganiad gweledigaeth sefydledig Esgobaeth Bangor ar gyfer bywyd ardal esgobaeth a gweinidogaeth. Mae'n cynnig canolbwynt a chydlyniad rhwng yr Ardaloedd Gweinidogaeth yn y tair Archddiaconiaeth ac ar lefel esgobaethol; mae hefyd yn cynnig ehangder ar gyfer ardaloedd gweinidogaeth gyda'u bywyd unigryw eu hunain, gan gofleidio cymeriad amrywiol pob eglwys a phob cymuned yn ardal y weinidogaeth. 

Mae ardaloedd gweinidogaeth yn rhannu strwythur cyffredin, gyda'r Arweinydd Ardal Weinidogaeth yn cydweithio'n agos â Chyngor yr Ardal Weinidogaeth sy'n gweithredu fel corff yr ymddiriedolwyr, ac sy'n cael ei annog i ddatblygu cynlluniau strategol ynghylch Cenhadaeth, Adeiladau a Chyllid. Mae'r strwythur cyffredin hwn yn fframwaith sy’n cefnogi llawer o fywyd cyffredin yr ardal weinidogaeth, lle mae cymeriad penodol pob eglwys yn cael ei werthfawrogi a'i fynegi ynddo, ac mae rhoddion yn aeddfedu, tuag at addoli Duw, tyfu'r eglwys a charu'r byd. 

Rydym yn chwilio am Arweinydd Ardal Weinidogaeth sy'n rhannu'r weledigaeth hon ac a fydd yn datblygu a thyfu’r bywyd sydd eisoes yn fywiog a llawn dychymyg ym Mro Seiriol.

Cymraeg

Introducing Bro Seiriol

O Fiwmares ar draws y Fenai | From Beaumaris across the Menai Strait

Bro Seiriol, in the south-eastern corner of Anglesey is rich in history, nature and culture. It includes Areas of Outstanding Natural Beauty, has a unique coastline of national importance, and the whole area is noted for its birdlife, nature reserves and archaeology.

The whole district is a very popular holiday destination with much provision of camping and self-catering accommodation. This attracts wildlife enthusiasts, walkers, artists and anglers. It is ideal for family seaside holidays. The Anglesey Coastal Path skirts the area and there are printed walking and cycling guides. Tourism brings much needed employment and income into the area.

The main town is Beaumaris with its famous World Heritage Site castle, the old church (some of the original building by Edward I’s castle builders), the court house and gaol. This historic town has a lively main street, offering a good choice of restaurants and shops. Boat trips are available from the pier to enjoy fishing and exploring the Menai Straits. The town has its own library, medical centre and primary school. The leisure centre has an indoor sports hall and fitness room. There are two sailing clubs, a rowing club and an annual regatta. The Beaumaris Arts festival is held annually welcoming well-known artists to perform.

The villages in other parts of Bro Seiriol are lively communities, two of which have village halls hosting numerous societies covering a wide variety of interests. In Llangoed there is a primary school. For secondary education in this area, pupils travel to Menai Bridge.

Just beyond the immediate area, the nearby towns of Menai Bridge and Llangefni (the County town) offer a wider range of shopping and other facilities, and the cathedral city of Bangor with its supermarkets, university, railway station and general hospital is easily accessed by road via one of the two bridges crossing the Menai Strait - this is also a gateway to Snowdonia with all its attractions.

Alongside the rich history and natural beauty, Bro Seiriol is of national significance in terms of Christian heritage. It was the home of St Seiriol in the 6th Century and down through the centuries has been a focal point for Christian faith and witness.

Many people move here to retire and there are few large employers in the district. Therefore, there are many people in low-income employment or unemployed, in contrast to the holiday makers and second-home owners who are attracted to such a beautiful place. The 2021 Census shows the population of the area to be approximately 3500; the civil areas of Llangoed and Llanddona have held steady over a twenty-year period (currently 1244 and 641 respectively); the figures for Beaumaris reflect perhaps the sharp increase in second home ownership (said now to be at 60%), the current population of 1614 having declined from 1938 in 2021.

In common with most other Christian denominations, we face the challenge of declining Sunday attendance and aging congregations. There is also new potential being realized through the developing pilgrimage opportunities, ministry to the visitors in the area, and a growing recognition that these new and developing ministries bring exciting opportunities.


The churches of Bro Seiriol

There are six churches and the churchyard of a redundant church (the former St Catherine’s, Llanfaes) in the Ministry Area. They are home to four distinct congregational communities of Beaumaris, Llanfihangel Din Silwy, Llanddona and Llaniestyn together, Llangoed and Penmon together. 

The current clergy staff of the Ministry Area is the stipendiary Ministry Area Leader and one self-supporting associate priest. These are supported by worship teams in two congregations, a Reader Emeritus and a retired cleric. There are active volunteers in each church alongside the wardens, for enabling Sunday worship and weekday activities.

The Ministry Area is served and governed by the Ministry Area Council on which all the churches are represented. This has developed a coherent identity for the Ministry Area while maintaining the distinctiveness of each of the individual church communities. Shared ministry and mission together includes work in the two primary schools, in the residential homes, in the Toddler Group ‘Camau Bach’, and in the Open Church project which developed during the pandemic.

Open Church was a response to the impossibility of worship inside a building but has continued and thrives as it meets a need for a fresh way of worshipping. One strand of this is ‘Garden Reflections’; this meets on Fridays for an hour, offering a time of mindful reflection and contemplative prayer. For much of the year this is held outdoors in different gardens, and on Zoom in the winter. The other strand is ‘Walks’, held on a monthly basis on a Sunday morning in different parts of the Ministry Area, offers reflective poetry and prose and prayer at stopping points along the walk, with conversation on the walk. Most of the churches are represented in these activities, along with some who otherwise do not come to church.   

Santes Dona, Llanddona a Llaniestyn | St Dona’s Church, Llanddona and Llaniestyn

St Mary and St Nicholas Church, Beaumaris

St Mary and St Nicholas Church is a 14th Century church, Grade I listed, in the heart of the town and plays a very important part in the community. It hosts Civic Services and more recently has been used as a venue for concerts, as well as hosting seasonal services for charities.

The church is open daily to welcome visitors and pilgrims and is staffed by volunteer guides in the holiday season. In the churchyard, the Serenity Garden has opened recently, offering a volunteer-maintained garden space of welcome and reflection.

The tower has a peal of eight bells, which are rung every Sunday, at weddings and special occasions, as well as welcoming visiting ringers.

There is active lay involvement in Sunday worship, and refreshments and fellowship are enjoyed afterwards.

The church requires some remedial work on the roof and requires a dedicated. The MA Council have determined to develop the building to be an inspiring place of worship and at the same time become a beneficial facility for community use and an historic attraction for tourism. This is an exciting and realistic proposal and will develop the ministry of evangelism and welcome in new ways.

St Michael's Church, Llanfihangel-Dinsylwy

This is an isolated, historic small church, Grade II* listed, situated on a by-road (track) between Glanrafon and Llanddona. Access is through an adjoining field and there is neither electricity nor water in the church – but there are dramatic and magnificent views from the churchyard.

The chancel and nave are early fifteenth century, restored in 1855, and again recently. The bell, dating from first half of the fourteenth century, is inscribed with a cross and the words SANTA MARIA. There is a carved oak pulpit with date 1628 carved into one panel, and an octagonal stone font from the fifteenth century.

The church is greatly loved and kept in immaculate condition both inside and outside. Services are held on the 1st Sunday of the month in Welsh, or bilingually according to need. 

St Cawrdaf's Church, Llangoed

Situated in the old village of Llangoed about half a mile from the present village. Except for the North Transept, dating from 1612, the church is relatively modern having been rebuilt in 1881, and is Grade II listed. However, the church fittings include an imposing oak carved pulpit dating from 1622, a 14th century octagonal stone font, a brass candelabra inscribed 1818, but probably earlier, a burial stone inscribed with Celtic cross, memorial plaques, and a baptismal pool, now covered.

The church, the last remaining place of worship in the village, is important to the local community - for funerals, baptisms and the occasional wedding.

The present congregation shares itself between here and Penmon, so there is a monthly usual pattern of two Sunday services in Penmon and one in Llangoed.

St Cawrdaf's Church, Llangoed

St Seiriol's Church, Penmon

St. Seiriol's Church is a Grade I listed building. The original Priory Church was founded in the 6th Century and the present building dates back to the 12thcentury, with further developments in the 13th and 15th centuries. Following the dissolution of the Monasteries the Priory became ruined but was repaired in the 19th century, when the chancel was rebuilt. Within the Church there are two Celtic crosses, both of which are older than the Church.

The whole site, including the Monastic remains, St. Seiriol`s Well and the Dovecote (under the care of CADW) draws many visitors to the Priory.

The Church is open to visitors every day. It lies on the Wales Coastal Path, used by thousands of people each year and giving great opportunity to draw yet more visitors and pilgrims into the church. The Priory is fairly isolated from the nearest residential community, but shares a regular congregation with Llangoed, and an active worship team, which is greatly boosted at the major festivals when we have many visitors.

There is a tenanted house adjacent to the Priory owned by the Church in Wales.

Presenting huge opportunities for development as a place of pilgrimage, retreat, spirituality and prayer, Penmon currently is the focus of a large renovation project under the diocesan Stones Shout Out and Llan projects. This intends to bring major development of the infrastructure as well as physical structure of the Priory Church and surroundings and enhance its mission to the wider church and world.

St Dona’s Church

St Dona’s Church, Llanddona and Llaniestyn

The congregation at the Churches of St Dona and Llaniestyn are one and the same as both churches serve the village of Llanddona, a little distance away from each church. Both church buildings are open.

St Iestyn’s Church is located on the fringe of an SSSI, the building is mainly 14th century (Grade II* listed) with a 12th century font and a memorial stone to St Iestyn of note, the original site dates 7th century. As a direct result of the EZRA report (Quinquennial inspection+) funding has been obtained for extensive remedial/restoration work to be carried out, the first phase has already been completed through generous donations and fundraising.

St Dona’s (Grade II listed), situated on the outskirts of Llanddona down by the beach, has become the first church in Wales to offer Champing. A trial season commenced in 2022 with the start-up costs recouped in the first year. 2023 season has gained significant media coverage and the church has been fully booked. A small, dedicated team run both churches. The churches are supported by the whole community of Llanddona and the church is actively involved in organising community events such as a Spring Dog Show, Annual Tractor Rally and a Sandcastle Competition.

Given the proximity to the coastal path, there is strong lay leadership and commitment in the congregation, and they are keen to explore the development of the sites for pilgrims, walkers and tourists. And there is enthusiasm to develop and continue their worship each week.


Diocesan Perspective

‘Worshipping God, Growing the Church, Loving the World’ is the Diocese of Bangor’s well-established vision statement for diocesan and ministry area life. It offers focus and coherence between the Ministry Areas in the three Archdeaconries and at diocesan level; it also offers a breadth of space for ministry areas to inhabit with their own distinctive life, embracing the diverse character of each church and each community within the ministry area. 

Ministry areas share a common structure, with the Ministry Area Leader working in close collaboration with the Ministry Area Council which operates as the trustee body, and which is encouraged to develop strategic plans around Mission, Buildings and Finance. This common structure is the supportive framework of much of the ministry area’s shared life, within which the particular character of each church is valued and expressed and gifts mature, towards worshipping God, growing the church and loving the world. 

We look for a Ministry Area Leader who shares this vision and will build on and grow the already vibrant and imaginative life of Bro Seiriol.