minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Seiriol

Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Seiriol (Ynys Môn)

Bro Seiriol Ministry Area Leader

Ministry Area Leader of Bro Seiriol (Anglesey)

Dyddiad cau / Deadline: 05/05/2024, noon

johnharvey@churchinwales.org.uk - 07534 549682

Rydym yn chwilio am offeiriad i arwain a gwasanaethu yn Ardal Weinidogaeth Bro Seiriol yn Esgobaeth Bangor. Mae Bro Seiriol yn cwmpasu cornel dde-ddwyreiniol Ynys Môn ac yn gwasanaethu tref Biwmares a’r cymunedau lleol cyfagos.

Mae Ardal Weinidogaeth Bro Seiriol yn cynnig cyfleoedd newydd a chyffrous ar gyfer y dyfodol. Mae hwn yn lle rhagorol i fyw a gweithio a gweinidogaethu ynddo. Mae'r Ardal Weinidogaeth wedi ymrwymo i ddatblygu ei bywyd mewn ffordd sy'n llawn egni a phwrpasol. Mae pwyslais o'r newydd ar ymgysylltu â theuluoedd ac ysgolion yn ogystal â gweinidogaeth ddinesig ffurfiol yn parhau ar draws yr Ardal Weinidogaeth. Mae gwaith prosiect mawr ar adeiladau hanesyddol yn rhoi cyfle i gymryd rhan mewn datblygiad strategol gweledigaethol o adnoddau materol. Mae'r newidiadau deinamig a ddaeth yn sgil datblygiadau cymdeithasol ac economaidd ac esblygiad twristiaeth ar draws yr ardal yn gwahodd ffurfiau creadigol o addoli ac ymgysylltu.

Mae persondy sydd wedi ei gynnal a chadw’n dda ym Miwmares gyda mynediad rhwydd ar droed o amgylch y dref gyda golygfeydd godidog o Afon Menai a mynyddoedd y Carneddau. Mae amwynderau lleol y tu allan i'r dref yn cynnwys Porthaethwy a dinas hanesyddol Bangor.


Amdanoch chi

  • Yn alluog, gyda dychymyg a chreadigrwydd, ar gyfer archwilio ymhellach y mathau newydd o addoli rydym wedi dechrau eu cyflwyno a'u datblygu ochr yn ochr â’r hoff ffurfiau traddodiadol o addoli.
  • Wedi ymrwymo i weithio gyda Chyngor yr Ardal Weinidogaeth i gynllunio'n strategol ar gyfer y dyfodol mewn cysylltiad â chenhadaeth, eiddo a chyllid.
  • Yn ymroddedig i gydweithio, ac wedi'i gyffroi gan y posibilrwydd o weld prosiectau ar gyfer cenhadaeth (gyda'r prosiect esgobaethol presennol ym Mhenmon a'r prosiect ar gyfer y dyfodol ym Miwmares).
  • Yn barod i ddirprwyo a rhannu cyfrifoldeb dros ddatblygu cenhadaeth a gweinidogaeth, gan annog galwedigaeth unigol ac ar y cyd.
  • Yn agored i ddatblygu perthynas ag eglwysi Cristnogol lleol eraill.
  • Yn frwdfrydig dros ddatblygu ein cyfranogiad cymdeithasol a chymunedol a'n hymgysylltu ag anghenion y byd a'r greadigaeth.
  • Yn barod i ymgysylltu â'r iaith a'r diwylliant Cymraeg. Fel esgobaeth rydym yn gallu darparu cefnogaeth i glerigwyr wrth ddysgu a datblygu eu sgiliau Cymraeg.
  • Yn gyfarwydd ag ystod eang o sgiliau TG a chyfathrebu, er mwyn parhau a datblygu ein hymgysylltiad presennol.

Esgobaeth Bangor

Rydym yn gymuned Gristnogol fywiog gyda hanes cyfoethog sy'n dyddio'n ôl i'r bumed ganrif, wedi'i gwreiddio yn nhraddodiadau seintiau Celtaidd cynnar er enghraifft Deiniol, Cybi, Seiriol, Tudwen, Madryn, ac eraill. Mae'r seintiau hyn wedi’u hanfarwoli yn enwau ein heglwysi, ein pentrefi a'n trefi.

Er bod ein cenhadaeth yn parhau i fod yn gadarn dros fileniwm a hanner, mae ein cyd-destun cyfoes yn cyflwyno cyfleoedd newydd a heriol. Mewn ymateb, rydym wedi cofleidio gweledigaeth o ddilyn Iesu gyda brwdfrydedd o'r newydd a dulliau arloesol. Rydym wedi sefydlu tair egwyddor allweddol, tair blaenoriaeth, tri chynllun, a thri llwyfan newydd i arwain ein taith.

Darllenwch fwy am y rhain ar ein gwefan.

Mae ein hymrwymiad yn troi o amgylch tair egwyddor weledigaethol y credwn y dylent ddiffinio ein bywyd cymunedol:

  • Addoli Duw.
  • Tyfu'r Eglwys.
  • Caru'r byd.

Wrth inni gychwyn ar y daith hon, gobeithiwn a gweddïwn y bydd yr egwyddorion hyn, sydd wedi'u gwreiddio'n gadarn yn ein cyd-destun, yn adlewyrchu ein hyder yn Nuw a'n profiad o deyrnasiad eang o ddaioni a chariad sy’n ddiddiwedd.

Rydym yn eich croesawu i ymuno â ni yn y genhadaeth drawsnewidiol hon, wrth i ni wneud ein ffordd trwy heriau ein hamser gyda ffydd, ymroddiad, ac ymrwymiad i addoli, twf a chariad.


Proffil Ardal Weinidogaeth

Proses ymgeisio

  • Rhaid i geisiadau gael eu derbyn erbyn hanner dydd Gwener 3 Mai.
  • Anfonwch eich CV ynghyd â llythyr cais at Archddiacon John Harvey, johnharvey@churchinwales.org.uk
  • Dylai eich CV amlinellu eich cymwysterau addysgol a hyfforddiant, a'ch hanes cyflogaeth.
  • Yn eich llythyr cais dylech, mewn dim mwy na dwy ochr A4, ddisgrifio yr hyn yr sy’n eich denu at y swydd, a pherthnasu eich sgiliau a phrofiad i fanyleb y person.
  • Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad.

Am sgwrs anffurfiol am yr apwyntiad, cysylltwch ag Archddiacon John Harvey, 07534 549682.

Cymraeg

We are looking for a priest to lead and serve in the Ministry Area of Bro Seiriol in the Diocese of Bangor. Bro Seiriol covers the south-eastern corner of Anglesey and serves the town of Beaumaris with surrounding local communities.

The Ministry Area of Bro Seiriol offers new and exciting opportunities for the future. This is an outstanding area in which to live and work and minister. The Ministry Area is committed to developing its life in a way that is energizing and purposeful. Renewed focus on engaging with families and schools as well as formal civic ministry continues across the Ministry Area. 

Major project work in historic buildings gives the chance to participate in visionary strategic development of material resources. The dynamic changes brought with social and economic developments and the evolution of tourism across the area invites imaginative forms of worship and engagement.

There is a well-maintained parsonage in Beaumaris with easy walking access around town with stunning views of the Menai Straits and Carneddau mountains. Local amenities beyond the town include Menai Bridge and the historic city of Bangor.


About you

  • Able, with imagination and creativity, to explore further with us the new forms of worship we’ve begun to introduce and develop these alongside the cherished forms of traditional worship.
  • Committed to working with the Ministry Area Council to plan strategically for the future concerning mission, property and finance.
  • Dedicated to collaborative working, and excited by the prospect of projects for mission (with the existing diocesan project at Penmon and the future project at Beaumaris).
  • Willing to delegate and to share responsibility for the development of mission and ministry, encouraging individual and collective vocation.
  • Open to developing relationships with other local Christian churches.
  • Enthusiastic in developing our social and community involvement and engaging us with the needs of the world and creation.
  • Willing to engage with the Welsh language and culture. As a diocese, we can provide support for clergy in learning and developing their Welsh language skills.
  • Familiar with a wide range of IT and communication skills, to continue and develop our present engagement.

Diocese of Bangor

We are a vibrant Christian community with a rich history dating back to the fifth century, rooted in the traditions of early Celtic saints such as Deiniol, Cybi, Seiriol, Tudwen, Madryn, and others. These saints are immortalised in the names of our churches, villages, and towns.

While our mission remains steadfast over a millennium and a half, our contemporary context presents new and challenging opportunities. In response, we have embraced a vision of following Jesus with renewed vigor and innovative approaches. We have established three key principles, three priorities, three plans, and three new platforms to guide our journey.

Read more about these on our website.

Our commitment revolves around three visionary principles that we believe should define our communal life:

  • Worshipping God.
  • Growing the Church.
  • Loving the world.

As we embark on this journey, we hope and pray that these principles, firmly rooted in our context, will reflect our confidence in God and our experience of the boundless reign of goodness and love that knows no end.

We welcome you to join us in this transformative mission, as we navigate the challenges of our time with faith, dedication, and a commitment to worship, growth, and love.


Ministry Area Profile

Application Process

  • Application deadline 12 noon Friday 3 May.
  • Please send your CV together with a letter of application by email to Archdeacon John Harvey johnharvey@churchinwales.org.uk
  • Your CV should outline your educational and training qualifications and your employment history.
  • Your letter of application, taking up no more than two sides of A4, should describe what attracts you to the role and relate your skills and experience to the person specification.
  • Shortlisted applicants will be invited for interview. Date tbc.

For an informal conversation, contact Archdeacon John Harvey, on 07534 549682.