minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Ein cyfranwyr

Alan Billings

Ganed Alan Billings yng Nghaerlŷr, ac astudiodd Ddiwinyddiaeth, Athroniaeth ac Addysg yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerlŷr a Seminar Diwinyddol Efrog Newydd. Hyfforddodd ar gyfer yr offeiriadaeth yng Ngholeg Diwinyddol Lincoln, ac mae wedi gwasanaethu fel offeiriad plwyf yn Sheffield a Kendal. Bu hefyd yn Is-Bennaeth Coleg Ripon, Cuddesdon, Rhydychen, a Phrifathro Cwrs Hyfforddi Gweinidogol Gorllewin Canolbarth Lloegr. Tra’n offeiriad plwyf yn Sheffield, roedd yn aelod o Gyngor Dinas Sheffield, gan ddod yn Ddirprwy Arweinydd pan oedd David Blunkett yn Arweinydd; bu hefyd yn aelod o Gomisiwn yr Archesgobion ar Ardaloedd Blaenoriaeth Trefol a luniodd yr adroddiad Faith in the City. Ers 2014 bu’n Gomisiynydd Heddlu a Throseddu yn Ne Swydd Efrog, ac yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi goruchwylio canlyniadau Adroddiadau’r Athro Alexis Jay a Louise Casey i gamdrin plant yn Rotherham a chasgliad y cwest Hillsborough i farwolaeth 96 o ddynion, merched a phlant yng Nghlwb Pêl-droed Sheffield Wednesday ym 1989. Ymysg ei lyfrau mwyaf y mae Making God Possible: The task of ordained ministry present and future (2010), Lost Church: Why we must find it again (2013), a The Dove, the Fig Leaf and the Sword: Why Christianity changes its mind about war (2014).

Y Gwir Barchg Barry Morgan

Yn frodor o Wauncaegurwen, astudiodd Barry Morgan yng Ngoleg Prifysgol Llundain ac, wedyn, ar gyfer yr offeiriadaeth yn Westcott House, Caergrawnt. Ar ôl ei guradaeth, bu’n darlithio yng Ngholeg Mihangel Sant a Phrifysgol Cymru yng Nghaerdydd, cyn symud i Fangor, lle bu’n Warden Hostel yr Eglwys, yn gaplan a darlithydd mewn diwinyddiaeth yn y brifysgol, a Chyfarwyddwr Ymgeiswyr ac, yn dilyn y cyfnod yn Llanelwy fel Rheithor Wrecsam, yn Archddiacon Meirionnydd. Ym 1992 etholwyd ef yn Esgob Bangor, a’i drosglwyddo i Landaff ym 1999; bu hefyd yn Archesgob Cymru o 2003 tan ei ymddeoliad y llynedd.

Y Parchg Alan Gyle

Alan Gyle yw deuddegfed ficer Eglwys Sant Paul, Knightsbridge. Yn enedigol o’r Alban, astudiodd gerddoriaeth yn y brifysgol, cyn astudio diwinyddiaeth yn Rhydychen. Fe’i ordeinwyd yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn Llundain a, chyn dod i Knightsbridge, bu’n gwasanaethu yn Acton Green fel curad, yng Nghapel San Siôr yn Windsor is Is-Ganon, ac yng Ngholeg Imperial a’r Coleg Celf Brenhinol fel Caplan. Mae hefyd yn Ficer Offeiriadol yn Abaty San Steffan, yn FRSA ac yn hyfforddwr ac ymgynghorydd corfforaethol profiadol.

Cymraeg

Our contributors

Alan Billings

Alan Billings was born in Leicester, and studied Theology, Philosophy and Education at Emmanuel College, Cambridge, Bristol University, Leicester University and the New York Theological Seminary. He trained for the priesthood at Lincoln Theological College, and has served as a parish priest in Sheffield and Kendal. He has also served as Vice Principal of Ripon College, Cuddesdon, Oxford, and Principal of the West Midlands Ministerial Training Course. While a parish priest in Sheffield he was also a member of Sheffield City Council, becoming Deputy Leader when David Blunkett was Leader, and was a member of the Archbishops’ Commission on Urban Priority Areas which produced the report Faith in the City. Since 2014 he has been the Police & Crime Commissioner in South Yorkshire, during which time he has overseen the aftermath of the Professor Alexis Jay and Louise Casey Reports into child exploitation in Rotherham and the conclusion of the Hillsborough inquests into the death of 96 men, women and children at Sheffield Wednesday Football Club in 1989. His most recent books include Making God Possible: The task of ordained ministry present and future (2010), Lost Church: Why we must find it again (2013), and The Dove, the Fig Leaf and the Sword: Why Christianity changes its mind about war (2014).

The Rt Revd Barry Morgan

Barry Morgan was brought up in Gwauncaegurwen, and studied at at University College, London and, subsequently, for the priesthood at Westcott House, Cambridge. After his curacy, he taught at at St Michael’s College and the University of Wales in Cardiff, before moving to Bangor, where he served as Warden of the Church Hostel, chaplain and lecturer in theology at the university, Director of Ordinands and, following a period in St Asaph as Rector of Wrexham, Archdeacon of Meirionnydd. In 1992 he was elected Bishop of Bangor, and translated to Llandaff in 1999, becoming Archbishop of Wales in 2003 until his retirement last year.

The Revd Alan Gyle

Alan Gyle is the twelfth vicar of St Paul’s Church, Knightsbridge. A Scotsman by birth, he studied music in Scotland, later reading theology at Oxford. He was ordained in St Paul’s Cathedral in London and before coming to Knightsbridge served variously in Acton Green as a curate, at St George’s Chapel Windsor as a Minor Canon, and at Imperial College and the Royal College of Art as Chaplain. He is also a Priest Vicar of Westminster Abbey, an FRSA and an experienced coach and organisational consultant.