minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Roedd Beuno Sant yn ddisgynnydd o’r teuluoedd brenhinol Brythonaidd hynafol ac fe gafodd ei addysgu a’i ordeinio ym mynachlog Deiniol Sant ym Mangor yn gynnar yn y 7fed ganrif (tua 100 mlynedd wedi iddi gael ei sefydlu). Gyda chefnogaeth Brenin Cadfan o Wynedd, gwnaeth waith cenhadol trwy Ogledd Orllewin Cymru, ac yn y pen draw sefydlodd fynachlog neu ‘Clas’ yn dilyn model Deiniol yng Nghlynnog.

Er iddi gael ei chwalu gan y Llychlynwyr a’r Normaniaid yn y 10fed a’r 11eg ganrif, tyfodd y fynachlog i fod yn sefydliad o bwys, yn bennaf oherwydd ei safle strategol ar y llwybr pererinion i Ynys Enlli, ac erbyn y 15fed ganrif roedd yn un o’r chwe Eglwys Golegol fawr yng Nghymru.

Mae’r rhan fwyaf o’r eglwys sydd i’w gweld heddiw yn dyddio o’r 15fed a’r 16eg ganrif, ond dywedir i Gapel Beuno gael ei adeiladu ar safle’r eglwys wreiddiol. Mae’r cynllun, gyda’r capel ar wahân i’r eglwys ac wedi ei gysylltu gan ffordd gul yn unig, yn anarferol iawn.

Ymysg trysorau’r eglwys hon ceir y seddau côr canoloesol gwreiddiol, cloc haul o’r ddegfed ganrif sydd yn dangos ‘oriau’ y diwrnod mynachaidd, a ‘Maen Beuno’ sydd â marciau y dywedir iddynt fod yn ôl dwylo Beuno Sant ei hun.

Cymraeg

Saint Beuno was descended from ancient British royalty and was educated and ordained at St Deiniol’s monastery in Bangor in the early 7th century (about 100 years after it was founded). With the support of King Cadfan of Gwynedd, he carried out missionary work throughout North West Wales, and eventually founded a monastery or ‘Clas’ after Deiniol’s model at Clynnog.

Despite being razed by both the Vikings and the Normans in the 10th and 11th centuries, the monastery grew to be a major foundation, largely due to its strategic location on the pilgrim route to Bardsey Island, and by the 15th century was one of six major Collegiate Churches in Wales.

The majority of the church visible today dates from the 15th and 16th century, though Capel Beuno is said to have been built on the site of the original church. The layout, with the chapel separate from the church and connected by only a narrow passageway, is very unusual.

Some of the treasures of this church include original medieval choir stalls, a 10th-century sundial showing the ‘hours’ of the monastic day, and ‘the Beuno Stone’ which has markings said to be those of St Beuno’s own hands.