minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Roedd addoli’r Fendigaid Forwyn Fair yn gyffredin yn Lloegr a Chymru yn yr Oesoedd Canol, gyda sawl cysegr Farïaidd ar draws y wlad o Walsingham yn Norfolk i Bwllheli. Felly nid yw’n anarferol, pan oedd Edward I yn cysegru eglwys y garsiwn ar gyfer ei gastell a chaer yng Nghonwy, iddo wneud hynny i Fair Forwyn. Saif yr eglwys ei hun ar safle mynachlog Sistersaidd oedd wedi cael ei hadleoli i Maenan i wneud lle ar gyfer y dref newydd.

Ers ei dechrau fel eglwys y garsiwn ac yna fel eglwys ddinesig tref gynyddol Conwy, mae Eglwys y Santes Fair a’r Holl Saint wedi bod yn bwysig yn lleol ac wedi bod yn rhan o sawl digwyddiad hanesyddol lleol. Er enghraifft, yn ystod gwrthryfel Glyndŵr yn gynnar yn y 14eg ganrif, llwyddodd y fyddin Gymreig i feddiannu castell Conwy tra’r oedd y milwyr Saesneg yn brysur yn cadw defosiynau Dydd Gwener y Groglith yn yr eglwys.

Cafodd yr eglwys ei hymestyn yn sylweddol yn ystod y 15fed a’r 16eg ganrif, a gosodwyd y groglen a seddau’r côr i ddathlu priodas y Brenin Harri VII i Elizabeth o Efrog. Parhawyd i ychwanegu at yr eglwys hyd yr 20fed ganrif gyda chapel coffa ar ochr Ogleddol y corff.

Er iddi fod mewn lleoliad canolog yn y dref, mae’r eglwys bron yn anweledig o’r strydoedd o’i chwmpas, ond mae ymwelwyr sydd yn mentro i lawr y llwybrau anneniadol braidd i’r fynwent yn cael eu croesawu gan lecyn o harddwch a hedd.

Cymraeg

Devotion to the Blessed Virgin Mary was widespread in England and Wales during the Middle Ages, with many Marian shrines spread across the land from Walsingham in Norfolk to Pwllheli. Thus it is not unusual that when Edward I had the garrison church for his new castle and fortress at Conwy dedicated, it was to Our Lady. The church itself stands on the site of a Cisterian monastery which had been relocated to Maenan to make way for the new town.

As first the garrison church and then the civic church of the growing town of Conwy, St Mary and All Saints has always held an important role locally and is involved in many local historical events. For example, during the Glyndŵr uprising of the early 14th century, the Welsh army were able to take possession of Conwy castle as all the English soldiers were busy observing the rites of Good Friday in the church.

The church was much enlarged during the 15th and 16th centuries, and the magnificent Tudor rood screen and choir stalls were installed as a celebration of the marriage of King Henry VII to Elizabeth of York. Additions to the church continued into the 20th century with a memorial chapel on the North side of the Nave.

Despite its central position in the town, the church is almost invisible from the surrounding streets, but tourists who venture down the rather forbidding paths to the churchyard are greeted by a place of beauty and peace.