minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Dywedir bod Cadfan Sant (ni ddylid cymysgu rhyngddo â Brenin Cadfan o Wynedd, noddwr Beuno Sant) yn Uchelwr Llydewig (er mae’n bosib iddo hanu o Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg mewn gwirionedd) a gyrhaeddodd ym Meirionnydd ar ddiwedd y 6ed ganrif. Sefydlodd fynachlog neu ‘Clas’ yn Nhywyn, cyn derbyn Ynys Enlli gan Einion Sant, Brenin Llŷn, a dod yn abad arni.

Ysbeiliwyd yr eglwys gan y Llychlynwyr yn 963, ond yr oedd yn amlwg yn ôl mewn busnes fel safle pwysig ar gyfer pererinion yn y ddeuddegfed ganrif pan ysgrifennodd Llywelyn Fardd awdl i’r eglwys a’i nawddsant, gan nodi’r cysegr a’r gwyrthiau a oedd i’w cael yno.

Ceidw’r corff presennol lawer o’i strwythur deuddegfed ganrif, gyda cholofnau crwn anferth a bwâu a ffenestri Romanésg crwn, nodwedd unigryw yng Ngwynedd. Disgynnodd y tŵr croes gwreiddiol yn 1692, ond ychwanegwyd tŵr newydd yn 1792 a’i newid yn 1884 am y tŵr a welir heddiw.

Un o brif drysorau’r eglwys hon yw ‘Carreg Cadfan’ – carreg goffa o’r 7fed ganrif sydd yn cynrychioli’r enghraifft gynharaf, mae’n debyg, o ysgrifen yn yr iaith Gymraeg. Ceir hefyd sawl cofeb arall sydd yn hynafol iawn.

Cymraeg

Saint Cadfan (not to be confused with King Cadfan of Gwynedd, the patron of St Beuno) was said to be a Breton Nobleman (though he may in fact have been from Llantwit Major in the Vale of Glamorgan) who arrived in Meirionnydd in the late 6th century. He founded a monastery or ‘Clas’ at Tywyn, before receiving Bardsey Island from Saint Einion, King of Llŷn, and becoming its abbot.

The church was sacked by the Vikings in 963, but was clearly back in business as a major pilgrim site in the twelfth century when Llywelyn Fardd wrote an ode to both the church and its patron saint, noting the sanctuary and miracles to be found there.

The current nave retains much of its twelfth-century structure, with massive round pillars and round, Romanesque arches and windows, unique in Gwynedd. The original crossing tower collapsed in 1692, but a new tower was added in 1792 and then replaced in 1884 with the tower seen today.

Chief among the treasures of this church is the ‘Cadfan Stone’ - a memorial stone from the 7th century that represents the earliest known written example in the Welsh language. There are also a number of other memorials of considerable antiquity.