minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Mwy o wybodaeth am y ddogfen hon

Tirweddau Cyfnewidiol yw ein cwrs Adfent ar gyfer 2020 yn Esgobaeth Bangor.


Daearyddiaeth Gogledd Cymru yw un o nodweddion amlycaf bywyd yn y rhan hon o’r wlad ac mae’n dylanwadu ar ein penderfyniadau beunyddiol ymron yn ddiarwybod i ni. Boed fynyddoedd mawreddog Eryri ynteu draethau Môn neu Feirionnydd, dyma’r nodweddion sy’n lliwio’n bywydau mewn ffyrdd unigryw.

Mae’n hawdd, fodd bynnag, rhamanteiddio cefn gwlad a thelynegu’n rhwydd am gaeau, gweirgloddiau a phentrefi tawel gyda mwg tanau mawn yn ymgodi’n dyner fel sibrydion o’r simneiau. Prin y byddwn yn gweithio ysbrydolrwydd sy’n gallu dygymod â llifogydd a hunllef cnydau colledig neu fewnlifiad y twristiaid sy’n dod ag incwm mae’n rhaid i ni wrtho ond sydd eto’n amharu ar batrymau hirsefydlog bywyd cefn gwlad. Rydym yn ymhyfrydu yng nghopaon y ddwy Aran ond yn gwirioni llai ar drawiad gweledol yr A55 hollbwysig a’i gwaddol mewn allyriadau carbon a symudedd cymdeithasol sy’n sugno cyflogaeth o’r ardal.

Pa fath o beth yw ysbrydolrwydd ‘byd go iawn’ sy’n talu sylw i ddaearyddiaeth ffisegol a dynol yr ardal hon ac sydd yn ein paratoi i gyfarfod â’r Arglwydd sy’n dod i ‘farnu’r byd’ ac y mae’r ymgnawdoliad yn rhag-gysgodi ei ddibenion eithaf?

Cwrs yw Tirweddau Cyfnewidiol sy’n ceisio mynd i’r afael â materion hollbwysig yn ein bywydau drwy ffenestr ffydd yr Adfent. Mae themâu paratoad yn treiddio drwy bob pennod fel y gallwn oll fod yn barod i gyfarfod yr Un a ddaeth fel plentyn ond sydd eto’n Arglwydd ar bopeth.


Isod, gelir darllen Tirweddau Cyfnewidiol arlein neu lawrlwytho PDF main A4.

Cymraeg

More info about this document

Changing Landscapes is our Advent course for 2020 in the Diocese of Bangor.


The geography of North Wales is one of the most obvious features of life in this part of the country and informs everyday decisions almost unconsciously. Whether the grand mountains of Snowdonia or the coastlands of Anglesey and Meirionnydd, these are the features which shape our lives uniquely.

It is easy, however, to romanticize the countryside and wax lyrical about fields, lowlands and sleepy villages with woodsmoke gently wafting from silent chimneys. We rarely forge a spirituality that copes with floods and the heartache of ruined crops, or with the influx of tourists that generates much needed income but disrupts settled and established patterns of country life. We enjoy the peaks of the Arans but are less keen on the visual impact of the vital A55 and the attendant issues of carbon emissions and social mobility which takes employment from the area.

What is a ‘real world’ spirituality which draws on the geography, physical and human of this area which prepares us to meet the Lord who comes to ‘judge the earth’ and whose final purposes are anticipated in the incarnation?

Changing Landscapes is a course which seeks to address critical life issues through the lens of Advent faith. The themes of preparation puncture each chapter so that we might all stand ready to meet the One who came as a child and is yet Lord of all.


Below, you can access Changing Landscapes online, or download an A4 PDF.