minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Dilyn yn ôl troed Pedr Sant– Naw o bobl sy’n barod i wasanaethu eraill a’u Harglwydd.

Wrth inni ddod at ddiwedd mis Mehefin, fed down at gyfnod lle mae’r Eglwys yn dathlu bywyd a gweinidogaeth Sant Pedr, person a fu’n was mawr i Iesu, yn ogystal ag ysgogydd sefydlu’r Eglwys Gristnogol wedi atgyfodiad ac esgyniad Iesu.

Mewn gwasanaeth arbennig ar ddydd Sadwrn (30.6.18) am 3yp yng Nghadeirlan Bangor (lle mae croeso i bawb ddod), bydd Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John - yn trwyddedu ac ordeinio naw o bobl, a fydd yn camu mewn ffydd yn ôl troed Sant Pedr i ddechau cam newydd yn eu taith Gristnogol.

Y pregethwr gwadd yn y gwasanaeth hwn fydd yr Arglwydd Williams o Ystumllwynarth, cyn-Archesgob Cymru a Chaergaint.

Meddai’r Parch Susan Blagden, a fu’n Diwtor arnyn nhw, yn eu cefnogi trwy gydol eu hyfforddiant unigol yn Athrofa Padarn Sant,

Mae Padarn Sant yn falch iawn bod yr ymgeiswyr hyn bellach i’w trwyddedu a’u hordeinio ar gyfer y weinidogaeth gyhoeddus.

Maen nhw wedi ymgymryd â dwy neu dair blynedd o ‘Ffurfiant mewn Cymuned ar gyfer Cenhadaeth’. Wrth gwrs, mae’r broses o ffurfiant yn un barhaus, fel y mae i bob un ohonon ni, nid y lleiaf fel disgyblion. Ar adegau bu’r broses hon yn un arbennig o heriol ac ar adegau eraill, yn wirioneddol orfoleddus, gyda doniau a galluoedd newydd yn dod i’r wyneb ac yn cael eu cydnabod.

Hyderwn y bydd y broses o adnewyddiad a thrawsnewidiad yn mynd yn ei blaen. Yn y cyfamser, dewch inni lawenhau gyda’r ymgeiswyr a’u sicrhau nhw o’n gweddïau.

Bydd y gwasanaeth dan arweiniad Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andy John – a ddywedodd,

Mae pob gweinidogaeth yn cynnwys elfennau o her a chyfle. Rydyn ni wrth ein bodd bod yr Esgobaeth yn parhau i ddirnad galwad Duw ar bobl ar i’r weinidogaeth leyg ac ordeiniedig drwyddedig.

‘Fe fydd hi’n ddiwrnod arbennig i Glenys ac Ian wrth iddyn nhw gael eu trwyddedu fel Darllenwyr Lleyg; i Vince, Simon a Nick wrth gael eu hordeinio’n Ddiaconiaid, yn ogystal ag i Lesley, Sara, Allan a Llewelyn wrth gael eu hordeinio fel Offeiriaid. Cofiwn amdanyn nhw mewn cariad ac yn ein gweddïau.

Dangosodd Sant Pedr ddewrder a dyfalbarhad wrth wasanaethu Iesu a chyhoeddi’r Efengyl. Fy ngweddi innau ydy y bydd Duw’n darparu’r un dewrder a dycnwch hwnnw i’r naw person arbennig hyn sy’n fraint imi gael eu galw’n gyd-weision yng Nghrist.


Dyma’r naw person a fydd yn cael eu trwyddedu neu eu hordeinio:

Darllenwyr Lleyg :

  • Glenys Samson a fydd yn gwasanaethu yn Ardal Weinidogaeth Bro Cybi (Caergybi)
  • Ian Hampson a fydd yn gwasanaethu yn Ardal Weinidogaeth Bro Moelwyn (Blaenau Ffestiniog/Penrhyndeudraeth)

Diaconiaid :

  • Mr. Simon Freeman (trosiannol*, cyflogedig) a fydd yn gwasanaethu ei guradiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Gwydyr (Betws-y-coed)
  • Mr. Nick Golding (neilltuol*, digyflog) a fydd yn gwasanaethu ei guradiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Eifionydd (Cricieth/Porthmadog)
  • Mr. Vince Morris (trosiannol*, cyflogedig) a fydd yn gwasanaethu ei guradiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio (Porthaethwy/Benllech)

(*Rhywun sydd wedi profi galwad i fod yn Ddiacon yn unig ydy diacon neilltuol. Diacon trosiannol ydy rhywun sydd wedi profi galwad i'r offeiriadaeth, ac mae ordeinio fel diacon yn rhan o'u taith .)


Offeiriaid :

  • Parch Llewelyn Moules-Jones (cyflogedig) a fydd yn parhau i wasanaethu ei guradiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol (Bangor)
  • Parch Lesley Rendle (digyflog) a fydd yn gwasanaethu ei churadiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio (Porthaethwy/Benllech)
  • Parch Sara Roberts (cyflogedig) a fydd yn symud o Fro Enlli i barhau ei churadiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Madryn (Nefyn)
  • Parch Allan Wilcox (digyflog) a fydd yn parhau i wasanaethu ei guradiaeth yn Ardal Weinidogaeth Eryri (Llanberis)

Cliciwch yma i ddarllen ychydig sylwadau gan bob un o'n hymgeiswyr, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer cyfnod newydd eu pererindod Gristnogol.

Cymraeg

In the footsteps of St. Peter - Nine people ready to serve others and their Lord.

As we approach the end of June, we come to a period when the Church celebrates the life and ministry of St. Peter, the person who was a great servant of Jesus, as well as the driving force behind the formation of the Christian Church after Jesus’ resurrection and ascension.

In a special service on Saturday (30.6.18) at 3pm in Bangor Cathedral (which all are welcome to attend) the Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - will licence and ordain nine people, who will be stepping out in the footsteps of St. Peter to begin a new stage of their Christian journey.

The preacher at this service will be Lord Williams of Oystermouth, the former Archbishop of Wales and Canterbury.

The Rev’d Susan Blagden, who has been their Tutor supporting them through their individual training with St Padarn's Institute said,

“St. Padarn’s is delighted that these candidates are now to be licensed and ordained for public ministry.

They have engaged with two or three years of initial 'Formation in Community for Mission'. Of course, the process of formation is ongoing, as it is for all of us, not least as disciples. Sometimes this process has been particularly challenging and at others it has been deeply joyful with new gifts and abilities being discovered and affirmed.

We trust that that process of renewal and transformation will continue. In the meantime,we rejoice with the candidates and assure them of our prayers.”

The service will be lead by the Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - who said,

‘All ministry contains a mix of challenge and opportunity. We are delighted that the Diocese continues to discern God’s call to people for licensed lay and ordained ministry.

‘It will be a special day for Glenys and Ian as they are licensed as Lay Readers; for Vince, Simon and Nick as they are ordained Deacons, as well as for Lesley, Sara, Allan and Llewelyn as the are ordained Priests. We hold them in our love and prayers.

St. Peter showed bravery and persistence in serving Jesus and proclaiming the Gospel. I am praying that God will give that same courage and resolve to the nine special people who I am privileged to call my fellow servants in Christ.’


The nine people who are being licensed or ordained are as follows:

Lay Readers :

  • Glenys Samson who will serve in the Bro Cybi Ministry Area (Holyhead)
  • Ian Hampson who will serve in the Bro Moelwyn Ministry Area (Blaenau Ffestiniog/Penrhyndeudraeth)

Deacons :

  • Mr. Simon Freeman (transitional*, stipendiary) will serve his curacy in the Bro Gwydyr Ministry Area (Betws y Coed)
  • Mr. Nick Golding (distinctive*, non-stipendiary) will serve his curacy in the Bro Eifionydd Ministry Area (Cricieth/Porthmadog)
  • Mr. Vince Morris (transitional*, stipendiary) will serve his curacy in the Bro Tysilio Ministry Area (Menai Bridge/Benllech)

(* A distinctive deacon is someone whose calling is to the diaconate alone. A transitional deacon is someone whose calling is to the priesthood, and ordination as a deacon is part of their journey.)


Priests :

  • Rev Llewelyn Moules-Jones (stipendiary) will continue to serve his curacy in the Bro Deiniol Ministry Area (Bangor)
  • Rev Lesley Rendle (non-stipendiary) will continue to serve her curacy in the Bro Tysilio Ministry Area (Menai Bridge/Benllech)
  • Rev Sara Roberts (stipendiary) will move from Bro Enlli to continue her curacy in the Bro Madryn Ministry Area (Nefyn)
  • Rev Allan Wilcox (non-stipendiary) will continue to serve his curacy in the Bro Eryri Ministry Area (Llanberis)

Click here to read some thoughts from each of our candidates, as they prepare for the new stage of their Christian pilgrimage.