minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Ordinasiwn 2023

Mae 2023 yn dod â llawenydd pum ordeiniad yn yr Esgobaeth.

At Urdd Offeiriad

Bydd y Parchg Helen Franklin a’r Parchg Selwyn Griffith a urddwyd yn Ddiacon y llynedd yn cael eu hordeinio’n Offeiriaid.

Bydd y Parchg Helen Franklin yn parhau â’i gweinidogaeth ym Mro Madryn.

Bydd y Parchg Selwyn Griffith yn parhau â’i weinidogaeth ym Mro Beuno Sant Uwch Gwyrfai.

Gallwch ail-ddarllen teithiau Helen a Selwyn i'r weinidogaeth ordeiniedig trwy ddefnyddio'r botymau isod.

Ordinasiwn Helen a Selwyn i urdd Ddiacon 2022 | Helen and Selwyn's ordination to the order of Deacon 2022

At Urdd Ddiacon

Bydd Glenys Samson, Andrew Broadbent a Josie Godfrey yn cael eu hordeinio i urdd Ddiacon.

Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn sgwrsio gyda phob un o’r rhai fydd yn cael eu hordeinio ac yn rhannu eu hanesion yn Y Ddolen ac fel erthyglau newyddion.

Bydd Glenys Samson yn gwasanaethu ei churadiaeth ym Mro Cybi

Bydd Andrew Broadbent yn gwasanaethu ei guradiaeth ym Mro Dwylan

Bydd Josie Godfrey yn gwasanaethu ei churadiaeth ym Mro Deiniol

Josie Godfrey sy'n cael ei hordeinio'n Ddiacon | Josie Godfrey who is to ordained Deacon

Edrychwn ymlaen at groesawu Josie i Fro Deiniol ac i’r Esgobaeth.

Wrth edrych ymlaen at ymuno â’r Esgobaeth dywedodd Josie:

Rwy’n gyffrous iawn i fod yn ymuno ag Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol fel Curad Cynorthwyol.

Cefais fy magu ger High Wycombe, ac yna symudais i Lundain i astudio Cerddoriaeth yn King’s College London. Wrth archwilio galwad i ordeiniad, bûm yn gweithio fel cynorthwyydd bugeiliol yn Christ Church, Isle of Dogs yn Nwyrain Llundain, ac yna symudais i Rydychen i ddechrau hyfforddi yn St Stephen’s House. Yn fy amser hamdden rwy'n mwynhau canu clychau, cerdded, a cherddoriaeth - yn enwedig theatr gerdd.

Dw i’n nerfus ac yn gyffrous am ddysgu Cymraeg; mae fy nheulu yn wreiddiol o Abertawe ond, er fy mod wedi treulio llawer o wyliau yno, nid wyf erioed wedi byw yng Nghymru fy hun, felly rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd i ‘wlad fy nhadau’!

Cynhelir ein gwasanaeth o Ordinasiwn ar Ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf 2023 yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor am 11.00am


Cymraeg

2023 Ordinations

2023 brings the joy of five ordinations in the Diocese.

To the Order of Priest

The Revd Helen Franklin and the Revd Selwyn Griffith who were ordained Deacon last year will be ordained Priest.

The Revd Helen Franklin will be continuing her ministry in Bro Madryn.

The Revd Selwyn Griffith will be continuing his ministry in Bro Beuno Sant Uwch Gwyrfai.

You can re-read Helen and Selwyn's journeys to ordained ministry by using the buttons below.

The Revd Helen Franklin and the Revd Selwyn Griffith at their ordination to the of Deacon with the Assistant Bishop of Bangor and the Archbishop of Wales

To the Order of Deacon

Glenys Samson, Andrew Broadbent and Josie Godfrey will be ordained to the order of Deacon.

Over the coming weeks we will be in conversation with each of those to be ordained and will share their stories in Y Ddolen and as news articles.

Glenys Samson will serve her curacy in Bro Cybi

Andrew Broadbent will serve his curacy in Bro Dwylan

Josie Godfrey will serve her curacy in Bro Deiniol

Josie Godfrey

We are looking forward to welcoming Josie to Bro Deiniol and to the Diocese.

Looking forward to joining the Diocese Josie says:

I’m very excited to be joining the Bro Deiniol Ministry Area as Assistant Curate.

I grew up near High Wycombe, and then moved to London to study Music at King’s College London. Whilst exploring a call to ordination, I worked as a pastoral assistant at Christ Church, Isle of Dogs in East London, and then moved to Oxford to begin training at St Stephen’s House. In my spare time I enjoy bell ringing, walking, and music - particularly musical theatre.

I’m both nervous and excited about learning Welsh; my family are originally from Swansea but, although I have spent many holidays there, I have never lived in Wales myself, so I am looking forward to returning to ‘the land of my fathers’!

Our service of Ordination is being held on Saturday 1 July 2023 in Saint Deiniol's Cathedral at 11.00am