![LC-CAE-09 Tender Logo](https://dioceseofbangor.contentfiles.net/media/thumbs/74/3f/743fc7ac2d4cbe9344e303627ef1e9c7.jpg)
LC-CAE-09
Lleihau Carbon - Cybi Sant ac Eglwys y Bedd, Caergybi
Yn dilyn llwyddiant bid Cyngor Sir Ynys Môn (CSYM) am arian o’r Gronfa Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU, hoffai Bwrdd Cyllid Esgobaeth Bangor benodi naill ai bensaer neu beiriannydd sy’n arbenigo mewn technoleg lleihau carbon i ddylunio, datblygu a goruchwylio gweithredu system lleihau carbon ar gyfer yr eglwys ac Eglwys y Bedd gyfagos yn unol â’r prif gynllun i aildrefnu’r eglwys ac ymestyn ac addasu’r hen gapel.
Yn wreiddiol roedd cynlluniau ar gyfer yr adeiladau hyn yn cynnwys gosod paneli ffotofoltäig ar y toeau sy’n wynebu’r de, a gosod pympiau gwres ffynhonnell aer i weithio’r systemau gwresogi dan y llawr newydd. Fodd bynnag, nid oedd yn bosibl cwblhau’r cynlluniau hyn i safon RIBA 03 mewn pryd i’w cynnwys yn y prif geisiadau am ganiatâd pan oedd y rheiny’n cael eu gwneud cyn y cais am grant.
Fodd bynnag, mae’r cynlluniau hyn yn dal i fod yn rhan bwysig o ganlyniadau’r prosiect a noddir gan y Gronfa Ffyniant Bro a hefyd amcanion y prosiect Llefa’r Cerrig at ei gilydd (yn unol ag ymroddiad yr Eglwys yng Nghymru i gyrraedd NET-sero erbyn 2030), ac felly rydym yn awyddus i benodi pensaer neu arbenigwr peirianneg ychwanegol i gwblhau’r cynlluniau hyn ar y cyd â’r datblygiadau cyson o’r prif gynlluniau.
Proses Tendrau
Dylid dychwelyd ceisiadau dros e-bost at simonogdon@eglwysyngnghymru.org.uk ynghyd ag unrhyw ddogfennau cefnogol. Gellir anfon ffeiliau mawr trwy WeTransfer neu wasanaeth arlein cyfatebol.
Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ceisiadau yw hanner dydd, ddydd Iau, 16 Mawrth 2023.
Bydd Bwrdd Cyllid Esgobaeth Bangor yn rhoi gwybod i’r ymgeiswyr am y penderfyniad caffael dros e-bost yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ddydd Llun 27 Mawrth 2023.
Dogfennau Cysylltiedig
Dogfen 'Cais am Dendrau' (Saesneg)
LC-CAE-09
Carbon Reduction - St Cybi and Eglwys y Bedd, Holyhead
Following the success of the Isle of Anglesey County Council (IACC) bid for UK Government ‘Levelling-up’ (LUF) funding, Bangor Diocesan Board of Finance wishes to appoint either an architect or an engineer specialising in carbon reduction technologies to design, develop and oversee implementation of a carbon reduction scheme for both the church and the adjacent Eglwys y Bedd in line with the main scheme of reordering of the church and extension and conversion of the former chapel.
Plans for these buildings originally included deployment of photovoltaic panels on the south-facing roof of the church and the installation of air-sourced heat pumps to feed newly-installed underfloor heating. However, it was not possible to work these plans up to RIBA 03 standard in time to include them in the main permissions applications when they were made prior to the grant application.
However, these plans remain an important part of the deliverables of the LUF-funded project and the objectives of Llefa’r Cerrig | Stones Shout Out as a whole (in line with the Church in Wales’ commitment to NET-zero by 2030) and so we are seeking to appoint an additional architectural or engineering professional to complete these plans in parallel with the on-going development of the main plans.
Tender Process
Proposals should be returned via email to simonogdon@churchinwales.org.uk along with any supporting documentation. Large files can be sent via WeTransfer or any other equivalent online service.
The deadline for the return of proposals is 12 noon on Thursday 16th March 2023.
Bangor Diocesan Board of Finance will notify bidders of the procurement decision by email week commencing Monday 27th March 2023.