minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Wrth y bwrdd


Addoliad syml ar yr aelwyd ac mewn Eglwys Iau ar gyfer teuluoedd ifanc


Crist y Brenin


Gallaf garu


Ymlonyddu gyda'n gilydd

1. Goleuwch gannwyll.

2. Darllenwch:

A dywedodd Duw, "Bydded goleuni." A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf.

Genesis 1:3-5

Dyma’r dydd y gweithredodd yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenhawn ynddo.

Salm 118:24


Meddwl gyda'n gilydd 

Mae yna gymaint o reolau yn y Beibl. Wyddoch chi faint sydd?

Mae yna 613 o reolau! Mae 365 yn sôn am y pethau nad ydych yn cael eu gwneud a 248 yn sôn am y pethau rydych yn cael eu gwneud. Allwn ni ddim dilyn pob un ohonyn nhw erbyn hyn, am lawer o resymau ond mae llawer yn dal i gael eu hufuddhau heddiw.

Wyddoch chi fod rheol sy’n dweud:

  • Allwch chi ddim lladd lleidr yn ystod y dydd. (Exodus 22:2-3)
  • Chewch chi ddim bwyta tylluanod (Lefiticus 11:13-19)
  • Os ydych chi efo’r henoed dylech chi sefyll. (Lefiticus 19:32)
  • Rhaid i chi wneud yn siŵr nad oes neb yn disgyn oddi ar eich to. (Deuteronomium 22:8)
  • Ddylai merched ddim steilio na phlethu eu gwallt na gwisgo gemwaith na dillad ffansi. (1 Pedr 3:3)

Pa reolau sydd gennych chi ar hyn o bryd? Oes gennych chi reolau yn yr ysgol? Beth am reolau yn y parc neu mewn chwarae meddal?

Gofynnwyd i Iesu beth oedd y rheolau pwysicaf yn stori heddiw.



Darllen gyda'n gilydd 

Y Gorchymyn Mawr

Clywodd y Phariseaid iddo roi taw ar y Sadwceaid, a daethant at ei gilydd. Ac i roi prawf arno, gofynnodd un ohonynt, ac yntau'n athro'r Gyfraith, “Athro, pa orchymyn yw'r mwyaf yn y Gyfraith?” Dywedodd Iesu wrtho, “ ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl.’ Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysicaf. Ac y mae'r ail yn debyg iddo: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ Ar y ddau orchymyn hyn y mae'r holl Gyfraith a'r proffwydi yn dibynnu.”


Myfyrio gyda'n gilydd

Gofynnwch i’ch gilydd y cwestiynau canlynol (neu debyg)

Beth fyddai’n well gennych chi....

  • Hufen iâ neu far o siocled?
  • Ci bach neu gath fach?
  • Diwrnod ar lan y môr neu ddiwrnod yn y parc?
  • Brecwast llawn wedi’i goginio neu croissant ffres?
  • Diolch o sudd neu ddiod pefriog?

Mae’n rhaid i ni wneud dewisiadau bob dydd ynghylch y pethau rydyn ni’n eu caru. Nid yw’ hynny’n hawdd pan fyddwn ni’n caru cymaint ohonyn nhw.

Yn y Beibl, mae Iesu’n dweud y dylem ni ‘Garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl.”

Sut beth fyddai caru Duw gyda'ch holl galon?

Ydi hynny’n golygu na fyddai gennych chi hawl i garu pethau eraill?

Beth allech ei wneud yn wahanol pe byddech chi’n caru’ch cymydog fel chi eich hun?


Gweddio gyda'n gilydd

Byddwch angen:

  • Papur lliw
  • Pensil
  • Siswrn
  1. Plygwch y papur yn ei hanner.
  2. Gosodwch eich llaw ar y papur gyda’ch bys a’ch bawd yn erbyn yr ymyl sydd wedi plygu.
  3. Tynnwch lun o gwmpas eich llaw.
  4. Torrwch eich llaw allan gan wneud yn siŵr i beidio â thorri’r ymyl wedi’i blygu ble mae’ch bys a’ch bawd.
  5. Dad-blygwch y papur -dylai fod gennych chi siâp eich llaw gyda chalon wedi’i chreu gan eich bys a’ch bawd.
  6. Ysgrifennwch ‘Caru Duw’ ar un llaw a ‘caru eraill’ ar y llaw arall.

Dyma rai enghreifftiau:
https://www.pinterest.co.uk/pin/850898923320115359...

Gofynnwch i Dduw i’ch helpu i’w garu gyda’ch holl galon, enaid a meddwl.


Gorffen gyda'n gilydd

Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.

Diffoddwch y gannwyll.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Wrth y bwrdd, Llythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol

Cymraeg

At the table


Simple worship at home and at Junior Church for young families


Christ the King


I can love


Stilling together

1. Light a candle.

2. Read:

God said, "Let there be light," and there was light, and God saw the light was good, and he separated light from darkness. So evening came, and morning came; it was the first day.

Genesis 1: 3-5

This is the day which the Lord has made; let us rejoice and be glad in it.

Psalm 118: 24


Discussing together

There are so many rules in the Bible. Do you know how many there are?

There are 613 rules! 365 talk about things you’re not allowed to do and 248 talk about things you are allowed to do. Not all of them can be followed anymore for lots of reasons but lots of them are still obeyed today.

Did you know that there’s a rule that say:

  • You can’t kill a burglar during the day. (Exodus 22:2-3)
  • You can’t eat owls. (Leviticus 11:13-19)
  • You’re only allowed to stand whne you’re with the elderly. (Leviticus 19:32)
  • You need to make sure nobody falls off your roof. (Deuternonomy 22:8)
  • Women shouldn’t style or braid their hair or wear jewellery or fancy clothes. (1 Peter 3:3)

What rules do you have now? Do you have rules in school? What about rules at the park or at soft play?

Jesus was asked about the most important rules in today’s story.


Reading together

The Greatest Commandment

Hearing that Jesus had silenced the Sadducees, the Pharisees got together. One of them, an expert in the law, tested him with this question: ‘Teacher, which is the greatest commandment in the Law?’

Jesus replied: ‘“Love the Lord your God with all your heart and with all your soul and with all your mind.” This is the first and greatest commandment. And the second is like it: “Love your neighbour as yourself.” All the Law and the Prophets hang on these two commandments.’


Reflecting together

Ask each other the following (or similar) questions

Would you rather...

  • An ice cream or a chocolate bar?
  • A puppy or a kitten?
  • A day at the beach or a day at the park?
  • A full cooked breakfast or fresh croissant?
  • A drink of juice or a drink of fizz?

We have to make choices every day about the things we love. It’s not easy when we love so much.

In the Bible Jesus says that we should “Love the Lord your God with all your heart and with all your soul and with all your mind.”

What might it look like to love God with all your heart?

Does that mean you’re not allowed to love other things?

What might you do differently if you loved your neighbour as yourself?


Praying together

You will need:

  • Coloured paper
  • A pencil
  • Scissors
  1. Fold the paper in half.
  2. Place your hand on the paper with your thumb and index finger against the folded edge.
  3. Draw around your hand.
  4. Cut out your hand making sure not to cut the folded edge where your thumb and index finger are.
  5. Unfold the paper – you should have the shape of your hands with a heart created by your thumb and index finger.
  6. Write ‘Love God’ on one hand and ‘love others’ on the other hand.

Here are some examples:
https://www.pinterest.co.uk/pin/850898923320115359/

Ask for help to love God with all of your heart, soul and mind.


Finishing together

The God of hope fill you with all joy and peace as you trust in him, that by the power of the Holy Spirit you may overflow with hope.

Blow out the candle.


Subscribe to receive email notification of At the table, the Bishop's Letter and diocesan announcements