Wrth y bwrdd
Addoliad syml ar yr aelwyd ac mewn Eglwys Iau ar gyfer teuluoedd ifanc
Sul y Cofio
Gallaf wneud pethau anhygoel
Ymlonyddu gyda'n gilydd
1. Goleuwch gannwyll.
2. Darllenwch:
A dywedodd Duw, "Bydded goleuni." A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf.
Genesis 1:3-5
Dyma’r dydd y gweithredodd yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenhawn ynddo.
Salm 118:24
Paratoi ar gyfer gweddïo gyda'n gilydd
Byddwch angen
- Arian (neu ddarnau o confetti sgleiniog).
- Cynhwysydd mawr
- Compost (neu rywbeth arall i gladdu’r arian – meddyliwch am Ddip Lwcus yn y ffair)
Claddwch yr arian yn y compost a gosod y cynhwysydd ar y naill ochr yn barod at yn nes ymlaen.
Meddwl gyda'n gilydd
Beth ydych chi’n gallu ei wneud yn dda?
Beth am gael sioe ddoniau a dangos i'ch gilydd beth ydych yn gallu eu gwneud yn dda.
Darllen gyda'n gilydd
Mathew 25:14-30
Myfyrio gyda'n gilydd
Gadawodd y meistr yn y stori ei weision i ofalu am ei dŷ a'i arian. Roedd yn disgwyl iddyn nhw ofalu am danyn nhw a gwneud ei waith tra ei fod i ffwrdd.
Mae Iesu wedi gofyn i ni wneud ei waith hefyd.
Beth oedd gwaith Iesu?
Dweud wrth bobl am Dduw a charu pobl, gwneud pobl yn well, gofalu am bobl a helpu pobl.
Dyna beth mae Iesu eisiau i ni ei wneud – dweud wrth bobl am Dduw a charu pobl.
Mae Duw wedi rhoi i bob un ohonom ni amser, arian, cyrff a gwahanol sgiliau, a’r pethau rydym ni’n gallu eu gwneud yn dda. Gallwn ni ddefnyddio’r pethau hynny i ddweud wrth bobl am Dduw a’u caru.
Yr wythnos ddiwethaf roedden ni’n sôn am wneud y peth iawn - gweithredu a siarad. Gyda’r sgiliau y mae Duw wedi’u rhoi i ni, gallwn wneud mwy na dim ond y peth iawn – gallwn wneud pethau anhygoel! Mae pob un o’r pethau anhygoel yn gallu dweud wrth bobl am Dduw.
Gweddio gyda'n gilydd
Byddwch angen:
- Trywel neu lwy
Cloddiwch am yr arian. Wrth i chi godi pob darn o arian gofynnwch i Dduw eich helpu i beidio â chuddio'r pethau rydych chi’n gallu eu gwneud yn dda. Gofynnwch i Dduw i’ch helpu i ddefnyddio’ch amser, eich arian a’r pethau rydych yn gallu eu gwneud yn dda i ddweud wrth bobl cymaint mae Duw yn eu caru. Gofynnwch i Dduw eich helpu i ddangos i bobl eich bod chi’n eu caru hefyd.
Gorffen gyda'n gilydd
Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.
Diffoddwch y gannwyll.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Wrth y bwrdd, Llythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
At the table
Simple worship at home and at Junior Church for young families
Remembrance Sunday
I can do amazing things
Stilling together
1. Light a candle.
2. Read:
God said, "Let there be light," and there was light, and God saw the light was good, and he separated light from darkness. So evening came, and morning came; it was the first day.
Genesis 1: 3-5
This is the day which the Lord has made; let us rejoice and be glad in it.
Psalm 118: 24
Preparing for praying together
You will need:
- Coins (or bits of sparkly confetti)
- A large container
- Compost (Or something else in which to bury the coins – think Lucky Dip style)
Bury the coins under the compost and place the container to one side ready for later
Thinking together
What are you good at doing?
Why not have a talent show and show each other the things you are good at.
Reading together
Mathew 25:14-30
Reflecting together
The master in the story left his servants in charge of his house and his money. He expected them to look after it and to do his work while he was away.
Jesus has asked us to do his work too.
What was Jesus’ work?
To tell people about God and to love people, to make people better, to care for people, to help people.
That’s what Jesus wants us to do – to tell people about God and to love people.
God has given us all time, money, bodies and different skills and things that we are good at. We can use those things to tell people about God and to love them.
Last week we talked about doing the right thing – acting and speaking. With the skills that God has given us we can do more than just the right thing – we can do amazing things! Each of those amazing things can tell people about God.
Praying together
You will need:
- Trowel or spoons
Dig up the coins. As you dig up each coin ask God to help you to not hide the things you are good at. Ask God to help you to use your time, money and the things you are good at to tell people about how much God loves them . Ask God to help you to show people that you love them too.
Finishing together
The God of hope fill you with all joy and peace as you trust in him, that by the power of the Holy Spirit you may overflow with hope.
Blow out the candle.