Wrth y bwrdd
Addoliad syml ar yr aelwyd ar gyfer teuluoedd ifanc
Y Trydydd Sul ar Ddeg wedi'r Drindod
Ymlonyddu gyda'n gilydd
1. Goleuwch gannwyll.
2. Darllenwch:
A dywedodd Duw, "Bydded goleuni." A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf.
Genesis 1:3-5
Dyma’r dydd y gweithredodd yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenhawn ynddo.
Salm 118:24
Trafod gyda’n gilydd
Atebwch rhai o’r cwestiynau canlynol neu rhai tebyg.
- Sut allwn ni ddweud pethau wrth ein gilydd?
- Sut allwn ni ofyn am gymorth?
- Sut allwch chi ddangos i rywun eich bod yn eu caru?
- Sut allwch chi sicrhau bod rhywun yn eich clywed chi?
Darllen gyda'n gilydd
Mathew 6:5-15
Yn ein stori heddiw y mae Iesu yn ein helpu ni i feddwl am siarad â Duw.
“A phan fyddwch yn gweddïo, peidiwch â bod fel y rhagrithwyr; oherwydd y maent hwy'n hoffi gweddïo ar eu sefyll yn y synagogau ac ar gonglau'r heolydd, er mwyn cael eu gweld gan eraill. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae eu gwobr ganddynt eisoes. Ond pan fyddi di'n gweddïo, dos i mewn i'th ystafell, ac wedi cau dy ddrws gweddïa ar dy Dad sydd yn y dirgel, a bydd dy Dad sydd yn gweld yn y dirgel yn dy wobrwyo. Ac wrth weddïo, peidiwch â phentyrru geiriau fel y mae'r Cenhedloedd yn gwneud; y maent hwy'n tybied y cânt eu gwrando am eu haml eiriau. Peidiwch felly â bod yn debyg iddynt hwy, oherwydd y mae eich Tad yn gwybod cyn i chwi ofyn iddo beth yw eich anghenion.
“Felly, gweddïwch chwi fel hyn:
“Ein Tad yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw;
deled dy deyrnas;
gwneler dy ewyllys,
ar y ddaear fel yn y nef.
Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol
a maddau inni ein troseddau
fel yr ŷm ni wedi maddau i'r rhai a droseddodd yn ein herbyn;
a phaid â'n dwyn i brawf,
ond gwared ni rhag yr Un drwg. Oherwydd eiddot ti yw'r deyrnas a'r gallu a'r gogoniant am byth.
Amen.
“Oherwydd os maddeuwch i eraill eu camweddau, bydd eich Tad nefol hefyd yn maddau i chwi. Ond os na faddeuwch i eraill eu camweddau, ni fydd eich Tad chwaith yn maddau eich camweddau chwi."
Myfyrio gyda’n gilydd
Mae Duw wrth ei fodd wrth i ni weddïo.
Mae Duw am glywed gennym.
Mae’r geiriau yng ngweddi Iesu yn rhoi’r geiriau i ni – mae’n amhosib gwneud esgusodion a dweud nad ydym gwybod beth i’w ddweud.
Rydyn ni yn gallu siarad â Duw am unrhywbeth, mewn unrhyw ffordd, yn unrhyw fan. Does dim angen gweiddi na defnyddio geiriau ‘clyfar’. 'Mond siarad sydd angen.
Beth am ddysgu geiriau’r weddi?
Mae siarad â Duw yn gallu teimlo’n od i ddechrau ac mae’n hawdd iawn i droi gweddi i fod yn rhestr o ofynion – fel rhestr at Siôn Corn. Nid dyna bwrpas gweddi.
Wrth i ni goginio mae na fesuriadau gwahanol. Un ohonynt yw llwy de. Llwy fach yw llwy de ond mae’n berffaith ar gyfer mesur pethau bach fel siwgr, halen, perlysiau a hyd yn oed moddion. Mae llwy de yn cael ei defnyddio i droi te a choffi ac rydym yn gallu defnyddio llwy de i fwydo babi. Ond, rydym yn gallu defnyddio llwy de i’n helpu i weddïo. Mewn rysáit, yn Saesneg, mae llwy de yn cael ei nodi fel ‘tsp’. Mae pob llythyren yn ein helpu ni i gofio rhan bwysig o weddi.
T – Ta (diolch)
S - Sori
P - Plis
Fesul un gweddïwch bob llythyren. Am beth fedrwch chi ddweud diolch wrth Dduw? Am beth mae angen dweud sori wrth Dduw? Am beth hoffech chi ofyn oddi wrth Dduw?
Mae gweddi yn mynd yn bellach na jyst siarad â Duw. Cymerwch ychydig o funudau yn gwylio fflam y gannwyll ar ôl i chi gweddïo. Ydy Duw yn ymateb?
Ymateb gyda’n gilydd
Jariau diolch
Bydd angen:
- Naill ai jar i bob person neu un mawr i’r teulu cyfan – dydi top y jar ddim yn angenrheidiol
- Sticeri neu addurniadau
- Pen
- Darnau o bapur
Addurnwch y jar gan ddefnyddio sticeri neu unrhyw addurniad arall. Cofiwch nodi eich enw os ydych yn defnyddio un yr un.
Meddyliwch am rywbeth pob diwrnod gallwch ddweud diolch wrth Dduw amdano. Nodwch ar ddarn o bapur y pethau gan ychwanegu nhw at y jar. Ar ddiwedd yr wythnos gallwch edrych yr holl bethau da mae Duw wedi gwneud i chi’r wythnos hon.
Gorffen gyda'n gilydd
Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.
Diffoddwch y gannwyll.
At the table
Simple worship at home for young families
The Thirteenth Sunday after Trinity
Stilling together
1. Light a candle.
2. Read:
God said, "Let there be light," and there was light, and God saw the light was good, and he separated light from darkness. So evening came, and morning came; it was the first day.
Genesis 1: 3-5
This is the day which the Lord has made; let us rejoice and be glad in it.
Psalm 118: 24
Discussing together
Ask some of the following or similar questions:
- How can we tell each other things?
- How can we ask for help?
- How can you show someone you love them?
- How can you make sure someone hears you?
Read together
Matthew 6:5-15
In today’s story Jesus helps us think about talking to God.
“And when you pray, do not be like the hypocrites, for they love to pray standing in the synagogues and on the street corners to be seen by others. Truly I tell you, they have received their reward in full. But when you pray, go into your room, close the door and pray to your Father, who is unseen. Then your Father, who sees what is done in secret, will reward you. And when you pray, do not keep on babbling like pagans, for they think they will be heard because of their many words. Do not be like them, for your Father knows what you need before you ask him.
"This, then, is how you should pray:
"Our Father in heaven,hallowed be your name,your kingdom come,your will be done,on earth as it is in heaven.Give us today our daily bread.And forgive us our debts,as we also have forgiven our debtors.And lead us not into temptation.but deliver us from the evil one,
for yours is the kingdom
and the power and the glory for ever.Amen.
"For if you forgive other people when they sin against you, your heavenly Father will also forgive you. But if you do not forgive others their sins, your Father will not forgive your sins.”
Reflecting together
It makes God happy to hear us pray.
God wants to hear from us.
This prayer that Jesus prayed gives us the words to say so we can never say, “I don’t know what to say.”
We can talk to God about anything, in any way, in any place. We don’t need to shout, nor do we need to to use clever words. We just have to talk.
If you don’t know what to say you could learn the Lord’s Prayer to help you.
Talking to God can feel a bit strange to begin with and it’s very, very easy to just ask for things all the time – a bit like a wish list to Santa. That’s not what prayer is.
When we are cooking there are different types of measurements. One of those is a teaspoon. A teaspoon is only small and it’s perfect for measuring small amounts of things like sugar, salt, spices and, when we’re poorly, even medicine. A teaspoon is used to stir things like tea or coffee and we can use a teaspoon to feed babies. But, we can also use the teaspoon to help us to pray. The way teaspoon is written in a recipe is ‘tsp’ Each letter helps us to remember an important part of prayer.
T - Thank you
S – Sorry
P – Please
Take it in turns to pray each letter. What can you say thank you to God for? What might you need to say sorry to God about? What would you like to ask God?
Prayer isn’t just about talking to God though. We also need to listen. Spend a little bit of time quietly watching the candle flame after you have prayed. What might God be saying back to you?
Responding together
Thank you jars
You will need:
- Either 1 jar per person or a large ‘family’ jar – lids aren’t essential
- Stickers or other decorations
- A pen
- Strips of paper
Using your stickers decorate the jar. If you are using one per person it might be a good idea to write your names on them.
Every day this week find something you can say thank you to God for. Each time you say thank you write it on a piece of paper and pop it in your jar. At the end of the week you can look at all the good things God has done for you this week.
Finishing together
The God of hope fill you with all joy and peace as you trust in him, that by the power of the Holy Spirit you may overflow with hope.
Blow out the candle.