minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Wrth y bwrdd


Addoliad syml ar yr aelwyd ac mewn Eglwys Iau ar gyfer teuluoedd ifanc


Y Deunawfed Sul wedi'r Drindod


Gallaf gael fy nghanfod


Ymlonyddu gyda'n gilydd

1. Goleuwch gannwyll.

2. Darllenwch:

A dywedodd Duw, "Bydded goleuni." A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf.

Genesis 1:3-5

Dyma’r dydd y gweithredodd yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenhawn ynddo.

Salm 118:24


Chware gyda'n gilydd

Chwarae mig gyda’n gilydd.

  • Pwy oedd y gorau am guddio?
  • Pwy oedd y gorau am ganfod?
  • A gafodd unrhyw un ei anghofio?

Darllen gyda'n gilydd 

Mae stori heddiw, roedd Iesu’n ei hadrodd, am ddafad oedd yn crwydro.


Myfyrio gyda'n gilydd 

  • Ydych chi erioed wedi bod ar goll?
  • Pwy ddaeth i chwilio amdanoch chi?
  • Pwy ydych chi’n meddwl yw’r bugail yn y stori?
  • Pwy ydych chi’n meddwl yw’r defaid?

Weithiau, rydyn ni’n gwneud pethau, yn dweud pethau, yn meddwl pethau nad yw Iesu eisiau i ni. Pan fyddwn ni’n gwneud y pethau hynny, rydyn ni fel y defaid yn crwydro. Ond, mae Iesu’n ein caru gymaint ei fod yn dod i chwilio amdanom ni – yn union fel yr aeth y bugail i chwilio am y defaid.

Allwch chi gofio beth a wnaeth y bugail ar ddiwedd y stori? Dathlodd!

Pan mae Iesu’n dod o hyd i ni ac yn dod â ni gartref, mae yntau’n dathlu hefyd – dyna gymaint mae’n ein caru.


Gweddio gyda'n gilydd

Byddwch angen:

  • Balŵns – cymaint ag y gallwch chi eu chwythu
  • Ffon fugail (ymbarél, rolyn o bapur lapio, ffon bambŵ – beth bynnag sydd gennych)

Chwythwch y balŵns. Efallai yr hoffech chi dynnu lluniau wynebau defaid arnyn nhw.

Casglwch yr holl falŵns gyda’i gilydd mewn corlan. Gadewch i un ‘ddianc’ i ystafell arall. Cymerwch dro ar fod yn fugail ac arwain y ddafad yn ôl at y lleill gan ddefnyddio’r ffon fugail. Wrth i chi wneud hynny, meddyliwch am y bobl rydych chi’n eu hadnabod rydych chi eisiau dod â nhw at Iesu. Efallai rhywun nad yw erioed wedi’i gyfarfod o’r blaen. Efallai rhywun sydd wedi mynd i ffwrdd ac sydd angen cael ei ddwyn yn ôl. Mae Iesu yn gofyn i ni ymuno ag ef i fod yn fugeiliaid da ac i ganfod y rhai sydd wedi crwydro ac sydd ar goll.

Wrth i chi dod â’ch ‘defaid’ yn ôl i’r gorlan, os hoffech chi, dywedwch eu henwau’n uchel fel bod pawb yn gallu ymuno â chi yn eich gweddi.


Gorffen gyda'n gilydd

Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.

Diffoddwch y gannwyll.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Wrth y bwrdd, Llythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol

Cymraeg

At the table


Simple worship at home and at Junior Church for young families


The Eighteenth Sunday after Trinity


I can be found


Stilling together

1. Light a candle.

2. Read:

God said, "Let there be light," and there was light, and God saw the light was good, and he separated light from darkness. So evening came, and morning came; it was the first day.

Genesis 1: 3-5

This is the day which the Lord has made; let us rejoice and be glad in it.

Psalm 118: 24


Playing together

Play a game of Hide and Seek together.

  • Who was the best at hiding?
  • Who was the best at finding?
  • Did anybody get forgotten?

Reading together

Today’s story that Jesus told is about a sheep that wandered away.


Reflecting together

  • Have you ever been lost?
  • Who came to find you?
  • Who do you think the shepherd is in the story?
  • Who do you think the sheep are?

Sometimes we do things, say things, think things that Jesus doesn’t want us to. When we do those things we are like the sheep that wandered away. But Jesus loves us so much he comes to find us – just like the shepherd went to find the sheep.

Can you remember what the shepherd did at the end of the story? He celebrated!

When Jesus finds us and brings us home he celebrates too – that’s how much he loves us.


Praying together

You will need:

  • Balloons – as many as you can face blowing up
  • Shepherd’s Crook (an umbrella, a roll of wrapping paper, a bamboo cane – whatever you can find)

Inflate the balloons. Draw sheep faces on them if you like.

Gather all the balloons together in a sheep-pen. Allow one to ‘escape’ to another room. Take it in turns to be the shepherd and guide the sheep back to the others using the crook. As you do this think about the people you know who you want to bring to Jesus. Maybe it’s someone who’s never met him before. Maybe it’s someone who’s gone away and needs to be brought back. Jesus asks us to join him in being good shepherds and to help find those who have wandered away and are lost.

As you bring your ‘sheep’ back into the pen, if you want to, name them out loud so everyone can join in your prayer.


Finishing together

The God of hope fill you with all joy and peace as you trust in him, that by the power of the Holy Spirit you may overflow with hope.

Blow out the candle.


Subscribe to receive email notification of At the table, the Bishop's Letter and diocesan announcements