Wrth y bwrdd
Addoliad syml ar yr aelwyd ac mewn Eglwys Iau ar gyfer teuluoedd ifanc
Sul y Gweddnewidiad
Marc 9:2-9
Ymlonyddu gyda'n gilydd
1. Goleuwch gannwyll.
2. Darllenwch:
A dywedodd Duw, "Bydded goleuni." A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf.
Genesis 1:3-5
Dyma’r dydd y gweithredodd yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenhawn ynddo.
Salm 118:24
Creu gyda'n gilydd
Byddwch angen:
- Papur lliw golau (gwyn yw’r gorau)
- Sudd Lemwn
- Cwpan wy (neu debyg o’r un maint)
- Brwsh paent bach neu ‘bud’ cotwm
- Haearn a bwrdd smwddio
Arllwyswch ychydig o sudd lemwn i mewn i’r gwpan wy. Yna, gyda’r brwsh, paentiwch neges ar y papur. Byddwch angen eithaf tipyn o sudd ond nid cymaint nes bod y papur yn wlyb. Gallwch ysgrifennu unrhyw beth hoffech chi. Eich enw neu neges, efallai.
Gadewch i’r papur sychu tra byddwch yn darllen y stori gyda’ch gilydd.
Darllen gyda'n gilydd
Chwe diwrnod wedyn aeth Iesu i ben mynydd uchel, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan gydag e. Roedden nhw yno ar eu pennau'u hunain. Dyma olwg Iesu'n cael ei drawsnewid o flaen eu llygaid. Trodd ei ddillad yn wyn llachar; yn wynnach nag y gallai unrhyw bowdr golchi fyth eu glanhau. Wedyn dyma Elias a Moses yn ymddangos o'u blaenau, yn sgwrsio gyda Iesu. Dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Rabbi, mae'n dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches – un i ti, un i Moses ac un i Elias.” (Doedd ganddo ddim syniad beth roedd yn ei ddweud go iawn – roedd y tri ohonyn nhw wedi dychryn gymaint!) Wedyn dyma gwmwl yn dod i lawr a chau o'u cwmpas, a dyma lais o'r cwmwl yn dweud: “Fy Mab annwyl i ydy hwn. Gwrandwch arno!” Yn sydyn dyma nhw'n edrych o'u cwmpas, a doedd neb i'w weld yno ond Iesu. Wrth ddod i lawr o'r mynydd dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw i beidio sôn wrth neb am beth welon nhw nes y byddai e, Mab y Dyn, wedi codi yn ôl yn fyw.
Marc 9:2-9
Myfyrio gyda'n gilydd
Allwch chi gofio pan glywsom ni lais Duw am y tro cyntaf yn dweud wrth bobl fod Iesu’n Fab Duw? Adeg ei fedyddio.
Nawr, rydym wedi’i glywed eto ac mae rhywbeth anhygoel wedi digwydd i Iesu.
Wyddoch chi beth mae Gweddnewidiad yn ei feddwl? Mae cael eich gweddnewid yn golygu eich bod yn edrych yn wahanol neu bod eich siâp yn wahanol.
Ond yr hyn oedd yn anhygoel am Iesu oedd nad oedd wedi’i newid. Ar yr adeg hynny, ar y bryn, roedd yn edrych yn wahanol – wedi’i oleuo ond ni newidiodd i rywbeth newydd. Yn hytrach, gwelodd ei ddisgyblion pwy ydoedd mewn gwirionedd.
Ac, er nad oeddem ni i fyny ar ben y mynydd hwnnw, weithiau byddwn ni’n gweld Iesu hefyd. Pan fyddwn yn ofnus neu ar ein pen ein hunain, weithiau byddwn yn teimlo ei fod ef gyda ni. Pan fyddwn yn cael profiadau gwirioneddol hapus neu gyffrous, weithiau mae’n gwneud i ni eisiau clodfori Duw. Mae bron iawn fel petai Duw’n dweud wrthym “Hwn yw fy Mab. Gwrandewch arno!” Unwaith y byddwn wedi gwrando ac wedi dysgu am Iesu, ein tro ni yw hi i sôn amdano wrth bobl eraill.
Gobeithio y bydd eich papur wedi sychu erbyn hyn. Rhowch yr haearn smwddio ar wres eithaf uchel (yn ddelfrydol gan ddiffodd y stêm ).
Unwaith y bydd yn boeth, smwddiwch y papur. Dylai’r sudd lemwn ‘llosgi’ gan ddangos y neges.
Doedd y bobl yn y Beibl ddim yn gallu gweld pwy oedd Iesu mewn gwirionedd ond pan gafodd ei weddnewid, roedd Pedr, Iago ac Ioan yn gallu ei weld yn iawn – roedd yr hyn oedd Iesu i’w weld.
Gweddio gyda'n gilydd
Gan ddefnyddio dalen newydd o bapur, ysgrifennwch weddi yn gofyn i Dduw eich helpu i fod ac i weld teyrnas Duw yn ystod yr wythnos o’ch blaen. Os dymunwch, gallwch dynnu lluniau o sut y gallwch ddangos teyrnas Duw – y pethau da y gallwch eu gwneud dros bobl eraill. Gallwch hyd yn oed ysgrifennu’r geiriau “Hwn yw fy Mab, rwy’n ei garu. Gwrandewch arno!”
Annwyl Dduw, pan fyddwn yn darllen am Weddnewidiad Iesu, weithiau mae’n anodd i ni ei ddeall. Helpa ni i weld dy nerth a’th ogoniant anhygoel er mwyn i ni dy adnabod di, ac er mwyn i ni allu sôn wrth eraill am Iesu. Gweddïwn yn enw Iesu - Amen
Gorffen gyda'n gilydd
Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.
Diffoddwch y gannwyll.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Wrth y bwrdd, Llythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
At the table
Simple worship at home and at Junior Church for young families
Transfiguration Sunday
Mark 9:2-9
Stilling together
1. Light a candle.
2. Read:
God said, "Let there be light," and there was light, and God saw the light was good, and he separated light from darkness. So evening came, and morning came; it was the first day.
Genesis 1: 3-5
This is the day which the Lord has made; let us rejoice and be glad in it.
Psalm 118: 24
Making together
You will need:
- Light coloured paper (white is best)
- Lemon juice
- Egg cup (or similar sized holder)
- A small paintbrush or cotton bud
- An iron and ironing board
Pour some lemon juice into an egg cup. Using the paintbrush paint a message on the paper. You’ll need quite a lot of juice but not so much that the paper is soggy. You can write anything you like. Perhaps your name or a message.
Leave the paper to dry while you read the story together.
Reading together
After six days Jesus took Peter, James and John with him and led them up a high mountain, where they were all alone. There he was transfigured before them. His clothes became dazzling white, whiter than anyone in the world could bleach them. And there appeared before them Elijah and Moses, who were talking with Jesus.
Peter said to Jesus, “Rabbi, it is good for us to be here. Let us put up three shelters—one for you, one for Moses and one for Elijah.” (He did not know what to say, they were so frightened.)
Then a cloud appeared and covered them, and a voice came from the cloud:“This is my Son, whom I love. Listen to him!”
Suddenly, when they looked around, they no longer saw anyone with them except Jesus.
As they were coming down the mountain, Jesus gave them orders not to tell anyone what they had seen until the Son of Man had risen from the dead.
Mark 9:2-9
Reflecting together
Can you remember when we first heard God’s voice telling people that Jesus was God’s Son? At his baptism.
Now we’ve heard it again and something amazing happened to Jesus.
Do you know what Transfigured means? Being transfigured means to change in appearance or shape.
But what was amazing about Jesus was that he wasn’t changed. At that moment, on the hill, he looked different – all lit up, but he didn’t turn into something new. Instead his disciples saw who he really was.
And, even though we weren’t up on that mountain top, sometimes we see Jesus too. When we are afraid or alone, sometimes we feel him with us. When we experience really happy or exciting things, sometimes it makes us want to praise God. It’s almost like God is saying to us, “This is my Son. Listen to him!” Once we’ve listened and learned about Jesus, it’s our turn to tell others about him.
Hopefully your paper will have dried now. Switch on the iron to quite a high setting (ideally with the steam off).
Once heated iron the paper. The lemon juice should ‘burn’ leaving the message visible.
The people in the Bible couldn’t see who Jesus really was but when he was transfigured Peter, James and John could see properly – Jesus’ real identity was visible.
Praying together
Using a new sheet of paper write a prayer asking God to help you to both be and to see God’s kingdom during the week ahead. If you want to you could draw pictures of how you can show God’s kingdom – good things you can do for other people. You could even write the words, “This is my Son, whom I love. Listen to him.”
Dear God, when we read about Jesus’ Transfiguration, sometimes it is hard for us to understand. Help us to see your amazing power and glory so that we may know you, and so that we may tell others about Jesus. We pray this in Jesus’ name – Amen.
Finishing together
The God of hope fill you with all joy and peace as you trust in him, that by the power of the Holy Spirit you may overflow with hope.
Blow out the candle.