Wrth y bwrdd
Addoliad syml ar yr aelwyd ac mewn Eglwys Iau ar gyfer teuluoedd ifanc
Gŵyl Fair y Canhwyllau
Ai gweld yw credu neu ai credu yw gweld?
Ymlonyddu gyda'n gilydd
1. Goleuwch gannwyll.
2. Darllenwch:
A dywedodd Duw, "Bydded goleuni." A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf.
Genesis 1:3-5
Dyma’r dydd y gweithredodd yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenhawn ynddo.
Salm 118:24
Trafod gyda'n gilydd
Gosodwch ar y bwrdd rai blociau adeiladu, babi, siôl neu sgarff, cannwyll, croes, map neu glôb o’r byd , llun o Iesu pan oedd yn oedolyn.
Gwahoddwch y plant i adeiladu teml gyda’r blociau a lapio’r babi mewn blanced. Goleuwch y gannwyll yn ofalus a meddwl gyda’ch gilydd am y pethau eraill.
Darllen gyda'n gilydd
Pan oedd pedwar deg diwrnod wedi mynd heibio ers i'r bachgen gael ei eni, roedd y cyfnod o buro mae Cyfraith Moses yn sôn amdano wedi dod i ben. Ref Croes Felly aeth Joseff a Mair i Jerwsalem i gyflwyno eu mab cyntaf i'r Arglwydd (Mae Cyfraith Duw yn dweud: “Os bachgen ydy'r plentyn cyntaf i gael ei eni, rhaid iddo gael ei gysegru i'r Arglwydd”Croes a hefyd fod rhaid offrymu aberth i'r Arglwydd – “pâr o durturod neu ddwy golomen”.)Croes Roedd dyn o'r enw Simeon yn byw yn Jerwsalem – dyn da a duwiol. Roedd dylanwad yr Ysbryd Glân yn drwm ar ei fywyd, ac roedd yn disgwyl yn frwd i'r Meseia ddod i helpu Israel. Roedd yr Ysbryd Glân wedi dweud wrtho y byddai'n gweld y Meseia cyn iddo fe farw. A'r diwrnod hwnnw dyma'r Ysbryd yn dweud wrtho i fynd i'r deml. Felly pan ddaeth rhieni Iesu yno gyda'u plentyn i wneud yr hyn roedd y Gyfraith yn ei ofyn, dyma Simeon yn cymryd y plentyn yn ei freichiau a dechrau moli Duw fel hyn:
“O Feistr Sofran! Gad i mi, dy was,
bellach farw mewn heddwch!
Dyma wnest ti ei addo i mi –
dw i wedi gweld yr Achubwr gyda fy llygaid fy hun.
Rwyt wedi'i roi i'r bobl i gyd;
yn olau er mwyn i genhedloedd eraill allu gweld,
ac yn rheswm i bobl Israel dy foli di.”Roedd Mair a Joseff yn rhyfeddu at y pethau oedd yn cael eu dweud am Iesu. Yna dyma Simeon yn eu bendithio nhw, a dweud wrth Mair, y fam: “Bydd y plentyn yma yn achos cwymp i lawer yn Israel ac yn fendith i eraill. Bydd yn rhybudd sy'n cael ei wrthod, a bydd yr hyn mae pobl yn ei feddwl go iawn yn dod i'r golwg. A byddi di'n dioddef hefyd, fel petai cleddyf yn trywanu dy enaid di.” Roedd gwraig o'r enw Anna, oedd yn broffwydes, yn y deml yr un pryd. Roedd yn ferch i Phanuel o lwyth Aser, ac yn hen iawn. Roedd hi wedi bod yn weddw ers i'w gŵr farw dim ond saith mlynedd ar ôl iddyn nhw briodi. Erbyn hyn roedd hi'n wyth deg pedair mlwydd oed. Fyddai hi byth yn gadael y deml – roedd hi yno ddydd a nos yn addoli Duw, ac yn ymprydio a gweddïo. Daeth at Mair a Joseff pan oedd Simeon gyda nhw a dechrau moli Duw a diolch iddo. Roedd yn siarad am Iesu gyda phawb oedd yn edrych ymlaen at ryddid i Jerwsalem. Pan oedd Joseff a Mair wedi gwneud popeth roedd Cyfraith yr Arglwydd yn ei ofyn, dyma nhw'n mynd yn ôl adre i Nasareth yn Galilea. Tyfodd y plentyn yn fachgen cryf a doeth iawn, ac roedd hi'n amlwg bod ffafr Duw arno.
Ioan 2:22-40
Myfyrio gyda'n gilydd
Roedd Simeon ac Anna wedi adnabod Iesu ac yn gwybod ei fod yn mynd i dyfu a gwneud gwaith rhyfeddol Duw. Roedden nhw'n gwybod mai Iesu fyddai goleuni'r byd - yn dangos teyrnas Dduw i'r byd.
Gwyliwch fflam y gannwyll gyda’ch gilydd am ychydig.
Gofynnwch: beth ydych chi’n feddwl yw ystyr ‘disgleirio fel cannwyll’?
Sut allech chi ddisgleirio fel cannwyll?
Gweddio gyda'n gilydd
Byddwch angen:
- 2 stribed o bapur – unrhyw liw
- Darnau bach i bapur coch / melyn / oren
- Siswrn
- Sellotape neu glud
Diolch i ti Dduw fod Iesu wedi dod i ddisgleirio fel goleuni, gan ddangos dy deyrnas i ni.
Diolch i ti fod Simeon ac Anna wedi’i adnabod.
Helpa ni i adnabod arwyddion dy deyrnas di heddiw.
Helpa ni i fod yn arwyddion o dy deyrnas di heddiw, gan dywynnu goleuni ac adlewyrchu goleuni Iesu i bawb.
Amen
Gorffen gyda'n gilydd
Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.
Diffoddwch y gannwyll.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Wrth y bwrdd, Llythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
At the table
Simple worship at home and at Junior Church for young families
Candlemas
Is seeing believing, or is believing seeing?
Stilling together
1. Light a candle.
2. Read:
God said, "Let there be light," and there was light, and God saw the light was good, and he separated light from darkness. So evening came, and morning came; it was the first day.
Genesis 1: 3-5
This is the day which the Lord has made; let us rejoice and be glad in it.
Psalm 118: 24
Discussing together
On the table put out some building blocks, a baby, a shawl or scarf, a candle, a cross, a map of the world or a globe, an image if Jesus when he was grown up.
Invite the children to build a temple with the blocks and to wrap the baby in a blanket. Carefully light the candle and think together about the other objects.
Reading together
When the time came for the purification rites required by the Law of Moses,Joseph and Mary took him to Jerusalem to present him to the Lord (as it is written in the Law of the Lord, “Every firstborn male is to be consecrated to the Lord”), and to offer a sacrifice in keeping with what is said in the Law of the Lord: “a pair of doves or two young pigeons.”
Now there was a man in Jerusalem called Simeon, who was righteous and devout. He was waiting for the consolation of Israel, and the Holy Spirit was on him. It had been revealed to him by the Holy Spirit that he would not die before he had seen the Lord’s Messiah. Moved by the Spirit, he went into the temple courts. When the parents brought in the child Jesus to do for him what the custom of the Law required, Simeon took him in his arms and praised God, saying:
“Sovereign Lord, as you have promised,
you may now dismiss your servant in peace.
For my eyes have seen your salvation,
which you have prepared in the sight of all nations:
a light for revelation to the Gentiles,
and the glory of your people Israel.”The child’s father and mother marveled at what was said about him. Then Simeon blessed them and said to Mary, his mother: “This child is destined to cause the falling and rising of many in Israel, and to be a sign that will be spoken against, so that the thoughts of many hearts will be revealed. And a sword will pierce your own soul too.”
There was also a prophet, Anna, the daughter of Penuel, of the tribe of Asher. She was very old; she had lived with her husband seven years after her marriage, and then was a widow until she was eighty-four. She never left the temple but worshiped night and day, fasting and praying. Coming up to them at that very moment, she gave thanks to God and spoke about the child to all who were looking forward to the redemption of Jerusalem.
When Joseph and Mary had done everything required by the Law of the Lord, they returned to Galilee to their own town of Nazareth. And the child grew and became strong; he was filled with wisdom, and the grace of God was on him.
John 2:22-40
Reflecting together
Simeon and Anna both recognised Jesus and knew that he was going to grow up to do God’s amazing work. They knew that Jesus was going to be a light to the world – to show God’s kingdom to the world.
Watch your candle flame flickering for a little while.
Ask: what do you think it means to ‘shine like a candle’?
How could you shine like a candle?
Praying together
You will need;
- 2 equal strips of A4 paper – they can be any colour
- Small pieces of red/yellow/orange paper
- Scissors
- Glue or sellotape (we haven’t got any glue in our house at the moment!)
Thank you God that Jesus came to shine as a light, showing us your kingdom.
Thank you that Simeon and Anna recognised him.
Please help us to recognise signs of your kingdom today.
Please help us to be signs of your kingdom today, shining our lights and reflecting Jesus’ light to all.
Amen
Finishing together
The God of hope fill you with all joy and peace as you trust in him, that by the power of the Holy Spirit you may overflow with hope.
Blow out the candle.