Wrth y bwrdd
Addoliad syml ar yr aelwyd ac mewn Eglwys Iau ar gyfer teuluoedd ifanc
Gŵyl yr Holl Saint
Gallaf wneud y peth iawn
Ymlonyddu gyda'n gilydd
1. Goleuwch gannwyll.
2. Darllenwch:
A dywedodd Duw, "Bydded goleuni." A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf.
Genesis 1:3-5
Dyma’r dydd y gweithredodd yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenhawn ynddo.
Salm 118:24
Meddwl gyda'n gilydd
- Petai rhywun yn dweud wrthych ei fod yn eich caru ond yna yn eich dyrnu yn eich wyneb, fuasech chi’n ei gredu?
- Petai rhywun yn dweud wrthych y byddai’n eich helpu i dacluso ond yna’n gwrthod ac eistedd a gwylio’r teledu, sut fyddech chi’n teimlo?
- Petai rhywun yn dweud wrthych y byddai’n prynu cacen i chi ond ddim yn gwneud hynny, fyddech chi’n ymddiried yn y person hwnnw’r tro nesaf?
Darllen gyda'n gilydd
Adroddodd Iesu stori am ddau fab a ddywedodd un peth wrth eu Tad ond gwneud yn wahanol.
Roedd ychydig fel hyn.....
Roedd yn mynd i fod yn ddiwrnod prysur iawn yn casglu grawnwin heddiw.
Ie neu nage? Beth ddylwn i ei wneud?
“A ddylwn i ofyn i’r bechgyn fy helpu yn y winllan heddiw?” gofynnodd y Tad
Ie neu nage? Beth dylwn i ei wneud?
“Ie, mi ofynnaf iddynt” penderfynodd y Tad.
Felly aeth i chwilio am ei ddau fab. Daeth ar draws Dafydd a oedd yn darllen llyfr. “Dafydd”, meddai’r Tad, “wnei di fy helpu yn y winllan heddiw?”
“Ie neu nage? Beth dylwn i ei wneud?” Gofynnodd Dafydd iddo’i hun.
“Hmm.... dim diolch Dad. Rwy’n mynd i’r dref heddiw i weld fy ffrindiau.”
"O” atebodd ei Dad. “wel, mae hynny’n siomedig. Wyt ti’n feddwl y bydd Siôn yn helpu?”
“Wn i ddim,” atebodd Dafydd “Pam na wnewch chi ofyn iddo?”
Meddyliodd y Tad am hyn. Ie neu nage? Beth ddylwn i ei wneud?
“Ie, mi af a gofyn iddo beth bynnag."
Roedd Siôn yn glanhau ei ddannedd.
“Siôn,” meddai ei Dad Wnei di fy helpu yn y winllan heddiw?”
“Ie neu nage? Beth ddylwn i ei wneud? Mmm, iawn, Dad, ie mi wnaf i.”
“Diolch. Mae hynny’n help mawr.” Roedd yn rhyddhâd i'r tad y byddai’n cael ychydig o help heddiw.
Wrth i Dafydd deithio tua’r dref roedd yn dal i ofyn y cwestiwn ‘Ie neu nage? Beth ddylwn i ei wneud?” Roedd yn teimlo’n ddrwg am ddweud na wrth ei Dad. Roedd ei Dad wirioneddol angen help heddiw gallai weld ei ffrindiau unrhyw ddiwrnod. “Ie neu nage? Beth ddylwn i ei wneud?”
Yn araf trodd Dafydd yn ôl, “Ie, mi af i helpu.”
Yn y cyfamser roedd Siôn eisoes ar ei ffordd i’r winllan. Ar ei ffordd, gwelodd ei hoff goden olewydd fawr. Roedd ganddi frigau mawr lle’r oedd yn gallu eistedd a chysgu – fyddai neb yn gwybod ei fod yno. “Ie neu nage? Beth ddylwn i ei wneud?” sibrydiodd wrtho’i hun. “A ddylwn i fynd a helpu Dad? Mae hi mor boeth heddiw ac rydw i eisiau cysgu. Ie neu nage? Beth ddylwn i ei wneud? “Na”, penderfynodd. “Dydw i ddim yn mynd i helpu Dad. Mae ganddo weithwyr eraill. Pam ddylwn i?” Yn gyflym, dringodd Siôn y goeden at ei hoff frigyn a gorwedd a chysgu.
Roedd y Tad mor falch o weld Dafydd yn dod i’w helpu er ei fod wedi dweud ‘na’. Ond roedd Dad yn wirioneddol siomedig gyda Siôn. Roedd wedi dweud ‘ie’ ond wedyn ddaeth o ddim.
Myfyrio gyda'n gilydd
Pa un o’r bechgyn ydych chi’n feddwl oedd wedi gwneud y peth iawn? Dywedodd Dafydd na, ond, wedyn, aeth i helpu. Dywedodd Siôn ie ond, wedyn, ddaeth o ddim i helpu.
Mae’r hyn rydyn ni’n ei ddweud a’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn wirioneddol bwysig. Os nad yw’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn cyd-fynd â’r hyn rydyn ni’n ei ddweud, sut mae pobl yn gwybod beth sy’n wir?
Os ydyn ni’n dweud ein bod yn caru Iesu ond ddim yn helpu pobl – ydy hynny’n hollol wir?
Os ydyn ni’n dweud ein bod yn caru rhywun ond yn galw enwau cas – ydy hynny’n hollol wir?
Os ydyn ni’n dweud ein bod yn berson caredig ond yn torri pethau pobl eraill – ydy hynny’n hollol wir?
Mae yna ddywediad enwog sy’n dweud “Mae gweithredoedd yn well na geiriau”.
Beth ydych chi’n feddwl mae hynny’n ei olygu?
A yw’n golygu nad yw ein geiriau’n cyfrif?
Gweddio gyda'n gilydd
Daliwch eich dwylo o’ch blaen
Meddyliwch am rywbeth y gallwch chi ei wneud gyda’ch dwylo i ddangos i rywun eich bod yn eu caru.
Efallai dal eu llaw. Efallai gosod plaster os yw rhywun wedi brifo. Efallai helpu i blannu blodau yn yr ardd. Efallai chwarae alw i rywun ar y piano
Daliwch eich troed allan.
Meddyliwch am rywbeth y gallwch ei wneud gyda’ch traed i ddangos i rywun eich bod yn eu caru.
Efallai mynd â’r ci am dro. Efallai chwarae pêl-droed gyda nhw.
Cyffyrddwch â’ch ceg.
Gofynnwch i Dduw eich helpu i siarad yn garedig bob amser ac i weithredu mewn ffyrdd sy’n dangos hynny – ac yn wir.
Gorffen gyda'n gilydd
Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.
Diffoddwch y gannwyll.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Wrth y bwrdd, Llythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
At the table
Simple worship at home and at Junior Church for young families
All Saints' Day
I can do the right thing
Stilling together
1. Light a candle.
2. Read:
God said, "Let there be light," and there was light, and God saw the light was good, and he separated light from darkness. So evening came, and morning came; it was the first day.
Genesis 1: 3-5
This is the day which the Lord has made; let us rejoice and be glad in it.
Psalm 118: 24
Thinking together
- If someone told you that they love you but then punched you in the face would you believe them?
- If someone told you they would help you to tidy up but then just watched the telly instead how would you feel?
- If someone told you they would buy you a cake but then didn’t would you trust them next time?
Reading together
Jesus told a story about two sons who told their Dad one thing but then did the opposite.
It was a little bit like this...
It was going to be a very busy day collecting grapes today.
Yes or no? What should I do?
“Should I ask the boys to help me in the vineyard today?” asked Dad
Yes or no? What should I do?
“Yes, I’ll ask them,” decided Dad.
So off he went to find his two boys. He came across Tim who was reading a book. “Tim,” said Dad, “will you help in the vineyard today?”
“Yes or no? What should I do?” Tim asked himself.
“Hmm...no thanks, Dad. I’m going to town today to see my friends.”
“Oh,” replied Dad. “well that’s disappointing. Do you think Barney will help?”
“I don’t know,” answered Tim. “Why don’t you go and ask him?”
Dad thought about it. Yes or no? What should I do?
“Yes, I’ll go and ask him anyway.”
Barney was brushing his teeth.
“Barney,” said Dad. “Will you help in the vineyard today?”
“Yes or no? What should I do? Umm..okay Dad, yes I’ll go.”
“Thank you. That’s really helpful.” Dad was relieved that he had some help today.
While Tim was on his way to town he kept asking the question, “Yes or no? What should I do?” He felt bad for saying no to his Dad. His Dad really needed the help today and he could see his friends any day. “Yes or no? What should I do?”
Tim slowly turned around, “Yes, I’ll go and help.”
Barney, in the meantime, was already on his way to the vineyard. On his way, though he saw his favourite big olive tree. It had big branches that he could sit on and fall asleep – nobody would know he was there. “Yes or no? What should I do?” he whispered to himself. “Should I go and help Dad? It’s so hot today and I could do with a sleep. Yes or no? What should I do? No,” he decided. “I’m not going to help Dad. He’s got other workers there. Why should I?” Barney quickly climbed the tree to his favourite branch and snuggled down to sleep.
Dad was so pleased to see Tim coming to help even though he had said ‘no’. Dad was really disappointed with Barney. He had said ‘yes’ but then didn’t come.
Reflecting together
Which of the boys do you think did the right thing? Tim said no but then went to help. Barney said yes but then didn’t help.
What we say and what we do are really important. If what we do doesn’t match what we say how do people know which is true?
If we say we love Jesus but don’t help people – is it really true?
If we say we love someone but call them nasty names – is it really true?
If we say we are a kind person but break other people’s things – is it really true?
There’s a famous saying that says “Actions speak louder than words”.
What do you think this means?
Does it mean that our words don’t matter?
Praying together
Hold your hands out in front of you.
Think of something you can do with your hands to show somone you love them.
Maybe it’s holding their hand. Maybe it’s putting on a plaster if someone’s hurt. Maybe it’s helping to plant some flowers in the garden. Maybe it’s playing someone a tune on the piano.
Hold out your foot.
Think of something you can you do with your feet to someone you love them
Maybe it’s taking the dog for a walk. Maybe it’s playing football with them.
Touch your mouth
Ask God to help you to always speak kindly and to act in ways which show it – truthfully.
Finishing together
The God of hope fill you with all joy and peace as you trust in him, that by the power of the Holy Spirit you may overflow with hope.
Blow out the candle.