minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cylch gweddi am yr wythnos

Gweddïo ar batrwm wythnosol dros anghenion ein cymunedau a’n byd

A cycle of prayer for the week

Praying in a weekly pattern for the needs of our community and world

English

Yn ddyddiol

Gweddïwn dros anghenion ein Heglwys, y byd a’r gymuned leol; dros bawb sy’n wael ac yn agos at angau; a thros y sawl fu farw a’r rhai sy’n eu caru ac yn galaru ar eu holau.
Y golomen: arwydd Dewi Sant

Ar ddydd Sul

Cofiwn yn arbennig yn ein gweddïau yr Eglwys ym mhob cwr o’r byd, gan gynnwys eglwysi a phobl yr esgobaeth hon a’n Hardal Weinidogaeth leol.

Gweddïo ac addoli yn ôl troed Dewi Sant

O Dduw, cofiaf heddiw fywyd Dewi Sant, rhoddais y dydd heddiw i weddïo ac addoli, ar drothwy wythnos newydd o obeithion a breuddwydion a phosibiliadau. Gelwaist y dydd hwn yn gysegredig a sanctaidd. Llenwa fi, O Dduw gras gyda’th Ysbryd, fel y daw’r weddi a offrymaf o ddyfnder fy nghalon a’i chynnig gennyf i ti, mewn gonestrwydd, gwirionedd a chariad. Gad i mi deimlo y dydd hwn dy bresenoldeb a’th gyffyrddiad arnaf. Amen.


Yr oedd Dewi Sant, nawddsant Cymru, yn ddysgawdwr a phregethwr o fri, a sefydlodd ac arweiniodd y gymuned fynachaidd yng Nglyn Rhosyn, y safle lle saif Cadeirlan Tyddewi yn awr. Yr oedd yn hyrwyddo bywyd syml, gan ddweud wrth ei ddilynwyr, ‘Byddwch lawen, cadwch y ffydd a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i.’ Yr oedd yn credu fod y ffordd syml hon o fyw yn canaiatau i ni ganolbwyntio ar Dduw mewn gweddi. Wrth bregethu yng nghanol tyrfa fawr yn Synod Brefi, y chwedl yw i’r tir yr oedd yn sefyll arno godi i ffurfio bryncyn bychan, a gwelwyd colomen wen yn glanio ar ei ysgwydd


Dduw ein Tad, rhoddaist Dewi Sant i bobl Cymru, i gynnal y ffydd. Wedi ein hannog gan ei esiampl, bydded i ni lynu’n llawen wrth y pethau sy’n arwain at fywyd tragwyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd, i’r hwn gyda thi a’r Ysbryd Glân y byddo’r holl anrhydedd a gogoniant, yn awr ac am byth. Amen.
Y gwch: arwydd Deiniol Sant

Ar ddydd Llun

Gweddïwn yn arbennig heddiw dros fannau gwaith yr ardal leol a’r bobl sy’n gweithio yno; a thros ysgolion a mannau dysg, athrawon, disgyblion a myfyrwyr.

Gweithio a dysgu yn ôl troed Deiniol Sant

O Dduw, fe gofiaf heddiw fywyd Deiniol Sant. Agor fy meddwl i ddysgu pethau newydd heddiw. Agor fy llygaid i weld rhyfeddod y greadigaeth. Agor fy nghlustiau i wrando ar leisiau eraill. Agor fy nwylo i dderbyn gan y sawl o’n cwmpas. Agor fy nghalon i garu fy ngwaith yn gyfan a phopeth a ddysgaf heddiw. Agor fy ngenau i lefaru geiriau gwirionedd a doethineb. Gosod fy nhraed i ddilyn dy lwybr di â’m holl fywyd i fyw yn dy ras; gyda’th gymorth di, Drindod Nefol a Sanctaidd. Amen.


Deuai teulu Deiniol Sant o ogledd Lloegr, ac y mae’n debyg iddo dreulio ei fywyd cynnar ym Mhowys a Sir Benfro. Chwiliodd yn gyntaf am Dduw trwy unigedd a bywyd myfyriol y meudwy, cyn teithio i ogledd-orllewin Cymru a gweithio’n egnïol i sefydlu mynachdy mawr ar safle Cadeirlan Bangor heddiw. Yn 546, ef oedd Esgob cyntaf Bangor.


Hollalluog Dduw, a ysbrydolaist dy esgob Deiniol i gasglu o’i gwmpas gymuned o Gristnogion i gyd-fyw bywyd cytun; caniatâ i ni, sy’n anrhydeddu’r cof amdano weithio i atgyfnerthu teulu dy Eglwys mewn ffydd, gobaith a chariad; trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd y bo iddo gyda thi a’r Ysbryd Glân yr holl anrhydedd a gogoniant yn awr ac am byth. Amen.
Y sgwarnog: arwydd Santes Melangell

Ar ddydd Mawrth

Gweddïwn yn arbennig heddiw dros bob man yn y byd sydd angen iachád, heddwch, cyfiawnder a chydraddoldeb; a thros rannu’n gyfartal adnoddau’r ddaear.

Tyfu ac ymwybyddiaeth yn ôl troed Santes Melangell

O Dduw, wrth i mi gofio heddiw fywyd Santes Melangell, boed i mi weld yn glir harddwch y greadigaeth y dydd hwn. Helpa fi i ymglywed yn ddyfnach â’th bresenoldeb di yn symud drwof, a thrwy’r byd. Helpa fi i beidio â bod yn ddall i anghenion y rhai o’m cwmpas ac i geisio, er lles y byd, y tangnefedd hwnnw sydd uwchlaw pob deall. Boed i’m ffydd ddyfnhau trwy dy Ysbryd di y dydd hwn, fel y plannaf hadau dy gariad ble bynnaf yr af. Amen.


Santes Melangell yw nawddsant ecoleg ac iachau. Merch i frenin Gwyddelig ydoedd, a cheisiodd lonyddwch yng nghanolbarth Cymru, lle dywed y chwedl amdani fod ysgyfarnog oedd yn cael ei hela gan Frochwel Yscythrog, Tywysog Powys, wedi cael lloches dan ei mantell. Ar dir a dderbyniodd gan y tywysog, sefydlodd Melangell gymuned o ferched, yn byw bywyd syml mewn cytgord â’r ddaear a’i anifeiliaid, a thyfu planhigion a llysiau llesol ar gyfer iachau.


Dduw ein nerth, amddiffynnydd y gwan, ynot ti y caiff pechaduriaid loches: caniatâ i ni sy’n parchu coffadwriaeth Melangell bregethu efengyl maddeuant a dod yn bobl y gall eraill ymddiried ynddynt; trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd, yr hwn trwy’r Ysbryd a gyfodaist i fywyd gyda thi, ei Dduw a’i Dad, yn oes oesoedd. Amen.
Y ddafad â nod Beuno ar ei chlust: arwydd Beuno Sant

Ar ddydd Mercher

Gweddïwn yn arbennig heddiw dros y rhai sy’n cael eu herlid am eu ffydd, y rhai sy’n ofni sôn wrth eraill am gariad Duw, a thros y sawl sy’n dysgu a phregethu’r ffydd Gristnogol.

Rhannu ein ffydd yn ôl troed Beuno Sant

O Dduw, wrth i mi gofio heddiw fywyd Beuno Sant, boed i’m calon deimlo dy gariad. Rho i mi ddoethineb a dewrder, i fyw fy ffydd yn mhob ystyr y dydd hwn. Helpa fi i ddod o hyd i ffyrdd o rannu fy ffydd ynot pan fyddaf yn dawel ac yng nghanol prysurdeb, pan fyddaf yn sgwrsio ac wrth fy ngwaith. Yn a thrwy dy gariad a’th Enw Sanctaidd. Amen.


Cafodd Beuno Sant ei addysgu a’i ordeinio ym mynachdy Deiniol Sant ym Mangor. Daeth yn genhadwr enwog, gan ddwyn gair Duw allan a’i rannu, a sefydlu nifer fawr o eglwysi a chymunedau; ‘clas Beuno’ – cymuned o offeiriad yng Nghlynnog oedd yn mynd allan i’r byd – oedd y pwysicaf. Yng Nghlynnog, coffawyd y sefydlydd mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys trwy ‘nod Beuno’, hicyn ar glust y defaid oedd yn pori ar y tiroedd a ddygwyd gan Feuno i’r ffydd Gristnogol.


Dduw hollalluog, a adewaist gynifer o olion dy ddaioni ar y wlad hon trwy fywyd a gweinidogaeth Beuno: caniatâ y cawn ninnau sy’n rhannu ei famwlad ar y ddaear breswylio gydag ef yn y drigfan nefol honno yr wyt ti yn dy ddaioni wedi ei pharatoi ar gyfer y rhai sydd yn dy garu di; er mwyn Iesu Grist ein Harglwydd, yr hwn trwy rym yr Ysbryd a gyfodaist i fywyd gyda thi, ei Dduw a’i Dad, byth bythoedd. Amen.
Y grochan lifeiriol: arwydd Santes Dwynwen

Ar ddydd Iau

Gweddïwn yn arbennig heddiw dros ein cymdogion, ein teuluoedd, ein cyfeillion, ein cydweithwyr, a’r rheiny sydd ymhell o gartref.

Caru ein cymydog yn ôl troed Santes Dwynwen

O Dduw, fe gofiaf heddiw fywyd Santes Dwynwen, Gelwaist fi i garu fy nghymydog. Helpa fi i gofio mai fy nghymydog yw pobl o bedwar ban byd. Gwna fi’n araf i gondemnio neu ddangos dicter, ond yn gyflym i estyn trugaredd a chroeso. Na foed i mi byth anwybyddu’r anghennus ond bod yn wastad yn barod i wrando ac estyn llaw, yn y cariad a ddatgelwyd i mi gennyt ti. Amen.


Santes Dwynwen yw nawddsant cariadon. Fe geisiodd lonyddwch ar arfordir deheuol Môn a adwaenir yn awr fel Llanddwyn, sydd ar wahân i’r ynys pan fydd y llanw’n uchel. Dywed ei buchedd iddi ymgilio i Landdwyn er mwyn dianc rhag tristwch personol, ond iddi dreulio ei heinioes yno yn gweddïo dros eraill. Daeth ei chysegr yn gyrchfan pererinion, yn enwedig i’r sawl oedd yn ceisio sicrwydd yn eu perthynas – man lle mae cariad Duw yn gorlifo ac i’w deimlo yn agos iawn.


Dduw, a’n carodd ninnau’n gyntaf: gad i ni, wrth ddilyn esiampl dy forwyn Dwynwen, ddod i wybod, trwy’r amserau da a’r drwg, am y cysur, y gwmnïaeth a’r llawnder a fwriedaist i dy holl bobl eu derbyn; trwy Iesu Grist, dy Fab a’n Harglwydd, a’n carodd hyd y diwedd, ac sy’n fyw ac yn terynasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, un Duw, yn awr ac am byth. Amen.
Y cwrwgl: arwydd Cadfan Sant

Ar ddydd Gwener

Gweddïwn yn arbennig heddiw dros bawb sy’n gofalu am eraill, gweithwyr gofal iechyd, pobl sy’n gweithio ym myd twristiaeth a’r diwydiant hamdden, a’r rhai sy’n gofalu am gefn gwlad.

Gorffwys ein cyrff yn ôl troed Cadfan Sant

Dduw Sanctaidd, mewn corff, yn gnawd, wrth i mi gofio heddiw fywyd Cadfan Sant,dal fi yng nghledr dy law. Wrth i mi deithio trwy’r dydd hwn dyfnha fy neall o’th bresenoldeb ynof i. Pan fyddaf yn gorffwys, portha fi; pan fyddaf yn brysur, tawela fi; yn wastadol, adfywia fi. Erfyniaf hyn yn enw Iesu Grist. Amen.


Teithiwr a phererin oedd Cadfan Sant. Mae’n debyg iddo gael ei fagu yn Llydaw, ond iddo fudo i Gymru yn ddyn ifanc, yng nghwmni Tanwg, Twrog, Tegai a Llechid. Sefydlodd ‘glas’ pwysig, cymuned o offeiriadon oedd yn mynd allan i’r byd, yn Nhywyn, cyn teithio i fyny’r arfodir at dawelwch Ynys Enlli. Dilynodd eraill ef i’r ynys, lle sefydlwyd cymuned fynachaidd.


Dduw ein holl deithio, fe alwaist dy was Cadfan i weddïo, cenhadu a thystiolaethu ar lwybr y pererin: rho i’th Eglwys heddiw yr un alwedigaeth i ddynesu atat mewn addoliad, i ehangu teulu’r ffydd, ac i garu dy holl Greadigaeth, fel y gall y byd a’th geisiodd di dros fôr y canrifoedd, hyd yn oed yn ein dyddiau ni ganfod yn dy sancteiddrwydd ei wir orffwysfan a’i gartref tragwyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.
Y llyfr llyrfgell: arwydd Illtud Sant

Ar ddydd Sadwrn

Gweddïwn yn arbennig heddiw dros y rhai sy’n gweithio ar benwythnosau, a’r rhai sy’n paratoi am wasanaethau’r Sul.

Casglu ein hunain yn ôl troed Illtud Sant

O Dduw, wrth i mi gofio heddiw fywyd Illtud Sant, boed i amrywiol ddigwyddiadau’r wythnos hon gael eu casglu i’th bresenoldeb cariadus a maddeugar di. Helpa fi i ddysgu yn sgil popeth a ddigwyddodd. Os treuliaf y dydd hwn ar fy mhen fy hun neu gydag eraill, tywys fi â’th ddoethineb, a helpa fi i fyfyrio am yr wythnos a aeth heibio wrth i mi baratoi am addoliad yfory. Amen.


Abad, cyffeswr a dysgawdwr oedd Illtud Sant. Sefydlodd ganolfan ddysg o’r enw Cor Tewdws, yn yr hyn sydd heddiw yn Llanilltud Fawr – un o’r cymunedau unswydd cyntaf o ymgasglu, dysgu ac adfyfyrio ym Mhrydain. Y tu mewn i glostir amddiffynol Cor Tewdws y cafodd llawer o brif seintiau Cymru eu haddysgu, eu ffurfio a’u hysbrydoli.


Fendigaid Arglwydd, ffynhonnell pob doethineb, drwy dy ras y rhagorodd dy was Illtud mewn gwybodaeth a dysg, yn ddynol a dwyfol; caniatâ i ni beidio â cheisio byw wrth fara’n unig ond wrth y Gair hwnnw a ddaw o’th enau, Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd, y bydded iddo gyda thi a’r Ysbryd Glân bob anrhydedd a gogoniant, yn awr ac am byth. Amen.
Cymraeg

Daily

We bring before God the needs within our Church, the world and the local community; those who are ill and those close to death; and those who have died along with those who love and mourn them.
The dove: the emblem of St David

On Sunday

Today in particular, we hold in prayer the Church worldwide, as well as the churches and people of this diocese and our own Ministry Area.

Praying and worshipping in the footsteps of St David

O God, remembering today the life of St David, you have given this day for prayer and worship, opening up a new week for hopes and dreams and possibilities. You have called this day hallowed and holy. Fill me, O God of grace with your Spirit, so that the prayer I offer comes from the depths of my heart and offered from me to you, in honesty, truth and love. May I feel this day your presence and your touch upon me. Amen.


St David, the patron saint of Wales, was a renowned teacher and preacher, founding and leading the monastic community in Glyn Rhosyn, on the site of which St David’s Cathedral now stands. He promoted a life of simplicity, telling his followers to ‘be joyful, and keep your faith and your creed, and do the little things that you have seen me do and heard about.’ He believed that this simple way of life allowed us to focus on God in prayer. Preaching in the middle of a large crowd at the Synod of Brefi, the ground on which he stood is reputed to have risen up to form a small hill, and a white dove was seen settling on his shoulder.


God our Father, you gave Saint David to the people of Wales to uphold the faith: encouraged by his example, may we joyfully hold fast to the things which lead to eternal life; through Jesus Christ our Lord, to whom with you and the Holy Spirit be all honour and glory, now and for ever. Amen.
The boat: the emblem of St Deiniol

On Monday

Today in particular, we hold in prayer the workplaces in our local communities and those who work in them, as well as places of education, teachers and students.

Working and learning in St Deiniol’s footsteps

O God, I remember today the life of St Deiniol. Open my mind to learn new things today. Open my eyes to see the wonder of creation. Open my ears to hear the voices of others. Open my hands to receive from those around me. Open my heart to love all that I work at and all that I will learn today. Open my mouth to speak words of truth and wisdom. Set my feet to trace your pathway and my whole self to live in your grace; with your help, Divine and Holy Trinity. Amen.


St Deiniol’s family descended from the north of England and it is likely that he spent his early life in Powys and Pembrokeshire. He first sought God through the solitude and reflective life of the hermit, before travelling to north-west Wales and becoming the energetic founder of a large monastery that stood on the present site of Bangor Cathedral. In 546, he became the first Bishop of Bangor.


Almighty God, who inspired your bishop Deiniol to gather around him a community to live the common life: grant that we, who honour his memory, may work to build up the family of your Church in faith and hope and love; through Jesus Christ your Son our Lord; to whom with you and the Holy Spirit be all honour and glory, now and for ever. Amen.
The hare: the ameblem of St Melangell

On Tuesday

Today in particular, we pray for all the places in the world that are in need of healing and peace, justice and equality; and for a true sharing of the earth’s resources.

Growing and awareness in St Melangell’s footsteps

O God, as I remember today the life of St Melangell, may I really see the beauty of creation. Help me to deepen my awareness of your presence moving through me, and through the world. Help me not to be blind to the needs of those around me, but to seek for this world the peace that passes all understanding. May my faith deepen through your Spirit this day so that I may sow seeds of your love wherever I go. Amen.


St Melangell is a patron saint of ecology and healing. The daughter of an Irish king, she sought solitude in mid-Wales, where her legend relates that a hare being hunted by Brochwel Yscythrog, Prince of Powys, sought sanctuary under her robe. On land received from the prince, Melangell founded a community of women, living a life of simplicity and harmony, in touch with the earth and its animals, and growing plants for healing.


God our strength, protector of the weak, the one in whom sinners find sanctuary: grant that we who revere the memory of Melangell may preach the gospel of forgiveness and become people in whom others may place their trust; through Jesus Christ your Son our Lord, whom by the power of the Spirit you raised to live with you, his God and Father, now and for ever. Amen.
The sheep with Beuno's mark: the emblem of St Beuno

On Wednesday

Today in particular, we pray for those who are persecuted for their faith, those who are afraid to speak about the love of God to others, and all who teach and preach.

Sharing our faith in St Beuno’s footsteps

O God, as I remember today the life of St Beuno, may my heart feel your love. Grant to me wisdom and courage truly to live out my faith this day. Help me to find ways of sharing my faith in you in times of quietness and busyness, and in times of conversation and action. I ask this in and through your Holy Name. Amen.


St Beuno was educated and ordained at St Deiniol’s monastery in Bangor. He became a renowned missionary, taking out and sharing the word of God, and founding a large number of churches and communities, of which ‘clas Beuno’, an outward-facing community of priests at Clynnog, was the most important. At Clynnog, the memory of the founder was perpetuated in many ways, including through ‘nod Beuno’, the notch on the ear of sheep grazing the lands to which he had brought the Christian faith.


Almighty God, you have left so many traces of your goodness in this land through the life and ministry of Beuno: grant that we who share his homeland on earth may dwell with him in that everlasting mansion which you in your goodness have prepared for those who love you; for the sake of Jesus Christ our Lord, whom by the power of the Spirit you raised to live with you, his God and Father, for ever and ever. Amen.
The boiling cauldron: the emblem of St Dwynwen

On Thursday

Today in particular, we hold in prayer our neighbours, families, friends and colleagues, and all who are far from home.

Loving our neighbour in St Dwynwen’s footsteps

O God, I remember today the life of St Dwynwen. Having called me to love my neighbour, help me to remember that all people throughout the world are my neighbours. May I be slow to condemn or show anger, but quick to offer compassion and hospitality.May I never ignore those in need but always be ready to listen and offer help, in the love you have revealed to me. Amen.


St Dwynwen is the patron saint of lovers. She sought solitude on the south coast of Anglesey at the place now known as Llanddwyn, which is cut off from the mainland at high tide. Her legend relates that she retreated to Llanddwyn to escape a personal sadness, but that she spent her life there praying for others. Her shrine at Llanddwyn became a site of pilgrimage, especially for those seeking reassurance in their relationships – a place where the overflowing love of God seems near.


God, who loved us first: grant that we, following the example of your servant Dwynwen, may, in good times and in bad, know the comfort, companionship and wholeness that you intend for all your people; through Jesus Christ, you Son our Lord, who loved us to the end, and is alive and reigns with you and the Holy Spirit, one God, now and for ever. Amen.
The croacle: the emblem of St Cadfan

On Friday

Today in particular, we hold in prayer all carers, health care workers, people who support leisure and tourist activities, and those who look after our countryside.

Resting our bodies in St Cadfan’s footsteps

Incarnate, enfleshed and Holy God, as I remembering today the life of St Cadfan, cradle me in the palm of your hand. As I journey through this day, deepen my awareness of your indwelling presence. In my times of rest, nourish me; in my times of busyness, calm me; in each and every moment, refresh me. This I pray in the name of Jesus Christ. Amen.


St Cadfan was a traveller and pilgrim. It is likely that he was brought up in Brittany, but emigrated to Wales as a young man, accompanied by Tanwg, Twrog, Tegai and Llechid. He was the founder of an important ‘clas’, an outward-facing community of priests, at Tywyn, before journeying up the coast to the quietness of Bardsey, Ynys Enlli. Others followed him to the island, where a monastic community was founded.


God of our journeying, you called your servant Cadfan to the pilgrim’s life of prayer, mission and witness: give to your Church today the same commission to draw near to you in worship, to broaden the family of faith, and to love all your Creation, so that the world that has sought you across a sea of centuries may even in our days find in your holiness a true resting place and an eternal home; through Jesus Christ your Son our Lord, who is alive and reigns with you and the Holy Spirit, one God, now and for ever. Amen.
The library book: the emblem of St Illtud

On Saturday

Today in particular, we pray for those who work at the weekend, and those preparing for Sunday services.

Gathering our selves in St Illtud’s footsteps

O God, as I remember today the life of St Illtudmay the various events of this week be gathered into your loving and forgiving presence. Help me to learn from all that has taken place. Whether I spend this day alone or with others, guide me with your wisdom, and help me to reflect upon the past week as I prepare for the worship of tomorrow. Amen.


St Illtud was an abbot, confessor and teacher. He founded a place of learning, known as Cor Tewdws, in what is now Llantwit Major – one of the first dedicated communities of gathering, learning and reflection in Britain. Within Cor Tewdws’s protective enclosure, many of the great saints of Wales were educated, formed and inspired.


Blessed Lord, the source of all wisdom, by whose grace your servant Illtud excelled in knowledge and learning, both human and divine: grant that we may never seek to live by bread alone but by that Word who comes forth from you, Jesus Christ your Son our Lord, to whom with you and the Holy Spirit be all honour and glory, now and for ever. Amen.