Wrth y bwrdd gyda'n gilydd
Addoliad syml ar yr aelwyd ar gyfer teuluoedd ifanc
Dydd y Pasg
Ymlonyddu gyda'n gilydd
1. Goleuwch gannwyll.
2. Darllenwch:
Ar y dydd cyntaf o’r wythnos, yn fore, tra oedd hi eto’n dywyll, dyma Mair Magdalen yn dod at y bedd, ac yn gweld bod y maen wedi ei dynnu oddi wrth y bedd.
Ioan 20:1
Dyma'r neges mae e wedi'i rhoi i ni, a dyma ni nawr yn ei rhannu gyda chi. Golau ydy Duw; does dim tywyllwch o gwbl ynddo.
1 Ioan 1:5
Darllen gyda'n gilydd
Gofynnwch i bawb i gau eu llygaid a rhoi eu dwylo drostynt. Beth ydych yn gallu ei weld? Arhoswch fel hyn a chyfrwch at 10. Agorwch eich llygaid. Sut mae'n teimlo? Beth ydych chi yn gallu ei weld?
Darllenwch Ioan 20:1-18.
Mae'r fersiwn 'Sypreis hyfryd Duw' yn Beibl Bach Stori Duw yn hyfryd.
Os ydych chi wedi defnyddio'r fideos ar gyfer Lasarus a Dydd Gwener y Groglith, dyma fideo'r Pasg gan yr un awdur.
Trafod gyda'n gilydd
- Pa ran o'r stori oedd y gorau?
- Beth newidiodd yn y stori?
- Sut oedd Mair yn gwybod mai Iesu oedd yn yr ardd?
- A yw'n stori dda? Pam?
Creu gyda'n gilydd
Lliwiau
Bydd angen:
- Y croesau o Ddydd Gwener y Groglith
- Unrhyw deunydd celf lliwgar sydd gennnych, e.e. Hama Beads, sialc, peniau, paent
Tynnwch y tâp oddi ar y cerdyn gan gymryd gofal. Os yw'n bosib, tynnwch y groes i ffwrdd mewn un darn ac yna ei osod yn y ffenest - mae'n edrych yn brydferth iawn.
O dan y tâp dylai'r cerdyn fod yn lan. Gofynnwch i'r plant beth sydd wedi digwydd. Mae'r groes wedi tynnu'r paent i ffwrdd gan adael y cerdyn yn lan.
Yn ychwanegol at hyn gwnewch y grefft fwyaf lliwgar posib i ddathlu'r hyn y mae Iesu wedi ei wneud.
Beth am addurno'r tŷ ar gyfer parti i bawb yn eich stryd cael gweld?
Gweddïo gyda'n gilydd
Cadwyni o ddathliad
Bydd angen:
- Stribedi o bapur lliw (neu cadwyni papur os oes gynnoch chi rhai ar ôl o'r Nadolig)
- Styffylwr
- Peniau neu pensiliau
Nodwch yr holl bethau gallwn ddweud "diolch" i Dduw amdano - yr holl bethau anhygoel y mae e wedi ei wneud. Nodwch yr enwau gallwn ni defnyddio i Dduw. Nodwch unrhywbeth hoffech chi.
Cysylltwch y stribedi at ei gilydd i greu cadwyn i addurno eich tŷ.
Ar ôl i chi gorffen y sesiwn ymi beth am gael picnic neu barti i ddathlu gyda'ch gilydd. Chwaraewch gemau, dawnsiwch a dathlwch fuddugoliaeth Iesu!
Gorffen gyda'n gilydd
"Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith."
Daw'r gweddïau ar gyfer "Ymlonyddu gyda'n gilydd" a "Gorffen gyda'n gilydd" o Lyfr Gweddi Gyffredin yr Eglwys yng Nghymru: Gweddi Ddyddiol 2009. Os hoffech chi ddefnyddio gweddïau gwahanol gallwch ddod o hyd i'r amlinelliad llawn yma.
Rydym yn gobeithio cynhyrchu Wrth y bwrdd gyda'n gilydd bob wythnos tra'n bod yn ymatal rhag addoli ar y cyd. Ein gobaith yw cadw mor syml a phosib gan ddefnyddio gwrthrychau ac adnoddau sydd gan teuluoedd ifanc yn barod neu sy'n hawdd i'w hymgynnull. Os oes gennych unrhyw syniadau plîs anfonwch nhw at Naomi Wood.
Together at the table
Simple worship at home for young families
Easter Day
Stilling together
1. Light a candle.
2. Read:
It was very early in the morning on the first day of the week and still dark, when Mary of Magdala came to the tomb. She saw that the stone had been moved away from the tomb.
John 20:1
This is what we have heard from him, and the message we are announcing to you: God is light; there is no darkness in him at all.
1 John 1:5
Read together
Invite everyone to close their eyes put their hands over them. What can you see? Stay like that and count to 10. Now open them. How does it feel? What can you see?
Read John 20:1-18.
The Jesus Storybook Bible has a wonderful version called God's wonderful surprise.
If you used the videos for Lazarus and Good Friday, here is the Easter video by the same artist.
Talk together
- Which bit of the story did you like best?
- What changed in the story?
- How did Mary know that it was Jesus in the garden?
- Is it a good story? Why?
Create together
Colours
You will need:
- The crosses you made on Good Friday
- Any colourful craft stuff you have, e.g. Hama Beads, chalk, pens, paint
As carefully as possible remove the masking tape from the painted card. If you can remove it in one piece it looks really beautiful stuck onto a window.
The card should have a clean cross where you peeled the tape away. Ask the children what has happened. The cross has taken away all the paint and left it clean.
In addition to doing this make the brightest and most colourful images/crafts they can to celebrate what Jesus did.
Why not decorate your house to show your whole street that you are celebrating?
Praying together
Chains of celebration
You will need:
- Lots of strips of coloured paper (or paper chains if you have any left after Christmas)
- A stapler
- Pens or pencils
Write all the different things we can say "thank you" to God for - all the amazing things He has done. Write the names that we can use for God. Write anything you like. Link the strips together in a chain and use them to decorate your home.
Once you have finished this session together why not have a picnic or a party together? Play games, dance and celebrate Jesus' victory!
Finish together
"The God of hope fill you with all joy and peace as you trust in him, that by the power of the Holy Spirit you may overflow with hope."
Both the "Stilling together" and "Finish together" prayers are taken from the Church in Wales' Book of Common Prayer: Daily Prayer 2009. If you'd like to use a different prayer you can find the full outline here.
We hope to prepare Together at the table each week while public worship is suspended. Our aim is to make them as simple as possible using objects and items most young families may already have at home or can easily access. If you have any craft ideas or suggestions please do send them to Naomi Wood.