minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Wrth y bwrdd gyda'n gilydd


Addoliad syml ar yr aelwyd ar gyfer teuluoedd ifanc


Ymlonyddu gyda'n gilydd

1. Goleuwch gannwyll

2. Darllenwch Genesis 1: 3-5 a Salm 118: 24 o Feibl o'ch dewis

"A dywedodd Duw, “Bydded goleuni.” A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf."

"Dyma’r dydd y gweithredodd yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenhawn ynddo."


Darllen gyda'n gilydd

Darllenwch, allan o Feibl o'ch dewis,

Ioan 11:1-45

Dyma'r stori o Lazarus, un o ffrindiau Iesu yn marw ond yn dod yn nôl yn fyw eto. 

Rhieni: Chi sy'n adnabod eich plant. Mae'r pandemic coronafeirws yn siŵr o godi cwestiynau ychwanegol am Dduw a'i allu i ddod â'r meirw yn nôl yn fyw a gwneud popeth yn iawn eto. Chi sy'n penderfynu faint o'r newyddion i rannu gyda'ch plant. Cymerwch bwyll a defnyddiwch eich disgresiwn..


Trafod gyda'n gilydd

1. Sut mae pobl yn gwybod pryd i ddeffro? Mae rhai yn defnyddio cloc larwm, rhai yn gwrando ar yr adar yn canu ac mae angen sŵn enfawr ar rai i ddeffro. Roedd Lazarus wedi marw. Sut gwnaeth Iesu ei 'ddeffro'? (Os ydych yn ddigon ddewr rhowch sosbenni a llwyau i'r plant cael gwneud sŵn mawr.)

2. Mae'r stori yn dweud bod Iesu wedi crïo. Mae Iesu yn gwybod sut rydym yn teimlo wrth i ni grïo. Beth sy'n gwneud i ti crïo?

3. Sut oeddet ti'n teimlo wrth glywed bod Lazarus wedi marw? Sut wyt ti'n teimlo wrth glywed fod Iesu wedi gwneud iddo fyw eto?


Creu gyda'n gilydd

Ogof

Bydd angen:

  • Blanced
  • Dodrefn

Adeiladwch 'den' gyda'ch gilydd. Gallwch gwneud hyn tu mewn neu yn yr ardd. Gallwch ail-ddweud y stori trwy chwarae rôl. Nid ydym, ar hyn o bryd, yn awgrymu defnyddio papur tŷ bach i lapio o gwmpas Lazarus!

Ac yna, her i chi rieni - gadewch i'r plant adeiladu'r 'den'! 😁


Gweddïo gyda'n gilydd

Bydd angen:

Paent wedi ei gymysgu (Unrhyw liw yn iawn)

  • Dŵr
  • Dysgl bas i bob un
  • Olew babi (mae olew llysiau yn iawn ond bydd yn gadael marciau melyn
  • Brwsh
  • Papur plaen
  • Siswrn

Torrwch siapiau allan o'r papur i gynrychioli pobl sy'n drist. Bydd angen i rain ffitio yn y ddysgl nes ymlaen felly cadwch nhw yn weddol fach.

Cymysgwch y paent gyda dŵr fel ei bod yn denau ond gan heb fynd yn rhy denau gan na fydd y lliw yn ymddangos. Rhowch cwpwl o 'dropiau' o olew ar ben y paent. Rhowch y darn o bapur ar wyneb y paent. Bydd y papur yn amsugno'r dŵr a'r olew ond bydd yr olew yn gadael 'dagrau' clir. Gadewch i'r papur sychu gan weddïo y bydd Duw yn sychu dagrau y rhai sy'n drist


Gorffen gyda'n gilydd

"Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith."

Daw'r gweddïau ar gyfer "Ymlonyddu gyda'n gilydd" a "Gorffen gyda'n gilydd" o Lyfr Gweddi Gyffredin yr Eglwys yng Nghymru: Gweddi Ddyddiol 2009. Os hoffech chi ddefnyddio gweddïau gwahanol gallwch ddod o hyd i'r amlinelliad llawn yma.

Rydym yn gobeithio cynhyrchu Wrth y bwrdd gyda'n gilydd bob wythnos tra'n bod yn ymatal rhag addoli ar y cyd. Ein gobaith yw cadw mor syml a phosib gan ddefnyddio gwrthrychau ac adnoddau sydd gan teuluoedd ifanc yn barod neu sy'n hawdd i'w hymgynnull. Os oes gennych unrhyw syniadau plîs anfonwch nhw at Naomi Wood.

Cymraeg

Together at the table


Simple worship at home for young families


Stilling together

1. Light a candle

2. Read Genesis 1: 3-5 and Psalm 118: 24 from a Bible of your choice.

"God said, ‘Let there be light’, and there was light, and God saw the light was good, and he separated light from darkness. So evening came, and morning came; it was the first day."

"This is the day which the Lord has made; let us rejoice and be glad in it."


Read together

Read, from a Bible of your choice

John 11:1-45

This is the story of one of Jesus' friends, Lazarus, dying but coming back to life again.

Parents: Please use your discretion when talking with your children about this story. The current coronavirus pandemic might add to questions about why Jesus doesn't bring everyone back to life or make everything okay. You know your children and how you want to address the situation with them.


Talk together

1. How do people know when to wake up? Some use an alarm clock, some listen to the birds singing, some need a very loud noise to wake them up. Lazarus was dead. How did he 'wake up'? (If you're feeling brave give the children some pots and pans to make a loud noise)

2. The story tells us that Jesus wept. Jesus knows how we feel when we cry. What makes you cry?

3. How did you feel when Lazarus died? How do you feel now that Jesus has made him alive again?


Create together

Caves

You will need:

  • Blankets
  • Furniture

Make a den together to be the tomb in the story. This could be done inside or outside. You could try re-enacting the story together. We would recommend, at the moment, not using rolls of toilet paper to wrap Lazarus!

A challenge to you parents - try and let the children build the den! 😁


Pray together

You will need:
  • Ready mixed paint (any colour is fine)
  • Water
  • A shallow dish each
  • Baby oil (vegetable oil is fine but will leave yellow dots)
  • A brush
  • Plain paper
  • Scissors

Cut out some shapes from the paper (these will need to be small enough to place in the shallow dish later). These represent people who are sad.

Mix the paint with water so that it is very thin but don't go too thin or the colour won't show. Drip a few drops of the oil onto the surface of the paint. Take one of the paper shapes and lay it on top of the paint. The paper will soak up the paint and the oil but the oil will leave colourless 'tear drops'. Leave the paper to dry praying that God would wipe away the tears of those you are praying for.


Finish together

"The God of hope fill you with all joy and peace as you trust in him, that by the power of the Holy Spirit you may overflow with hope."

Both the "Stilling together" and "Finish together" prayers are taken from the Church in Wales' Book of Common Prayer: Daily Prayer 2009. If you'd like to use a different prayer you can find the full outline here.


We hope to prepare Together at the table each week while public worship is suspended. Our aim is to make them as simple as possible using objects and items most young families may already have at home or can easily access. If you have any craft ideas or suggestions please do send them to Naomi Wood.