minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Wrth y bwrdd gyda'n gilydd


Addoliad syml ar yr aelwyd ar gyfer teuluoedd ifanc


Dydd Iau Cablyd


Ymlonyddu gyda'n gilydd

1. Goleuwch gannwyll

2. Darllenwch Genesis 1: 3-5 a Salm 118: 24 o Feibl o'ch dewis

"A dywedodd Duw, “Bydded goleuni.” A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf."

"Dyma’r dydd y gweithredodd yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenhawn ynddo."


Darllen gyda'n gilydd

Darllenwch, allan o Feibl o'ch dewis,

Ioan 13:1-17 a 31b -35

Dyma'r stori am Iesu'n golchi traed ei ddisgyblion a'n rhoi gorchymyn iddyn nhw wasanaethu eraill er mwyn dangos eu bod yn perthyn iddo. Mae'r weithred yma yn digwydd yn ystod Gŵyl y Bara Croyw i ddathlu diwedd cyfnod yr Israeliaid fel caethweision yn yr Aifft wrth iddyn nhw ddianc. Byddai'r wledd yma yn digwydd bob blwyddyn - yn debyg iawn i'n dathliadau Nadolig a Phasg ni.


Trafod gyda'n gilydd

  1. Roedd Iesu a'i disgyblion yn cael parti. Pa fath o fwyd ydych chi'n hoffi ei gael mewn parti? Pa fath o fwyd gafodd Iesu, tybed?
  2. Golchodd Iesu draed ei disgyblion. Gwas sydd yn gwneud hyn fel arfer - rhywun hollol ddinod. Ydy Iesu yn bwysig? Ydy Iesu i fod i olchi traed?
  3. Yn adnod 34 mae Iesu yn rhoi gorchymyn i'r disgyblion i garu ei gilydd. Sut ydyn ni yn gallu dangos i bobl ein bod ni yn eu caru nhw?

Creu gyda'n gilydd

Bara fflat

Bydd angen:

  • Bowlen gymysgu
  • Cloriannau
  • 250g Iogwrt
  • 250g Blawd Codi (mae blawd plaen gyda hanner llwy dê o bowdr codi ynddo yn iawn)
  • Llwy fawr
  • Blawd i rolio
  • Rholbren
  • Gradell neu badell ffrïo

Cymysgwch y cynhwysion mewn bowlen. Tipiwch allan ar wyneb gyda thamaid o flawd a'i dylino am ychydig bach - jyst er mwyn dod â'r cynhwysion at ei gilydd.

Gadewch i sefyll am oddeutu hanner awr. Tipiwch allan eto ar wyneb ag ychydig o flawd a'i rannu'n ddarnau maint pêl golff. Dylai fod gennych 8-10 pêl.

Gan ddefnyddio'ch dwylo, gwasgwch y peli yn fflat ac yna eu rholio allan i 2-3mm o drwch. Rhowch radell ar wres uchel a phan fydd hi'n boeth, coginiwch bob darn o fara am 1-2 munud ar bob ochr neu nes iddo 'bwffio'.


Gweddïo gyda'n gilydd

Gwasanaethu

Bydd angen:

  • Bowlen o ddŵr
  • Tywel

Cymerwch eich tro i olchi traed eich gilydd. Gofynnwch i Iesu'ch helpu chi i gofio gwasanaethu eraill ac i beidio â meddwl eich bod yn rhy bwysig i helpu eraill.


Gorffen gyda'n gilydd

"Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith."

Daw'r gweddïau ar gyfer "Ymlonyddu gyda'n gilydd" a "Gorffen gyda'n gilydd" o Lyfr Gweddi Gyffredin yr Eglwys yng Nghymru: Gweddi Ddyddiol 2009. Os hoffech chi ddefnyddio gweddïau gwahanol gallwch ddod o hyd i'r amlinelliad llawn yma.

Rydym yn gobeithio cynhyrchu Wrth y bwrdd gyda'n gilydd bob wythnos tra'n bod yn ymatal rhag addoli ar y cyd. Ein gobaith yw cadw mor syml a phosib gan ddefnyddio gwrthrychau ac adnoddau sydd gan teuluoedd ifanc yn barod neu sy'n hawdd i'w hymgynnull. Os oes gennych unrhyw syniadau plîs anfonwch nhw at Naomi Wood.

Cymraeg

Together at the table


Simple worship at home for young families


Maundy Thursday


Stilling together

1. Light a candle

2. Read Genesis 1: 3-5 and Psalm 118: 24 from a Bible of your choice.

"God said, ‘Let there be light’, and there was light, and God saw the light was good, and he separated light from darkness. So evening came, and morning came; it was the first day."

"This is the day which the Lord has made; let us rejoice and be glad in it."


Read together

Read, from a Bible of your choice

John 13:1-17 and 31b-35

This is the story of Jesus washing his disciples' feet and instructing them to serve others to show they belong to him. It takes place during the passover meal celebrating the time the Israelites managed to escape from Egypt. It was a celebration that happened every year - a bit like we celebrate Christmas and Easter every year.



Talk together

  1. Jesus and the disciples were having a party. What sort of food do you like at a party? Do you know what food Jesus had at this party?
  2. Jesus washed his friends' feet. Normally a servant would do that - someone who wasn't important. Is Jesus important? Do you think Jesus should have done it?
  3. In verse 34 Jesus gives an instruction for us to love one another. How can we show people we love them?

Create together

Flatbread

You will need:

  • A mixing bowl
  • Weighing scales
  • 250g Yogurt
  • 250g Self-Raising Flour (plain flour works fine with half a teaspoon of baking powder)
  • Large spoon
  • Additional flour for dusting
  • Rolling pin
  • Griddle or frying pan

Mix the ingredients together in a bowl.

Tip out onto a lightly floured surface and knead together for a minute or so.

Leave to stand for about half an hour.

Tip the dough out onto a lightly floured surface and divide into equal sized golf-ball sized pieces. You should have 8-10 balls.

Using your hands flatten the balls and then roll them out so they are about 2-3mm thick.

Place a griddle or a frying pan on a high heat. When it's hot cook each flatbread for 1-2 minutes on each side or until puffed up.


Pray together

Service

You will need:

  • A bowl of water
  • Towel

Take it in turns to wash each others' feet. Ask that Jesus would help you to remember to serve others and not to think that you are too important to help other people.


Finish together

"The God of hope fill you with all joy and peace as you trust in him, that by the power of the Holy Spirit you may overflow with hope."

Both the "Stilling together" and "Finish together" prayers are taken from the Church in Wales' Book of Common Prayer: Daily Prayer 2009. If you'd like to use a different prayer you can find the full outline here.


We hope to prepare Together at the table each week while public worship is suspended. Our aim is to make them as simple as possible using objects and items most young families may already have at home or can easily access. If you have any craft ideas or suggestions please do send them to Naomi Wood.