Grawys 2020
A Moses oedd yn bugeilio defaid Jethro ei chwegrwn, offeiriad Midian: ac efe a yrrodd y praidd o’r tu cefn i’r anialwch, ac a ddaeth i fynydd Duw, Horeb. Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn fflam dân o ganol perth: ac efe a edrychodd, ac wele y berth yn llosgi yn dân, a’r berth heb ei difa. A dywedodd Moses, “Mi a droaf yn awr, ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon, paham nad yw’r berth wedi llosgi.” Pan welodd yr Arglwydd ei fod efe yn troi i edrych, Duw a alwodd arno o ganol y berth, ac a ddywedodd, “Moses, Moses.” A dywedodd yntau, “Wele fi.”
Pan fyddwn ni’n myfyrio ar yr Ysgrythur lân, mae fel pe bydden ni’n “troi o’r neilltu”. Pan fyddwn ni’n gwrando ar farddoniaeth, rydyn ni’n “troi o’r neilltu”. Pan fyddwn ni’n edrych yn ôl ar gyfnodau pwysig, sanctaidd yn ein bywydau ni’n hunan, rydyn ni’n troi o’r neilltu.
Yn ôl traddodiad, cyfnod yw’r Grawys i edifarhau ac i gyflawni cymwynasau. Mae hefyd yn adeg i droi o’r neilltu: i astudio, i geisio deall mwy am Dduw, i wrando ar Dduw'n siarad.
Rydyn ni’n cael ein gwahodd y Grawys hwn yn Esgobaeth Bangor i droi o’r neilltu, a trwy’r Ysgrythur, trwy farddoniaeth a thrwy stori i wrando ar Dduw'n siarad.
Mi a droaf yn awr
Mi a droaf yn awr yw'r teitl ar ei hadnodd Grawys eleni.
Bydd llyfryn Mi a droaf yn awr mi yn cynnwys deunydd am wyth wythnos – o wythnos Dydd Mercher Lludw hyd at wythnos y Pasg. Mae’r wyth wythnos yma’n gyfle i ni ystyried wyth agwedd o Dduw: Duw sy’n (1) ddyfnder bywyd; Duw sy’n (2) drywydd, a (3) chymundod, ac (4) angerdd, a (5) llonyddwch; Duw sydd (6) wrth ein traed ac (7) yn nhragwyddoldeb; Duw sy’n (8) fywyd nad yw’n marw.
Mae Mi a droaf yn awr hefyd yn ein hannog i archwilio tair ffordd o droi o’r neilltu i glywed y Duw hwn yn siarad: (1) yr Ysgrythurau, (2) barddoniaeth a (3) stori; ac mae’r rhain yn cael eu cyflwyno isod.
Gellir defnyddio Mi a droaf yn awr yn bersonol ac yn breifat ar gyfer defosiwn yn y cartref yn ystod y Grawys.Gellir hefyd ei ddefnyddio mewn grwpiau tai neu fel cwrs Grawys Ardal Weinidogaeth. Os ydych chi’n defnyddio Mi a droaf yn awr mewn grŵp, gellid neilltuo amser ar gyfer pob un o’r tri dull o archwilio – yr Ysgrythur, barddoniaeth a stori; neu efallai bydd y grŵp, yn dibynnu ar ei ffurf a’i ddynameg, eisiau canolbwyntio ar ddim ond un neu ddau o’r dulliau hyn.
Yr Ysgrythur
Pob wythnos, mae’r Efengyl ar gyfer y Sul canlynol yn cael ei chynnig. Estynnir gwahoddiad i droi o’r neilltu a’i hystyried mewn dyfnder, gan adael iddi siarad â nid yn unig yn ystod gwasanaeth y Sul ond dros gyfnod o sawl diwrnod.
I helpu gyda’n darllen, mae Mi a droaf yn nawr yn argymell yr arfer o lectio divina, arfer hynafol o gysylltu â’r Beibl sy’n cael ei gyflwyno yn y llyfryn. Mae lectio divina yn ddisgyblaeth dda os ydych chi’n dilyn Mi a droaf yn awr yn breifat, yn y cartref yn ystod y Grawys; mae hefyd yn ffordd effeithiol o ddarllen yr Ysgrythurau gyda’ch gilydd os ydych chi’n defnyddio Mi a droaf yn awr fel rhan o grŵp tŷ neu gwrs Grawys Ardal Weinidogaeth.
Mae’r darnau hynny o’r Ysgrythur wedi’u hargraffu’n llawn yn y llyfryn. Yr unig eithriad i’r patrwm o ddefnyddio Efengyl y Sul canlynol yw’r darn Ysgrythurol a gynigir yn ystod Wythnos y Pasg, sy’n un o’r darlleniadau o’r Testament Newydd ar Sul y Pasg (Colossiaid 3:1-4).
Barddoniaeth
Pob wythnos, cynigir cerdd gan fardd o Gymru.Mae pob cerdd yn cynnig safbwynt defosiynol neu ddychmygus ar agwedd o Dduw sy’n ganolbwynt i’r wythnos yn Mi a droaf yn nawr.
Mae rhai o’r cerddi wedi’u cyfansoddi’n wreiddiol yn Gymraeg, rhai eraill yn Saesneg. Mae pob un yn ymddangos yn ddwyieithog yn y llyfryn, tair yn gyfieithiadau newydd.
Mae paragraff byr i ganlyn pob cerdd sy’n cynnig dehongliad neu ddatgeliad o’r gerdd. Cynigir rhai cwestiynau y gellir eu gofyn, yn breifat neu mewn trafodaeth grŵp, ar ôl darllen y gerdd.
Stori
Gall rhywbeth o gerdd yr wythnos neu Ysgrythur yr wythnos, neu o’r agwedd o Dduw sy’n ganolbwynt i’r wythnos, ddwyn i gof adeg annwyl, arwyddocaol yn eich bywyd ac yn hanes eich perthynas â Duw. Mae Mi a droaf yn awr. yn ein hannog i fyfyrio ar yr atgof a dweud ein stori – rhannu'n tystiolaeth.
Cynigir archwiliad dyfnach o natur “tystiolaeth” bersonol yn y llyfryn. Os yn dilyn Mi a droaf yn awr fel rhan o grŵp tŷ neu gwrs Grawys Ardal Weinidogaeth, efallai y byddai’n syniad da gwahodd rhywun gwahanol bob wythnos i rannu eu stori – un ai ar ffurf “tystiolaeth" bersonol neu drwy gyfweliad gydag arweinydd y grŵp. Cynigir rhai canllawiau ymarferol ynghylch adrodd eich stori o flaen pobl eraill fel “tystiolaeth” ac ynghylch gwrando’n iawn ar bobl eraill yn adrodd eu stori, yn y llyfryn.
Bydd tystiolaethau fideo o bob rhan o'r esgobaeth yn cael eu rhannu, yn Gymraeg a Saesneg, ar wefan ac ar sianelau cymdeithasol yr esgobaeth yn ystod y Grawys.
Delweddau
Bydd ffotograffau trawiadol i ganlyn y deunydd bob wythnos, yn codi o ysbrydoliaeth y thema a’r cerddi. Tynnwyd y ffotograffau ar gyfer Mi a droaf yn awr gan y ffotograffydd lleol a chyfaill i’r esgobaeth, Dave Custance. Mae’n nhw’n ein hatgoffa o Dduw yng nghanol ein bywyd, o’r Ysbryd sy’n byw ac yn gweithio yn y cread cyfan.
Lent 2020
Moses was keeping the flock of his father-in-law Jethro, the priest of Midian; he led his flock beyond the wilderness, and came to Horeb, the mountain of God. There the angel of the Lord appeared to him in a flame of fire out of a bush; he looked, and the bush was blazing, yet it was not consumed. Then Moses said, “I must turn aside and look at this great sight, and see why the bush is not burned up.” When the Lord saw that he had turned aside to see, God called to him out of the bush, “Moses, Moses!” And he said, “Here I am.”
When we meditate on holy Scripture, it is as though we “turn aside.” When we listen to a poem, we turn aside. When we look back on important, holy episodes in our own lives, we turn aside.
Lent is, by ancient tradition, a time for penitence and acts of charity. It is also a time for for turning aside - turning aside to study, to seek to understand more of God, to hear God speak.
We are invited this Lent in the Diocese of Bangor to turn aside, and through Scripture, poetry and story, to hear God speak.
Turning aside
Turning aside is the title for our Lent resource this year.
The Turning aside booklet will provide material for eight weeks – from the week of Ash Wednesday to Easter Week. These eight weeks offer us the opportunity to consider eight aspects of God: God who is (1) the depth of life; God who is (2) quest, and (3) communion, and (4) passion, and (5) stillness; God who is (6) by our feet and (7) in eternity; God who is (8) life that does not die.
Turning aside also encourages us to explore three ways of turning aside to hear this God speak: (1) Scripture, (2) poetry and (3) story; and these are introduced below.
Turning aside can be used personally and privately for devotion at home during Lent. It can also be used by house groups or as a Ministry Area Lent course. If using Turning aside in a group context, time could be devoted to all three methods of exploration – Scripture, poetry and story; alternatively, the group, depending on its make-up and dynamic, might want to focus on only one or two of these methods.
Scripture
Each week, the Gospel passage for the following Sunday is offered. We are invited to turn aside and look into it deeply, allowing it to speak to us not just at the Sunday service but over the course of several days.
To help our reading, Turning aside recommends the practice of lectio divina, and this ancient practice of engaging with the Bible is introduced in the booklet. Lectio divina is a good discipline if following Turning aside privately, at home during Lent; it’s also an effective way of reading the Scriptures together if you’re using Turning aside as part of a house group or a Ministry Area Lent course.
The Scriptural passages are printed in full in the booklet. The one exception to the pattern of using the Gospel passage for the following Sunday is the Scriptural passage offered during Easter Week, which is one of the New Testament readings on Easter Day (Colossians 3:1-4).
Poetry
Each week, a poem is offered by a Welsh poet. Each poem offers a devotional or imaginative perspective on the aspect of God that is the focus of the week in Turning aside.
Some of the poems were originally composed in Welsh, others in English. They all appear bilingually in the booklet, three of them in new translations.
Each poem is accompanied by a short paragraph offering an interpretation or an unfolding of the poem. Some questions are offered in the booklet that can be asked, privately or in a group discussion, after reading the poem.
Story
Something from the week’s poem or the week’s Scripture, of from the aspect of God that is the focus of the week, may call to mind a precious, significant moment in our relationship with God. Turning aside invites us to recollect such moments, and to tell our story– to share our testimony.
A deeper exploration of the nature of personal “testimony” is offered in the booklet. If following Turning aside as part of a house group or a Ministry Area Lent course, it may be good to invite a different person each week to share their story – either in the form of a spoken “testimony”, of through an interview with the group leader. Some practical guidelines about telling your story in front of others as a “testimony”, and about listening well to others sharing their stories, are offered in the booklet.
On the diocesan website and on our social media channels during Lent, video testimonies will be shared from across the diocese, in Welsh and English.
Images
Striking photographs accompany each week’s material, taking their inspiration from the theme and poetry. The photographs were taken for Turning aside by the local photographer and friend of the diocese, Dave Custance. They remind us of God in the midst of life, of the Spirit alive and active in all of creation.