minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Wrth y bwrdd gyda'n gilydd


Addoliad syml ar yr aelwyd ar gyfer teuluoedd ifanc


Ail Sul y Pasg


Ymlonyddu gyda'n gilydd

1. Goleuwch gannwyll.

2. Darllenwch:

Ar y dydd cyntaf o’r wythnos, yn fore, tra oedd hi eto’n dywyll, dyma Mair Magdalen yn dod at y bedd, ac yn gweld bod y maen wedi ei dynnu oddi wrth y bedd.

Ioan 20:1

Dyma'r neges mae e wedi'i rhoi i ni, a dyma ni nawr yn ei rhannu gyda chi. Golau ydy Duw; does dim tywyllwch o gwbl ynddo.

1 Ioan 1:5


Chwarae gyda'n gilydd

Beth sydd yn yr hosan?

Bydd angen:

  • sawl hosan
  • gwrthrychau gwahanol i osod ym mhob hosan e.e. car, llew, tŷ, bricsen, torsh - beth bynnag sydd gennych

Rhowch eich llaw i mewn i un hosan gan ddisgrifio beth sydd tu mewn iddo. "Mae gen i anifail gwyllt yma." "Mae gen i olau yma." Gofynnwch i'r plant os ydyn nhw yn eich credu er nad ydynt yn medru gweld beth sydd yn yr hosan.

Esboniwch fod stori heddiw yn sôn am ddyn nad oedd yn credu ei ffrindiau pan ddywedon nhw am yr hyn roeddent wedi eu gweld.


Darllen gyda'n gilydd

Ioan 20:19-31.

Darllenwch y stori isod. Stopiwch ar bob sôn o emosiwn gan ofyn i bawb dynnu gwyneb sy'n siwtio'r emosiwn yna.

Gyda'r nos ar y dydd cyntaf o'r wythnos, roedd y disgyblion gyda'i gilydd mewn ystafell â'r drysau wedi eu cloi. Roedden nhw yn ofnus. Dyma Iesu'n dod ac yn sefyll yn eu canol. Roedden nhw wedi eu rhyfeddu. "Tangnefedd i chwi," meddai wrthynt. Dangosodd ei ddwylo a'i ochr iddynt. Wrth sylweddoli mai Iesu oedd e teimlon nhw lawenydd mawr. Dywedodd Iesu, "Tangnefedd i chwi. Fel mae'r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi." Ac wedi dweud hyn, anadlodd arnynt a dweud, "Derbyniwch yr Ysbryd Glân."

Nid oedd Thomas, un o ffrindiau eraill Iesu yna ac felly dywedodd y disgyblion eraill wrtho yn llawn cyffro, "Yr ydym wedi gweld Iesu!". Ond meddai Thomas, "Os na welaf ôl yr hoelion yn ei ddwylo, a rhoi fy mys yn ôl yr hoelion, a'm llaw yn ei ochr, ni chredaf fi byth." Roedd Thomas yn ddryslyd.

Ac ymhen wythnos daeth y disgyblion i'r un ystafell, gyda'r drysau wedi eu cloi eto. Roedd Thomas gyda nhw y tro yma. A dyma Iesu'n dod a sefyll yn y canol a dweud, "Tangnefedd i chwi." Yna meddai wrth Thomas, a oedd yn teimlo yn nerfus, "Estyn dy fys yma. Edrych ar fy nwylo. Estyn dy law a'i rhoi yn fy ochr. A phaid â bod yn anghredadun, bydd yn gredadun." Teimlodd Thomas mor hapus gan ddweud. "Fy Arglwydd, a'm Duw!" Dywedodd Iesu wrtho, "Ai am i ti fy ngweld i yr wyt ti wedi credu? Gwyn y byd y rhai a gredodd heb iddynt weld."


Trafod gyda'n gilydd

  1. Sut aeth Iesu i mewn i'r ystafell?
  2. Pa fath o bethau na allwn ni eu gweld er ein bod ni'n gwybod eu bod yn real?
  3. Mae Thomas yn cael ei adnabod fel Thomas yr Amheuwr. Ydy hyn yn enw teg i Thomas? Oes gen ti 'nickname'? Pa 'nickname' hoffet ti ei gael?

Gweddïo gyda'n gilydd

Arwyddion

Dysgwch yr arwydd ar gyfer 'Iesu'. Rhowch fys canol un llaw ar ganol cledr y llaw arall ac yna gwnewch yr un peth gyda'r llaw arall. Rydych yn pwyntio at y briwiau ar ddwylo Iesu.

Wrth arwyddo Iesu gofynnwch iddo'ch helpu i gofio bod e yna gyda ni trwy'r amser er nad ydynt yn gallu ei weld!


Gorffen gyda'n gilydd

"Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith."

Chwarae gyda'n gilydd

Y cyntaf i weld...

Gwnewch rhestr o 15 o bethau gallwch ffeindio tu allan. Gall y rhain gynnwys: coeden, car coch, malwoden, enfys, person arall, rhif.

Wrth i chi fynd am dro ceisiwch ddarganfod popeth sydd ar y rhestr. Ar ôl dychwelyd edrychwch ar y pethau na wnaethoch chi ffeindio. Ydy hyn yn golygu nad ydynt yn bodoli?


Daw'r gweddïau ar gyfer "Ymlonyddu gyda'n gilydd" a "Gorffen gyda'n gilydd" o Lyfr Gweddi Gyffredin yr Eglwys yng Nghymru: Gweddi Ddyddiol 2009. Os hoffech chi ddefnyddio gweddïau gwahanol gallwch ddod o hyd i'r amlinelliad llawn yma.

Rydym yn gobeithio cynhyrchu Wrth y bwrdd gyda'n gilydd bob wythnos tra'n bod yn ymatal rhag addoli ar y cyd. Ein gobaith yw cadw mor syml a phosib gan ddefnyddio gwrthrychau ac adnoddau sydd gan teuluoedd ifanc yn barod neu sy'n hawdd i'w hymgynnull. Os oes gennych unrhyw syniadau plîs anfonwch nhw at Naomi Wood.

Cymraeg

Together at the table


Simple worship at home for young families


Second Sunday of Easter


Stilling together

1. Light a candle.

2. Read:

It was very early in the morning on the first day of the week and still dark, when Mary of Magdala came to the tomb. She saw that the stone had been moved away from the tomb.

John 20:1

This is what we have heard from him, and the message we are announcing to you: God is light; there is no darkness in him at all.

1 John 1:5


Play together

What's in the sock?

You will need:

  • a few socks
  • a different item to place in each sock e.g. a car, a lion, a house, a brick, a torch - whatever you have

Place your hand in the bag and describe what's in there. "I have a wild animal in here." "I have a light in here." Ask the children if they believe you even though they can't see what's in there.

Explain that today's story is about someone who didn't believe his friends were telling the truth about what they had seen.


Read together

John 20:19-31.

Read the story below. Stop every time there's mention of an emotion and invite everyone to make a face to match the feeling.

It was evening on the first day of the week and the disciples were together in a room with the doors locked. They were scared. Suddenly, Jesus was standing there. They were amazed. "Peace be with you," said Jesus. He showed them his hands and his side. On realising it was Jesus they were filled with joy. "Peace be with you," said Jesus again, "As the Father has sent me, so I am sending you." The Jesus breathed on them and said, "Receive the Holy Spirit."

Thomas, one of Jesus' other disciples, wasn't with the rest of the disciples, so they found him and told him, full of excitement, "We have seen Jesus!". But Thomas said, " I won't believe it unless I see the nail wounds in his hands, place my fingers in them, and place my hand into the wound on his side." Thomas felt confused.

A week later the disciples were all together again and, this time, Thomas was with them. The doors to the room were locked but Jesus suddenly appeared standing in the middle again, saying, "Peace be with you." Then he turned to Thomas, who was now feeling nervous and said, "Put your finger here. Look at my hands. Put your hand into the wound on my side. Don't be faithless any longer. Believe." Thomas was so happy and exclaimed, "My Lord and my God!" The Jesus told him, "You believe because you have seen me. Blessed are those who believe without seeing me."


Talk together

  1. How did Jesus get into the room?
  2. What sort of things can't we see that we know are real?
  3. Thomas is called Doubting Thomas - that's his nickname. Is it a fair one for him? Do you have a nickname? What nickname would you like?

Praying together

Signing

Learn together how to sign 'Jesus'. Place the middle finger of one hand into the middle of the palm of the other and then do the same with the other hand. You are pointing to the wounds on Jesus' hands.

As you sign Jesus ask him to help you to remember that he is always there with us even though we can't see him.


Finish together

"The God of hope fill you with all joy and peace as you trust in him, that by the power of the Holy Spirit you may overflow with hope."

Play together

First to find...

Make a list of 15 things you might find outside. These might include: a tree, a red car, a snail, a rainbow, another person, a number.

As you take your daily exercise try and tick off as many things as you can from your list. When you get home have a look at the things you didn't find. Did the fact that you didn't find them mean they don't exist?


Both the "Stilling together" and "Finish together" prayers are taken from the Church in Wales' Book of Common Prayer: Daily Prayer 2009. If you'd like to use a different prayer you can find the full outline here.


We hope to prepare Together at the table each week while public worship is suspended. Our aim is to make them as simple as possible using objects and items most young families may already have at home or can easily access. If you have any craft ideas or suggestions please do send them to Naomi Wood.