minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Wrth y bwrdd


Addoliad syml ar yr aelwyd ac mewn Eglwys Iau ar gyfer teuluoedd ifanc


Pedwerydd Sul yr Adfent


Aros mae’r Mynyddau Mawr?


Ymlonyddu gyda'n gilydd

1. Goleuwch gannwyll.

2. Darllenwch:

Llais un yn galw, “Paratowch yn yr anialwch ffordd yr Arglwydd! Unionwch yn y diffeithwch briffordd i’n Duw ni!"

Eseia 40:3

Meddai’r Arglwydd "Yn wir, yr wyf yn dod yn fuan." Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu! 

Datguddiad 22:20


Darllen gyda'n gilydd

Byddwch angen:

  • Darn mawr o bapur
  • Pennau, creons neu bensiliau lliwio

Darllenwch Genesis 1:2-26 gyda’ch gilydd ac yna wedyn treuliwch ychydig o amser yn tynnu ac yn lliwio llun mawr o’r ardd gyda’ch gilydd. Meddyliwch sut y gallai’r ardd fod wedi edrych. Sut allwn ni heddiw, helpu i ofalu amdani’n well?


Myfyrio gyda'n gilydd 

Roedd Adda ac Efa’n byw yn yr ardd gyda Duw ond fe wnaethon nhw rywbeth o’i le. Wyddoch beth oedd hynny?

Roedden nhw wedi bwyta ffrwyth oddi ar y goeden roedd Duw wedi dweud wrthyn nhw am beidio. Gwnaeth hynny Dduw mor drist nes iddo hel Adda a Efa o’r ardd. Fe fyddai’n rhaid iddyn nhw weithio’n galed am eu bwyd a byw ar wahân oddi wrth Duw.

Ond, roedd yna eisoes gynllun. Iesu! Wyddech chi fod Iesu yno ar y dechrau pan oedd Duw yn creu’r byd? Mae’r Beibl yn dweud wrthym ni: 

Yn y dechreuad oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw, a’r Gair oedd Duw. Roedd gyda Duw yn y dechreuad.

Ioan 1:1-2

Y Gair yw Iesu Grist – enw arall arno.

Roedd Iesu’n mynd i gael ei eni fel baban bach. Fe fyddai’n tyfu i fyny i ddysgu pobl am Dduw ac yna, roedd yn mynd i farw. Roedd Iesu’n mynd i farw er mwyn gwneud holl bethau anghywir y byd yn gywir unwaith eto. Gallai wneud hynny drwy ddod yn fyw eto, drwy guro marwolaeth! Pan daeth Iesu’n fyw eto, torrodd nerth farwolaeth ei hunan. Mae yna fywyd newydd a dechreuad newydd bob amser. Wow!

Nid edrych ymlaen at Iesu’n cael ei eni’n faban yn unig yw’r Adfent. Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen yn yr Adfent at Iesu’n dod yn ôl eto a’r tro yma’n dod â’r nefoedd i’r ddaear a ninnau, unwaith eto, yn gallu byw gyda Duw yn yr ardd berffaith.


Gweddio gyda'n gilydd

Byddwch angen:

  • Papur gwyn wedi’i dorri’n darnau maint A6 (byddai papur sgrap yn iawn)
  • Pen neu bensil

Ysgrifennwch air ar bob darn o bapur sy’n disgrifio gardd Duw yn Genesis. Gallwch wneud faint fynnoch chi.

Sgrwnsiwch y darnau o bapur yn beli.

Taflwch y peli eira at eich gilydd a chael brwydr peli eira.

Cewch wneud y rheolau i fyny eich hunan ar gyfer e.e. Dim ond taflu pelen eira unwaith o gwmpas y bwrdd neu osod hyn a hyn o amser a gadael i bawb symud yn rhydd.

Pan ddaw’r gêm i ben agorwch y peli eira a dywedwch, “Diolch i ti Dduw fod eich cread yn .... Helpa fi i dy weld a dy adnabod di.”

Gweddi arbennig - Colect

Gweddïwch y weddi hon gyda'ch gilydd os ydych yn dymuno:

Dduw Dad, a wnaeth y mynyddoedd a’r môr, rwyt ti’n anhygoel. Helpa ni i edrych ar ôl eich byd a'r bobl sy'n byw ynddo. Amen


Gorffen gyda'n gilydd

Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.

Diffoddwch y gannwyll.


Rydyn ni wedi mwynhau rhannu Wrth y bwrdd gyda chi ac rydyn ni'n gobeithio eich bod chi, fel teulu neu Eglwys Iau, wedi cael budd ohono. Dyma'r olaf o'r amlinelliadau llawn ar gyfer eleni. Bydd ein haddoliad Wrth y bwrdd yn ail-gychwyn ei batrwm wythnosol yn y Flwyddyn Newydd.

Wythnos nesaf bydd yna fideo syml i chi ei wylio a’i fwynhau gyda’ch gilydd ar Ddydd Nadolig wrth i ni ddathlu genedigaeth Iesu.


Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Wrth y bwrdd, Llythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol

Cymraeg

At the table


Simple worship at home and at Junior Church for young families


Fourth Sunday of Advent


Rivers and Reservoirs


Stilling together

1. Light a candle.

2. Read:

A voice cries out, “Prepare in the wilderness a road for the Lord ! Clear the way in the desert for our God!"

Isaiah 40:3

The Lord says,"Surely I am coming soon." Amen. Come, Lord Jesus. 

Revelation 22:20


Reading together

You will need

  • A large piece of paper
  • Colouring pens, crayons or pencils

Read Genesis 1: 1-26 together and then spend some time drawing and colouring a large picture of the garden together. Think about how the garden might have looked. How can we, today, help to look after it better?


Reflecting together

Adam and Eve lived in the garden with God but they did something wrong. Do you know what they did?

They ate fruit from the tree that God said they shouldn’t. This made God so sad that Adam and Eve were sent away from the garden. They would have to work hard for their food and live apart from God.

But, there was already a plan. Jesus! Did you know Jesus was there at the start when God was making the world? The Bible tells us: 

In the beginning was the Word, and the Word was with God, and the Word was God. He was with God in the beginning.

John 1:1-2

The Word is Jesus Christ – that’s another name for him.

Jesus was going to be born as a tiny baby. He would grow up teaching people about God and then he was going to die. Jesus was going to die to make all the wrong things of the world right again. He could do this by coming alive again, by beating death! When Jesus came alive again he broke the power of death itself. There is always new life and new beginnings. Wow!

Advent isn’t just about looking forward to Jesus being born as a baby. Advent is also when we look forward to Jesus coming back again and this time bringing heaven to earth and we can once again live with God in the perfect garden.


Praying together

You will need:

  • White paper broken into A6 size pieces (scrap paper would be fine)
  • Pens or pencils

Write a word on each piece of paper that describes God’s garden in Genesis. You can do as many as you like.

Scrunch the bits of paper into balls.

Throw the snowballs at each other and have a snowball fight.

You can make up the rules for this i.e. Only throw a snowball once around the table or set a time limit and let everyone move freely

When the game ends open the snowballs and say, “Thank you God that your creation is ... Please help me to see you and know you.”

A special prayer – A Collect

Pray this prayer together if you like:

Father God, who made the mountains and the sea, you are amazing. Please help us to look after your world and the people who live in it. Amen


Finishing together

The God of hope fill you with all joy and peace as you trust in him, that by the power of the Holy Spirit you may overflow with hope.

Blow out the candle.


We have really enjoyed sharing At the table with you and hope that, as a family or a Junior Church, you have found it helpful. This is the last of the full outlines for this year. Our At the Table worship will resume its weekly pattern in the New Year.

Next week’s will be a simple video for you to watch and enjoy together on Christmas Day as we celebrate Jesus’s birth.


Subscribe to receive email notification of At the table, the Bishop's Letter and diocesan announcements