Wrth y bwrdd
Addoliad syml ar yr aelwyd ac mewn Eglwys Iau ar gyfer teuluoedd ifanc
Sul Cyntaf yr Adfent
Llwybrau Hen a Newydd
Ymlonyddu gyda'n gilydd
1. Goleuwch gannwyll.
2. Darllenwch:
Llais un yn galw, “Paratowch yn yr anialwch ffordd yr Arglwydd! Unionwch yn y diffeithwch briffordd i’n Duw ni!
Eseia 40:3
Meddai’r Arglwydd ‘Yn wir, yr wyf yn dod yn fuan.’ Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu!
Datguddiad 22:20
Meddwl gyda'n gilydd
- Ble ydych chi'n mynd gyda'ch gilydd?
- Sut byddwch chi’n cyrraedd yno?
- Beth allech ei weld ar y ffordd?
- Sut ydych chi’n gwybod ble i fynd?
Darllen gyda'n gilydd
Mae'r newyddion da am Iesu y Meseia, Mab Duw yn dechrau fel hyn: Mae'n dweud yn llyfr y proffwyd Eseia:
“Edrych – dw i'n anfon fy negesydd o dy flaen di, i baratoi'r ffordd i ti” – “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i'r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau'n syth iddo!’”
Dyna beth wnaeth Ioan – roedd yn bedyddio pobl yn yr anialwch ac yn cyhoeddi fod hyn yn arwydd eu bod yn troi cefn ar eu pechodau ac yn derbyn maddeuant gan Dduw. Roedd pobl cefn gwlad Jwdea a dinas Jerwsalem yn heidio allan ato. Pan oedden nhw'n cyfaddef eu pechodau roedd yn eu bedyddio nhw yn afon Iorddonen. Roedd Ioan yn gwisgo dillad o flew camel gyda belt lledr am ei ganol, ac roedd yn bwyta locustiaid a mêl gwyllt. Dyma oedd ei neges: “Mae un llawer mwy grymus na fi yn dod ar fy ôl i – fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas yn plygu i lawr i ddatod carrai ei sandalau. Dw i'n defnyddio dŵr i'ch bedyddio chi, ond bydd hwn yn eich bedyddio chi â'r Ysbryd Glân.”
Tua'r adeg yna daeth Iesu o Nasareth, Galilea i gael ei fedyddio gan Ioan yn yr Iorddonen. Yr eiliad y daeth Iesu allan o'r dŵr, gwelodd yr awyr yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd Glân yn disgyn arno fel colomen. A dyma lais o'r nefoedd yn dweud: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio i'n llwyr.”
Marc 1: 1-11
Myfyrio gyda'n gilydd
Ydych chi erioed wedi gweld ffordd newydd yn cael ei hadeiladu?
Os ydych chi’n byw ar Ynys Môn byddwch wedi gweld gwaith yn cael ei wneud ar yr A55, lawer o weithiau.
Os ydych chi wedi gyrru trwy Bontnewydd byddwch wedi gweld y ffordd osgoi newydd yn cael ei hadeiladu.
Dyma sut mae’r cynlluniau’n bwriadu iddi edrych. Ond mae llwythi o waith i’w wneud yn gyntaf.
Dyma sut yr oedd yn edrych ddiwedd mis Medi eleni ar ôl dros flwyddyn o waith, ac mae dal rhagor i’w wneud!
Adeiladwch eich ffordd newydd eich hunain drwy ddefnyddio’ch set o drenau, blociau, Hot Wheels (neu unrhyw bethau eraill sydd gennych o'ch cwmpas)
Wrth wneud hynny, siaradwch gyda’ch gilydd i benderfynu:
- Ble mae’n dechrau?
- Ble mae’n mynd?
- Sut y bydd yn cyrraedd yno? Oes unrhyw rwystrau yn y ffordd? Ydych chi angen o rhagor o help?
Ar ôl gorffen, dewch yn ôl at y bwrdd.
Gweddio gyda'n gilydd
Mae’n eithriadol o hawdd cyffroi am y Nadolig ac anghofio am yr Adfent. Ond, yr Adfent yw’r amser i ni baratoi ein hunain ar gyfer Iesu – nid dim ond addurno’n cartrefi a gobeithio am anrhengion.
Sut allwn ni baratoi’n hunain ar gyfer Iesu? Mae’n rhaid i ni gliro llwybr at ein calonau. Mae hynny’n golygu y dylem ni ddweud sori am yr adegau pan oedden ni wedi caniatáu i bethau eraill fod yn bwysicach na Duw. Efallai ein bod wedi’n llygad dynnu gan bethau eraill, efallai nad ydym wedi caru Duw gyda’n holl galon, ein holl enaid a’n holl feddwl ac nad ydym ni wedi caru eraill fel rydym ni’n ein caru ni ein hunain.
Byddwch angen:
- Ailgylchu / ysbwriel glân
- Bin ailgylchu
- Tâp Selo
- Defnyddiwch yr ysbwriel i wneud model o berson.
- Mae pob darn o ysbwriel yn ein helpu i feddwl am y ffyrdd nad ydym wedi bod yn canolbwyntio ar Dduw.
- Yn araf, tynnwch y model oddi wrth ei gilydd a'i osod yn bin ailgylchu cywir.
- Wrth i chi wneud hynny, gofynnwch i Dduw eich helpu i daflu yr holl bethau yn eich bywyd sydd wedi dod yn bwysicach i chi na Duw. Gofynnwch y bydd eich calon, eich enaid a’ch meddwl yn barod i groesawu Iesu y Nadolig hwn.
Gweddïwch y weddi hon gyda'ch gilydd os ydych yn dymuno:
Hollalluog Dduw, anfonaist dy unig Fab, Iesu, i ddangos y ffordd i ni.
Helpa ni i fod yn barod yr Adfent hwn i groesawu Iesu.
Mae’n ddrwg gennym am yr adegau nad ydym wedi dy wneud di y peth pwysicaf.
Helpa ni i ddilyn y llwybr cywir er mwyn i ni allu adnabod Iesu ac iddo Ef allu byw yn ein calonnau y Nadolig hwn ac am byth.
Amen
Gorffen gyda'n gilydd
Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.
Diffoddwch y gannwyll.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Wrth y bwrdd, Llythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
At the table
Simple worship at home and at Junior Church for young families
First Sunday of Advent
Roads and Routes
Stilling together
1. Light a candle.
2. Read:
A voice cries out, “Prepare in the wilderness a road for the Lord ! Clear the way in the desert for our God!
Isaiah 40:3
The Lord says,‘Surely I am coming soon.’ Amen. Come, Lord Jesus.
Revelation 22:20
Discussing together
- Where do you go together?
- How do you get there?
- What might you see on the way?
- How do you know where to go?
Reading together
The beginning of the good news about Jesus the Messiah, the Son of God, as it is written in Isaiah the prophet:
‘I will send my messenger ahead of you, who will prepare your way’ – ‘a voice of one calling in the wilderness, “Prepare the way for the Lord, make straight paths for him.”’
And so John the Baptist appeared in the wilderness, preaching a baptism of repentance for the forgiveness of sins. The whole Judean countryside and all the people of Jerusalem went out to him. Confessing their sins, they were baptised by him in the River Jordan. John wore clothing made of camel’s hair, with a leather belt round his waist, and he ate locusts and wild honey. And this was his message: ‘After me comes the one more powerful than I, the straps of whose sandals I am not worthy to stoop down and untie. I baptise you with water, but he will baptise you with the Holy Spirit.’
At that time Jesus came from Nazareth in Galilee and was baptised by John in the Jordan. Just as Jesus was coming up out of the water, he saw heaven being torn open and the Spirit descending on him like a dove. And a voice came from heaven: ‘You are my Son, whom I love; with you I am well pleased.’
Mark 1: 1-11
Reflecting together
Have you ever seen a new road being built?
If you live on Anglesey you will have seen the A55 being worked on lots of times.
If you have to drive through Bontnewydd you’ll be seeing the new bypass being built.
This is what it’s planned to look like. But there’s a whole load of work to be done first.
This is how it looked at the end of September this year after over a year of work and there’s still more to do!
Create your own new road using your train set, blocks, Hot Wheels (or any other things you have around)
While you do it talk together to decide:
- Where is it starting?
- Where is it going?
- How is it going to get there? Are there obstacles in the way? Do you need to find extra support?
When you have finished come back to the table.
Praying together
It’s super easy to be excited for Christmas and forget about Advent. But Advent is a time to prepare ourselves for Jesus – not just to decorate our homes and hope for presents.
How can we get ourselves ready for Jesus? We need to clear a path to our hearts. That means we need to say sorry for the times that we’ve allowed other things to be more important than God. Maybe we’ve been distracted by other things, maybe we haven’t loved God with all our heart, all our soul and all our mind and we haven’t loved others as we love ourselves.
You will need:
- Clean recycling/rubbish
- Recycling bin
- Sellotape
- Using the rubbish make a model of a person.
- Each piece of rubbish helps us to think of the ways that we haven’t kept God as our focus.
- Slowly, take the model apart and put it in the right recycling bin.
- As you do so ask God to help you to throw away all the things in your life that you have made more important than God. Ask that you would have your heart, soul and mind ready to welcome Jesus at Christmas.
Pray this prayer together if you like:
Almighty God, who sent your only Son, Jesus, to show us the way.
Help us to get ready this Advent to welcome Jesus.
We’re sorry for the times we’ve not made you most important.
Help us to follow the right way so that we can know Jesus and He can live in our hearts this Christmas and forever.
Amen
Finishing together
The God of hope fill you with all joy and peace as you trust in him, that by the power of the Holy Spirit you may overflow with hope.
Blow out the candle.