minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Myfi, Iesu


Wythnos Gyntaf y Grawys


Myfi yw'r drws


‘Myfi yw’r drws; os daw rhywun i mewn trwof fi, caiff ei gadw’n ddiogel, caiff fynd i mewn ac allan, a dod o hyd i borfa.’

Ioan 10:9 


Pa fath o ddrysau ddaw i’n meddwl wrth ddarllen yr adnod hon? Drysau addurnol cadeirlan, drysau cadarn daeargelloedd y banciau, drws gwydr tŷ gwydr, drws cynfas pabell? A sut ydym yn ymateb i ddrysau? Ai’n gwahodd ynteu ein gwahardd y maent? I lawer ohonom, mae drws yn gosod her. Mewn byd materol lle mae mwy o fri ar wthio’n ffordd ymlaen nag ar ddisgwyl yn amyneddgar, nid ydym yn hoff o gael ein cadw allan o leoedd.

Mae o gymorth i ni wrth fyfyrio i gofio nad oes gan y rhan fwyaf o gorlannau yn y Dwyrain Canol ddrws o gwbl, ond yn hytrach borth, gyda’r bugail ei hun yn gweithredu fel drws.

Yn yr hen Israel, strwythurau digon amrwd oedd corlannau wedi eu gwneud o wrychoedd neu ganghennau neu efallai un rhes o gerrig, dim ond digon i gadw’r defaid o’u mewn a’u rhwystro rhag crwydro i berygl. Byddid yn sicrhau bod y defaid yn fwy diogel drwy’r arfer o gorlannu sawl praidd gyda’i gilydd, gyda phreiddiau’r Dwyrain Canol yn llawer llai na’r rhai a welwn yng Nghymru. Byddai bugeiliaid felly’n adnabod eu defaid yn well a byddai’r defaid yn adnabod lleisiau eu bugeiliaid. Byddai’r bugeiliaid yn gorwedd o flaen y gorlan i weithredu fel drws – ni allai dim fynd i mewn na dod allan heb yn wybod iddynt.

Y gair Groeg a ddefnyddir yn y dywediad hwn yw ‘thŵra’, nad yw’n golygu ‘drws’ na ‘giât’ ond yn hytrach agoriad, mynedfa neu dramwyfa i mewn i rywbeth neu gyntedd. Roedd Iesu’n defnyddio trosiad syml a chyffredin: ‘Myfi yw’r porth’—‘Myfi yw’r fynedfa’: os yw defaid am ddod i mewn i beth bynnag mae’r gorlan yn ei gynrychioli byddai’n rhaid iddynt ddod drwyddo yntau.

Mae Iesu’n gwneud y datganiad hwn fel rhan o’i ddysgeidiaeth yn dilyn iacháu gwyrthiol dyn a aned yn ddall yn Jerwsalem. Dygir y dyn gerbron y Phariseaid, gelynion Iesu sy’n benderfynol o’i herio pryd bynnag y gallant, ac maent yn gwahardd y dyn o’r synagog pan mae’n gwrthod gwadu mai Iesu a’i hiachaodd. Efallai bod Iesu’n pwysleisio yma bod y Phariseaid yn gwrthod yr hyn mewn gwirionedd yw eu hunig ffordd at Dduw. 

Yng nghyd-destun delwedd y defaid, mae ‘achubiaeth’ yn golygu amddiffyniad rhag yr anifeiliaid rheibus a fyddai’n lladd y defaid. Ond mae Iesu’n amlwg yn bwriadu i’w eiriau gyfeirio at achubiaeth ysbrydol, lle cysylltir y syniad o ‘iachawdwriaeth’ â’r darlun o ddefaid yn mynd mewn ac yn dod allan i ganfod porfa. Dywed un sylwedydd mai dyma’r ffordd Iddewig o ddisgrifio ‘bywyd sydd yn hollol sicr a diogel’. Pe byddai’r wlad dan warchae, byddai’n rhaid i bobl aros o fewn muriau’r dinasoedd. Mewn amser o heddwch, gyda theyrn a oedd yn cynnal cyfraith a threfn, byddai pobl yn rhydd i fynd a dod fel y mynnent: ‘Yr Arglwydd yw fy nghynorthwywr, ac nid ofnaf.’ (Hebreaid 13:6).

Mae brawddeg gyntaf y Grawys yn ein hysgogi ac yn ein cysuro. Gallwn gychwyn ar daith y Grawys yn ddisgwylgar, wrth i ni ddysgu am ddywediadau ‘Myfi yw’ Iesu a’r cyfleoedd maent yn eu cynnig i ni ddarganfod presenoldeb Duw yn ein bywydau mewn ffyrdd newydd. Ac, os byddwn wedi mynd i mewn i’r gorlan drwy Iesu, y bugail a’r drws, bydd yn cynnig diogelwch a ffordd gyfarwydd i mewn ac allan. Mae’n gwarchod ein holl lwybrau, ond nid yw’n eu rhwystro o gwbl. Gallwn fentro allan i’r porfeydd breision mae’n eu darparu a dychwelyd i ddiogelwch y gorlan fel y mynnwn.


Nick Webb ac Andy Hughes


Hollalluog Dduw,
yn Iesu rwyt wedi agor llwybr ffydd i ni,
gan oleuo’r ffordd a osodwyd o’n blaenau.
Deffro o fewn dy bobl
ystwyrian yr Ysbryd Glân
i glywed llais Iesu’n dweud,
‘Myfi yw’r drws’;
yr hwn a fu, y sydd
ac a fydd hyd byth.
Amen.
Deuaf at Iesu’r drws:
bydd gyda mi wrth i mi gerdded drwodd
i’r hyn sy’n gyfarwydd a’r hyn sydd yn ddieithr
wrth droedio’r llwybr hwn drwy’r Grawys eleni.
Amen.

Cwestiynau

  1. Ydych chi’n teimlo’n fwy cyfforddus â drysau sydd ar gau ynteu ddrysau agored – pam?
  2. Beth mae ‘cael eich achub’ yn ei olygu i chi?
  3. A oes yna ffyrdd y gallai pobl ystyried Crist yn rhwystr yn hytrach nag yn ddrws? Sut allwch chi ymdrin â theimladau felly yn eich bywyd a’ch gweinidogaeth (bid a fo a ydych yn ordeiniedig ai peidio)?
  4. Pa un gair sy’n crynhoi eich teimladau am Iesu fel ‘y drws’?

Cymraeg

I, Jesus


The First Week of Lent


I am the door


‘I am the door [RSV; NRSV ‘gate’]. Whoever enters by me will be saved, and will come in and go out and find pasture.’

John 10:9


What sort of doors do we imagine when reading this verse? Ornate cathedral doors, strong-room steel doors, the glass door of a greenhouse, the canvas door of a tent? And how do we react to doors? Are they a place of separation or invitation? For many of us, a door presents a challenge. In a material world where gate-crashing rather than humility is applauded, we do not like being kept out of places.

It helps our reflection to remind ourselves that most sheepfolds encountered in the Middle East have no door at all, but rather a doorway, with the shepherd themselves being the door.

In ancient Israel, sheepfolds were pretty crude constructions from bush or branches, or maybe a single row of stones, just enough to contain the sheep and save them from straying into danger. More safety came from the practice of penning several flocks together, Middle Eastern flocks being much smaller than those we see here in Wales. Shepherds thus knew their flocks better, and sheep recognised the voice of their shepherds. Shepherds would lie in front of the sheepfold to act as gates - nothing could enter or exit without their knowing.

The Greek word used in this phrase is ‘thura’, which neither means ‘door’ nor ‘gate’ but an opening, an entrance, a passageway into something or a vestibule. This is a simple and commonplace metaphor that Jesus was using: ‘I am the gate’—‘I am the access point’: if sheep are going to come into whatever the fold represents, they would have to go through him.

Jesus makes this statement as part of his teaching following a miraculous healing in Jerusalem of a man born blind. The man is brought to the Pharisees, enemies of Jesus, intent on confronting him whenever possible, and they evict him from the synagogue when he refuses to deny that Jesus had healed him. Maybe Jesus is pointedly here stating that the Pharisees are rejecting what is actually their only access to God.

In the context of the sheep analogy, ‘being saved’ suggests protection from predators that would kill the sheep. But Jesus obviously has the idea of spiritual salvation behind his words, where ‘salvation’ is linked to the picture of sheep going in and out to find pasture. One commentator says that this was the Jewish way of ‘describing a life that is absolutely secure and safe.’ If your homeland was under siege, people had to stay inside the city walls. During peacetime, with a ruler upholding law and order, people were free to come and go as they wished: ‘The Lord is my helper, I will not be afraid.’ (Hebrews 13:6).

This first Lenten sentence provides us with prompts and reassurance. We can approach Lent with anticipation, as we encounter Jesus’s ‘I am’ sayings and the opportunities that these bring to discover the presence of God in our lives in some new ways. And, if we have entered the fold through Jesus, who is both the shepherd and the door, he provides safety and familiar access. He guards all of our ways but is in no way a barrier. We can go out to the rich pastures he provides and come into the safety of his fold as we please.


Nick Webb and Andy Hughes


Almighty God,
in Jesus you have opened to us the way of faith,
illuminating the pathway that is set before us.
Stir within your people
the nudging of the Holy Spirit
to hear the voice of Jesus say,
‘I am the door’;
who was and is
and evermore shall be.
Amen.
I come to Jesus the door:
be with me as I walk through
into the known and unknown
of this Lenten journey.
Amen. 

Questions

  1. Are you more comfortable with doors open or doors closed – and why?
  2. What does ‘being saved’ meant to you?
  3. Are there ways in which people might see Christ as barrier rather than door? How can you address these in your life and ministry (whether or not you are ordained)?
  4. What one word sums up your feelings about Jesus being ‘the door’?