minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
O Benmachno i Ddolwyddelan | From Penmachno to Dolwyddelan
English

Wythnos Gyntaf yr Adfent

Llwybrau Hen a Newydd


Ffordd ymron diflannu

Defaid Penmachno | The sheep of Penmachno

Roedd y llwybr yn ymddangos yn eglur ar y map: llinell o ddotiau gwyrddion yn cysylltu pentrefi Penmachno a Dolwyddelan, gan ddringo hyd at fwlch rhwng dau fryn isel a chroesi drosto. Efallai i’r llwybr hwn fod yn un o’r hen ffyrdd porthmyn niferus a dramwyai’r wlad, llwybrau hirion a ddefnyddid hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan y rhai a oedd yn gyrru buchesau a phreiddiau i’r marchnadoedd da byw. Mabwysiadwyd llawer o’r llwybrau hyn fel ffyrdd ond parheir i ddefnyddio eraill ohonynt hefyd i raddau mwy neu lai.

Fodd bynnag, roedd yr hyn a ymddangosai mor eglur ar y map ymhell o fod yn eglur ar y ddaear. Roedd y tywydd ac, yn fwy diweddar, beicio gwlad, wedi peri dirywiad mawr yn y llwybr, fel bod yr hen ffordd fel petai’n diflannu i gorsydd a achoswyd gan weithgaredd coedwigo wrth iddi ddringo drwy’r planhigfeydd. Drwy gyfuniad o ddyfalu (eithaf cywir – gan fwyaf) ac ymgynghori’n fanwl â map yr Arolwg Ordnans, llwyddwyd i gyrraedd pen uchaf y bwlch rhwng y ddau ddyffryn – a darganfod dau farciwr carreg a oedd wedi hanner eu claddu wrth i’r llwybr ymdroelli i lawr tuag at Afon Lledr.

Ar ôl cyflawni’r daith, roedd yn amlwg mai’r hen ffordd hon (ac mae rhai ffyrdd felly’n filoedd o flynyddoedd oed) yn wir oedd y llwybr cyflymaf a mwyaf rhesymegol i groesi’r dirwedd arbennig honno. Ni chafodd ei hawdurdodi erioed ar gyfer ei defnyddio gan foduron, ac fe suddodd yn dawel o’r golwg – yn llythrennol mewn mannau, diolch i’r nenfwd drwchus o gonwydd. Mae ei cherdded eto’n teimlo fel ailddarganfod y darn yna o dir ac fel dod i gyswllt â’r rhai a’i defnyddiai’n rheolaidd mor bell yn ôl. Ni chloddiwyd unrhyw dwneli nac adeiladu unrhyw bontydd i greu’r ffordd hon – canrifoedd o gerdded a’i ffurfiodd.

Wrth edrych ar lwybr o A i B ar-lein, mae’n ddiddorol cymharu’r amcangyfrifon o’r amser a gymer y daith yn dibynnu ar y dull teithio. Mae’n ymddangos bod y daith o oddeutu 30 milltir o Bwllheli i Fangor yn cymryd tua 46 munud wrth yrru, dwy awr ac ugain munud ar drafnidiaeth gyhoeddus, tair awr ar feic a thros naw awr a hanner i’w cherdded. Gan mlynedd yn ôl a mwy, byddai llawer o weithwyr amaethyddol a diwydiannol, yn ogystal â phlant ysgol, yn arfer cerdded yr hyn y byddem ninnau’n eu hystyried yn bellterau rhyfeddol yn feunyddiol. Ganol Oes Fictoria, byddai papurau newydd yn aml yn cynnwys straeon am berygl ‘gwallgofrwydd y rheilffordd’ (fersiwn cynnar o’r cythraul gyrru?) a achosid drwy deithio mewn cerbydau herclyd ar gyflymderau mor arswydus â thrigain milltir yr awr.

Un o brif themâu pererindota yw bod y daith yn bwysig yn ogystal â’r gyrchfan. Wrth deithio ar droed, ddydd ar ôl dydd, mae pererinion ar y Camino i Santiago de Compostela yn sôn am ganfod gwirioneddau ynghylch eu hunain a’u bywydau drwy’u profiadau ar y ffordd. Cyrraedd pen y daith yw prif ddiben y bererindod ond canfyddir llawer o’r ystyr ar y ffordd. Po gyflymaf y daith, gellir dadlau, po leiaf yw’r amser i ganfod yr ystyr – a gall rhythm taith y pererin fynd ar goll yn anniddigrwydd y teithiwr, sydd ar binnau i’r bws neu’r bws mini gyrraedd yr arhosfan nesaf ar y daith.

Mae yna berygl, wrth gwrs, mewn rhamantu am fyd a symudai ar gyflymder cerdded. Mewn llawer gormod o leoedd yn y byd hyd heddiw mae pobl yn parhau i farw oherwydd nad oes ffordd gyflym o gyrraedd ysbyty. Mae’r rhai sy’n rhy ifanc neu’n rhy hen i gerdded pellteroedd maith yn byw’n ynysig ac yn colli pob mathau o gyfleoedd i ddysgu a ffynnu; gall ‘lleol’ ddod i olygu ‘cyfyngedig’. Mae cysylltiadau cludiant dibynadwy’n hollbwysig ar gyfer cynnal economi gref a chadarn, gan gynnig cyfleoedd i bobl deithio ymhellach i weithio heb orfod gadael eu cynefin.


Llwybr y lliaws

Yr A55 dros Bont Britannia | The A55 over Britannia Bridge

Mae i ffyrdd troellog cefn gwlad eu hud – ond does dim byd yn union fel croesi Pont Britannia a mynd ymlaen am Gaergybi ar y darn diweddaraf o’r A55 i’w chwblhau. Cynlluniwyd y ffordd ddeuol i’w gwneud yn haws i gludo nwyddau rhwng y porthladd a gweddill y Deyrnas Unedig a dyma’r peth agosaf sydd gan Ogledd Cymru i draffordd. Mae’n cynnig ffordd gyflym braf o deithio – os na fydd gormod o waith ffordd. Wrth deithio’r ffordd arall, tua Bangor, mae copaon Eryri’n teyrnasu ar y gorwel mewn ffordd hyfryd o ddramatig – gan hyd yn oed wneud adegau o oedi rywfaint yn haws eu goddef.

Ar yr un pryd, mae’r A55 yn rhannu’r ynys yn bendant mewn ffordd nad oedd yn wir am yr hen A5. Roedd campwaith Thomas Telford, a gwblhawyd gyda Phont y Borth ym 1826, yn caniatáu i goetsis a’r post deithio’n gyflym hyd at y llongau i Ddulyn, ond cysylltu cymunedau, yn hytrach na’u hosgoi, a wnâi llwybr y ffordd honno. Wrth i lefel y traffig gynyddu, roedd adeiladu ffyrdd osgoi’n gwella ansawdd bywyd mewn llawer o bentrefi ond yn aml byddai busnesau lleol yn colli cwsmeriaid o ganlyniad. Diolch i’r A55, fodd bynnag, mae cyfleoedd gwaith yn denu o fannau mor bell â Phenrhyn Cilgwri, er y gall y cymudo dyddiol fod yn feichus. Mae’n bosibl manteisio ar y prisiau tai cymharol fforddiadwy yn Llanfair Pwllgwyngyll, er enghraifft, a gweithio mewn amrywiaeth o feysydd yn Swydd Gaer, yn dibynnu ar natur eich sgiliau.

Mae’r motor tanio mewnol, yn ogystal â’r diwydiant olew, wedi trawsnewid bywyd a thirwedd yn sylfaenol ar bob lefel. Mae’r gwythiennau a ddarperir ar gyfer bywyd cyfoes gan ffyrdd megis yr A55 – a system drefniadaeth y byd cyfan – yn sylfaenol bwysig ar gyfer y ffordd mae cymdeithas yn y Deyrnas Unedig yn gweithredu. Yn drychinebus, hefyd, maent wedi hwyluso lledaeniad COVID-19 ar gyflymder na fyddai cenedlaethau blaenorol wedi gallu ei ddychmygu.

Un o rwystredigaethau mawr wythnosau’r cyfnod clo dan warchae’r pandemig yn ystod y gwanwyn oedd y gwaharddiad ar deithio nad oedd yn gwbl angenrheidiol, a olygai fod llawer o bobl wedi’u hynysu’n gorfforol oddi wrth eu ceraint ymhell ac agos. Roedd yn annifyr, yn sioc hyd yn oed, colli’r cyswllt hawdd, a hynny er gwaethaf y cyfleoedd a gynigid gan y cyfryngau cymdeithasol. Gellid symud cyfarfodydd gwaith ar-lein yn weddol hawdd ond daethant o’r herwydd yn achlysuron mwy gweithredol a llai cyfeillgar, gan golli cynhesrwydd cyfarfod wyneb yn wyneb. Peidiodd teithio â bod yn hawl beunyddiol a throi’n hytrach yn fraint.

Canlyniad uniongyrchol arall i’r cyfnod clo oedd y gostyngiad yn y traffig. Wedi’u caethiwo i’w cartrefi heblaw am un cyfnod o ymarfer y dydd, dechreuodd pobl ddod allan i gerdded ac fe’u gorfodwyd i ddechrau archwilio’r hyn oedd yng nghyffiniau eu cartrefi. Pan ddechreuwyd llacio’r cyfyngiadau, dechreuodd lefel y traffig godi eto, ond, ar-lein ac mewn mannau eraill, codwyd cwestiynau ynghylch dychwelyd yn awtomatig i ‘fywyd fel y bu’. Ai dyma oedd ein cyfle i gymryd golwg newydd ar gyflymdra bywyd a’i ferw a’i frys? A oedd yna ddewisiadau gwell ar ein cyfer, rhai a fyddai’n fwy cynaliadwy ar gyfer corff ac enaid? A oedd y ffaith ein bod yn gallu teithio mor bell ac mor gyflym yn golygu mai dyna a ddylem ei wneud?


Testunau o’r Beibl

Llais un yn galw, “Paratowch yn yr anialwch ffordd yr Arglwydd, unionwch yn y diffeithwch briffordd i'n Duw ni. Caiff pob pant ei godi, pob mynydd a bryn ei ostwng; gwneir y tir ysgythrog yn llyfn, a'r tir anwastad yn wastadedd. Datguddir gogoniant yr Arglwydd, a phawb ynghyd yn ei weld. Genau'r Arglwydd a lefarodd.” Llais un yn dweud, “Galw”; a daw'r ateb, “Beth a alwaf? Y mae pob un meidrol fel glaswellt, a'i holl nerth fel blodeuyn y maes. Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo pan chwyth anadl yr Arglwydd arno. Yn wir, glaswellt yw'r bobl. Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo; ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth.” Dring i fynydd uchel; ti, Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da, cod dy lais yn gryf; ti, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da, gwaedda, paid ag ofni. Dywed wrth ddinasoedd Jwda, “Dyma eich Duw chwi.” Wele'r Arglwydd Dduw yn dod mewn nerth, yn rheoli â'i fraich. Wele, y mae ei wobr ganddo, a'i dâl gydag ef. Y mae'n porthi ei braidd fel bugail, ac â'i fraich yn eu casglu ynghyd; y mae'n cludo'r ŵyn yn ei gôl, ac yn coleddu'r mamogiaid.

Eseia 40:3-11

Dechrau Efengyl Iesu Grist, Mab Duw. Fel y mae'n ysgrifenedig yn y proffwyd Eseia: “Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen i baratoi dy ffordd. Llais un yn galw yn yr anialwch, ‘Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo’ ” - ymddangosodd Ioan Fedyddiwr yn yr anialwch, yn cyhoeddi bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau. Ac yr oedd holl wlad Jwdea, a holl drigolion Jerwsalem, yn mynd allan ato, ac yn cael eu bedyddio ganddo yn afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. Yr oedd Ioan wedi ei wisgo mewn dillad o flew camel a gwregys o groen am ei ganol, a locustiaid a mêl gwyllt oedd ei fwyd. A dyma'i genadwri: “Y mae un cryfach na mi yn dod ar f'ôl i. Nid wyf fi'n deilwng i blygu a datod carrai ei sandalau ef. Â dŵr y bedyddiais i chwi, ond â'r Ysbryd Glân y bydd ef yn eich bedyddio.”

Yn y dyddiau hynny daeth Iesu o Nasareth Galilea, a bedyddiwyd ef yn afon Iorddonen gan Ioan. Ac yna, wrth iddo godi allan o'r dŵr, gwelodd y nefoedd yn rhwygo'n agored a'r Ysbryd fel colomen yn disgyn arno. A daeth llais o'r nefoedd: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”

Marc 1:1-11

Mae drama Eseia 40:3 wedi ysbrydoli cyfansoddiadau mor amrywiol â Meseia Handel a Godspell. Mae’r ‘llais’ dirgel yn galw am ddechrau ar waith enfawr adeiladu priffordd i Dduw ddychwelyd at ei bobl. Cynigir gobaith i genedl a gollasai ymron popeth – cartrefi, tir, y Deml. Ac roedd ei meistri ym Mabilon hyd yn oed wedi newid eu henwau personol (megis yn achos Daniel a’i gyfeillion). Cyflwynodd y proffwyd Eseciel (pennod 10) weledigaeth arswydus o ogoniant Duw yn gadael y Deml, ond yma gelwir ar y bobl i baratoi iddo ddychwelyd.

Mae paratoi’n waith caled – mae’n hawdd darllen am ‘godi pob pant’ a ‘gwneud tir anwastad yn wastadedd’ a meddwl am lu o jacs codi baw a chraeniau. Ond y dyddiau hynny byddai gwaith cloddio wedi golygu torf yn gweithio gyda chaib a rhaw, awr ar ôl awr dan haul crasboeth. Efallai nad yw’n syndod bod yr adnodau nesaf yn sôn am freuder bodau dynol – ‘Yn wir, glaswellt yw’r bobl’. Yr hyn sy’n bwysig, fodd bynnag, yw y paratoir y ‘ffordd’, hynny yw, bod calonnau a meddyliau’n agored ac yn ddisgwylgar yn wyneb dyfodiad yr Arglwydd.

Mae yna gyferbyniad hardd rhwng y darluniau hynny o lafur caled ac ymddangosiad ‘yr Arglwydd Dduw’. Mae’n wir ei fod yn dod ‘mewn nerth’ (adnod 10) gan ‘reoli â’i fraich’, ond nid rhyw fod dwyfol tanllyd mohono, yn difa popeth o’i flaen. Disgrifir y Goruchaf Dduw fel bugail caredig (adnod 11), yn casglu yn ei freichiau ac yn arwain yn dyner yr ifanc, y llesg a’r bregus.

Mae awduron yr Efengylau’n adleisio Eseia 40 yn eglur wrth iddynt geisio’r geiriau i ddisgrifio dyfodiad Ioan Fedyddiwr. Dyma gymeriad o’r Beibl y telir sylw arbennig iddo yn draddodiadol yn ystod yr Adfent, ac mae’n llamu i’r llwyfan ym mhennod gyntaf Efengyl Marc, yn llythrennol fel ‘llais… yn galw yn yr anialwch’. Roedd ei wisg yn frawychus a’i fwyd yn brin; ac roedd ei neges yn un hynod blaen (yn enwedig yn y testun cyfatebol ym Matthew pennod 3).

Nid neges newydd sbon oedd pregeth Ioan ynghylch ‘bedydd edifeirwch yn foddion maddeuant pechodau’ ond galwad i bobl gysegru eu hunain i ymroddiad dyfnach. Roedd angen iddynt gydnabod eu cyflwr pechadurus a’u hangen am faddeuant, ond hyd yn oed wrth iddo eu bedyddio, cyhoeddai bod un arall i ddod, ‘un cryfach na mi’ (adnod 7) a ddeuai â bedydd a fyddai’n golygu nid plymio i ddyfroedd Afon Iorddonen ond i graidd y Duwdod ei hun.

Wrth iddo gyhoeddi ei neges yng nghrinder cefn gwlad Jwdea, roedd gwaith proffwydol Ioan yn canolbwyntio ar baratoi’r bobl ar gyfer dyfodiad y Meseia. Yn rhyfeddol, gwelwyd mai’r Un a ddisgwylid oedd ei berthynas ef ei hun, Iesu o Nasareth (adnod 9). Nid yw Efengyl Marc yn adrodd hanes geni Iesu, ond mae’r disgrifiad o’i fedydd yn atseinio gwefr yr ymgnawdoliad: mae’r nefoedd yn ‘rhwygo’n agored’ ac mae’r Ysbryd yn disgyn ar y dyn ifanc hwn, y mae’r Arglwydd Hollalluog yn ‘ymhyfrydu’ ynddo (adnodau 10 – 11). Dyma’r un y bydd gogoniant tragwyddoldeb yn llosgi ynddo, ond ef hefyd fydd y bugail da a fydd yn tywys ei bobl adref.


Paratoi ein hunain ar gyfer y Brenin sy’n dod

Mae’r gorchymyn ‘Paratowch ffordd yr Arglwydd’ yn ganolog i dymor yr Adfent. Gan ei bod mor hawdd i’r paratoi ymarferol ar gyfer y Nadolig oddiweddyd paratoi’r galon a’r meddwl, mae’n werth cofio’r darlun yn Eseia Pennod 40 o’r llafurio dygn i adeiladu’r briffordd ar gyfer y Brenin sydd i ddod. Ni ymddangosodd y ffordd yn hudol ohoni ei hun ond bu raid ei hadeiladu, a hynny o dan amodau anodd hefyd.

Galwai Ioan ar bobl i ailsefydlu blaenoriaethau cysegredig, i gydnabod lle roedd eu bywydau wedi mynd ar gyfeiliorn, ac i ymostwng i’r weithred ddefodol o olchi ymaith eu camweddau. Rhaid fyddai iddynt fod yn y cyflwr iawn, mewn termau emosiynol ac ysbrydol, i groesawu Eneiniog Duw. Mae wythnosau’r Adfent yn cynnig i ni gyfle i baratoi ein hunain ar gyfer dathlu’r Nadolig, gan weddïo y byddwn yn amgyffred o’r newydd ddirgelwch a dychryn yr ymgnawdoliad. Gallwn hefyd ddefnyddio’r wythnosau hyn i gloriannu ein bywydau ac i asesu ein blaenoriaethau ninnau wrth i ni agosáu at ddiwedd y flwyddyn.

Gallwn holi’n hunain a ydym yn byw ormod yn ‘yn y lôn gyflym’ yn rhuthro o un ymrwymiad i’r llall, efallai gan fod mewn perygl o adael y ffordd yn llwyr ar adegau. Efallai ein bod yn teithio mor bell ac mor gyflym fel nad ydym byth yn ffurfio’r cysylltiadau dynol hynny y mae arnom eu hangen i gynnal perthynas, boed hynny yn ein bywydau personol neu ym maes gwaith. Efallai fod y ffordd rydym yn teithio arni angen gwaith atgyweirio sylweddol er mwyn rhwystro damwain ddifrifol rhag digwydd.

Gallwn hefyd herio’n hunain a ydym, wir, mewn rhigol gysurus, yn teithio ar hyd yr un llwybr i’r un cyfeiriad ac i’r un gyrchfan, heb fyth godi’n llygaid i weld a yw Duw yn ein gwahodd i deithio ar hyd ryw ffordd arall gydag ef. Efallai bydd bywyd yn ein gorfodi i oedi am ennyd, ymlonyddu a disgwyl am yr alwad i ddechrau eto ar ein taith. Drachefn, efallai os chwiliwn ein calonnau byddwn yn ailddarganfod hen lwybrau hanner anghofiedig a’n harweiniai unwaith at Dduw. Gall y ffyrdd hynny ein synnu wrth i ni eu dwyn i gof, ond efallai gallwn eu troedio eto i ddod â ni’n agosach at Deyrnas Dduw, gan ein paratoi i gyfarfod y Gwaredwr sy’n dod. 


Rhwng Penmachno a Dolwyddelan | Between Penmachno and Dolwyddelan

Colect

Hollalluog Dduw, a anfonaist dy unig Fab i ddangos i ni wir lwybr bywyd, caniatâ y bydd i ni yn ystod tymor yr Adfent eleni baratoi i groesawu ei ddyfodiad. Gan gydnabod ein methiannau a’n ffaeleddau personol, a chan ymgysegru o’r newydd i rannu yn nhaith ffydd, bydded i ni ailddarganfod gyda’r Eglwys ledled y byd y llwybrau sy’n arwain i’th Deyrnas Sanctaidd. Trwy Iesu Grist ein Harglwydd sy’n byw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, un Duw yn awr ac am byth. Amen.

Cwestiynau

  1. Disgrifiwch eich hoff daith – pam mae hi’n arbennig i chi?
  2. Beth tybed fyddai Ioan Fedyddiwr yn ei ddweud wrthych chi wrth eich Ardal Gweinidogaeth heddiw?
  3. Ar ba fath o lwybr ydych chi a’ch eglwys yn teithio arno ar hyn o bryd – yn y ffrwd gyflym ynteu mewn rhigol?
  4. Beth mae’n ei olygu i gadw’r Adfent yn dda?

Cymraeg

The First Week of Advent

Roads and Routes


A road less travelled

Defaid Penmachno | The sheep of Penmachno

The route looked clear on the map: a dotted green line joining the villages of Penmachno and Dolwyddelan, winding up and over a pass between two low hills. It may have been one of the many former ‘drovers’ roads that crossed the country, long-distance trails used until the mid-nineteenth century by those driving herds and flocks to livestock markets. Many of these trails were adopted as roads but others remain in use to a greater or lesser extent.

What the map showed so clearly was far from clear on the ground, however. Severely degraded by weather and, more recently, off-road trailbikes, this old road seemed to disappear into forestry-induced bog as it rose higher through the plantations. A combination of (mostly) inspired guesswork and dogged consultation of the Ordnance Survey map led eventually to a triumphant summiting of the pass between the two valleys – and a discovery of half-buried stone markers as the path wound down to the river Lledr.

Once completed, it was clear that this old way (and some ancient trackways date back thousands of years) was in fact the quickest and most logical way to cross that particular stretch of landscape. Never designated suitable for motor vehicles, it has quietly sunk into obscurity – literally in places, thanks to the blanketing conifers. Walking it again feels like a rediscovery of that bit of landscape as well as a link with those who used it regularly so many years before. No tunnels were bored nor bridges constructed in the making of that road – it was shaped by centuries of footfall.

Checking out an A to B route online, it’s interesting to compare the estimated times depending on mode of travel. The journey of around 30 miles from Pwllheli to Bangor apparently takes 46 minutes to drive, two hours and 20 minutes by public transport, three hours to cycle, and over nine and a half hours to walk. A hundred years ago and more, workers in many sectors of agriculture and industry, as well as schoolchildren, routinely walked what we would consider astonishing daily distances. Mid-Victorian newspapers regularly ran stories about the risk of ‘railway madness’ (an early version of road rage?) brought about by travelling in jolting carriages at such reckless speeds as 60mph.

One of the core themes of pilgrimage is the importance of the journey as well as the destination. Travelling on foot, day after day, pilgrims on the Camino to Santiago de Compostela speak of discovering truths about themselves and their lives through their experiences en route. Reaching the end of the route is the overall purpose of the pilgrimage but much of the meaning is found along the way. The faster the journey, arguably the less time to find the meaning – and the rhythm of a pilgrim walk can end up lost in the restlessness of a traveller, impatient for their coach or minibus to reach the next stop on the tour.

There is a danger, of course, in idealising a world that moved at walking pace. In too many parts of the globe today, people still die through lack of swift transport to hospital. Those too young or too old to manage long distances on foot end up isolated and denied all kinds of opportunities for education and flourishing; ‘local’ can mean ‘limited’. Reliable transport connections are vital for a strong and resilient economy, offering people the chance of travelling further afield for employment without having to leave their home area.


A road much travelled

Yr A55 dros Bont Britannia | The A55 over Britannia Bridge

Winding country lanes have their charms – but there’s nothing quite like crossing the Britannia Bridge and heading up to Holyhead on the most recently completed stretch of the A55. Designed to ease the passage of freight from the port to the rest of the UK, the dual carriageway is the closest North Wales comes to a motorway and is (depending on roadworks) a satisfyingly swift journey. Coming the other way, towards Bangor, the Eryri mountainscape dominates the horizon in a pleasingly dramatic way, so that even hold-ups can seem a bit more bearable.

At the same time, the A55 emphatically divides the island in a way that the old A5 did not. Thomas Telford’s engineering masterpiece, completed with the Menai Bridge in 1826, allowed mail and stagecoaches to make a fast journey to the Dublin crossing, but communities were still joined, rather than bypassed, by the route. As traffic increased, new road schemes improved the quality of life for many villages but loss of footfall for local businesses was often the result. Thanks to the A55, though, employment options beckon as far as the Wirral, although the daily commute can be gruelling. It’s possible to enjoy the relatively affordable housing of LlanfairPG, for example, and still access a range of jobs in Cheshire, depending on your sphere of work.

The internal combustion engine, plus the petroleum industry, have radically transformed life and landscape at every level. The arteries for contemporary life provided by roads such as the A55 – and the global transport network as a whole – are fundamental to the way UK society operates. Devastatingly, they also helped to facilitate the spread of Covid-19 at a pace unimaginable to previous generations.

One of the great frustrations of the spring lockdown weeks during the pandemic was the ban on non-essential journeys, which meant many people were physically cut-off from loved ones near and far. It was disconcerting, even shocking, to find easy connection severed, despite the opportunities offered by social media. Work meetings could shift online relatively easily but as a result end up more functional than friendly, lacking the conviviality of face to face encounter. Travel ceased being an everyday right and became a privilege.

Another immediate consequence of lockdown was the reduction in traffic. Confined to the home apart from one daily spell of exercise, people started emerging on foot and were obliged to start exploring what lay just beyond their door-steps. When restrictions began to ease, traffic began increasing again, but online and elsewhere, questions were raised about automatically returning to ‘the way things were’. Was this a chance to take a fresh look at the pace of life in all its ‘expressway energy’? Were there better choices to make, ones more sustainable for body and soul? Just because we could travel so far and so fast, did that mean we should?


Bible passages

A voice cries out: ‘In the wilderness prepare the way of the Lord, make straight in the desert a highway for our God. Every valley shall be lifted up, and every mountain and hill be made low; the uneven ground shall become level, and the rough places a plain. Then the glory of the Lord shall be revealed, and all people shall see it together, for the mouth of the Lord has spoken.’ A voice says, ‘Cry out!’ And I said, ‘What shall I cry?’ All people are grass, their constancy is like the flower of the field. The grass withers, the flower fades, when the breath of the Lord blows upon it; surely the people are grass. The grass withers, the flower fades; but the word of our God will stand for ever. Get you up to a high mountain, O Zion, herald of good tidings; lift up your voice with strength, O Jerusalem, herald of good tidings, lift it up, do not fear; say to the cities of Judah, ‘Here is your God!’ See, the Lord God comes with might, and his arm rules for him; his reward is with him, and his recompense before him. He will feed his flock like a shepherd; he will gather the lambs in his arms, and carry them in his bosom, and gently lead the mother sheep.

Isaiah 40:3-11

The beginning of the good news of Jesus Christ, the Son of God. As it is written in the prophet Isaiah, ‘See, I am sending my messenger ahead of you, who will prepare your way; the voice of one crying out in the wilderness: “Prepare the way of the Lord, make his paths straight” ’, John the baptizer appeared in the wilderness, proclaiming a baptism of repentance for the forgiveness of sins. And people from the whole Judean countryside and all the people of Jerusalem were going out to him, and were baptized by him in the river Jordan, confessing their sins. Now John was clothed with camel’s hair, with a leather belt around his waist, and he ate locusts and wild honey. He proclaimed, ‘The one who is more powerful than I is coming after me; I am not worthy to stoop down and untie the thong of his sandals. I have baptized you with water; but he will baptize you with the Holy Spirit.’

Mark 1:1-11

The drama of Isaiah 40:3 has inspired compositions as diverse as Handel’s Messiah and Godspell. The mysterious ‘voice’ calls for a major road-building programme to begin, making a way for God to come back to his people. Hope is held out to a nation that had lost almost everything – homes, land, temple, even their personal names changed by their Babylonian masters (as happened to Daniel and his friends). The prophet Ezekiel (chapter 10) presented a chilling vision of God’s glory departing from the temple but now the people are called to make ready for his return.

That work of preparation is arduous – it’s easy to read about ‘raising up valleys’ and ‘levelling rough ground’ and envisage a host of JCBs and cranes. Earthworks at that time meant a crowd wielding hoes and mattocks, hour after hour in the blazing sun. Perhaps it is not surprising that the next verses speak of human frailty – ‘surely the people are grass’. What is important, though, is that the ‘way’ is prepared, meaning that hearts and minds are open and receptive to the Lord’s coming.

There is a beautiful contrast between those images of hard labour and the appearance of the ‘Sovereign Lord’. Yes, he comes ‘with power’ (v. 10), ruling ‘with a mighty arm’ but this is no fiery deity, scorching all before him. The Most High God is described as a kindly shepherd (v.11), lifting in his arms and gently leading the young, the tired and the vulnerable.

Isaiah 40 is directly echoed by the gospel-writers as they seek words to describe the coming of John the Baptist. One of the Bible characters traditionally in focus during Advent, he bursts onto the scene in Mark 1, literally ‘a voice… calling in the wilderness’. His outfit was alarming; his diet spartan; his message blunt in the extreme (especially in the parallel passage in Matthew 3).

John’s preaching of a ‘baptism of repentance for the forgiveness of sins’ was not a brand new message but a call for people to pledge themselves to deeper commitment. They needed to acknowledge their sinful state and their need of forgiveness, but even as he baptised them, he spoke of one to come, ‘more powerful than I’ (v. 7) who would bring a baptism that meant plunging not into the waters of the river Jordan but into God’s very Self.

As he cried out in the dry Judean countryside, John’s prophetic work centred on making the people ready for the coming of the Messiah. Astonishingly, the long-awaited One turned out to be his own relative, Jesus of Nazareth (v.9). Mark’s Gospel does not tell the story of Jesus’ birth but the description of his baptism resonates with the shock of the incarnation: heaven is ‘torn open’ and the Spirit descends on this young man, with whom the Lord Almighty is ‘well pleased’ (vv. 10 – 11). Here is the one in whom the glory of eternity will blaze but who will also prove to be the good shepherd, bringing his people home.


Preparing ourselves for the coming King

The call to ‘prepare the way for the Lord’ is fundamental to the season of Advent. Given how easy it is for practical preparation for Christmas to overrun preparation of heart and mind, it is worth remembering Isaiah 40’s image of sustained labour to build the highway for the coming King. The road did not magically appear on its own but had to be made, and in adverse conditions too.

John’s call was for people to re-establish holy priorities, recognise where life had gone off-course, and submit to the ritual act of washing away wrongdoing. They had to be in the right place, emotionally and spiritually speaking, to receive God’s Anointed One. The weeks of Advent offer an opportunity to prepare ourselves for the celebration of Christmas, praying that we connect afresh with the mystery and awe of the incarnation. We can also use these weeks to re-examine our lives and assess our own priorities, as we approach the turn of the year.

We can ask ourselves whether we are too much ‘in the fast lane’, hurtling from one commitment to another, perhaps at risk of leaving the road altogether at times. Maybe we travel so far and so fast that we never make the human connections we need to sustain relationships, whether in the personal or work sphere of life. Maybe the road on which we travel is in serious need of repair to prevent a serious accident.

We can also challenge ourselves as to whether we are actually in a comfortable rut, travelling the same route in the same direction to the same destination, and never lifting our eyes to see whether God is beckoning us to go another way with him. It could be that life forces us to halt for a while, take a breath and wait for the call to begin our journey again. Then again, maybe if we search our hearts, we will rediscover old, half-forgotten paths that once led us to God. These ways may surprise us as we recall them, but perhaps we can use them again to bring us closer to God’s kingdom, preparing us to meet the coming Saviour.


Rhwng Penmachno a Dolwyddelan | Between Penmachno and Dolwyddelan

Collect

Almighty God, who sent your only Son to show us the true path of life. Grant that at this Advent tide we may prepare to welcome His coming. Acknowledging our individual failures and shortcomings, and pledging ourselves anew to share in the journey of faith, that with the Church throughout the world we may rediscover the paths that lead to your Holy Kingdom. Through Jesus Christ our Lord, who lives and reigns with you and the Holy Spirit, one God now and for ever. Amen.

Questions

  1. Describe your favourite journey – why is it special for you?
  2. What might John the Baptist say to you and your Ministry Area today?
  3. What sort of road are you and your church travelling at the moment – in the fast lane or in a rut?
  4. What does it mean to keep Advent well?