minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
Yr Athro Robin Grove-White yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor | Professor Robin Grove-White receiving his Honorary Fellowship at Bangor University
English

Cyflwyniad


Bu dwy agwedd erioed i fyd gweithredu amgylcheddol. Bu’n ymaflyd â gwirioneddau pwysfawr y presennol – ymyrryd i amddiffyn natur wyllt, anifeiliaid a phlanhigion, adeiladau a thirweddau hanesyddol, ein treftadaeth archaeolegol gyffredin, yr holl bethau hynny sydd dan fygythiad parhaol oddi wrth arferion a gofynion ein cymdeithas ddynamig.

Ond mae hefyd yn ymwneud â’r dyfodol. Trwy weithredu cyhoeddus pendant heddiw, gallwn gynorthwyo i lywio’r ffyrdd y bydd cymdeithas yn datblygu yn y dyfodol fel ag i leihau’r difrod a wneir, gan ddewis gwneud ein rhan ninnau mewn cyfeirio cymdeithas tuag at lwybrau newydd a mwy caredig. Dyna pam mae llawer ohonom yn uno i weithredu ar y cyd fel aelodau o gymdeithas sifil.

Rwy’n gwybod ar ôl bod yn ymwneud yn ymarferol â gwleidyddiaeth yr amgylchedd dros sawl degawd bod gweithredu’n cael ei ysgogi gan bryder a gobaith fel ei gilydd. Yn hytrach na’n bod ond sefyll o’r neilltu a gwag ofidio, mae gweithredu ymarferol yn creu ei fomentwm ei hun, gan ein maethu â’r hyder i sicrhau newid.

Ar yr un pryd, mae pawb ohonom yn aelodau o’r un gymdeithas ac felly’n cyfranogi ein hunain mewn llawer o’r union brosesau rydym yn teimlo bod angen eu newid. Mae hefyd yn wir bod gweithredu gwleidyddol yn aml yn cynnwys dicter, gorsymleiddio a chyfaddawd.

Felly sut mae cysoni croesddywediadau o’r fath? Fel Cristion, rwy’n edrych ar heriau enfawr bygythiadau amgylcheddol ein dyddiau ni – newid hinsawdd, difodiant rhywogaethau, crebachu tir comin – fel arwyddion o ‘ocheneidio’r greadigaeth’ y cyfeiria Sant Paul ato yn ei lythyr at y Rhufeiniaid. Mae’r byd, y cosmos, yn barhaus yn ‘dyfod i fod’. A chlai dynol ydym ninnau, bodau amherffaith, sydd yn cael ein galw i fod yr hyn ydym ni o ddifrif. A chan mae bodau daearol ydym, mae hynny’n awgrymu canfod ein hunain drwy ymwneud mewn ffyrdd ymarferol â’r byd o’n cwmpas. Yn yr ystyr hwnnw, mae’n ymddangos i mi, rydym wedi’n galw i gyfranogi, pa mor fach bynnag fo’r cyfraniad hwnnw, yn y gwaith o greu.

Ac mae heriau newydd yn ymddangos o hyd. Ym mhobman o’n cwmpas yma yng Ngwynedd ac Ynys Môn fe welwn wersi o’r gorffennol a negeseuon i’r dyfodol. Fel y dengys yr ysgrifau hyfryd yn y tudalennau sy’n dilyn, mae amgylchfyd pawb ohonom yn llawn o straeon sy’n darlunio’r penblethau a’r tensiynau sy’n codi o’r llwybrau datblygu mae cymdeithasau modern yn parhau i’w dilyn.

Mae addewid yr Adfent yn cynnig i ni adeg i ganolbwyntio nid yn unig ar adnewyddu ein ffydd ond hefyd ar y llu o gyfleoedd newydd sydd yna i fynegi’r ffydd honno drwy ymwneud mewn ffyrdd mwy ymarferol ag ingoedd, yn ogystal â phosibiliadau rhyfeddol, y byd a rannwn.


Robin Grove-White
Medi 2020


Mae Robin Grove-White yn Athro Emeritws yn yr Amgylchedd a Chymdeithas ym Mhrifysgol Caerhirfryn. Yn ystod ei yrfa bu’n dal swyddi arweiniol yn Greenpeace UK, Ymgyrch Diogelu Lloegr Wledig a’r Ganolfan ar gyfer Astudio Newid Amgylcheddol. Mae bellach wedi ymddeol ac yn byw yn Llanfechell, Ynys Môn.


Tair sgwrs gyda Robin Grove-White

Cymraeg

Foreword


The world of environmental action has always had two faces. It’s been about immediate present realities – intervening to protect wild nature, animals and plants, historic buildings and landscapes, our collective archaeological heritage, all continually threatened by our dynamic society’s habits and demands.

But it’s also about the future. Through decisive public action now, we can help reshape the trajectories of society’s future development so as to lessen the destructiveness, by choosing to play a role in steering society towards new and kinder paths. That’s why many of us unite in collective action as part of civil society.

I know from hands-on engagement in the politics of the environment over several decades that action is driven by both anxiety and hope. Rather than just standing by and wringing our hands, becoming actively engaged creates its own momentum, feeding us with the confidence to bring about change.

At the same time, all of us are members of one society and thus implicated in many of the very processes we feel need to be altered. What’s more, political action often involves anger, over-simplification and compromise.

So how to reconcile such contradictions? As a Christian I see the massive challenges of today’s environmental threats – climate change, species extinctions, over-consumption, depletion of the commons – as signals of ‘the groaning of creation’ referred to by St Paul in his letter to the Romans. The world, the cosmos, is in a state of becoming. And we are human clay, imperfect beings, called to become ‘who we are’ – which, because we’re grounded beings, points towards finding ourselves through real-life involvement in the world. In this sense, it seems to me, we’re called, however modestly, to be participants in creation.

And the new challenges just keep on coming. All around us here in Gwynedd and Ynys Mon are lessons from the past, and pointers for the future. As the lovely vignettes that follow in these pages show, our immediate surroundings are full of stories symbolising the dilemmas and tensions that arise from modern societies’ continuing patterns of development.

The promise of Advent offers the occasion to focus not only on renewal of our faith, but also on the many fresh opportunities for expressing it, through more active engagement with the agonies, as well as the glorious possibilities, of the world we share.


Robin Grove-White
September 2020


Robin Grove-White is Professor Emeritus of Environment and Society at Lancaster University. During his working life he played leadership roles in Greenpeace UK, the Campaign for the Protection of Rural England, and the Centre for the Study of Environmental Change. He is now retired and lives in Llanfechell, Ynys Mon.


Three conversations with Robin Grove-White