minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cynhadledd yr Esgobaeth 2021: ar Zoom

Sesiwn Zoom y Gynhadledd

2021 Diocesan Conference: on Zoom

The Conference's Zoom session

27/09/2021, 7 p.m.

English

Meddai'r Esgob:

Rhwng 7pm ac 8.30pm ddydd Llun 27 Medi 2021, rwy’n cynnull sesiwn Zoom o Gynhadledd yr Esgobaeth. Fy adborth ar sesiynau Cynhadledd yr Esgobaeth am Zoom y llynedd yw eu bod wedi darparu llwyfan ddefnyddiol a phoblogaidd ar gyfer trafod busnes ac ar gyfer gwrando gan ei gilydd. Yn y trafodaethau a ddilynodd fy Anerchiad Arlywyddol, roeddem yn gallu clywed gan lawer mwy o bobl nag a oedd yn arferol pan yr oeddem yn cyfarfod mewn neuadd fawr yn gorfforol. Ar ben hynny, roedd mwy o bobl yn bresennol nag a fu yn achos sesiynau corfforol diweddar Cynhadledd yr Esgobaeth. Felly, byddwn yn cadw’r ffwrd Zoom o Gynhadledd yr Esgobaeth eleni.

Dogfennaeth

Ychwanegir dogfennaeth ar gyfer y cyfarfod yma:

  1. Dogfennaeth ynghylch strwythur ar wedd newydd arfaethedig ar gyfer ein helusennau canolog esgobaethol
  2. Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr a Datganiadau Ariannol 2020 Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth
  3. Pecyn Cronfa Gweinidogaeth yr Esgob ar gyfer Synodau Gosod Targedau 2022

Mynychu

Defnyddiwch y ffurflen isod i gofrestru'ch presenoldeb. Bydd manylion pellach yn cael eu hanfon yn ystod mis Medi.

Mae aelodaeth ffurfiol Cynhadledd yr Esgobaeth i gynnwys tri chynrychiolydd lleyg o bob Ardal Weinidogaeth, hyd at dri gweinidog lleyg trwyddedig o bob Ardal Weinidogaeth, a phob clerig trwyddedig. Fodd bynnag, mae croeso cynnes i unrhyw aelod yng nghymundeb yr esgobaeth fynychu.


Rheolau sefydlog

  1. Agorir holl gyfarfodydd y Gynhadledd Esgobaethol gydag Addoliad.
  2. Pan fydd y Llywydd wedi cymryd meddiant o’r Gadair, ni chaniateir i unrhyw aelod barhau ar ei draed, oddieithr pan yw’n annerch y Gadair.
  3. Os cyfyd dau neu ragor o aelodau ar yr un pryd i annerch y Gadair, y Llywydd a benderfyna pa un sydd i siarad.
  4. Ni chaniateir i anerchiadau barhau am ragor na 5 munud ac eithrio eiddo’r sawl sy’n cynnig neu yn eilio cynigiad, ac ni roddir rhagor na 10 munud i’r rhain. Ni chyfrir gwelliant yn gynigiad yn y cyswllt hwn.
  5. Os cytuna’r Cyfarfod, gall y Llywydd estyn amser anerchiad.
  6. Ni chaniateir i unrhyw aelod siarad mwy nag unwaith ar yr un pwnc, oddieithr mewn eglurhad, neu ar orchymyn, ar yr amod y caniateir i gynigydd penderfyniad, nad yw’n welliant, gael yr hawl i roi atebiad.
  7. Pa bryd bynnag y saif y Llywydd ar ei draed yn ystod trafodaeth, rhaid i unrhyw aelod fydd yn siarad, neu yn cynnig siarad, eistedd ar unwaith.
  8. Yn ystod trafodaeth, os bydd 30 aelod yn sefyll yn eu lle, ac yn mynnu bod pleidlais yn cael ei chymryd, rhoir y cwestiwn gerbron y Cyfarfod gan y Llywydd, i’w benderfynu trwy godiad dwylo.
  9. Os cefnogir y cwestiwn yn y cadarnhaol gan y Cyfarfod pleidleisir yn ddi-oed ar y cwestiwn gerbron y Cyfarfod, ar yr amod bod cynigydd penderfyniad, nad yw’n welliant, yn cael cyfle i roi atebiad cyn y pleidleisir.
  10. Rhaid i bob cynigiad a gwelliant fod mewn ysgrifen, wedi ei lofnodi gan y cynigydd; os na fydd hwn wedi ei roi i’r Ysgrifenyddion cyn y cyfarfod, rhaid i’r cynigydd gyflwyno dau gopi ohono, y naill i’r Llywydd a’r llall i’r Ysgrifenyddion.
  11. Ni fydd gwelliant ar welliant yn dderbyniol, oddieithr bod y gwelliant yn cael ei dderbyn fel cynigiad sylweddol.
  12. Caniateir i unrhyw aelod gynnig y cwestiwn blaenorol, ac os bydd y cyfarfod yn caniatáu drwy bleidlais, aed ymlaen ar unwaith a’r busnes dilynol.
  13. Ni dderbynnir cynigiad i ohirio Rheolau Sefydlog oni chyfyd mwyafrif yr aelodau sy’n bresennol ar eu traed i’w gefnogi.
  14. (a) Ni raid darllen cynnig a osodwyd allan yn llawn yn yr agenda, neu yn y papurau sy’n mynd gyda’r agenda, cyn ei roi gerbron, oni fydd nail ai’r Llywydd, neu ddeg aelod yn dymuno hynny (yr aelodau i ddangos eu bwriad drwy sefyll yn eu lleoedd). (b) Rhaid darllen pob cynnig a gwelliant arall yn union cyn pleidleisio arno.
  15. Rhaid i etholiadau i lenwi penodiadau a gwneud rhestrau atodol gael eu cynnal gan ddefnyddio system bleidleisio electronig neu ddull arall o bleidleisio yn unol â threfniadau a wneir gan y Llywydd.
  16. Bydd y Llywydd yn llenwi swydd wag achlysurol mewn apwyntiad a wneir gan Gynhadledd yr Esgobaeth na ellir ei llenwi o restr atodol.
  17. Ni ddilynir y Rheolau Sefydlog hyn wrth bwyllgora.

Cymraeg

The Bishop writes:

From 7pm to 8.30pm on Monday 27 September 2021, I am convening a Zoom session of the Diocesan Conference. My reflection on last year’s Zoom Diocesan Conference sessions is that they provided a good and popular platform for transacting business and for hearing from one another. In the discussions that followed my Presidential Address, we were able to hear from far more people than was the case when we met in a large hall in person. Moreover, more people were in attendance than has been the case for recent in-person sessions of the Diocesan Conference. Therefore, we will keep this strand of our Diocesan Conference this year.

Documentation

Documentation for the meeting will be added here:

  1. Documentation regarding a proposed refreshed structure for our central diocesan charities
  2. Diocesan Board of Finance 2020 Trustees' Annual Report and Financial Statements
  3. Bishop’s Ministry Fund pack for the 2022 Target-Setting Synods

Attendance

Please use the form below to register your attendance. Further details will be circulated during September.

The formal membership of the Diocesan Conference includes three lay representatives from each Ministry Area, up to three licensed lay ministers from each Ministry Area, and all licensed clerics. However, there is a warm welcome for any communicant member of the diocese to attend. 


Standing orders

  1. All meetings of the Diocesan Conference shall open with Worship.
  2. When the President shall have taken the Chair, no Member shall continue standing up, except when addressing the Chair.
  3. When two or more Members rise simultaneously to address the Chair, the President shall decide which of them shall speak.
  4. Speeches shall not exceed 5 minutes, with the exception of those made by the mover and seconder of a resolution, and these shall not exceed 10 minutes. An amendment is not a resolution within the meaning of this order.
  5. The President may, with the leave of the Meeting, extend the time for a speech.
  6. No member shall be allowed to speak more than once on the same question, except in explanation, or to order, provided that the mover of any resolution, not being an amendment, shall be allowed the liberty of reply.
  7. Whenever the President rises during a debate, any Member speaking, or offering to speak, shall immediately sit down.
  8. If, during a debate, 30 Members rise in their places and demand that a vote be now taken, the President shall put that question to the Meeting for a decision by show of hands.
  9. If the Meeting decide such a question in the affirmative, a vote shall thereupon be taken on the question before the Meeting, provided that before such vote is taken the mover of a resolution, not being an amendment, shall be allowed the liberty of reply.
  10. All motions and amendments shall be in writing, signed by the mover; unless given to the secretaries prior to the Meeting, two copies thereof must be handed in by the mover, one to the President and the other to the Secretaries.
  11. No amendment on an amendment shall be in order unless when an amendment shall have become a substantive motion.
  12. Any Member may move the previous question, and if this is carried, the next business shall be immediately proceeded with.
  13. A motion for the suspension of the Standing Orders shall not be in order unless a majority of the members present rise in support.
  14. (a) A motion which is set out in full on the agenda-paper or its accompanying papers need not be read before being put, unless either the President or ten members (the latter signifying their intention by rising in their places) so require. (b) All other motions or amendments shall be read immediately before the vote thereon is taken.
  15. Elections to fill appointments and make supplemental lists shall be conducted using an electronic voting system or another manner of voting in accordance with arrangements made by the President.
  16. A casual vacancy in an appointment made by the Diocesan Conference that cannot be filled from a supplemental list shall be filled by the President.
  17. These Standing Orders shall not apply to proceedings in committee.

Cofrestru  Signup

Unrhyw fynychwyr eraill  Any additional attendees