minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Eglwys Cybi Sant - Cwestiynau Cyffredin

1) A allwn ni ddefnyddio Cybi Sant ar gyfer Bedyddiadau, Priodasau ac Angladdau?

Yn anffodus, nid yw Cybi Sant ar gael i'r cyhoedd ar hyn o bryd oherwydd y gwaith ar y safle. Os byddwch yn cysylltu â'r Ardal Weinidogaeth fel y byddech fel arfer, byddant yn gallu eich cyfeirio at eglwysi eraill yn yr ardal y gellir eu harchebu ar gyfer Bedyddiadau, Priodasau ac Angladdau tra bod y gwaith yn cael ei wneud. Pan fydd yr eglwys yn ailagor, bydd modd trefnu Gwasanaethau Coffa ar gyfer aelodau o'r teulu y bu'n rhaid cynnal eu hangladdau mewn mannau eraill.

2) Pam y gwnaed cais am gyllid y Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer Cybi Sant?

Un partner yn unig yw Cybi Sant yng nghais ehangach 'Caergybi: trawsnewidiad diwylliant a threftadaeth' a wnaed gan Gyngor Sir Ynys Môn gyda chefnogaeth Virginia Crosbie AS. Nod y rhaglen yw cyflawni gwelliannau mawr ar draws y dref, a gellir gweld y manylion llawn yma ar wefan Cyngor Sir Ynys Môn.

Cynlluniwyd y gwaith ar gyfer Cybi Sant yn rhan o'r prosiect "Llefa'r Cerrig | Stones Shout Out”, sydd wedi bod yn cael ei ddatblygu ers mis Chwefror 2020. Fel partner sy'n gweithio gyda'r cyngor, cawsom wahoddiad i gymryd rhan yn y cais am y Gronfa Ffyniant Bro gan fod nodau'r prosiectau yn cyd-fynd.

3) Pa ymgynghoriad cyhoeddus sydd wedi bod?

Mae cynlluniau wedi cael eu harddangos yn gyhoeddus yn eglwys Cybi Sant ers canol 2021 ac ar y wefan ers dechrau 2022. Cynhaliwyd digwyddiadau ymgynghori hefyd ar ôl cyfnodau clo COVID yng nghamau datblygu cynnar y prosiect. Yn dilyn llwyddiant y cais am Y Gronfa Ffyniant Bro, rydym wedi cymryd rhan yn y tri digwyddiad ymgynghori cyhoeddus a drefnwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn ym mis Mai ac Awst 2023 ac Ionawr 2024 ac wedi cynnal dau ddigwyddiad ymgynghori cyhoeddus ein hunain yn yr eglwys: un yn benodol ar gyfer arbenigwyr ymgynghori ym mis Mai 2023 ac un sesiwn wybodaeth gyffredinol ym mis Hydref 2023.

Yn ogystal â'r digwyddiadau wyneb yn wyneb hyn, cyfeiriwyd aelodau'r cyhoedd at holiadur ar-lein trwy gydol 2022 ac fe'u hanogir i gysylltu â thîm y prosiect trwy'r Cyfryngau Cymdeithasol neu e-bost gydag unrhyw ymholiadau sydd ganddynt ynglŷn â'r gwaith.

Luke Hughes Charterhouse Pew in situ at Bangor Cathedral
Meinciau pren o'r fath a fydd yn cael eu gosod yn Eglwys Cybi Sant, yng Nghadeirlan Deiniol Sant, Bangor

4) A yw'r eisteddleoedd yn cael eu tynnu oddi yno? Beth fydd yn digwydd iddyn nhw a beth fydd yn eu lle?

Ydyn, mae'r eisteddleoedd yn cael eu tynnu o Gorff yr Eglwys i greu gofod agored, hyblyg y gellir ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau cymunedol ac sydd hefyd yn arddangos cynllun cyn-Fictoraidd yr eglwys. Bydd rhai o'r eisteddleoedd yn cael eu hail-bwrpasu yn Ystlys y Gogledd fel man eistedd cymdeithasol a bydd y gweddill ar gael i aelodau'r gynulleidfa a'r cyhoedd ehangach eu prynu fel dodrefn neu fel cofrodd.

Mae meinciau pren newydd yn cael eu darparu ar gyfer y prif ofod addoli yn y Gangell sy'n rhai symudol y gellir eu stacio. Ar gyfer gwasanaethau mwy, mae cadeiriau ysgafn, y mae modd eu stacio, yn cael eu darparu ar gyfer Corff yr eglwys, ond dim ond pan fo angen fydd rhain yn cael eu defnyddio ac ni fyddant yn y fan honno fel arfer. Gallwch weld dodrefn tebyg ynn Nghadeirlan Bangor, a ddarparwyd hefyd fel rhan o brosiect ehangach Llefa'r Cerrig - mae'r gadeirlan ar agor rhwng 10am a 4pm bob dydd, ac os byddwch yn rhoi gwybod i aelod o dîm y prosiect eich bod yn ymweld, byddant yn hapus i ddangos y dodrefn i chi.

5) A yw'r organ yn cael ei symud? Pam? Beth fydd yn digwydd iddi?

Ydy, bydd yr organ yn cael ei symud a bydd yn cael ei hail-gartrefu mewn eglwys arall (derbyniwyd sawl mynegiant o ddiddordeb, gan gynnwys un o eglwys lle dinistriwyd yr organ yn ddiweddar mewn tân). Mae'r organ ‘Lady Elinor’ yn offeryn hardd, ond dim ond ers 1932 y mae wedi bod yn Eglwys Cybi Sant, pan gafodd ei rhoi gan eglwys arall am ei bod yn rhy fawr. Yn anffodus, mae cost cynnal a chadw'r organ y tu hwnt i fodd yr Ardal Weinidogaeth ac felly bydd offeryn symlach a modern yn ei le i'w ddefnyddio mewn gwasanaethau. Hefyd, bydd tynnu'r organ yn creu llawer mwy o le a golau yng Nghroesfa'r Gogledd ac yn caniatáu adfer ail ffenestr William Morris (sy'n cyfateb i'r un yng Nghapel Stanley) nad yw wedi bod yn weladwy ers bron i 100 mlynedd.

6) Pa gyfleusterau eraill sy'n cael eu gosod yn yr eglwys?

Yn gyffredinol, bydd gweddill yr eglwys yn cael ei adael fel y mae, gyda chyfleusterau fel cegin a thoiled yn cael eu darparu yn Eglwys y Bedd gerllaw. Bydd lle manwerthu fach, gludadwy i ganiatáu gwerthu cofroddion i dwristiaid, ond bydd gweddillion siop yr 20fed ganrif yn Eisteddle Stanley yn cael ei symud a'r eisteddle yn cael ei hadfer. Bydd stondinau presennol y Gangell yn cael eu hadleoli i Gapel Stanley i ffurfio lle ar gyfer gweddi dawel ac i wella lleoliad Cofeb Stanley. Bydd seddi mwy anffurfiol yn cael eu cyflwyno i Groesfa'r Gogledd er mwyn caniatáu lle i deuluoedd fynd yno yn ystod addoliad, gyda storfa ychwanegol hefyd yn cael ei darparu yn yr ardal hon.

Detail of excavation of floor in St Cybi's church
Manylyn o ffos archeolegol yn Eglwys Cybi Sant, yn dangos is-strwythur y llawr a chladdu rhannol.

7) Ydych chi wedi codi'r llawr? Beth ddigwyddodd i unrhyw weddillion dynol?

Cynhaliwyd rhai cloddiadau prawf yn hydref 2023 i sefydlu beth yw is-strwythur y llawr. Ar ôl cwblhau'r cloddiadau hyn, ail-osodwyd y lloriau yn union fel yr oeddent o'r blaen.

Mae'r holl weddillion dynol a ganfuwyd fel rhan o'r gwaith hwn wedi eu storio'n ofalus ac yna eu hail-gladdu ym Mynwent Sant Seiriol, Caergybi gyda phob urddas a defodau Cristnogol dyladwy. Mae'r gwaith yn cael ei wneud o dan delerau trwydded gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy'n caniatáu datgladdu ac ail-gladdu gweddillion nad ydynt yn ffurfio claddedigaethau cyflawn. Credir nad oes claddedigaethau cyflawn yn yr ardaloedd y mae'r gwaith yn effeithio arnynt.

8) Ydych chi'n gosod paneli solar a gwres o dan y llawr?

Ydyn, yn y cyfnod hwn o Argyfwng Hinsawdd rydym yn manteisio ar y cyfle hwn i leihau Ôl-troed Carbon eglwys Cybi Sant trwy osod gwres o dan y llawr sy'n cael ei bweru gan Bwmp Gwres Aer a phaneli solar. Mae gan yr Eglwys yng Nghymru ymrwymiad i gyrraedd Sero Net erbyn 2030 a bydd angen cymryd mesurau fel y rhain mewn cynifer o eglwysi â phosibl er mwyn cyrraedd y targed hwn.

Mae'r system wresogi o dan y llawr wedi cael ei chynllunio'n arbennig i ffitio o dan y teils Fictoraidd presennol, a fydd yn cael eu codi'n ofalus a'u hail-osod yn union fel yr oeddent. Bydd y paneli solar yn cael eu gosod ar y rhannau o'r to sydd wedi'u cuddio gan y rhagfuriau ac na fyddant yn weladwy o lefel y ddaear.

9) A yw'r waliau a'r rheiliau rhwng y fynwent fewnol ac allanol yn cael eu tynnu oddi yno?

Nac ydynt, nid yw hyn yn rhan o'r cynlluniau. Mae gan Gyngor Sir Ynys Môn gynlluniau i wella'r fynwent allanol a fydd yn cynnwys adfer y wal a'r rheiliau, a bydd manylion yn cael eu cyhoeddi pan fydd y cynlluniau wedi'u cwblhau.

10) Ydych chi'n gwneud unrhyw waith arall gyda'r waliau Rhufeinig?

Nac ydym, mae unrhyw waith i'r waliau Rhufeinig sy'n cael ei wneud yn rhan o gynlluniau Cyngor Sir Ynys Môn yn y fynwent allanol. Bydd estyniad Eglwys y Bedd yn achosi amlygu ychydig o'r wal Rufeinig y tu ôl i'r capel (gan y bydd lefel y ddaear yno yn cael ei gostwng) ond dim ond gwaith cadwraeth sylfaenol fydd yn cael ei wneud.

11) Ydych chi ynghlwm â’r gwaith i'r maes parcio?

Nac ydym, mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Ynys Môn.

12) Am ba hyd y bydd yr eglwys a'r fynwent yn anhygyrch?

Er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, bu'n rhaid cau'r fynwent drwy gydol y gwaith. Y gobaith yw y bydd gwaith yn yr eglwys, a mynediad ati, yn cael ei gwblhau erbyn Nadolig 2024, a'r holl waith yn cael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2025.

Cymraeg

St Cybi's - Frequently Asked Questions

1) Can we book St Cybi's for Baptisms, Weddings, and Funerals?

Unfortunately St Cybi's is not currently accessible to the public due to the works on site. If you contact the Ministry Area as you normally would, they will be able to direct you to other churches in the area that can be booked for Baptisms, Weddings and Funerals during the works. Once the church reopens, it will be possible to book Memorial Services for family members whose funerals had to held elsewhere.

2) Why was Levelling Up funding (LUF) applied for / given to St Cybi's?

St Cybi's is just one partner in the wider 'Holyhead: a culture and and heritage driven transformation' bid made by Isle of Anglesey County Council (IACC) with the support of Virginia Crosbie MP. The programme aims to deliver major improvements across the town, and full details can be found here on the IACC website.

The works to St Cybi's were designed as part of the "Llefa'r Cerrig | Stones Shout Out" project, which has been under development since February 2020. As a working partner with the council, we were invited to participate in the LUF bid as the aims of the projects were aligned.

3) What public consultation has there been?

Plans have been on public display in St Cybi's church since mid 2021 and on the website since early 2022. Consultation events were also held after the COVID lockdowns in the early development stages of the project. Following the success of the LUF bid, we have participated in the three public consultation events organised by IACC in May and August 2023 and January 2024 and have held two public consultation events of our own in the church: one specifically aimed at consultation specialists in May 2023 and one general information session in October 2023.

In addition to these in-person events, members of the public were directed to an online questionnaire throughout 2022 and are encouraged to contact the project team via Social Media or email with any queries they have regarding the works.

Luke Hughes Charterhouse Pew in use at Bangor Cathedral
A wood pew of the type to be installed in St Cybi's Church, in use at St Deiniol's Cathedral, Bangor.

4) Are the pews being removed? What is happening to them and what will be there instead?

Yes, the pews are being removed from the Nave to create an open, flexible space that can be used for community events and which also displays the pre-Victorian layout of the church. Some of the pews will be re-purposed in the North Aisle as a social seating space and the remainder will be available for members of the congregation and the wider public to buy as furniture or as a memento.

New wooden pew benches are being provided for the main worship space in the Chancel which are movable and stackable. For larger services, lightweight stacking chairs are being provided for the Nave, but these would only be deployed when required and will not generally be in the space. You can see similar furniture at Bangor Cathedral, which was also provided as part of the wider Llefa'r Cerrig project - the cathedral is open 10am - 4pm every day, and if you let a member of the project team know you are visiting, they will be happy to demonstrate the furniture to you.

5) Is the organ being removed? Why? What will happen to it?

Yes, the organ is being removed and will be re-homed in another church (multiple expressions of interest have been received, including one from a church where the organ was recently destroyed in a fire). The Lady Elinor Organ is a beautiful instrument, but has only been in St Cybi's since 1932, when it was donated from another church because it was too large. Sadly, the cost of maintaining the organ is beyond the Ministry Area's means and so it will be replaced with a simpler, modern instrument for use in services. Also, removing the organ will create much more space and light in the North Transept and allow the restoration of the second William Morris window (matching the one in the Stanley Chapel) that has not been visible for nearly 100 years.

6) What other facilities are being installed in the church?

In general, the remainder of the church will be left as it is, with facilities such as a kitchen an toilets being provided in the adjacent Eglwys y Bedd. There will be a small, portable retail station to allow the sale of souvenirs to tourists, but the remains of the 20th-century shop in the Stanley Pew will be removed and the pew restored. The current Chancel stalls will be relocated to the Stanley Chapel to form a space for quiet prayer and to enhance the setting of the Stanley Monument. More informal seating will be introduced into the North Transept to allow a space for families to retire to during worship, with additional storage also provided in this area.

Clean chancel tiles in St Cybi's Church
Detail of chancel tiles following relaying and cleaning after archaeological investigations.

7) Have you dug up the floor? What happened to any human remains?

Some trial excavations were carried out in Autumn 2023 to establish what the substructure of the floor is. Once these excavations were complete, the floors were relaid exactly as they were before.

All human remains found as part of these works have been carefully stored and then reburied in St Seiriol's Cemetery, Holyhead with all due dignity and Christian rites. The works are being carried out under the terms of a licence from the Ministry of Justice which allows for the exhumation and reburial of remains not forming intact burials. No intact burials are believed to be in the areas affected by the works.

8) Are you installing underfloor heating and solar panels?

Yes, in this time of Climate Crisis we are taking the opportunity of these works to reduce the Carbon Footprint of St Cybi's church by installing underfloor heating powered by an Air-Sourced Heat Pump and solar panels. The Church in Wales has a commitment to reach Net Zero by 2030 and it will be necessary to take measures such as these in as many churches as possible in order to reach this target.

The underfloor heating system has been specially designed to fit under the existing Victorian tiles, which will be carefully lifted and relaid exactly as they were. The solar panels will be placed on the sections of the roof that a hidden by the parapets and will not be visible from ground level.

9) Are the walls and railings between the inner and outer churchyard being removed?

No, this is not part of the plans. IACC have plans to improve the outer churchyard which will include a restoration of the wall and railings, of which details will be published once plans are complete.

10) Are you doing any other works with the Roman walls?

No, any works to the Roman walls being carried out are part of the IACC plans in the outer churchyard. The extension of Eglwys y Bedd will result in a small amount of the Roman wall behind the chapel being exposed (as the ground level there will be lowered) but only basic conservation works will be carried out.

11) Are you involved in works to the car park?

No, these works are being carried out by IACC.

12) How long will the church and churchyard be inaccessible for?

To ensure public safety, it has been necessary to close the churchyard for the duration of the works. It is hoped that works in the church, and access to it, will be complete by Christmas 2024, with all works being completed by March 2025.