minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Llwybr Cadfan yn Abaty Cymer

Prynhawn o hwyl yng nghwmni 'r beirdd Siôn Aled a Sian Northey ...

Llwybr Cadfan at Cymer Abbey

An afternoon of entertainment in the company of the poets Siôn Aled, ...

17/07/2022, 2 p.m.

English

Bydd y digwyddiad nesaf yn ein pererindod lenyddol, Llwybr Cadfan ar ddydd Sul Gorffennaf 17 am 2pm yn Abaty Cymer, Dolgellau.

Wedi llwyddiant lawnsiad y prosiect yn Eglwys Cadfan Sant, Tywyn ac yna’r gwasanaeth rhithiol o Eglwys Celynin Sant, Llangelynin dyma’r lleoliad nesaf ar ein taith. Bydd y dathliad hwn ar ddiwedd rhialtwch Sesiwn Fawr Dolgellau. Ein gobaith yw y bydd yn brynhawn bendigedig o adloniant yn un o’r lleoliadau mwyaf godidog yng Nghymru. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar adrodd hanes ffydd, dathlu'r dreftadaeth leol a nodi pwysigrwydd Abaty Cymer i hanes Cristnogol Cymru.

Mae’r Abaty yn esiampl o ddylanwad Sistersaidd ar Gymru ganoloesol. Roedd mynachod Sistersaidd yn fwy na dynion crefyddol. Roedd y Sistersiaid doeth yn ffermwyr defaid arloesol, ymysg yr entrepreneuriaid gwledig cyntaf. Roedd eu rhwydwaith o abatai’n cynnwys Cymer, sy’n eistedd yn hardd yng ngheg aber Mawddach. Cafodd ei sefydlu yn 1198, ac roedd yn un o’u haneddiadau lleiaf, wnaeth ddioddef yn fawr yn ystod y gwrthdaro rhwng Cymru a Lloegr yn y 13eg ganrif. Serch hynny, mae llawer o adfeilion wedi goroesi o’r eglwys abaty syml hon

Bydd yn brynhawn difyr yng nghwmni'r beirdd preswyl Siôn Aled a Sian Northey. Cyflwynir cefndir hanesyddol y mynachod Sistersaidd gan yr Hybarch Andrew Jones, Archddiacon Meirionydd. Bydd perfformiad cyntaf y Cwmni drama Mewn Cymeriad o ddrama ‘Cymeriad Cadfan’ gyda’r actor adnabyddus Llion Williams. Cawn gyfraniad cerddorol gan y cerddor talentog Gwilym Bowen Rhys, a gwasanaeth byr gyda chyfraniadau gan y Parchg Carwyn Siddalll. Esgob CYnorthwyol Bangor y Gwir Barchedig Mary Stallard. Y Parchedicaf Andrew John, Archesgob Cymru fydd yn rhoi'r fendith.

Os ydych yn dymuno ymuno â’r gynulleidfa yn Abaty Cymer, Dolgellau llenwch y ffurflen isod er mwyn archebu eich lle. Hoffem gael syniad ymlaen llaw'r niferoedd fydd yn mynychu. Bydd croeso cynnes i bawb.

Trefniadau eistedd a thywydd - Oherwydd mai digwyddiad awyr agored yw hwn efallai yr hoffech ddod â cadair gampio neu flanced gyda chi er mwyn cael eistedd i fwynhau’r arlwy. Pe byddai hi’n bwrw glaw mae trefniadcau wedi ei gwneud i ddefnyddio’r eglwys gyfagos ier mwyn cynnal y gweithgaredd.

Digwyddiad Cymraeg ei iaith fydd hwn, bydd cyfieithiad Saesneg o rai eitemnau wedi ei cynnwys yn y rhaglen.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu yr hoffech drefnu i grŵp o bobl fynychu cysylltwch â Elin Owen elinowen@eglwysyngnghymru.org.uk

Cymraeg

The next event on our literary pilgrimage, Llwybr Cadfan will be on Sunday July 17 at 2pm at Cymer Abbey, Dolgellau.

After the success of the project launch at Saintt Cadfan's Church, Tywyn and the virtual service from St Celynin's Church, Llangelynin this is the next location on our journey. This celebration will be at the end of the Sesiwn Fawr Dolgellau festival. We hope that it will be a wonderful afternoon of entertainment in one of the most magnificent locations in Wales. The event will focus on telling the story of faith, celebrating the local heritage and noting the importance of Cymer Abbey to the Christian history of Wales.

The Abbey is an example of cistercian influence on medieval Wales. Cistercian monks were more than religious men. The wise Cistercians were innovative sheep farmers, among the first rural entrepreneurs. Their network of abbeys included Cymer, which sits beautifully at the mouth of the Mawddach estuary. It was established in 1198, and was one of their smallest settlements, which suffered greatly during the conflict between England and Wales in the 13th century. Nevertheless, many ruins survive from this simple Abbey Church

It will be an enjoyable afternoon in the company of the resident poets Siôn Aled and Sian Northey. The historical background of the Cistercian monks will be presented by the Venerable Andrew Jones, Archdeacon of Meirionydd. The 'Mewn Cymeriad' drama company's first performance of ‘Cymeriad Cadfan’ with the well-known actor Llion Williams will bring the story to life. A musical performance from the talented musician Gwilym Bowen Rhys will be followed by a short service with contributions from the Revd Carwyn Siddalll and the Assistant Bishop of Bangor, the Right Reverend Mary Stallard. The Most Revd Andrew John, Archbishop of Wales will give the blessing.

If you wish to join the audience at Cymer Abbey, Dolgellau please fill the form below book your place. We would like an idea in advance of the numbers attending. Everyone will be warmly welcomed.

Seating and weather arrangements - As this is an outdoor event you may wish to bring a camp chair or blanket with you in order to sit and enjoy the offer. If it was raining an arrangement has been made to use the nearby church in order to carry out the activity.

This will be a Welsh-speaking event, an English translation of some items will be included in the programme.

If you have any questions or would like to arrange for a group of people to attend please contact Elin Owen elinowen@churchinwales.org.uk


Cofrestru  Signup