minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Archddiaconiaid ac Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth newydd

Mae Esgob Bangor yn falch o gyhoeddi penodiadau newydd i rolau sylweddol yn yr esgobaeth.

Eglwys Cybi Sant / St Cybi's Church

Archddiacon newydd Ynys Môn ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Cybi fydd y Parchg Ganon Andy Herrick.

Yn enedigol o Swydd Lincoln, astudiodd Andy Ddiwinyddiaeth yn Llanbedr Pont Steffan, ac yno hefyd y dechreuodd ddysgu Cymraeg. Fe’i ordeiniwyd gan Esgob Tyddewi yn 1982; bu’n gurad yn Aberystwyth; a bu’n beriglor yng nghefn gwlad ac ar arfordir Sir Aberteifi ac yn Isgantor Cadeirlan Tyddewi. Yn 1994, fe’i apwyntiwyd yn Ficer Rhydaman, tref lofaol ôl-ddiwydiannol fawr ym mhen Dyffryn Aman, cyn iddo ddychwelyd i Fywoliaeth Rheithiol Aberystwyth yn 2000, lle y bu i’w weinidogaeth ganolbwyntio ar gymuned Penparcau. Ar hyn o bryd ef yw Ficer Grŵp Eglwysi Llanbedr Pont Steffan. Mae hefyd wedi cynnal uwch rolau arweinyddiaeth o fewn Rhaglen Arwain Arrow, sef rhaglen sy’n cynnig hyfforddiant dwys i arweinwyr Cristnogol ifanc, a New Wine Cymru, ac mae wedi meithrin cysylltiadau agos gydag eglwysi yn ne Zambia.

Mae gweinidogaeth Andy wedi ei nodweddu gan angerdd am efengylu a chenhadaeth, a chan arwain addoliad creadigol ac egnïol. Mae ganddo hefyd ymrwymiad dwfn i fentora a meithrin cydweithwyr a thimau. O ddyddiau ei guradaeth, mae Andy wedi gweinidogaethu yn rhugl yn y Gymraeg.

Mae Andy yn briod â Sara, ac mae ganddynt dri o blant. Mae Naomi yn briod â Richard, mae Rachel (a fu’n byw ar Ynys Môn am chwe mlynedd) gyda Gareth, ac mae Ben yn briod â Caryl. Mae yna dri o wyrion - Gwenno, Elis, ac Ethan - ac mae pedwerydd ar ei ffordd. Mae diddordebau Andy yn amredeg o gerddoriaeth i gerdded dygn pellter hir, rygbi (bellach o’r ystlys am iddo roi’r gorau i chwarae pan yn 38), a throi coed.

Wrth son am ei benodiad fel Archddiacon Ynys Môn ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Cybi, dywedodd Andy:

Ar ôl gweinidogaethu am 36 mlynedd yn Esgobaeth Tyddewi, mae’n syndod mawr i ddarganfod y byddaf yn treulio fy mlynyddoedd olaf yn Esgobaeth Bangor. Rydw i ar bigau drain, ac yn edrych mlaen am gyfle i weithio gyda phobl lleyg a chlerigwyr ledled Ynys Môn. Rwy’n gobeithio, drwy weithio’n ddiwyd ar y cyd, y cawn weld twf a bywyd newydd yn ein mysg wrth inni addoli, gwasanaethu a datgan y Newyddion Da yn fywiog a chreadigol. Mae Sara a minnau’n disgwyl yn arw am ymgartrefu ar Ynys Cybi a dechrau ar bennod newydd yn ein bywyd a’n gweinidogaeth.
Eglwys y Drindod Sanctaidd / Holy Trinity Church

Archddiacon newydd Bangor fydd y Parchg Mary Stallard.

Bu i Mary, a fydd hefyd yn Ficer ac y Cyd yn Ardal Weinidogaeth Llandudno, astudio Diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt, gan hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig yng Ngholeg y Frenhines, Birmingham a Choleg Diwinyddol Tamil Nadu yn India. Treuliodd ei churadaeth yng Nghasnewydd, cyn symud i Esgobaeth Tyddewi fel diacon-mewn-gofal a ficer Ysbyty Cynfyn, Eglwys Newydd a Llantrisant. Yn 2003, daeth Mary yn Ganon Trigiannol Eglwys Gadeiriol Llanelwy a Chaplan yr Esgob; bu hefyd yn Gyfarwyddwr Ymgeiwyr yr Esgobaeth a Chadeirydd Bwrdd Gweinidogaeth yr Esgobaeth, ac yn Ysgrifennydd y Bwrdd Dirnadaet Taleithiol. Ar hyn o bryd mae’n Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Addysg Grefyddol a Ffydd Silyn Sant yn Wrecsam ac yn Gaplan Anglicanaidd Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff, yn ogystal â bod yn Offeiriad ar y Cyd yn Ardal Genhadaeth Wrecsam. Mae hi hefyd yn aelod o’r Tîm Cyfryngu Taleithiol.

Mae addysg a galwedigaeth ym mysg blaenoriaethau elfennol Mary, ac mae’n hoff o weithio gyda phobl ifanc a chyda’r rhai sy’n mwynhau cyfathrebu syniadau sy’n ymwneud â ffydd a diwinyddiaeth. Mae ganddi hefyd brofiad dwfn o helpu eraill i adnabod a chydnabod eu doniau, a chefnogi’r rhai hynny sy’n arddel arweinyddiaeth. O ddyddiau ei gweinidogaeth yn Nhyddewi, mae Mary wedi bod yn dysgu Cymraeg, ac mae’n edrych ymlaen at fwy o gyfleoedd i weinidogaethu yn ddwyieithog ym Mangor.

Yn rhinwedd ei gweinidogaeth ddarlledu sylweddol mae Mary wedi ymddangos ar BBC Radio Cymru fel arweinydd Yr Oedfa a chyfrannwr ar Bwrw Golwg, ar BBC Radio Wales ar raglenni All Things Considered, Celebration, Wednesday Word a Weekend Word, ac ar Radio 4 fel arweinydd The Daily Service a Sunday Worship ac fel awdur a chyflwynydd Prayer for the Day.

I ymlacio, mae Mary’n mwynhau pobi a choginio, darllen, rhedeg, croes-ffitio, treulio amser gyda ffrindiau a mynychu’r theatr.

Wrth son am ei phenodiad fel Archddiacon Bangor, dywedodd Mary: 

Bu’n anrhydedd cael gweithio dros y blynyddoedd diwethaf gydag addysgwyr a phobl ifanc yn eu harddegau mewn amgylchedd ddysgu unigryw, a gallu datblygu fy ngwaith gyda’r BBC o ymddiddan am faterion ffydd gerbron cynulleidfa eang. Yn ystod y cyfnod hwn o newid yn ein Heglwys, rydw i’n frwyfrydig yn awr am fod yn rhan o’r gwaith yn Esgobaeth Bangor sy’n brysur ailddehongli ac ail-fywiocáu tystiolaeth yr Eglwys er budd cymuned ffydd ac er budd ein cenhadaeth ehangach o fewn ein cymdeithas.

Mae gofalu am y rhai sy’n gweinidogaethu ac yn arwain o fewn yr Eglwys wedi bod yn rhan bwysig o’m gweinidogaeth, ac yr wyf yn disgwyl yn arw am y cyfle i gynnig cefnogaeth gref a herio gofalus er mwyn meithrin gweinidogaeth gwydn a deniadol yn Archddiaconiaeth Bangor.

Eglwys Tudno Sant / St Tudno's Church

Arweinydd Ardal Weinidogaeth newydd Llandudno fydd y Parchg Andrew Sully.

Ganed Andrew yn yr Almaen a’i fagu yng Nghasnewydd. Astudiodd Hanes a Diwinyddiaeth yn Southampton, gan dderbyn ei hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig yng Ngholeg y Frenhines, Birmingham. Testun ei draethawd ymchwil M.Phil. oedd barddoniaeth R.S. Thomas. Yn dilyn curadaeth yng Nghasnewydd, daeth Andrew yn beriglor Plwyf Llanafan y Trawscoed gyda Llanfihangel y Creuddyn gydag Ysbyty Ystwyth a Gwnnws yn Esgobaeth Tyddewi, lle bu hefyd yn Swyddog Ecwmenaidd yr Esgobaeth. Yn 2002, daeth Andrew yn Ficer Bywoliaeth Rheithiol Llanelwy, gan wasanaethu hefyd am gyfnod fel Swyddog Maes Gogledd Cymru Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, ac fel aelod o dîm Adnewyddu a Datblygu Plwyfol yr Esgobaeth. Ers 2006, mae Andrew wedi bod yn Ficer Llangollen, Trefor a Llantysilio, rôl y mae wedi’i gyfuno â gwasanaeth i’r Grŵp Amgylcheddol Taleithiol CHASE, y ddolen esgobaethol ag Esgobaeth De Orllewin Tanganyika, a chaplaniaeth yn Ysbyty Bwth Llangollen ac Ysbyty Maelor.

Mae gweinidogaeth Andrew wedi ei nodweddu gan ymrwymiad dwfn a pharhaus i’r adnewyddiad litwrgaidd ac ysbrydol a arloeswyd gan Gymuned Taizé a’r mudiad eciwmenaidd, ac yn fwy diweddar gan waith i fywiocáu ysbrydolrwydd oedolion drwy gyfrwng llenyddiaeth, ysgrifau diwinyddol a ffilm. Mae Andrew, sy’n ddysgwr Cymraeg, bellach yn medru’r Gymraeg yn rhugl.

Yn mysg diddordebau eang Andrew y mae beicio, nofio, ffilm a’r theatr, gŵyl Greenbelt, barddoniaeth, cwrw go iawn, yr Enneagram, ysbrydolrwydd dynion, garddio, Pilates, canu, myfyrio, Gwledydd Llychlyn a phererindota.

Wrth son am ei benodiad fel Arweinydd Ardal Weinidogaeth Llandudno, dywedodd Andrew: 

Rwyf wedi treulio degawd a mwy yn gweinidogaethu ym mysg twristiaid ac ymwelwyr yn Llangollen, tref lle mae Cymru’n croesawu’r byd. Mae gan Llandudno fwy fyth o ymwelwyr fel prif dref glan môr Gogledd Cymru ac felly mae’r cyfle i groesawu ac ymgysylltu â nifer fawr o bobl newydd yn rhoi cyfle enfawr i’r Eglwys gyflwyno Cristnogaeth i bobl mewn ffordd fywiog a ffres.

Rydw i wedi bod yn ffodus i gael gweithio gyda cherddorion a chorau rhagorol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rwyf felly’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o’r traddodiad cerddorol cain yn Eglwys y Drindod Sanctaidd. Mae cerddoriaeth dda yn rhoi i addoliad ei wead a’i ddyfnder.

Mae’r cyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau gyda’r ysgolion lleol a’r mudiadau ieuentcid, i fod yn rhan o weinidogaeth yr Ysgol Sul, ac i rannu yn ngofal bugeiliol pawb yn yr eglwys a thu hwnt yn fy nghyffroi’n arw.

Priododd Mary Stallard ac Andrew Sully ei gilydd yn Eglwys Plwyf Basaleg yn 1990, ac mae ganddynt ddwy ferch, Joanna a Carys. Mae’r teulu cyfan wrth ei bodd am symud i Esgobaeth Bangor.

Esgob Bangor / The Bishop of Bangor

Dywedodd Esgob Andy, a fu’n cadeirio’r panel penodi eang a gyfarfu â’r rhai fu’n dirnad galwad i’r rolau hyn:

Roedd yn fraint gweithio gyda chynrychiolwyr o’r ddwy Ardal Weinidogaeth a’r ddwy archddiaconiaeth newydd i ganfod y penodiadau cywir ar gyfer y rolau pwysig hyn. Rwyf wrth fy modd, ar ddiwedd ein gwaith gofalus a gweddïgar, o allu croesawu Andy, Mary, Andrew a’u teuluoedd i Esgobaeth Bangor. Rwy’n gwybod y bydd Andy ac Andrew yn darparu arweinyddiaeth fywiog ac egnïol ym Mro Cybi a Llandudno, ac y bydd Andy a Mary yn archddiaconiaid doeth, gofalgar a heriol yn ein harchddiaconiaethau newydd. Cofiwch yn eich gweddïau bawb sydd nawr yn wynebu cyfnod o newid rhyfeddol a chyffrous.

Bydd rhagor o wybodaeth am wasanaethau croesawu’r Archddiaconiaid a’r Arweinwyr Ardaloedd Gweinidogaeth, sy’n debygol o ddigwydd yn hwyr yn y gwanwyn a dechrau’r haf, ar gael maes o law.


Ceir PDF o'r cyhoeddiad hwn yma.

Cymraeg

New Archdeacons and Ministry Area Leaders

The Bishop of Bangor is pleased to announce new appointments to significant roles within the diocese.

Andy Herrick

The new Archdeacon of Anglesey & Ministry Area Leader of Bro Cybi will be the Revd Canon Andy Herrick.

Born and raised in Lincolnshire, Andy studied Theology at Lampeter, where he also began to learn Welsh. He was ordained by the Bishop of St Davids in 1982, and served his curacy in Aberystwyth, followed by incumbencies in rural and coastal Cardiganshire and a time as Succentor of St Davids Cathedral. In 1994, Andy became Vicar of Ammanford, a large post-industrial mining town at the the end of the Amman Valley, before returning to the Rectorial Benefice of Aberystwyth in 2000, where much of his ministry focused on the community of Penparcau. Latterly Andy has served as Vicar of the Lampeter Group of Churches. He has also held senior leadership roles within the Arrow Leadership Programme, a programme for the intensive training of young Christian leaders, and New Wine Cymru, and has nurtured close ties with churches in southern Zambia.

Andy’s ministry has been marked by a passion for evangelism and mission, and for energising and creative worship. He also has a deep commitment to mentoring and nurturing colleagues and teams. From the time of his curacy in Aberystwyth onwards, Andy has ministered fluently in Welsh.

Andy is married to Sara, and they have three children. Naomi is married to Richard, Rachel (who lived on Anglesey for six years) is with Gareth, and Ben is married to Caryl. There are three grand-children – Gwenno, Elis, and Ethan – and a fourth is on the way. Andy’s interests range from music to long distance endurance walking, rugby (of which he’s now spectator, having given up playing at 38), and wood turning.

Speaking of his appointment as Archdeacon of Anglesey and Ministry Area Leader of Bro Cybi, Andy said: 

Having done 36 years of ministry in the Diocese of St Davids, it’s a big surprise to find that I’m going to be doing my final years in the Diocese of Bangor. Although I feel daunted, I’m also excited about working with the lay people and clergy across Anglesey. I hope that together we will see growth and life as we look to worship, serve and tell the Good News in lively and creative ways. Sara and I are looking forward to making our home on Holy Island and beginning a new chapter in our life and ministry.
Mary Stallard a / and Andrew Sully

The new Archdeacon of Bangor will be the Revd Mary Stallard.

Mary, who will also serve as Associate Vicar of the Ministry Area of Llandudno, read Theology at Cambridge and training for ordained ministry at the Queen’s College, Birmingham and Tamil Nadu Theological Seminary in India. She served her curacy in Newport, before moving to the Diocese of St Davids as deacon-in-charge and vicar of Ysbyty Cynfyn, Eglwys Newydd and Llantrisant. In 2003, Mary became Canon Residentiary at St Asaph Cathedral and Bishop’s Chaplain, serving also as Diocesan Director of Ordinands and Chair of the Diocesan Board of Ministry, and as Provincial Selection Secretary. She is currently Co-director of The St Giles’ Centre for Religious Education & Faith Development in Wrexham and Anglican Chaplain at St Joseph’s Catholic & Anglican High School, as well as being an Associate Priest in the Wrexham Mission Area. She also serves as a member of the Provincial Mediation Team.

Mary is passionate about education and vocation and loves working with young people and with those who enjoy communicating ideas relating to faith and theology. Her ministry has also brought her substantial experience of helping others to know and recognise their gifts, and of supporting those in leadership roles. From the days of her ministry in St Davids, Mary has been learning Welsh, and is looking forward to more opportunities to minister bilingually in Bangor.

Mary’s substantial broadcasting ministry has seen her appear on BBC Radio Cymru as a leader of Yr Oedfa and contributor to Bwrw Golwg, on BBC Radio Wales’s All Things Considered, Celebration, Wednesday Word and Weekend Word, and on Radio 4 as a leader of The Daily Service and Sunday Worship and as the author and presenter of Prayer for the Day.

To relax, Mary enjoys baking and cooking, reading, running, cross-fit, spending time with friends and going to the theatre.

Speaking of her appointment as Archdeacon of Bangor, Mary said: 

I feel hugely privileged to have been able to work over recent years with teenagers and educators in a unique learning environment, and to have been able to focus through my work with the BBC on communicating matters of faith to all kinds of people. At this time of change in our Church I am now excited about being part of the Diocese of Bangor’s work to re-imagine and re-invigorate the witness of the Church for the benefit of the community of faith and to enable more effective outreach and mission.

Care of those who are in ministry and leadership has always been a part of my ministry, and I am looking forward to the opportunity to offer both strong support and careful challenge to enable our ministry in the Archdeaconry of Bangor to be resilient and attractive.

Tudno Sant / St Tudno

The new Ministry Area Leader of Llandudno will be the Revd Andrew Sully.

Born in Germany and brought up in Newport, Andrew studied History and Theology at Southampton and trained for ordained ministry at the Queen’s College, Birmingham. His M.Phil. thesis focused on the poetry of R.S. Thomas. Following a curacy in Newport, Andrew became incumbent of the Parish of Llanafan y Trawscoed with Llanfihangel y Creuddyn with Ysbyty Ystwyth and Gwnnws in the Diocese of St Davids, where he also served as Diocesan Ecumenical Officer. In 2002, Andrew became Vicar of the Rectorial Benefice of St Asaph, also serving for a time as the North Wales Field Officer of Cytûn: Churches Together in Wales, and as a member of the Diocesan Parish Renewal & Development team. Since 2006, Andrew has been Vicar of Llangollen, Trevor & Llantysilio, a role he has combined with service to the Provincial Environment Group CHASE, the diocesan link with the Diocese of South West Tanganyika, and chaplaincy ministry at Llangollen Cottage Hospital and Ysbyty Maelor.

Andrew’s ministry has been marked by a deep and long-standing commitment to the liturgical and spiritual renewal pioneered by the Taizé Community and the ecumenical movement, and more recently by work to reimagine adult spirituality through the work of modern writers, spiritual teachers and film-makers. Andrew, a Welsh-language learner, is now a fluent Welsh speaker.

Andrew’s broad interests and pastimes include cycling, swimming, film and theatre, the Greenbelt festival, poetry, real ale, the Enneagram, men’s spirituality, gardening, Pilates, singing, meditation, Scandinavia and pilgrimage.

Speaking of his appointment as Ministry Area Leader of Llandudno, Andrew said: 

I’ve spent a decade and more ministering to tourists and visitors to Llangollen, a town where Wales welcomes the world. Llandudno has even more visitors as North Wales’s premier seaside town, and so the opportunity of welcoming and connecting with a large number of new people gives the Church a huge opportunity of presenting Christianity to people in a vibrant and fresh way.

Having been fortunate to have worked with some outstanding musicians and choirs in recent years, I’m particularly looking forward to being part of the fine musical tradition at Holy Trinity Church. Good music gives worship its texture and depth.

The opportunities to develop links with the local schools and uniformed organisations, to be part of the ministry of the Sunday School, and to share in the pastoral care of all within the church and without are all things that make me excited by what lies ahead.

Mary Stallard and Andrew Sully married one another at Bassaleg Parish Church in 1990, and have two daughters, Joanna and Carys. The whole family is delighted at the prospect of moving to the Diocese of Bangor.

Esgob Bangor / The Bishop of Bangor

Bishop Andy, who chaired the broad-based appointment panel that met with those exploring a call to these roles, said:

It was a privilege to work with representatives from the two Ministry Areas and both of the new archdeaconries to discern the right appointments for these important roles. I am delighted that, at the end of our careful and prayerful work, we are able to welcome Andy, Mary, Andrew and their families to the Diocese of Bangor. I know that Andy and Andrew will provide vibrant and energising leadership in Bro Cybi and Llandudno, and that Andy and Mary will be wise, caring and challenging archdeacons within our newly-created archdeaconries. Please hold all for whom this will be a time of daunting and exciting change in your prayers.

Further information about services of welcome for the new Archdeacons and Ministry Area Leaders, likely to take place in the late spring and early summer, will be made available over coming weeks.


A PDF of this announcement is available here.