minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Ficer a churad newydd ar gyfer Bro Cwyfan

Mae Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andy John – yn falch o gyhoeddi penodiad y Parchedig Ganon Philip Barratt fel Ficer newydd ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Cwyfan ar Ynys Môn.


Mae Bro Cwyfan yn gwasanaethu cymunedau Rhosneigr, Llanfaelog, Y Fali, Bodedern, Gwalchmai, Bryngwran a Llantrisant yn ne-orllewin Ynys Môn.

Mae’r Canon Philip ar hyn o bryd yn Ganon Trigiannol Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor ac Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol a bu’n gwasanaethu cyn hynny yn Esgobaeth Manceinion, fel periglor ac fel Is-ddeon Eglwys Gadeiriol Manceinion. Er bod ei wreiddiau ym Manceinion, mae gan Canon Philip gysylltiadau teuluol cryf â Gogledd Cymru, a dechreuodd ddysgu’r Gymraeg tra roedd ym Manceinion!

Bydd y Canon Philip yn cael cwmni y Parch Llewelyn Moules-Jones ym Mro Cwyfan; mae yntau ar hyn o bryd yn gurad yng Nghadeirlan Bangor ac yn Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol. Bu’r Canon Philip yn goruchwylio gweinidogaeth Llew fel curad a bydd yn parhau i wneud hynny ym Mro Cwyfan.

Wrth edrych ymlaen at ei weinidogaeth newydd, dywedodd y Canon Philip,

‘Dwi’n ddiolchgar i’r Deon Kathy am y cyfle i weinidogaethu yng Nghadeirlan Bangor ac ym Mro Deiniol ochr yn ochr â’m cyd-glerigwyr a’r tîm gweinidogaethu. Ond bellach, dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at ddod i fyw yn Y Fali ac arwain cenhadaeth a gweinidogaeth yr eglwys ym Mro Cwyfan. Mae hi’n ardal sydd ag amrywiaeth o ran cymunedau a chyfleoedd a’m gweddi i ydy ar i Dduw eu defnyddio i’n galluogi i ledaenu neges yr Efengyl.’

Mae’r Canon Philip yn aelod o Urdd Anglicanaidd y Sistersiaid, cymuned fynachaidd arloesol, yn ogystal â bod yn gerddor hyfforddedig. Mae’n briod ag Irene, a ymddeolodd yn ddiweddar fel prifathrawes ysgol gynradd. Mae ganddyn nhw ferch, Sarah, sy’n gweithio ym maes cadwraeth anifeiliaid yn Ne Affrica.

Hefyd yn edrych ymlaen at weinidogaethu ym Mro Cwyfan, meddai’r Parch Llewelyn Moules-Jones,

‘Fe fydd hi’n chwith arna i’n gadael Bro Deiniol a’r Gadeirlan, ond yn falch o’r cyfle i barhau fy hyfforddiant o dan lygad craff y Canon Philip. Dysgais lawer ganddo ers imi gael f’ordeinio gyntaf dros flwyddyn yn ôl ac fe fydd hi’n dda cael y cyfle i barhau i ddysgu yn ei ymyl, a hynny mewn cyd-destun gwahanol.’

Hogyn o Fôn ydy Llew, o dras hyd cynffon buwch o amaethwyr ar yr ynys, lle mae’n dal i fyw. Bu’n dysgu Amaethyddiaeth a Chymraeg mewn addysg uwch am sawl blwyddyn, cyn sylweddoli nad oedd modd iddo ymwrthod â’r alwad i wasanaethu Duw.

Yn ôl y Tra Pharchedig Kathy Jones - Deon Bangor ac Arweinydd Ardal Bro Deiniol,

‘Dwi’n falch tu hwnt dros Fro Cwynfan, a fydd yn croesawu offeiriad plwyf profiadol ym mherson Philip, sydd â chalon dros y Gymraeg, ac yn Llew, fe fydd ganddyn nhw rywun sydd â diddordeb brwd dros weinidogaethu i blant a phobl ifanc. Mae hi wedi bod yn bleser cael cydweithio â nhw ac yn dymuno pob bendith iddyn nhw yn y cyfnod newydd hwn o’u gweinidogaeth.

Meddai Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John,

‘Mae hwn yn amser gwirioneddol gyffrous i Fro Cwyfan. Mae’r Canon Philip yn offeiriad profiadol iawn, sydd â gweddi a chenhadaeth yr eglwys yn ganolog i bopeth mae’n ei wneud. Yn ogystal â pharhau ei hyfforddiant fel curad, dwi’n siŵr y bydd gweinidogaeth Llew yn cydweddu’n dda ag un y Canon Philip ac y daw’r ddau yn aelodau anhepgor o dîm gweinidogaeth Bro Cwyfan, gan gynnig arweinyddiaeth a chefnogaeth gref, wrth i’r ardal weinidogaeth edrych i dyfu.

Gweddïwch dros y Canon Philip, Llew, a’u teuluoedd, ynghyd â phobl a chymunedau Bro Cwyfan, Bro Deiniol a’n Heglwys Gadeiriol ym Mangor.’



Bydd gwasanaeth arbennig i ddathlu gweinidogaeth newydd y Canon Philip ym Mro Cwyfan, ar nos Lun, Medi 24. Cynhelir gwasanaeth arbennig i ddathlu gweinidogaeth newydd Llew ym Mro Cwyfan yn ystod y hyfref. Mae croeso i bawb ddod i’r ddau wasanaeth.

Cymraeg

New vicar and curate for Bro Cwyfan

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - is pleased to announce the appointment of the Reverend Canon Philip Barratt (above left) as the new Vicar and Ministry Area Leader of the Bro Cwyfan Ministry Area on Anglesey.


Bro Cwyfan serves the communities of Rhosneigr, Llanfaelog, Valley, Bodedern, Gwalchmai, Bryngwran and Llantrisant in the south-west of Anglesey.

Canon Philip is currently the Residentiary Canon of St. Deiniol’s Cathedral in Bangor and the Bro Deiniol Ministry Area and previously served in the Diocese of Manchester, as an incumbent and as Sub-Dean of Manchester Cathedral. Despite his Manchester roots, Canon Philip has deep famiy connections to North Wales, and began learning Welsh whilst in Manchester!

Canon Philip will be joined in Bro Cwyfan by the Reverend Llewelyn Moules-Jones (above right), who is currently a curate at Bangor Cathedral and in the Bro Deiniol Ministry Area. Llew’s ministry as a curate he has been overseen by Canon Philip and this will continue in Bro Cwyfan

Looking forward to his new ministry, Canon Philip said,

‘I am grateful to Dean Kathy for the opportunity to minister at Bangor Cathedral and in Bro Deiniol alongside my clergy colleagues and the ministry team. But now I am really looking forward to coming to live in Valley and leading the mission and ministry of the church in Bro Cwyfan. It is an area which has a variety of communities and opportunities, which I pray that God will enable us to use to spread the message of the Gospel.’

Canon Philip is a member of the Anglican Order of Cistercians, a pioneering monastic community, as well as being a trained musician. He is married to Irene, who recently retired as a primary school headteacher. They have a daughter, Sarah, who works in animal conservation in South Africa.

Also looking forward to ministry in Bro Cwyfan, the Reverend Llewelyn Moules-Jones said,

‘I am sorry to be leaving Bro Deiniol and the Cathedral, but I am pleased that I have the opportunity to continue my training under Canon Philip’s watchful eye. I have learnt much from him since I was first ordained just over a year ago and it will be good to have the opportunity to continue learning alongside him in a different context.’

Llew is from Anglesey, and a long pedigree of farmers on the island, where he still lives. He had taught Agriculture and Welsh in higher education for many years, before realising that he could no longer resist the calling to serve God.

The Very Reverend Kathy Jones - Dean of Bangor and Ministry Area Leader in Bro Deiniol - said,

‘I am delighted for Bro Cwyfan, who in Philip will welcome an experienced parish priest, who has a passion for the Welsh language and in Llew have someone who has a keen interest in ministry to children and young people. I have very much enjoyed working alongside them both and wish them every blessing in this new phase of their ministry.

The Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - said,

‘This is truly a very exciting time for Bro Cwyfan. Canon Philip is a very experienced priest with prayer and the mission of the church at the heart of all he does. As well as continuing his training as a curate, I’m sure that Llew’s ministry will compliment that of Canon Philip and that they will both be invaluable members of the ministry team in Bro Cwyfan, offering it strong leadership and support, as the ministry area looks to grow.

Please do pray for Canon Philip, Llew, their families and the people and ministries of Bro Cwyfan, Bro Deiniol and our Cathedral Church in Bangor.’



A special service to celebrate Canon Philip’s new ministry in Bro Cwyfan will be held on Monday 24 September. A special service to celebrate Llew’s new ministry in Bro Cwyfan will be held during the autumn. All will be welcome to attend both services.