minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Trwyddedu ac Ordeinio 2021: Fiona Covington-Mann

Dros Ŵyl Bedr eleni yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor, cafodd 14 o bobl ymroddedig, dawnus eu hordeinio neu eu trwyddedu i weinidogaethu.

Fe’u gelwir i “adeiladu corff Crist fel y cyrhaeddwn oll hyd at yr undod a berthyn i’r ffydd ac i adnabyddiaeth o Fab Duw” (Effesiaid 4).

Dyna’u tasg ar y cyd – ond mae gan bob un hefyd eu straeon personol eu hunain am alwad Duw ar eu bywydau.

Yma, cawn sgwrs â Fiona am ei galwedigaeth fel Gweinidog Bugeiliol.


Dywedwch ychydig wrtha’i amdanoch eich hun.

Allen nhw ddim fod wedi chwalu’r patrwm ddwywaith, allen nhw? Mae’n debyg mod i’n eitha’ cymdeithasgar ac allblyg. Dw i wrth fy modd yn clybio. Dwi’n gwirioni’n llwyr ar glybio. Gorau oll po ucha’ ydi’r sain. Y curiad trwm, y ffenestri’n ratlo, y goleuadau – gwych.

Dwi bob amser wedi bod â ffydd ac am ei rhoi ar waith. Dwi’n berson ymarferol. Mae Iago’n sôn am ffydd fel rhywbeth ymarferol – Iago 2:17. "Mae ffydd ar ei phen ei hun, os nad oes ganddi weithredoedd, yn farw."

Pa un ydi’ch hoff fisgeden?

Dwi’n hoffi unrhyw fath o fisgeden. ’Mlaen â’r pwysau ’na!

Sut ddaethoch chi’n rhan o’r Bugeiliaid Stryd?

Pan oeddwn yn Northampton, ymddangosodd arwydd/poster am y Bugeiliaid Stryd ac rôn i’n meddwl, pe bawn i yn fy arddegau rŵan mi fyddwn i yng nghanol hynny. Mae gen i fab sy’n mwynhau’r tafarndai a’r clybiau ac felly mi wnes i ddod yn rhan o’r peth felly. Dim ond i wneud yn siŵr bod pobl yn ddiogel, yn y bôn, o fewn economi’r nos. Eu bod nhw’n cael amser da. Dyna oedd ar flaen fy meddwl. Roeddwn i’n teimlo mai fan’no, wir, oedd fy lle, dyna lle roeddwn i’n teimlo ’mod i’n cael fy ngalw.

O hynny awgrymwyd ’mod i’n hyfforddi fel Bugail Ymatebol. Y rheini sy’n cael eu galw i gynorthwyo pobol mae trychinebau cenedlaethol wedi effeithio arnyn nhw. Mi ges i’r cyfle i weld pobl ar yr adegau gorau a’r adegau gwaethaf ac ar yr adegau yn y canol. Y rhai sydd ar y cyrion, y digartref a’r rhai caeth i gyffuriau. Mi es i i Fanceinion ac i Grenfell. Dwi wedi canu Shine Jesus Shine allan ar strydoedd Northampton gyda thua hanner cant o hogiau a genod oedd yn hollol off eu pennau! Dwi ar y ffin. Dwi’n delio â’r bobol ar y cyrion.

Ffaith fach wrth fynd heibio i chi ydi bod Bugeiliaid Stryd yn aml yn cael eu galw’n ‘Flip Flop Fairies’.

Beth ydi o ynglŷn â’r bobol ar y cyrion sy’n eich denu i weithio efo nhw a beth ydi’r weledigaeth sy’n eich ysgogi?

Dach chi wedi gweld y strapiau arddwn yna efo WWJD (What Would Jesus Do)? Dwi bob amser yn meddwl wrtha’ i’n hun WWJB – Where Would Jesus Be? Mi fyddai o yn yr eglwysi, byddai, ond mi fyddai o lle mae’r bobol, gan gynnwys y bobol ar y cyrion, sef yn y tafarnau a’r clybiau. Dyna fyddai o’n ei wneud rŵan.

Dwi am iddyn nhw wybod bod rhywun yn eu caru.

A oeddech chi’n ymwneud â’r Eglwys cyn dod yn Fugail Stryd?

Mae fy nheulu wedi bod yn Gristnogion selog erioed. Rydyn ni bob amser wedi bod â’r mewnbwn hwnnw. Dwi’n chwarae’r organ yn yr eglwys. Doedd y dewis i beidio cymryd rhan ddim yno. Mae fy ngwreiddiau’n Eingl-Gatholig uchel iawn. Dwi wrth fy modd efo’r clychau a’r ar thus a’r holl regalia sy’n mynd efo’r peth. Mae canu’n bwysig iawn, a chanu’r Offeren. Roeddwn i’n arfer ei chanu mewn Lladin a Groeg. Mae canu fel gweddïo ddwywaith.

Mae llawer o bobol yn meddwl bod ffydd a Christnogaeth yn bethau difrifol. Iawn, oes, mae yna ochor ddifrifol. Ond mae’n rhaid bod yna hwyl hefyd! Dach chi wedi gweld y llun ‘Laughing Jesus’ (Willis Wheatley)? Dwi’n meddwl bod o’n hollol wych.

Sut ddigwyddodd y trwyddedu a beth mae’n ei olygu i chi?

Bai Dominic ydi o. Mi ddywedodd o fod angen cydnabod fy ngwaith fel Bugail Stryd a Bugail Ymatebol ac felly byddwn i’n cael fy nhrwyddedu fel Gweinidog Bugeiliol. Ond, mae fy ngwaith yn mynd i fod yn wahanol iawn i bawb arall a ddim ynghlwm â safle eglwys o gwbwl. Dwi’n mynd i fod yn mynd o gwmpas y tafarndai ac i mewn i’r clybiau nos. Dwi’n gweithio’n bennaf yn y Drenewydd ond gallwch fod yn Fugail Stryd yn unrhyw le. Mae hyn yn gydnabyddiaeth go iawn o’r hyn dwi wedi bod yn ei wneud.

Beth mae eich ffydd yn ei olygu i chi?

Mae’r Cymun Bendigaid yn ganolog i’m ffydd, bod Iesu wedi marw ac atgyfodi, gan faddau pechodau. Mae hynny’n greiddiol. Mae’n fater o wybod eich bod yn cerdded gyda Duw mewn diogelwch ac mewn cariad.

“Mae gen i fywyd tragwyddol gyda Christ, felly mae fy nyfodol yn ddiderfyn." Dwi ddim yn siŵr o lle daeth y dyfyniad yna ond roeddwn i’n meddwl ei fod o’n eitha’ da.

Pe bai rhywun yn dweud wrthych chi eu bod yn meddwl bod Duw am iddyn nhw gynnig mwy beth allech chi ei ddweud wrthyn nhw?

Byddwn yn dweud i fynd amdani ac i ymchwilio. Mae’n rhaid ei wneud gyda gweddi ond os dach chi’n gweddïo ond am hynny efallai na fyddwch yn ymchwilio i’r peth. Drwy ymchwilio iddo fo, mi fyddwch chi’n darganfod ydi o’n iawn i chi ai peidio.


Dduw, sydd trwy dy Ysbryd yn llywodraethu ac yn sancteiddio holl gorff yr Eglwys: gwrando ein gweddi a offrymwn dros dy holl bobl ffyddlon, iddynt allu dy wasanaethu mewn sancteiddrwydd a gwirionedd yn eu galwedigaeth a’u gweinidogaeth er gogoniant i’th enw; trwy ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.
Cymraeg

Licensing and Ordinations 2021: Fiona Covington-Mann

This Petertide at St Deiniol's Cathedral in Bangor, 14 dedicated, gifted people were ordained or licensed for ministry.

They are called to “build up the body of Christ until all of us come to the unity of the faith and of the knowledge of the Son of God” (Ephesians 4).

That is their common task – but each also have their own personal stories about God’s call on their lives.

Here, we talk to Fiona about her vocation as a Pastoral Minister.


Tell me a bit about yourself.

They couldn’t have broken the mould twice, could they? I’m probably quite gregarious and outging. I love clubbing. I absolutely adore clubbing. The louder the music the better. The heavy beat, the windows rattling, the lights – great.

I’ve always had a faith and wanted to follow it through. I’m a practical person. James talks about faith being practical – James 2:17. “Faith by itself, if it has no works, is dead.”

What’s your favourite biscuit?

I like all biscuits. Slap it on those thighs!

How did you become invovled with the Street Pastors?

When I was in Northampton a sign/poster came up about Street Pastor and I thought, if I was a teenager now I’d be in the middle of that. I have a son who enjoyed the pubs and clubs and so I got involved that way. Just to make sure that people were safe, basically within the night time economy. Having a good time. That was my main thought. That’s where, really, I felt my niche was, that’s where I felt my calling.

From that it was suggested that I trained as a Response Pastor. These are called on to support those affected by national disaters. I had the opportunity of seeing people within the best of times and the worst as well as those inbetween. The marginalised, the homeless and drug addicts. I went to both Manchester and Grenfell. I’ve sung Shine Jesus Shine out on the streets of Northampton with about 50 lads and lasses who were totally off their heads!I’m on the margin. I deal with those who are marginalised.

Just a little aside you might like to hear is that Street Pastors are often called the ‘Flip Flop Fairies’.

What is it about the marginalised that draws you to work with them and what’s the heart behind the ministry?

Have you seen those bands WWJD (What Would Jesus Do)? I always think to myself WWJB – Where Would Jesus Be? He would be in the churches, yes but he’d be where the people are, including the marginalised, and that would be the pubs and clubs. He’d be doing that now.

I want them to know they are loved.

Were you involved in church before becoming a Street Pastor?

My family have always been devout Chrsitians. We’ve always had that input. I play the church organ. There wasn’t the option not to be involved. My roots are very high Anglo-Catholic. I love the bells and the smells and all the regalia that goes with it. Singing is really important and singing the mass. I used to sing it in Latin and Greek. Singing is like praying twice.

A lot of people think that faith and Christianity is serious. Okay, yes it has its serious side. But it must also be about fun! Have you seen the image of ‘Laughing Jesus’ (Willis Wheatley)? I think it’s absolutley great.

How did the licensing come about and what does it mean to you?

It’s Dominic’s fault. He said that my work as a Street Pastor and Response Pastor needs to be recognised and so I was to be licensed as a Pastoral Minister. But, my work is going to be very different to everyone else and not at all church based. I’m going to be going around the pubs and into the nightclubs. I’m based mostly in Newtown but you can be a Street Pastor anywhere. It’s a real confirmation of what I’ve been doing.

What does your faith mean to you?

The Holy Eucharist is central to my faith, that Jesus died and rose for me forgiving sins. That’s central. It’s knowing that you’re walking with God in safety and in love.

“I have an eternal life with Christ, therefore my future is infinite.” I’m not sure where that quote came from but I thought was pretty good.

If someone were to tell you they thought God wanted them to offer more what might you say to them?

I would say go for it and investigate. It’s got to be done with prayer but if you pray just for that you may not investigate it. By investigating it you find out whether or not it’s right for you.


Almighty and everlasting God, by whose Spirit the whole body of the Church is governed and sanctified: hear our prayer which we offer for all your faithful people, that in their vocation and ministry they may serve you in holiness and truth to the glory of your name; through our Lord and Saviour Jesus Christ, who is alive and reigns with you in the unity of the Holy Spirit, God for ever and ever. Amen.