minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cofio COP26

Ymhob man o’n cwmpas mae eitemau newyddion am yr amgylchedd a sut y mae newid hinsawdd yn effeithio ar ein planed a’n bywydau bob dydd. Mae’n gallu bod yn llethol. Gallwn feddwl nad oes yna lawer y gallwn ni ei wneud mewn gwirionedd i wneud gwahaniaeth. Eto, bydd hyd yn oed yr ychydig y gallwn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth os bydd pawb yn cymryd amser i ystyried beth allai hynny fod.

I helpu pob un ohonom feddwl am beth allwn ni ei wneud, bydd yna, bob mis, fyfyrdod, gweddi ac ychydig o awgrymiadau ynghylch sut y gallwn ni wneud gwahaniaeth. Pob mis byddwn yn ystyried y gwahanol themâu o bryder sy’n codi o COP26. Cofiwch rannu a defnyddio’r myfyrdodau a’r gweddïau ar draws eich Ardal Weinidogaeth a’r lleoedd ble rydych yn byw. Po fwyaf o bobl sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth po fwyaf o obaith fydd gennym am ddyfodol y blaned.

Does neb yn cael ei eithrio rhag effeithiau newid hinsawdd. Nid yw’r tymhorau mor ddiffiniedig ag yr oedden nhw. Mae’r cyfryngau yn dod ag eithafion y tywydd o flaen ein llygaid - sychder, llifogydd, tannau, tsunami, er enghraifft. Mae gennym lygryddion, anweledig, ond sy’n cael eu teimlo - yn yr aer rydym yn ei anadlu yn ogystal ag yn y gwastraff, sy’n fwy gweladwy, yn ein moroedd ac ar y tir. Dim ond brig y mynydd rhew sy’n prysur doddi yw hyn.

Beth allwn ni ei wneud rhag anghofio bod rhaid i ni, a gweddill y byd, newid ein ffordd o fyw?

Sut allwn ni fyfyrio ar hyn o sylfaen ein ffydd Gristnogol?

Mae beth bynnag rydym ni’n ei brofi’n rhoi cyfle i ni feddwl mwy amdano. Mae ymgysylltu gyda phrofiad yn ei osod yn ei gyd-destun a bydd myfyrio arno yn ein harwain tuag at ddealltwriaeth. O’r ddealltwriaeth hwn, bydd cwestiynau'n codi a fydd yn ein harwain at ddysgu, darllen, darganfod a deall yn ddyfnach. Defnyddiodd Anselm o Gaergaint [c1033 - 1109] syniadau Awstin [354 - 430] a’u datblygu yn ei ysgrifau diwinyddol ac athronyddol wrth ystyried y berthynas rhwng ffydd a rhesymeg ddynol.

Yr ymadrodd yr oedd yn ei ddefnyddio oedd ‘ffydd yn chwilio am ddealltwriaeth’. Mae gennym ffydd cyn i ni ddechrau deall beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd a phan fyddwn yn chwilio am ddealltwriaeth, yna mae hynny’n dyfnhau ein ffydd, yn codi rhagor o gwestiynau a byddwn yn symud ymlaen i chwilio am yr atebion. Nid y ddealltwriaeth hon yw’r diwedd, na diwedd ein taith o ffydd chwaith; ar ôl hynny, mae’n rhaid i ni ystyried mwy, a gweithredu ar bopeth sydd wedi cael ei wneud yn weladwy i ni. Mae hyn yn fwy o gwlwm Celtaidd heb ddechrau na diwedd ond sy’n dal i fynd!

Fel pobl ffydd, rydym wedi’n gosod o fewn, ac fel rhan o, gread Duw. Yn llyfr cyntaf Genesis, rydym yn darllen ein bod wedi’n creu ar ddelwedd Duw gyda’r gorchymyn ‘llanwch y ddaear a darostyngwch hi’ [Genesis 1:28] neu fel sydd yn rhai o gyfieithiadau’r beibl, cael 'rheolaeth' dros y ddaear. Wrth i ni edrych ar hanes ac ar y byd heddiw, gallwn weld sut mae 'darostwng' neu ymarfer 'rheolaeth' dros y ddaear wedi achosi cymaint o broblemau sy’n golygu fod yn rhaid i ni newid erbyn hyn. Mae’r arferion, yn y gorffennol a hyd heddiw, wedi golygu fod y gwledydd cyfoethocach yn cymryd mwy nag y maen nhw ei angen tra bod y gwledydd tlotach yn dioddef; gan ddefnyddio dulliau ar y ddaear sy’n ei niweidio yn hytrach nac yn helpu i’w chefnogi a’i chynnal i’r cenedlaethau i ddod.

Mae’n ffydd yn ein galw i ofalu, i fod ag ots. Dros y canrifoedd diwethaf rydym wedi datgysylltu fwy â’r ddaear, pan fyddai bod yn gysylltiedig nid yn unig yn agor ein synhwyrau a’n calonnau i chwilio am gyfiawnder, ond mae hefyd yn iachau pobl mewn corff a meddwl, ac yn dyfnhau’n perthynas â Duw.

Sut allai hanes o ffydd a hanes ein bywydau ein harwain at geisio deall Duw yn ddyfnach, a hefyd sut y dylem ni ofalu am, a chynnal, y greadigaeth, y greadigaeth a alwodd Duw yn ‘dda’?

Fis Tachwedd 2021, daeth arweinwyr cenhedloedd bach a mawr i Glasgow ar gyfer COP26 a bydd cyfarfod arall fis Tachwedd 2022 yn yr Aifft. Gwnaed addewidion, nad oedd yn ddigon i lawer; ond mae un peth yn bendant fodd bynnag, mae yna’n dal lawer iawn mwy i’w wneud. Yn Esgobaeth Bangor, rydym eisiau cofio a pheidio ag anghofio COP26 wrth i’r wythnosau a’r misoedd fynd heibio, ond chwilio am ffyrdd i ddal i gysylltu, yn frwdfrydig ac addo y byddwn ninnau hefyd yn chwarae ein rhan. Beth bynnag yw ein hoedran neu ein lefel o ffitrwydd, mae yna rywbeth y gallwn ei wneud. Bydd y myfyrdodau a’r gweddïau yn ystod y misoedd i ddod yn ein helpu i gyd, gobeithio, yn unigol, mewn cymunedau eglwysig neu gymunedau lleol, i ddarganfod sut beth fydd y ‘rhywbeth’ hwnnw.

Byddwn yn ystyried yn y gweddïau a myfyrdodau hyn y gwahanol agweddau a’r themâu sy’n codi o COP26 a gellir eu gweddïo a’u hystyried yn unigol neu mewn grŵp. Ym mhob un o’r awgrymiadau sy’n cael eu cynnig, mae gweddi hefyd yn hanfodol, ac efallai mai’ch rhodd chi i’r byd fydd gweddïo, er enghraifft, am newid i ddigwydd, am ymrwymiad arweinwyr y byd a thros y rhai sy’n ymgyrchu. Allwn ni ddim gwneud popeth, ond gallwn ni i gyd wneud rhywbeth.

Mae deunydd da iawn ar wefan Eco-Eglwys ar gyfer syniadau ac awgrymiadau pellach ar sut y gallwn ni ofalu am fyd Duw.

Dduw'r holl greadigaeth
agor ein calonnau a’n meddyliau
i chwilio am ddealltwriaeth ddyfnach
o’r ffydd yr wyt ti wedi ein galw iddi,
a’r rhan rydym i’w chwarae
yn nyfodol y blaned hon.

Datgela i ni y ffordd i gael cysylltiad dyfnach
gyda’r byd yr ydym yn byw ynddo,
o’r ddaear o dan ein traed
i’r awyr uwchben ein pennau,
o’r nentydd a’r cefnforoedd,
i’r bywyd gwyllt a phopeth sy’n tyfu o’n cwmpas.

Dduw'r holl greadigaeth
galluoga ac ysbrydola ni,
wrth i ni geisio byw ein ffydd
er budd yr holl greadigaeth;
yn enw Iesu Grist,
gwrando ein gweddi.Amen


Cymraeg

Remembering COP26

All around us are news items about the environment and the ways in which climate change is affecting the planet, and our day to day lives. It can be overwhelming. We may think that there is little we can actually do to make a difference. Yet even the little we can do will make a difference if we take time to reflect upon what that may be.

To help us all think about what we can do, each month there will be a reflection, prayer and some suggestions on how we can make a difference. Each month will look at a different theme of concern arising out of COP26. Please share, and use, these reflections and prayers across your Ministry Area and the places where you live. The more people who seek and try to make a difference the more hope we have for the future of the planet.

No one is exempt from the effects of climate change. The seasons are not as defined as they once were. The extremes of weather are brought to us by the media - droughts, flooding, fires, tsunami, for example. We have the unseen, but felt, pollutants in the air we breathe as well as the more visible in waste in the seas and on the land. This is only the tip of the melting iceberg.

What can we do so as not to forget the need to change the way we and the rest of the world live?

How can we reflect upon this from the foundation of our Christian faith?

Whatever we experience offers to us the opportunity to think more about it. To engage with an experience is to place it into context and by reflecting upon it, it will then lead us towards insight. Out of this insight questions will arise which lead us to learning, reading, discovery and a deeper understanding. Anselm of Canterbury [c1033-1109] took the ideas of Augustine [354-430] and developed them in his theological and philosophical writing looking at the relationship between faith and human reason.

The phrase he used was ‘faith seeking understanding’. We have faith before we begin to understand what it really means and when we seek understanding then our faith deepens bringing with it more questions that we go on to seek answers for. This understanding is not the end, nor is our journey of faith, as we then need to reflect more and act upon all that has been made visible to us. This is more of a Celtic knot which has no apparent beginning or end but keeps on going!

As people of faith, we are placed within, and as a part of, God’s creation. In the first book of Genesis, we read that we are created in the image of God and are to ‘fill the earth and subdue it’ [28] or as some translations of the bible say, to have ‘dominion’ over the earth. As we look at history and at the world today, we can see how ‘subduing’ or exercising ‘dominion’ over the earth has caused so many issues which relate to the necessity to now seek change. Practice both past and present has resulted in the richer countries taking more than is needed whilst poorer countries suffer; using methods upon the earth which damage rather than help support and sustain it for future generations.

Our faith calls us to care, to be concerned. Over the last centuries we have become more disconnected with the earth when being connected not only opens our senses and our hearts to seek justice, but also brings to human beings a healing of body and mind, and deepens our relationship with God.

How can the story of faith and the story of our lives seek a deeper understanding of God and the ways in which we are to care and sustain creation, a creation God called ‘good’?

In November 2021 leaders of nations big and small gathered in Glasgow for COP26 and will meet again in November 2022 in Egypt. Pledges were made, which for many there were not enough; one thing is definite though, there is still so much more to do. In the diocese of Bangor, we want to remember and not forget COP26 as the weeks and months go by, but seek ways to remain engaged, enthusiastic, and to pledge that we too will play our part. Whatever our age or fitness level there is something we can do. The reflections and prayers over the coming months will hopefully help us all, individually, in church communities or local communities to discover what that ‘something’ will be.

Different aspects and themes coming out of COP26 will be looked at in these prayers and reflections, and they can be prayed and pondered on alone, or in a group. In all of the suggestions offered, prayer is also vital, and your gift to the world may be to pray, for example, for change to happen, for commitment of world leaders, and for those who are campaigning. We can’t do everything, but we can all do something.

The Eco Church website has some very good material and will provide further ideas and suggestions on how we can care for God’s world.

God of all creation,
open our hearts and minds
to seek a deeper understanding
of the faith you have called us to,
and of the part we are to play
in the future of this planet.

Reveal to us the way of a deeper connection
with the world in which live,
from the earth beneath our feet
to the sky above our heads,
from the streams and the oceans,
to the wildlife and all that grows around us.

God of all creation,
enable and inspire us,
as we seek to live out our faith
to the benefit of all creation;
in the name of Jesus Christ,
hear our prayer. Amen