minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cofio COP26 - Bwyd

Cynhyrchu - Cynaliadwyedd

Waeth pwy ydym ni neu ble rydym ni’n byw yn y byd, mae pob un ohonom angen bwyd i gynnal corff iach; ac o’r pwnc anferth hwn, mae llawer mwy yn cael ei adael allan nag sy’n cael ei ystyried yma. Oni bai ei fod yn waith i ni, efallai mai dim ond syniadau annelwig sydd gennym ynghylch sut mae’n bwyd yn cael ei dyfu a’i gynhyrchu cyn iddo gyrraedd yn ein siopau i ni ei brynu. Bydd pob un ohonom yn gwybod fod prisiau bwyd wedi codi’n sylweddol dros y misoedd diweddar; ac un rheswm dros hyn yw effaith newid hinsawdd.

Darlleniad o’r Beibl: Genesis 1:28-29

Ar ôl creu dyn:

‘Bendithiodd Duw hwy a dweud, “byddwch ffrwythlon ac amlhewch, llanwch y ddaear a darostyngwch hi; llywodraethwch ar bysgod y môr, ar adar yr awyr, ac ar bopeth byw sy’n ymlusgo ar y ddaear.” A dywedodd Duw, “Yr wyf yn rhoi i chwi bob llysieuyn sy'n dwyn had ar wyneb y ddaear, a phob coeden â had yn ei ffrwyth; byddant yn fwyd i chi".'

Myfyrdod

Mae’r darlleniad o Genesis yn sôn wrthym am ran fach o stori’r cread a’r ffordd y byddai dynoliaeth yn gorfod wynebu cyfrifoldebau am ei weithredoedd. Ychydig yn ddiweddarach mae Adda ac Efa’n cael eu hanfon allan o baradwys i fyw ac i weithio ar y tir yr oedd Duw wedi’i ddatgan yn dda. Roedd yn rhaid iddyn nhw weithio a chynhyrchu bwyd i’w fwyta.

Yn y Beibl mae’r enw Adda yn golygu ‘coch’ neu ‘mab y ddaear’. Mae’r enw’n cysylltu'r hil ddynol â’r pridd, y ddaear â’r greadigaeth. Mae’r darn o’r Beibl yn twf a ffyniant y greadigaeth, ac yn galw ar Adda ac Efa ‘ei ddarostwng’ ac i ‘lywodraethu drosto’. Nid yw ffynnu a llywodraethu’n eistedd yn rhwydd gyda’i gilydd.

Beth mae’r geiriau ‘ffynnu’ a ‘llywodraethu’ yn olygu i chi: mewn perthynas â’r greadigaeth a’r ddaear a thuag at bobl eraill?

Nid yw ‘llywodraethu dros’ - i reoli neu gael awdurdod dros - yn golygu ein bod ni fel pobl yn gallu gwneud fel ag y mynnwn â'r greadigaeth nac â'r ddaear. Mae ffydd yn Nuw, a Duw’r holl gread, yn ein gosod ni ac yn ein hail gysylltu ni, â'r ddaear o dan ein traed a 'phopeth byw sy'n symud'.

Mae’n gofal o’r ddaear wedi’i uno gyda sut rydym yn bwyta, sut mae’n bwyd yn cael ei dyfu a’i gynhyrchu, sut mae’n cael ei gludo, faint sy’n cael ei wastraffu, faint o werth rydym yn ei roi ar y rhai sy'n tyfu ac yn dod â'n bwyd i ni, sut rydym yn ceisio dod yn fwy cynaliadwy.

Wyddoch chi o ble y daw’r bwyd rydych yn ei fwyta, ble mae’n cael ei dyfu a pha mor bell mae wedi teithio?

Nid yw gofal o’r ddaear yn gallu cael ei wahanu oddi wrth yr angen am ymdrechu dros newid hinsawdd a dyfodol mwy cynaliadwy. Mae’r Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd wedi ysgrifennu sut mae eithriad tywydd eithriadol o boeth, tannau gwyllt ac effeithiau stormydd a llifogydd, yn ei gwneud yn anos i gynhyrchu digon o fwyd i fwydo poblogaeth sy’n cynyddu’n barhaus. Mae’r rhain, ynghyd â chytundebau masnach ryngwladol a rheoli tir - ac ardaloedd ble mae rhyfel - er enghraifft, hefyd yn arwain at godiad mewn prisiau bwyd.

Mae’r Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd yn amcangyfrif fod 2 biliwn o bobl yn fyd eang yn dioddef o ddiffyg maeth ac erbyn 2050, bydd angen cynyddu’r cynhyrchiant bwyd gan 60%. Gyda newid hinsawdd, mae glaw yn effeithio ar y pridd, yn ei wneud yn llai dibynadwy ar gyfer tyfu a chael cnydau sy'n ffynnu a bod angen mwy o wrteithiau. Maen nhw hefyd yn datgan fod angen llawer mwy o gefnogaeth i’r sector amaethyddol i sicrhau fod ganddo’r adnoddau a’r gefnogaeth ariannol i helpu gostwng nwyon tŷ gwydr.

Mae’r hyn sy’n digwydd mewn gwledydd pellennig hefyd yn effeithio arnom ninnau ; a beth rydym yn ei wneud neu’n peidio â gwneud, yn effeithio ar weddill y byd. Yn fwy lleol, yma yng Nghymru, nod y llywodraeth yw darparu mwy o gefnogaeth ar gyfer cynnyrch Cymru er mwyn datblygu ffyrdd ecolegol o gynhyrchu bwyd, i sicrhau ansawdd da iawn - yn enwedig cynnyrch rhad i’w brynu - a chyflenwad cadarn o fwyd ac i addysgu ar fwyta'n iach. Am fwy o wybodaeth ynghylch hyn, edrychwch ar yr ‘Awgrymiadau’ isod.

Cymerwch amser i ystyried beth rydych yn ei fwyta a faint o fwyd ffres rydych yn ei gael. Os yn bosibl, allwch chi gynnwys mwy o fwydydd ffres, wedi’u tyfu’n lleol yn eich prydau?

Datganodd Duw fod y byd yn dda. I’r ddaear ffynnu a thyfu, mae gofyn i bob un ohonom ail gysylltu â’r pridd, yn hytrach na’i feistroli neu’i dra-arglwyddiaethu. Yn y byd anodd a chyfnewidiol hwn, sut allwn ni ei gefnogi a beth allwn ni ei wneud, i sicrhau dyfodol cynaliadwy gyda digon o fwyd i'w fwyta sydd wedi'i gynhyrchu a derbyn gofal da..

Gweddi:

Dduw’r Greadigaeth,
bendithiaist y ddaear gyda phopeth sydd ei angen i dyfu;
maddau’r difrod rwyf i / rydym ni wedi’i wneud,
am yr adegau o dra-arglwyddiaethu yn hytrach na gofal,
am yr adegau o farusrwydd yn hytrach na rhannu’n deg,
am yr adegau o ddibrisio’r rhai sy’n gweithio’n galed ar y tir.
Dduw ffynnu,
ysbrydola a’m / a’n hannog
i chwilio am ffyrdd o ofalu’n fwy effeithiol am y ddaear;
am dwf cynaliadwy a bwyd i’r cenedlaethau sydd eto i ddod,
am fasnach a thâl teg ymhell ac yn agos,
am rannu’n gyfartal y cyfan mae'r tir yn ei ddarparu.
Dduw bob peth,
Na fydded i mi / ni byth anghofio dy alwad i feithrin y byd hwn, yn ofalus
i gymryd ohono ddim ond beth sydd ei angen,
ac i roi i mewn iddo ddim ond y pethau sy’n dod ag adnewyddiad,
i ddiolch am bob peth sy’n cael ei ddarparu drosof / drosom
ac am fy / ein ffynnu a’m / n twf. Amen.

Ychydig o Awgrymiadau

  • Chwiliwch ar Gwgl am – Newid Hinsawdd a Chynhyrchu Bwyd Cymru
  • https://www.wwf.org.uk/updates/system-fwyd-yng-nghymru-syn-addas-i-genedlaethaur-dyfodol
  • A oes marchnadoedd ffermwyr lleol i siopa am gynnyrch lleol?
  • Os oes gennych fysedd gwyrdd, beth am geisio datblygu llain llysiau yn eich gardd, neu mewn potiau.
  • A oes gardd gymunedol yn lleol ble mae bwyd yn cael ei dyfu, er mwyn helpu allan ac i rannu beth sy’n cael ei dyfu?
  • Ar amser prydau, efallai hoffech ddweud ‘gras’, i ddiolch am y bwyd sydd o’ch blaen chi.
Cymraeg

Remembering COP26 - Food

Production - Sustainability

No matter who we are or where we live in the world, we all need food to maintain a healthy body; and in this vast topic there is far more left out than reflected upon here. Unless it’s our work, we may only have some vague ideas about how our food is grown and produced before it arrives in our shops for us to buy. We will all know, though, that food prices have risen considerably in recent months; and one reason for this is the effect of climate change.

Bible Reading: Genesis 1:28-29

After the creation of humankind:

‘God blessed them, and God said to them, “be fruitful and multiply, and fill the earth and subdue it; and have dominion over the fish in the sea and over the birds in the air and over every living thing that moves upon the earth”. God said, “See, I have given you every plant yielding seed that is upon the face of the earth, and every tree with seed in its fruit; you shall have them for food”.’

Reflection

The reading from Genesis tells a small part of the creation story and the way in which humanity would face responsibilities for their actions! A little later Adam and Eve are sent out from paradise to live and work on the land God had declared good. They had to work and produce food to eat.

In the bible the name Adam means ‘red’ or ‘son of the earth’. The name connects humankind to the soil, the earth, and to creation. The bible passage calls forth the growth and flourishing of creation, and to Adam and Eve to ‘subdue it’ and to ‘have dominion over it’. Flourishing and dominion, though, don’t sit easily with one another.

What do the words ‘flourishing’ and ‘dominion’ mean to you: in relation to creation and the earth, and towards other people?

To have ‘dominion over’ – to rule or have authority over - does not mean that as human beings we can do as we like to creation or the earth. Faith in God, and the God of all creation, places us and reconnects us, to the ground beneath our feet and to ‘every living thing that moves’.

Our care of the earth is united with how we eat, how our food is grown and produced, how it is transported, how much is wasted, how much we value those whose work is in the growing and bringing food to us, how we seek to become more sustainable.

Do you where the food you eat comes from, where it is grown and how far it has travelled?

Our care of the earth cannot be separated from the necessity to strive for climate change and a more sustainable future. The International Panel on Climate Change [IPCC] has written on the ways extremes of weather from intense high temperatures and wildfires and the effects of storms and floods, which reduces the reliability of adequate food production to feed an ever-increasing population. These, along with international trade agreements and land management – and areas of war - for example, also lead to rising food prices.

The IPCC estimate that globally 2 billion people suffer malnutrition and that by 2050, food production will need to have increased by 60%. With climate change, rainfall is now affecting the soil making it less reliable for growth and flourishing of crops and increasing the use of fertilisers. They also state the need for a great deal more support for the agricultural sector to ensure it has the resources and financial backing to help bring down greenhouse gases.

What happens in countries far away, affects us here too; and what we do, or don’t do here, has an impact upon the rest of world. More locally, here in Wales, the government aim is to provide greater support for Welsh products, to develop ecological ways of producing food, to ensure high quality - especially on lost cost food products - and a resilient food supply, and to educate on eating healthily. For more information on this, please see the ‘Suggestions’ below.

Take time to consider what you eat and how much fresh food you have. If possible, could you include more fresh and locally grown foods in your meals?

God declared the world was good. For the earth to flourish and grow, it requires us all to reconnect with the soil, rather than to subdue it or dominate it. In this changing and difficult world, how can we support, and what can we do, to ensure a sustainable future with plenty of well-produced and cared for food to eat?

Prayer

God of creation,
you blessed the earth with all that is needed for growth;
forgive the damage I/we have done,
for the times of domination instead of care,
for the times of greed instead of fair sharing,
for the times of undervaluing those who work on the land.
God of flourishing,
inspire and encourage me/us
to seek ways to care more effectively for the earth;
for sustainable growth and food for generations still to come,
for fair trade and pay both far and near,
for an equal sharing of all the land provides.
God of all,
may I/we never forget your call to tend with care, this world,
to take from it only that which is needed,
and to put into it only those things which bring renewal,
to give thanks for all that is provided for me/us
and for my/our flourishing and growth. Amen.

A Few Suggestions

  • Search on google for – Climate Change and Food production Wales
  • https://www.wwf.org.uk/updates/welsh-food-system-fit-future-generations
  • Are there local farmers markets to shop for local produce?
  • If green fingered, maybe try developing a vegetable patch in your garden, or in pots.
  • Is there a community garden locally where food is being grown, to help at, and share what is grown?
  • At mealtimes you may wish to say ‘grace’, to give thanks for the food before you.