minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Cofio COP26 - Cymunedau Eglwys

Wrth i’r cenhedloedd baratoi i gyfarfod yn Yr Aifft y mis nesaf ar gyfer COP27, mae’r myfyrdodau misol hyn bellach yn diwryn i ben, er bod ein galwad i ofalu am ein planed yn parhau. Trwy gydol y flwyddyn eleni, fe fuon ni’n edrych ar sawl mater yn codi o COP26 ac yn rhoi ystyriaeth iddyn nhw o bersbectif gweddigar. Maen nhw hgefyd wedi gofyn inni feddwl ychydig mwy am y rhan y gallwn ninnau ei chwarae i leihau effeithiau newid hinsawdd yn ein bywydau o ddydd i ddydd.

Darlleniad o’r Beibl: Micha 6: 6,8

‘Sut alla i dalu i'r ARGLWYDD? Beth sydd gen i i'w gynnig wrth blygu i addoli y Duw mawr? Ydy aberthau i'w llosgi yn ddigon? Y lloi goraui'w llosgi'n llwyr?’

Yr ymateb:

‘Na, mae'r ARGLWYDD wedi dweud beth sy'n dda, a beth mae e eisiau gen ti: Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser, a byw'n wylaidd ac ufudd i dy Dduw.’

Myfyrdod

Mae’r adnodau o lyfr y proffwyd Micha yn sôn am adeg pan y dygwyd offrymau i Dduw ac yn cael ei weld fel modd o ddangos fod y bobl yn ffyddlon i Dduw a’r cyfamod. Ac eto, yr hyn mae Duw eisiau ydy ein bod ninnau’n ceisio llwybr cyfiawnder, cariad, caredigrwydd a gwyleidd-dra.

Yn llyfr Lefiticus [19:18] yn yr Hen Destament, ceir galwad gan Dduw i garu’n cymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun, sef yr hyn a adleisir yn yr efengylau gan Iesu, mai’r mwyaf o’r holl orchmynion ydy caru Duw, ac i garu ‘cymydog fel rydyn ni’n caru’n hunain’. [Marc 12: 29-33] Fel inni ddarganfod dros y misoedd yma, mae’r gair ‘cymydog’ yn golygu mwy na dim ond y bobl hynny sy’n byw drws nesaf inni – mae’n estyn allan i bedwar ban byd ac yn cynnwys y greadigaeth gyfan hefyd.

Beth mae ‘ceisio cyfiawnder, caru caredigrwydd a byw’n wylaidd’ yn ei olygu i chi?

Beth mae’n ei ofyn o gymunedau’r eglwys?

Mae Belden C. Lane ym mhennod gyntaf ei lyfr, ‘The Solace of Fierce Landscapes’, yn sgwennu fel hyn, ‘Nid hawdd gwahaniaethu’r sôn am Dduw oddi wrth drafodaethau am le neu fan.’ Yn y llyfr, mae ‘lle/man’ yn cyfeirio at ‘amgylchfyd mynydd-dir diffaith’ ond gall fod yn cyfeirio at unrhyw dirwedd. Mae’n parhau trwy ddweud fod ‘Y man lle’r ydyn ni’n byw yn dweud wrthon ni pwy ydyn ni – sut rydyn ni’n ymwneud â phobl eraill, i’r byd mawr crwn o’n cwmpas, hyd yn oed i Dduw.’ Ceir hefyd ymdeimlad o orfod dysgu sut i ddehongli a gweithio’n ffordd trwy ein cyswllt ein hunain â’r dirwedd o’n hamgylch; y mannau lle’r ydyn ni’n byw.

Er nad ydy o’n cyfeirio’n benodol at newid hinsawdd, os na ellir ymwahanu Duw oddi wrth le neu fan, felly, wrth inni siarad am newid hinsawdd, does dim modd gwahaniaethu oddi wrth bresenoldeb Duw gyda ni. Mae ei eiriau hefyd yn ein herio i ystyried yn ddyfnach sut rydyn ni’n ymwneud â’r amgylchedd, i’n tirwedd. Mae’n codi hefyd gwestiynau am y rhan mae ein ffydd yn Nuw yn ei chwarae o ran ceisio gwell byd a sut, wrth berthyn i gymuned eglwys, y medrwn ninnau ddod yn fwy amlwg yn ein gweithgareddau a fyddai wedyn yn helpu sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r cenedlaethau sydd i’n dilyn.

Gobaith COP27 ydy symud ymlaen o addewidion i weithredoedd, i geisio a chael eu harwain gan wyddoniaeth tra’n diogelu anghenion sylfaenol bob un, i wneud cymorth ariannol yn realiti, i harmoneiddio ymdrechion byd-eang tuag at lunio planed gynaliadwy at y dyfodol, a chymaint mwy. Maen nhw hefyd am geisio sicrhau pontio cyfiawn dan reolaeth dda, fel y cytunwyd yn egwyddorion cynadleddau blaenorol a Chytundeb Paris.

Yma, fe ddychwelwn at geisio cyfiawnder, cariad, caredigrwydd, a byw’n wylaidd ar y ddaear. Mewn myfyrdod blaenorol, wnaethon ni sôn am y ffaith mai nid gwneud beth bynnag liciwn ni ydy bod yn stiwardiaid ar y greadigaeth ond, yn hytrach, meithrin a gofalu amdani mewn modd sy’n cyfoethogi bywydau pawb. Fel pobl y ffydd ac fel cymunedau eglwys, fe allwn ni weddïo, a thrafod y newidiadau sydd eu hangen, ond mae’n rhaid inni fod yn weithredol hefyd.

Gall [neu fe ddylai] ein heglwysi fod yn leoedd lle gallwn amlygu ein ffydd, annog llwybr cyfiawnder, cariad a charedigrwydd, a gwyleidd-dra. Man lle gallwn weddïo a chwarae ein rhan, yma, heddiw, tuag at gynnal ein byd a gyfer y dyfodol.

Sut fase hyn yn edrych o fewn eich cymuned eglwys chi?

Y mis nesaf, mae COP27 yn cyfarfod, felly dyma’r ‘Cofio mewn Gweddi a Myfyrdod’ olaf ond, wrth gwrs, dydy ein cofio ddim yn dod i ben yma, na’n gweddïo ‘chwaith. Bydd pob newid, bach neu fawr, a wnawn yn ein bywydau heddiw yn gwneud gwahaniaeth. Diolch i’r Parch Stuart Elliott am y sgwrs a gawson ni cyn y myfyrdodau hyn, a’r awgrymiadau a’r syniadau am faterion i’w cynnwys.

Gweddi

Beth fedra i ei roi i ti, O Dduw,
beth wyt ti’n gofyn gen i?
Yr hyn dwi’n ei ofyn ydy cyfiawnder.
Yr hyn dwi’n ei ofyn ydy caredigrwydd cariadus.
Yr hyn dwi’n ei ofyn ydy iti fyw’n wylaidd.
Clyw fy ngweddi, O Dduw, y bydd cyfiawnder yn trechu,
lle bo llawer yn newynu, y bydden nhw’n cael eu bwydo here many starve, they will be fed,
a lloches gynnes, ddiogel.

Boed i’r rhai hynny sy’n dod ynghyd ar gyfer COP27
geisio gyda gonestrwydd, cydraddoldeb, a chyfiawnder
i droi addewidion yn weithredoedd,
er lles y presennol
a chenedlaethau’r dyfodol.
Clyw fy ngweddi, O Dduw
am gariad a charedigrwydd
i lifo o un person at y llall,
i gofleidio pob creadur, bach neu fawr.
Boed i’r rhai hynny sy’n dod ynghyd ar gyfer COP27
wrando gyda meddyliau a chalonnau agored i’w gilydd,
fel y bydd cariad tuag at y greadigaeth gyfan yn gorchfygu
a gweithio tuag at newidiadau effeithiol
a fydd yn cynnal bywyd ym mhob rhan o’r byd.

Clyw fy ngweddi, O Dduw, i fyw’n wylaidd
ar y ddaear hon gydag ymwybyddiaeth gynyddol
am agraff fy ôl-troed o’m hôl.
Boed i’r rhai hynny sy’n dod ynghyd ar gyfer COP27
sylweddoli’r hyn maen nhw’n ei adael ar eu holau,
y bydd y trafodaethau a’r penderfyniadau a wneir
yn rai a fydd o ddifri’n gwneud gwahaniaeth
ac yn dod â bywyd adnewyddol, adfywiol i’r oll o’r greadigaeth.
I Dduw’r greadigaeth oll,
sy’n fy ngalw i a phawb i geisio cyfiawnder,
caru bod yn garedig a byw’n wylaidd,
dwi’n cynnig y weddi hon. Amen.

Rhai Awgrymiadau

  • Gwglwch COP27 – Tachwedd neu https://cop27.eg am fwy o wybodaeth.
  • Cymerwch gip yn ôl ar fyfyrdodau blaenorol i ystyried beth wnaethoch chi’i ddarganfod?
  • Faint mwy y gellir ei wneud yn bersonol neu fel cymuned eglwys i fyw’n wylaidd ar y ddaear?
  • Treuliwch amser yn gweddïo’r gweddïau eto.
  • Daliwch ati i ofyn i gynghorwyr lleol ac aelodau’r Senedd beth sy’n cael ei wneud i leihau effeithiau newid hinsawdd.

Cymraeg

Remembering COP26 - Church Communities

As nations prepare to gather in Egypt next month for COP27, these monthly reflections now draw to an end, although our call to care for the planet continues. Throughout this year we have looked at a number of issues arising from COP26 and considering them from a prayerful perspective. They have also asked us to think a little more about the part we can play to reduce the effects of climate change in our day to day lives.

Bible Reading: Micah 6:6, 8

‘With what shall I come before the Lord, and bow myself before God on high? Shall I come before him with burnt offerings, with calves a year old?’

The response:

‘O mortal, what is good; and what does the Lord require of you but to do justice and to love kindness and to walk humbly with your God?’

Reflection

The verses from the prophet Micah speak of a time when offerings were brought to God and seen as a way of showing that the people were faithful to God and the covenant. Yet, what God requires is that we seek the way of justice, love kindness and walk, and live, humbly.

In the Old Testament book of Leviticus [19:18] there is the call of God to love our neighbour as ourself which we see echoed in the gospels by Jesus, that the greatest of the commandments is to love God, and to love our ‘neighbour as yourself’. [Mark 12: 29-33] As we have discovered over these months our ‘neighbour’ is more than the people who live close by to us, but reaches out across the world and includes all of creation too.

What does ‘to do justice, love kindness and to walk humbly’ mean to you?

What does it ask of our church communities?

Belden C. Lane in the first chapter of his book, ‘The Solace of Fierce Landscapes’, writes, ‘Talk about God cannot easily be separated from discussions of place.’ In the book ‘place’ refers to the ‘desert-mountain environment’ but it can refer to any landscape. He continues by saying that ‘The place where we live tells us who we are – how we relate to other people, to the larger world around us, even to God.’ There is also the sense of having to learn how to interpret and negotiate our own connection to the landscape around us; the places where we live.

Although he isn’t writing specifically about climate change, if God cannot be separated from place, then when we talk about climate change this too cannot be separated the presence of God with us. His words also challenge us to consider more deeply how we relate to the environment, to our landscape. It raises too the questions of what part our faith in God plays in our seeking a better world, and how belonging to a church community we can become more visible in our activities which will then help to ensure a sustainable future for the generations still to come.

The hope of COP27 is to move ahead from pledges to implementation, to seek and be guided by science whilst protecting the basic needs of all, to make financial support a reality, to harmonise global efforts towards a resilient planet for the future, and so much more. They also seek to ensure a well-managed and just transition as agreed in the principles of past conventions and the Paris Agreement.

Here, we come back to seeking justice, loving kindness, and walking humbly upon the earth. In a previous reflection we touched upon the fact that to be stewards of creation is not to do as we like, but to nurture it and care for it in a way that enriches the lives of all. As a people of faith and as church communities we can pray, we can discuss the changes that are needed, but we also have to be active.

Our churches can [or should] be a place where we make our faith visible, encouraging the path of justice, love, kindness, and humbleness. A place where we can pray and play our part in the present for the sustaining of this world for the future.

How may this take place within your own church community?

Next month COP27 meets, and so this is the last ‘Remembering in Prayer and Reflection’, but of course, our remembering doesn’t end here, nor our prayer. Every big or small change we make in our lives today will make a difference. Thank you to Revd Stuart Elliot for the conversation we had before I began writing these reflections, and the suggestions and ideas of issues to include.

Prayer

What can I give to you, O God,
what do you ask of me?
What I ask is for justice.
What I ask is for loving kindness.
What I ask is for you to walk humbly.
Hear my prayer, O God, that justice will prevail,
where many starve, they will be fed,
have shelter for warmth and safety.
May those who gather for COP27
seek with honesty, equality, and justice
to transform pledges into action,
for the well-being of the present
and for future generations to come.

Hear my prayer, O God, for loving kindness
to flow out from one person to another,
to embrace all creatures great and small.
May those who gather for COP27
listen with openness and kindness to one another,
that a love of all creation will prevail
and work towards effective changes
that will sustain life in every corner of the world.

Hear my prayer, O God, to walk humbly
upon this earth with a deepening awareness
of the footprint I leave behind me.
May those who gather for COP27
realise the legacy they leave behind,
that the discussions and decisions made
will be ones that truly make a difference
and bring new and refreshing life to all creation.
To the God of creation,
who calls me and all to seek justice,
love kindness and to walk humbly,
I offer this prayer. Amen.

A few suggestions

  • Google COP27 – November or https://cop27.eg for more information.
  • Look back over previous reflections to consider what you may have discovered?
  • What more can be done personally or as a church community to walk humbly upon the earth?
  • Take some time to pray the prayers again.
  • Continue to ask local councillors and Senedd members what is being done to reduce the effects of climate change.