minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Gwledd Nadolig am ddim i fyfyrwyr Bangor yn anelu at frwydro yn erbyn unigrwydd

Mae Cadeirlan Deiniol SantChaplaniaeth Prifysgol Bangor yn dod at ei gilydd i fynd i'r afael ag unigrwydd myfyrwyr gyda gwledd am ddim ar Ddydd Nadolig.

Mae bron i 100 o fyfyrwyr wedi cofrestru i ymuno yn nathliad yr ŵyl, sydd wedi'i drefnu mewn ymateb i'r pwysau ariannol ar fyfyrwyr yng nghanol argyfwng costau byw ac fel ymdrech i frwydro yn erbyn unigrwydd. Mae tîm o fyfyrwyr gwirfoddol wedi arwain y ffordd wrth baratoi bwydlen y Nadolig a chydlynu gweithgareddau Nadolig y dydd.

Gall myfyrwyr ddisgwyl cinio Dydd Nadolig traddodiadol a diwrnod llawn hwyl a chwerthin, gan gynnwys ffilmiau Nadolig, gemau, cerddoriaeth ac ymddangosiad arbennig gan Siôn Corn.

Dywedodd y Parchedig Neville Naidoo, Prifysgol Bangor a'r Gaplan Cymunedol, "Mae gennym ni Ddiwrnod Nadolig wedi ei baratoi ar gyfer y myfyrwyr. Mae croeso i unrhyw un a allai fod ar ei ben ei hun y Nadolig hwn ymuno â ni ar gyfer ein gwledd Nadoligaidd am ddim.

"Dyma'r tro cyntaf i ni drefnu digwyddiad o'r fath ac rydym wedi gweithio'n galed i greu profiad Nadolig cofiadwy a llawn hwyl. Rydym yn cydnabod y gallai cyfyngiadau ariannol a chostau hedfan cynyddol atal rhai o'n myfyrwyr rhyngwladol rhag dychwelyd adref ac mae'n iawn ein bod yn dod â phobl at ei gilydd dros y Nadolig yn ystod y tymor hwn o ewyllys da."

Mae Neville, a symudodd o Dde Affrica i Fangor yn ddiweddar, yn deall pa mor anodd yw hi i dreulio'r Nadolig i ffwrdd o'r teulu. "Symudodd fy mhartner a minnau i Ogledd Cymru dri mis yn ôl felly rydyn ni'n gwybod sut beth yw bod yr ochr arall i'r byd o’ch teulu a'ch ffrindiau. Gall y Nadolig fod yn gyfnod unig i lawer a thrwy drefnu'r digwyddiad hwn gobeithiwn chwarae rhan wrth fynd i'r afael ag unigrwydd o fewn cymuned y myfyrwyr.

"Mae'r ddau ohonom yn gyffrous i fod yn treulio'r Nadolig hwn yn gwneud ffrindiau newydd, bwyta mins peis a chael llawer o hwyl yr ŵyl. Does na ddim gwell ffordd o dreulio'r Nadolig na gyda ffrindiau a bwyd!"

Mae'r digwyddiad Nadolig ar agor i bob myfyriwr ac mae archebu lle yn hanfodol. Ebostiwch Neville Naidoo.

Peidiwch â cholli allan y Nadolig hwn.  

Cymraeg

Free Christmas Feast for Bangor Students Aims to Combat Loneliness

Saint Deiniol's Cathedral and Bangor University Chaplaincy are joining forces to tackle student loneliness with a free Christmas Day feast.

Nearly 100 students have signed up to join in the festive celebration, which has been organised in response to the financial pressure on students amidst a cost of living crisis and as an effort to combat loneliness. A team of student volunteers have led the way in preparing the Christmas menu and coordinating the day's Christmas activities.

Students can expect a traditional Christmas Day dinner and a day filled with fun and laughter, including Christmas films, games, music and a special appearance by Santa Claus.

The Revd Neville Naidoo, Bangor University and Community Chaplain, says, “We’ve got Christmas Day all wrapped up for students. Anyone who might be alone this Christmas is welcome to join us for our free festive feast.

“It’s the first time we’ve organised such an event and we’ve worked hard to create a memorable and fun-filled Christmas experience. We recognise that financial constraints and soaring flight costs may prevent some of our international students from returning home and it’s only right that in this season of goodwill we bring people together at Christmas.”

Neville, who recently moved from South Africa to Bangor, understands how difficult it is to spend Christmas away from family. “My partner and I moved to North Wales three months ago so we know what it’s like to be on the other side of the world from your family and friends. Christmas can be a lonely time for many and by organising this event we hope to play a part in tackling loneliness within the student community.

“We’re both excited to be spending this Christmas making new friends, eating mince pies and having a lots of festive cheer. There’s snow better way to spend Christmas than with friends and food!”

The Christmas event is open to all students and booking is essential. Email Neville Naidoo to reserve your place.