Y Ddolen
Cyhoeddiadau Recriwtio
5 Medi 2023
Ar y tymor hwn o ddechreuadau newydd, braf yw gallu cyhoeddi newidiadau i Dîm Deiniol, wrth i ni groesawu cydweithwyr newydd, ffarwelio ag eraill, a cheisio cynyddu lefel y gefnogaeth y gellir ei chynnig i Ardaloedd Gweinidogaeth mewn meysydd allweddol.
Siôn Rhys Evans
Ysgrifennydd yr Esgobaeth ac Is-Ddeon
Cyfarwyddwr Cyfathrebu Newydd
Croeso i Matt Batten, ein Cyfarwyddwr Cyfathrebu newydd, i'r esgobaeth. Mae gan Matt dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ym maes cyfathrebu ac ymgysylltu a chyn hynny bu’n gweithio i Esgobaeth Llandaf mewn rôl debyg. Mae’n cwblhau gradd Meistr mewn Diwinyddiaeth Ddigidol yn Spurgeon’s College Llundain ac mae ar fwrdd golygyddol Practical Theology Hub.
Mae Matt yn ddysgwr Cymraeg ac yn dechrau Cwrs Uwch 2 y mis yma. Edrychwn ymlaen at gefnogi ei daith Gymraeg.
Mae Matt yn awyddus i gefnogi Ardaloedd Gweinidogaeth gyda phopeth o gyfathrebu a gellir cysylltu ag ef yn mattbatten@cinw.org.uk neu ffoniwch 07586 469556.
Swyddog Eiddo Archddiaconiaeth Newydd
Mae’n bleser mawr gennyf gyhoeddi bod Paul Keets wedi’i benodi fel y cyntaf o’n Swyddogion Eiddo Archddiaconiaeth newydd. Swyddogaeth Swyddog Eiddo’r Archddiaconiaeth fydd cynnal adroddiadau’r Archwiliad Pum Mlynedd drwy ddiweddaru adroddiadau Ezra, cynnig cyngor i Ardaloedd Gweinidogaeth ar aildrefnu, cynnal a chadw a chynlluniau atgyweirio, a rheoli’r gwaith o gyflawni prosiectau eiddo allweddol o fewn Ardaloedd Gweinidogaeth.
Bydd ffocws Paul yn y pen draw ar Archddiaconiaeth Bangor, gyda dau swyddog arall, y gobeithiwn eu cael yn eu lle erbyn diwedd y flwyddyn, yn cefnogi’r ddwy archddiaconiaeth arall. Yn y cyfamser, mae Paul eisoes ar waith yn cefnogi eglwysi ac Ardaloedd Gweinidogaeth ar draws yr esgobaeth.
Mae gan Paul ddiploma mewn cadwraeth adeiladau gan y Gymdeithas Bensaernïol ac mae'n aelod llawn o'r Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol. Mae Paul yn arbenigo mewn cadwraeth adeiladau ac mae wedi gweithio yn y gorffennol gyda Thîm Adeiladau Hanesyddol a Chadwraeth Cyngor Sir Essex. Mae wedi byw yng Ngogledd Cymru ers 2014.
Cyfarwyddwr Eiddo Newydd
Croeso i Simon Ogdon, sydd wedi dechrau gweithio yn ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Eiddo. Bydd Simon yn gyfrifol am ein prosesau eiddo esgobaethol, gan gynnwys cyfadrannau a gwaith Pwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth, yn ogystal â recriwtio a rheoli gwaith ein Swyddogion Eiddo Archddiaconiaeth newydd.
Bydd llawer ohonom eisoes yn adnabod Simon fel ein Cyfarwyddwr Eiddo. Mae Simon wedi bod yn Rheolwr Prosiect Cadwraeth a Datblygu ar gyfer yr esgobaeth a’r Gadeirlan ers Ionawr 2022, gan oruchwylio gwaith prosiect Llefa’r Cerrig / Stones Should Out ac yn arbennig y gwaith o dan gynllun Lefelu i Fyny Llywodraeth y DU yng Nghaergybi. Ar yr un pryd mae wedi rheoli gwaith adfer a gwella mawr yn Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant mewn cydweithrediad â’r Is-ddeon a’r Cabidwl Gadeiriol.
Cyfrifoldebau Trysorydd Esgobaethol newydd
Wedi iddo ddychwelyd o wyliau yn ddiweddarach y mis hwn, bydd Owain Pritchard yn ymgymryd â chyfrifoldebau newydd fel Trysorydd newydd ein Hesgobaeth.
Bydd rôl newydd Owain yn ei weld yn gweithio’n agos gydag Archddiaconiaid a Thrysoryddion Ardaloedd Gweinidogaeth ar draws yr esgobaeth, gyda ffocws craff ar gynaliadwyedd ariannol a stiwardiaeth ym mhob un o’n Hardaloedd Gweinidogaeth, yn ogystal ag ar ddyfodol Cronfa Weinidogaeth yr Esgob.
Symud ymlaen
Ar ddiwedd mis Awst cafwyd dau ymadawiad sylweddol oddi wrth Dîm Deiniol. Mae Naomi Wood, a wasanaethodd fel un o’n CYFMEs ac, yn y blynyddoedd diwethaf, fel ein Cyfarwyddwr Cyfathrebu, a Robert Jones, sy’n gwasanaethu fel Cynorthwyydd i’r Esgob ac Ysgrifennydd yr Esgobaeth, ill dau wedi gadael eu swyddi, ar ôl gwneud cyfraniadau enfawr i ein bywyd cyffredin fel esgobaeth.
Rydym yn ffodus bod y ddau wedi symud ymlaen i baratoi i wasanaethu’r esgobaeth fel diaconiaid ac offeiriaid, a dechrau ar eu rhaglen hyfforddi a ffurfio dan nawdd Athrofa Padarn Sant yr hydref hwn. Daliwch Naomi a Robert yn eich gweddïau ac agorwch y penodau newydd hyn.
Rhannu Gwybodaeth
Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Matt Batten erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.
Y Ddolen
Recruitment Announcements
5 September 2023
At this season of new beginnings, it is good to be able to announce changes to Tîm Deiniol, as we welcome new colleagues, say farewell to others, and seek to enhance the level of support that can be offered to Ministry Areas in key areas.
Siôn Rhys Evans
Diocesan Secretary & Sub-Dean
New Director of Communication
Please welcome Matt Batten, our new Director of Communication, to the diocese. Matt has over 20 years’ experience of working in communication and engagement and previously worked for the Diocese of Llandaff in a similar role. He is completing a Masters in Digital Theology at Spurgeon’s College London and is on the editorial board of Practical Theology Hub.
Matt is a Welsh learner and begins Course Uwch 2 this month. We look forward to supporting his Welsh language journey.
Matt is keen to support Ministry Areas with all things communication and can be contacted at mattbatten@cinw.org.uk or call 07586 469556.
New Archdeaconry Property Officer
I am delighted to announce that Paul Keets has been appointed as the first of our new Archdeaconry Property Officers. The role of the Archdeaconry Property Officer will be to undertake the Quinquennial Inspection reports by updating Ezra reports, to offer advice to Ministry Areas on reordering, maintenance and repair schemes, and to manage the delivery of key property projects within Ministry Areas.
Paul’s eventual focus will be on the Archdeaconry of Bangor, with two other officers, who we hope to have in place by the end of the year, supporting the other two archdeaconries. In the meantime, Paul is already at work supporting churches and Ministry Areas across the diocese.
Paul has a diploma in building conservation from the Architectural Association and is a full member of the Institute of Historic Buildings Conservation. Paul specializes in building conservation and has previously worked at Essex County Council’s Historic Buildings and Conservation Team. He has lived in North Wales since 2014.
New Director of Property
Please welcome Simon Ogdon, who has begun work in his new role as Director of Property. Simon will be responsible for our diocesan property processes, including faculties and the work of the Diocesan Advisory Committee, as well as in recruiting and managing the work of our new Archdeaconry Property Officers.
Simon has been the Conservation & Development Project Manager for the diocese and the Cathedral since January 2022, overseeing the work of the Llefa’r Cerrig / Stones Should Out project and in particular the works under the UK Government Levelling Up scheme in Holyhead. At the same time he has managed major restoration and improvement works at St Deiniol’s Cathedral in collaboration with the Sub-Dean and Cathedral Chapter.
New Diocesan Treasurer responsibilities
Following his return from leave later this month, Owain Pritchard will take up new responsibilities as our new Diocesan Treasurer.
Owain’s new role will see him working closely with Archdeacons and Ministry Area Treasurers across the diocese, with a sharp focus of financial sustainability and stewardship in each of our Ministry Areas, as well as on the future of the Bishop’s Ministry Fund.
Moving on
The end of August saw two significant departures from Tîm Deniol. Naomi Wood, who served as one of our CYFMEs and, in recent years, as our Director of Communication, and Robert Jones, who serves as an Assistant to the Bishop and the Diocesan Secretary, have both left their posts, having made huge contributions to our common life as a diocese.
We are fortunate that both have moved on to prepare to serve the diocese as deacons and priests, and commence their training and formation programme under the auspices of St Padarn’s Institute this autumn. Please hold Naomi and Robert in your prayers and these new chapters open.
Sharing information
If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Matt Batten by the end of day on Wednesday before you would like it published.