minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Myfi, Iesu


Dydd Mercher y Lludw


Os nad adwaenwn Iesu Grist, os nad adwaenwn Dduw yng Nghrist, nid adwaenwn ac ni wyddom ddim.

Dywed yr Apostol Paul wrthym bod rhaid i Grist breswylio yn ein calonnau, bod rhaid i’r un ‘agwedd meddwl honno’ ag a berthynai i Iesu fod ynom ni, a bod angen i ni allu amgyffred ‘beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad’ Mab Duw (Effesiaid 3: 17-18; Philipiaid 2:5).

Mae’r emynydd Ann Griffiths yn dyheu am bresenoldeb Iesu Grist, yr unig wrthrych sy’n deilwng o’i serch. Ni all yr un o ‘eilunod gwael y llawr’ fyth ‘gystadlu â’m Iesu mawr’. Mae ei adnabod, ei weld fel y mae, yn ei llorio. ‘O am aros yn ei gariad ddyddiau f’oes’ yw ei chân.

Os nad adwaenwn Iesu Grist, os nad adwaenwn Dduw yng Nghrist, nid adwaenwn ddim, na Duw nac hyd yn oed y ni ein hunain. 


Mae yna ffyrdd gwahanol o ddod i adnabod Iesu Grist, ffyrdd gwahanol o’i gyfarfod, ffyrdd gwahanol o dreiddio i’r dirgelwch.

Mae ein hegwyddorion esgobaethol - addoli Duw, tyfu’r Eglwys, caru’r byd – yn ymwneud yn y bôn â ffyrdd o ddod i adnabod Iesu Grist.

Rydym yn ymgyfarfod ag ef mewn addoliad a gweddi, yn nhorri’r bara ac arllwys y gwin, wrth glywed agor a chyhoeddi’r Ysgrythur, yn nhawelwch myfyrio ac ystyried.

Rydym yn ymgyfarfod ag ef wrth i ni astudio a chymhwyso, wrth i ni dyfu yn ein dealltwriaeth o’r Ffydd ac wrth i ni ddysgu ar y cyd ag eraill o fewn Corff Crist.

Ac rydym yn ymgyfarfod ag ef wrth i ni wasanaethu’n cymydog, wrth i ni adeiladu ein cymunedau ac wrth i ni ddangos i’n byd beth yw ystyr ei gariad; rydym yn ymgyfarfod ag ef wrth i ni siarad amdano, wrth i ni rannu ein ffydd, wrth i ni wahodd eraill i’w gyfarfod yn nyfnderau eu calonnau hwythau hefyd.


Oni bai ein bod yn parhau i ymgyfarfod â Iesu Grist, gan gwrdd ag ef a dod i’w adnabod o’r newydd, bydd ein calonnau’n mynd yn oer a llwm, megis nosweithiau gaeafol a choed wedi’u dinoethi o’u dail.

Bydd y misoedd o wahardd symud a chyfyngiadau eraill wedi caniatáu i rai ohonom ofod ac amser i ymgyfarfod â Iesu Grist mewn ffordd ddyfnach. Ond, i fwy o lawer ohonom, byddant wedi gwneud yr ymgyfarfod hwnnw’n anoddach. Bydd y chwyn wedi meddiannu ffyrdd cynefin, bydd hen lwybrau wedi eu rhwystro a bydd pwysau’r dydd wedi ein parlysu mewn ‘rŵan’ diddiwedd o ofal a phryder.

Gallai’r Grawys, sydd bob amser yn adeg i ailgynnau ein perthynas â Iesu Grist yn ein calonnau, fod hyd yn oed yn fwy pwysig i ni eleni nag erioed o’r blaen. 


Darlunnir Iesu Grist, yn llawn gras a gwirionedd, yn drawiadol i ni yn yr Efengyl yn ôl Sant Ioan. Mae Ioan yn gydymaith da i ni yn y dyddiau hyn o gloi a chyfyngu – cydymaith a all dywys ein meddyliau o’r newydd tuag at Iesu Grist.

Mae Efengyl Sant Marc yn trafod Teyrnas Dduw mewn ffordd egnïol, dreisgar hyd yn oed. Mae Efengyl Sant Luc yn ein hysbrydoli drwy adrodd hanes iachawdwriaeth. Mae Efengyl Sant Mathew yn sôn am bethau cysegredig – am y Deyrnas, am yr ewyllys ddwyfol – yn ieithwedd bara beunyddiol, hadau mwstard, y graig gadarn, pethau cyffredin bywyd. Ond mae Efengyl Sant Ioan yn ein tywys tuag at Iesu Grist fel y mae’n bresennol yn nyfnderau dirgel yr enaid, y dychymyg a’r galon.

A Iesu Grist ei hun sy’n llefaru. Byddwn yn ei glywed yn dweud ‘Myfi yw’ chwe gwaith yn ystod wythnosau’r Grawys, ac yn ystod yr Wythnos Fawr a’r Pasg, mewn geiriau o’r Efengyl yn ôl Sant Ioan. ‘Myfi yw’r drws, bara’r bywyd, goleuni’r byd. Myfi yw’r ffordd, y gwirionedd a’r bywyd, y bugail da, yr atgyfodiad a’r bywyd. Cyn geni Abraham, yr wyf fi.’


Ac felly gwrandawn, astudiwn, gweddïwn ac ymholwn. Ac, os Duw a’i myn, byddwn yn ymgyfarfod â Iesu Grist – ac yn fwy na hynny, deuwn i’w adnabod, i feithrin yn ein meddyliau ni ei feddwl yntau, ac yn caniatáu iddo breswylio yn ein calonnau y Grawys hwn, y Pasg hwn, a hyd byth.


Siôn Rhys Evans


Hollalluog Dduw,
gwisgaist yn Iesu ein cnawd a’n bywyd corfforol ninnau,
ac wrth i’w daith ei arwain hyd Jerwsalem
bydd gyda ni wrth i ni neilltuo amser
i chwilio cilfachau ein bod,
i edifarhau ac i ddychwelyd atat ti.
Ar ddechrau’r Grawys, cadarnha ein ffydd
fel y gallwn ddilyn yn ffyddlon
yr hwn a fu, y sydd
ac a fydd hyd byth.
Amen.
Deuaf at Iesu, heddiw, Ddydd Mercher y Lludw,
i ystyried, i weddïo ac i fyfyrio ynghylch fy ffydd
drwy’r hyn fydd yn gyfarwydd a’r hyn fydd yn ddieithr
wrth droedio’r llwybr sydd o’m blaen drwy’r Grawys eleni.
Amen.

Cymraeg

I, Jesus


Ash Wednesday


Unless we know Jesus Christ, unless we know God in Christ, we know nothing.

The Apostle Paul tells us that Christ must ‘dwell in our hearts,’ that the ‘same mind’ that was in Jesus must be in us, that we must comprehend ‘the breadth and length and height and depth’ of the Son of God (Ephesians 3: 17-18; Philippians 2:5).

Ann Griffiths, the great Welsh eighteenth-century hymn-writer, yearns for Jesus Christ’s presence, the only object worthy of her heart. None of the ‘wretched idols of the earth’ can ‘compete with great Jesus.’ Knowing him, seeing him as he is, overwhelms her. ‘Oh, to stay in his love all the days of my life,’ she sings.

Unless we know Jesus Christ, unless we know God in Christ, we know nothing, neither God nor even ourselves.


There are different ways of getting to know Jesus Christ, different ways of encountering him, different ways of entering into the mystery.

Our diocesan principles - worshipping God, growing the Church, loving the world - are, at heart, about ways of knowing Jesus Christ.

We encounter him in worship and prayer, in bread broken and wine outpoured, in the word of Scripture unsealed and preached, in the silence of meditation and contemplation.

We encounter him as we study and reflect, as we grow in our understanding of the faith, and as we learn alongside others within the Body of Christ.

And we encounter him as we serve our neighbour, as we build up our communities, as we show our world what his love means; we encounter him in talking about him, in sharing our faith, in inviting others to meet him in the depths of their hearts, too.


Unless we keep encountering Jesus Christ, meeting him and knowing him anew, our hearts grow cold and bare, like winter nights and flayed trees.

These months of lockdowns and restrictions will have given some of us space and time to encounter Jesus Christ more deeply. But, for many more of us, they will have made that encounter more difficult. Familiar ways will have become overgrown, old paths will have been blocked to us, the pressures of the moment will have kept us fixed in a perpetual ‘now’ of anxiety and concern.

Lent, which is always a time to rekindle our relationship with Jesus Christ in our hearts, may well be even more important for us this year than ever. 


Jesus Christ, full of grace and truth, is vividly portrayed for us in the Gospel according to St John. John is a good companion for us during these days of lockdowns and restrictions - a good guide to take our minds anew towards Jesus Christ.

St Mark’s Gospel is energetic, even violent in its talk of God’s kingdom. St Luke’s Gospel inspires us with the story of salvation’s history. St Matthew’s Gospel speaks of holy things - of the kingdom, the divine will - in the language of daily bread, mustard seeds, the solid rock, the stuff of everyday. But St John’s Gospel takes us towards Jesus Christ in the deep, mysterious places of the soul, the imagination and the heart.

And Jesus Christ himself is the speaker. ‘I am,’ we will hear him say, six times during these weeks of Lent, Holy Week and Easter, in words from St John’s Gospel. ‘I am the door, the bread of life, the light of the world. I am the way, the truth and the life, the good shepherd, the resurrection and the life. Before Abraham was, I am.’


And so we listen, we study, we pray, we explore. And, God-willing, we encounter Jesus Christ - and, more than that, we come to know him, to nurture in our minds the same mind as his, to allow him to dwell in our hearts, this Lent, this Easter and always.


Siôn Rhys Evans


Almighty God,
in Jesus you took on our bodily flesh and life,
and as his journey takes him to Jerusalem,
be with us as we take time
to search out the crevices of our being,
to repent and turn back to you.
As Lent begins, strengthen our faith
to follow faithfully, the One,
who was and is
and evermore shall be.
Amen.
I come to Jesus, in this Ash Wednesday,
to ponder and pray and reflect upon my faith
through the known and unknown
of this Lenten journey that lies ahead.
Amen.