minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external

Ordeinio 2019 - Esgobaeth Bangor i ddathlu 8 o weinidogion newydd

Mewn gwasanaeth arbennig ar ddydd Sadwrn, Mehefin 29 am 11yb yng Nghadeirlan Bangor (gyda chroeso i bawb gyda llaw), fe fydd Esgob Bangor – y Gwir Barchedig Andy John – yn ordeinio a thrwyddedu wyth o bobl, a fydd yn dechrau ar gyfnod newydd eu taith Gristnogol.

Mehefin 29 ydy diwrnod dathliad blynyddol yr Eglwys Gristnogol o fywyd a gweinidogaeth Sant Pedr, un o’r prif bobl yr ymddiriedwyd iddo ddatblygiad a thwf yr Eglwys gan yr Iesu wedi ei atgyfodiad a’i esgyniad.

Y pregethwr yn y gwasanaeth hwn fydd y Parch Ganon Ddr. Mandy Ford, sy’n Gyfarwyddwraig Gweinidogaeth i Eglwys Loegr.

Y Parch Susan Blagden, Tiwtor Padarn Sant yn Esgobaeth Bangor, fu’n eu cefnogi trwy eu hyfforddiant unigol. Meddai hithau,

“Mae’r broses hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth drwyddedig, o reidrwydd, yn un rymus. Bu’n fraint i deithio ochr yn ochr â’r ymgeiswyr hyn wrth iddyn nhw, bob yn un, geisio a synhwyro eu galwad unigol gan Dduw i’r weinidogaeth gyhoeddus. Mae tystio i’w gweledigaeth a’u hegni wedi bod yn bleser.

Rydw i wrth fy modd ein bod yn parhau i ychwanegu at y niferoedd sy’n gweithredu’r weinidogaeth fel diaconiaid neilltuol, yn ogystal â’r rheini sydd ar daith at weinidogaeth arloesol fel offeiriaid.

Mae’r diolch hefyd yn ddyledus i’r rhai hynny fu’n rhan o’r broses addysgu - goruchwylwyr lleoliad, Galluogwyr Diwinyddiaeth ar gyfer Bywyd ac Arweinyddion Celloedd Ffurfiannol. Mae Athrofa Padarn Sant yn dathlu gyda’i hymgeiswyr ac yn eu sicrhau o’n gweddïau.”

Bydd y gwasanaeth ordeinio dan arweiniad Esgob Bangor - y Gwir Barchedig Andy John - a ddywedodd,

‘Mae hi’n arwydd o ffyddlondeb Duw ei fod yn parhau i alw pobl i fod yn weinidogion ac arweinwyr ordeiniedig yn yr Eglwys.

Mae ymateb i alwad Duw, a’r hyfforddiant a’r paratoad ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig sy’n dilyn, yn fraint yn ogystal â bod yn weithred aberthol. Fe fydd hi’n ddiwrnod arbennig i Siôn, Andrew, Eryl, Stephen a Nick wrth gael eu hordeinio’n Ddiaconiaid, ac hefyd i Simon a Vince sy’n cael eu hordeinio’n Offeiriaid. Fe fydden ni’n eu cadw yn ein gweddïau a’n calonnau.

Roedd Sant Peter yn arweinydd gwrol yn ei weinidogaeth. Fe ngweddi i ydy y bydd Duw yn rhoi’r un dewrder i’r wyth person neilltuol yma wrth iddyn nhw fentro i gyhoeddi’r Efengyl fel gweinidogion ac arweinwyr ordeiniedig. Mae hi wedi bod yn fraint i’w nabod nhw fel cyd-weision i Grist.’


Dyma’r wyth a fydd yn cael eu trwyddedu neu’u hordeinio:

Diaconiaid:

  • Andrew Hughes (trosiannol*, digyflog) a fydd yn gwasanaethu curadiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Cadwaladr (Gaerwen/Aberffraw)
  • Hugh Jones (neilltuol*, digyflog) a fydd yn gwasanaethu curadiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio (Porthaethwy/Benllech)
  • Eryl Parry (trosiannol*, arloeswraig, cyflogedig) a fydd yn gwasanaethu curadiaeth yn Ardaloedd Weinidogaeth Bro Celynnin (Conwy) ac Ardal Genadu Aberconwy (Esgobaeth Llanelwy)
  • Siôn Rhys Evans (trosiannol*, digyflog) a fydd yn gwasanaethu curadiaeth yn Ardal Weinidogaeth Llandudno
  • Stephen James Rollins (trosiannol*, digyflog) a fydd yn gwasanaethu curadiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Ystumanner (Tywyn, Meirionnydd)
  • Nick Webb (neilltuol*, digyflog) a fydd yn gwasanaethu curadiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Cadwaladr (Gaerwen/Aberffraw)

(* Diacon neilltuol ydy rhywun sy’n cael galwad i’r ddiaconiaeth yn unig. Diacon trosiannol ydy rhywun sy’n cael galwad i’r offeiriadaeth ac mae ordeiniad fel diacon yn rhan o’u llwybr. Gelwir arloeswyr gan Dduw i ymateb yn greadigol i fentrau’r Ysbryd Glân gyda phobl oddi allan i’r eglwys, gan gasglu pobl o’u cwmpas wrth iddyn nhw geisio cymuned Gristnogol gyd-destunol newydd.


Offeiriaid:

  • Simon Freeman (cyflogedig) a fydd yn parhau i wasanaethu ei guradiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Gwydyr (Betws y Coed)
  • Vince Morris (cyflogedig) a fydd yn parhau i wasanaethu ei guradiaeth yn Ardal Weinidogaeth Bro Tysilio (Porthaethwy/Benllech)

Cliciwch yma i ddarllen sylwadau gan bob un ohonyn nhw wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu cyfnod newydd yn y weinidogaeth Gristnogol.

Cymraeg

Ordination 2019 - Diocese of Bangor to celebrate 8 new ministries

In a special service on Saturday 29 June at at 11am in Bangor Cathedral (which all are welcome to attend), the Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - will ordain and license eight people, who will be beginning a new stage of their Christian journey.

The 29th June is the day on which the Christian Church’s annual celebration of the life and ministry of St Peter, one of the principal people to whom Jesus entrusted the development and growth of the Church after his resurrection and ascension.

The preacher at this service will be the Rev Canon Dr. Mandy Ford, who is the Director of Ministry for the Church of England.

The Rev’d Susan Blagden, the St Padarn’s Tutor in Bangor Diocese has been supporting them through their individual training. She said, 

“The process of training for licensed ministry is, of necessity, a rigorous one. It has been a privilege to be alongside these candidates as they have each continued to explore their own particular sense of God’s call to public ministry. Their vision and energy has been a joy to witness.

I am delighted that we continue to add to the numbers of those who exercise ministry as distinctive deacons as well as those on their journey to pioneer ministry as a priest.

Thanks are also due to those who have been part of the learning process - placement supervisors, Theology for Life Facilitators, and Formational Cell Guides. St Padarn’s rejoices with the candidates and assures them of our prayers.”

The ordination service will be led by the Bishop of Bangor - the Right Reverend Andy John - who said,

‘It is a sign of God’s faithfulness that he continues to call people to be ordained ministers and leaders in the Church.

Responding to God’s call, followed by the training and preparation for ordained ministry is a privilege as well as an act of sacrifice. It will be a special day for Siôn, Andrew, Hugh, Eryl, Stephen and Nick as they are ordained Deacon, as well as for Simon and Vince as they are ordained Priest. We hold them in our love and prayers.

St. Peter was a fearless leader in his ministry. I am praying that God will give that same courage to the eight special people as they begin to proclaim the Gospel as ordained ministers and leaders. It is a privilege to know them as my fellow servants in Christ.’


The eight people who are being licensed or ordained are as follows:

Deacons :

  • Andrew Hughes (transitional*, non-stipendiary) who will serve a curacy in the Bro Cadwaladr (Gaerwen/Aberffraw) Ministry Area
  • Hugh Jones (distinctive*, non-stipendiary) who will serve a curacy in the Bro Tysilio (Menai Bridge/Benllech) Ministry Area
  • Eryl Parry (transitional, pioneer* stipendiary) who will serve a curacy in the Bro Celynnin (Conwy) Ministry Area and Aberconwy Mission Area (St. Asaph Diocese)
  • Siôn Rhys Evans (transitional*, non-stipendiary) who will serve a curacy in the Llandudno Ministry Area
  • Stephen James Rollins (transitional*, non-stipendiary) will serve a curacy in the Bro Ystumanner Ministry Area (Tywyn, Meirionnydd)
  • Nick Webb (distinctive*, non-stipendiary) who will serve a curacy in the Bro Cadwaladr (Gaerwen/Aberffraw) Ministry Area

(* A distinctive deacon is someone whose calling is to the diaconate alone. A transitional deacon is someone whose calling is to the priesthood, and ordination as a deacon is part of their journey. A pioneer is called by God to respond creatively to the Holy Spirit’s initiatives with people outside the church, gathering people around them as they seek to establish new contextual Christian community)


Priests :

  • Simon Freeman (stipendiary) who will continue to serve his curacy in the Bro Gwydyr Ministry Area (Betws y Coed)
  • Vince Morris (stipendiary) who will continue to serve his curacy in the Bro Tysilio Ministry Area (Menai Bridge/Benllech)

Click here to read some thoughts from each of them, as they prepare for the new stage of their Christian ministry.