Wrth y bwrdd
Addoliad syml ar yr aelwyd ac mewn Eglwys Iau ar gyfer teuluoedd ifanc
Dydd y Pentecost
Ymlonyddu gyda'n gilydd
1. Goleuwch gannwyll.
2. Darllenwch:
A dywedodd Duw, "Bydded goleuni." A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf.
Genesis 1:3-5
Dyma’r dydd y gweithredodd yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenhawn ynddo.
Salm 118:24
Parotoi gyda'n gilydd
Cysylltyu’r Iaith
Darllen gyda'n gilydd
Ar ddiwrnod dathlu Gŵyl y Pentecost roedd pawb gyda'i gilydd eto. Ac yn sydyn dyma nhw'n clywed sŵn o'r awyr, fel gwynt cryf yn chwythu drwy'r ystafell lle roedden nhw'n cyfarfod. Ac wedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yn dod i lawr ac yn gorffwys ar ben pob un ohonyn nhw. Dyma pawb oedd yno yn cael eu llenwi â'r Ysbryd Glân ac yn dechrau siarad mewn ieithoedd eraill. Yr Ysbryd oedd yn eu galluogi nhw i wneud hynny. Bryd hynny roedd Iddewon crefyddol o wahanol wledydd wedi dod i aros yn Jerwsalem. Clywon nhw'r sŵn hefyd, ac roedd tyrfa fawr wedi casglu at ei gilydd i weld beth oedd yn digwydd. Roedden nhw wedi drysu, am fod pob un ohonyn nhw yn clywed ei iaith ei hun yn cael ei siarad. Roedd y peth yn syfrdanol! “Onid o Galilea mae'r bobl yma'n dod?” medden nhw. “Sut maen nhw'n gallu siarad ein hieithoedd ni?” (Roedd Parthiaid yno, a Mediaid, Elamitiaid, pobl o Mesopotamia, Jwdea a Capadocia, Pontus ac Asia, Phrygia, Pamffilia, yr Aifft, a'r rhan o Libia sydd wrth ymyl Cyrene; pobl oedd ar ymweliad o Rufain – rhai yn Iddewon ac eraill yn bobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig – a hefyd Cretiaid ac Arabiaid) “Maen nhw'n siarad ein hieithoedd ni, ac yn dweud am y pethau rhyfeddol mae Duw wedi'u gwneud!” Dyna lle roedden nhw'n sefyll yn syn, heb ddim clem beth oedd yn digwydd. “Beth sy'n mynd ymlaen?” medden nhw. Ond roedd rhai yno'n gwatwar a dweud, “Maen nhw wedi meddwi!”Dyma Pedr yn codi ar ei draed i annerch y dyrfa, a'r unarddeg arall wrth ei ymyl: “Arweinwyr, bobl Jwdea, a phawb arall sy'n aros yma yn Jerwsalem, gwrandwch yn ofalus – gwna i esbonio i chi beth sy'n digwydd. Dydy'r bobl yma ddim wedi meddwi fel mae rhai ohonoch chi'n dweud. Mae'n rhy gynnar i hynny! Naw o'r gloch y bore ydy hi! “Na, beth sy'n digwydd ydy beth soniodd y proffwyd Joel amdano:
‘Mae Duw yn dweud: Yn y cyfnod olaf
Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar y bobl i gyd.
Bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo,
bydd dynion ifanc yn cael gweledigaethau,
a dynion hŷn yn cael breuddwydion.
Bryd hynny bydda i'n
tywallt fy Ysbryd ar fy ngweision i gyd,
yn ddynion a merched,
a byddan nhw'n proffwydo.
Bydd pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr awyr
ac arwyddion gwyrthiol yn digwydd ar y ddaear –
gwaed a thân a mwg yn lledu ym mhobman.
Bydd yr haul yn troi'n dywyll
a'r lleuad yn mynd yn goch fel gwaed
cyn i'r diwrnod mawr, rhyfeddol yna ddod,
sef, Dydd yr Arglwydd.
Bydd pawb sy'n galw ar enw'r Arglwydd
yn cael eu hachub.’
Act 2:1-21
Myfyrio gyda'n gilydd
Trafodwch y cwestynau canlynol:
- Ydych chi erioed wedi bod mewn gwlad lle mae iaith arall yn cael ei siarad neu nad oeddech yn deall beth oedd yn cael ei ddweud?
- Tybed sut oedd y disgyblion yn teimlo wrth iddynt ddefchrau siarad ieithoedd newydd?
- Mae’r Ysbryd Glân yma gyda ni nawr. Sut mae hynny yn gwneud i chi deimlo?
- Beth hoffech chi ofyn i’r Ysbryd Glân helpu chi i’w wneud?
Ymateb gyda'n gilydd
Siaradodd y disgyblion wrth nifer fawr o bobol am Iesu. Gyda pwy allwch chi rhannu’r neges am Iesu?
Sut gallwch chi ddweud wrthynt? Pa ieithoedd allwch chi siarad?
Ai trwy siarad yn unig gallwn ni rhannu newyddion da Iesu?
Beth am ddysgu sut i ddweud ‘Mae Duw yn eich caru’ mewn ieithoedd newydd? Gallwch gofyn i Siri neu Alexa i’ch helpu.
Gweddio gyda'n gilydd
Diolch Dduw am anfon Iesu i'r byd. Diolch iddo farw a dod yn fyw eto fel y gallwn fod yn agos gyda chi.
Diolch am anfon yr Ysbryd Glân i fod gyda ni.
Helpa ni i wybod dy gariad, dy cysur a dy phŵer bob dydd wrth i ni ddweud wrth bobl amdanat ti.
Amen
Gorffen gyda'n gilydd
Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.
Diffoddwch y gannwyll.
Tanysgrifiwch i dderbyn hysbys ar e-bost am Wrth y bwrdd, Llythyr yr Esgob a chyhoeddiadau esgobaethol
At the table
Simple worship at home and at Junior Church for young families
Day of Pentecost
Stilling together
1. Light a candle.
2. Read:
God said, "Let there be light," and there was light, and God saw the light was good, and he separated light from darkness. So evening came, and morning came; it was the first day.
Genesis 1: 3-5
This is the day which the Lord has made; let us rejoice and be glad in it.
Psalm 118: 24
Preparing together
Match the language
Reading together
When the day of Pentecost came, they were all together in one place.Suddenly a sound like the blowing of a violent wind came from heaven and filled the whole house where they were sitting. They saw what seemed to be tongues of fire that separated and came to rest on each of them. All of them were filled with the Holy Spirit and began to speak in other tongues as the Spirit enabled them.
Now there were staying in Jerusalem God-fearing Jews from every nation under heaven. When they heard this sound, a crowd came together in bewilderment, because each one heard their own language being spoken.Utterly amazed, they asked: “Aren’t all these who are speaking Galileans?Then how is it that each of us hears them in our native language? Parthians, Medes and Elamites; residents of Mesopotamia, Judea and Cappadocia,Pontus and Asia, Phrygia and Pamphylia, Egypt and the parts of Libya near Cyrene; visitors from Rome (both Jews and converts to Judaism); Cretans and Arabs—we hear them declaring the wonders of God in our own tongues!” Amazed and perplexed, they asked one another, “What does this mean?”
Some, however, made fun of them and said, “They have had too much wine.”
Then Peter stood up with the Eleven, raised his voice and addressed the crowd: “Fellow Jews and all of you who live in Jerusalem, let me explain this to you; listen carefully to what I say. These people are not drunk, as you suppose. It’s only nine in the morning! No, this is what was spoken by the prophet Joel:
“‘In the last days, God says,
I will pour out my Spirit on all people.
Your sons and daughters will prophesy,
your young men will see visions,
your old men will dream dreams.
Even on my servants, both men and women,
I will pour out my Spirit in those days,
and they will prophesy.
I will show wonders in the heavens above
and signs on the earth below,
blood and fire and billows of smoke.
The sun will be turned to darkness
and the moon to blood
before the coming of the great and glorious day of the Lord.
And everyone who calls
on the name of the Lord will be saved.’
Acts 2: 1-21
Reflecting together
Discuss the following questions together:
- Have you been somewhere where they speak a different language or you didn’t understand what people were saying?
- How do you think the disciples felt when they started speaking languages they didn’t know?
- The Holy Spirit is here with us now. How does that make you feel?
- Is there anything you would like to ask the Holy Spirit to help you to do?
Responding together
The disciples spoke to lots of people about Jesus. Who could you tell?
How can you tell them? Which languages do you speak?
How else can we tell people?
Why not learn how to say ‘God loves you’ in some different languages. You could ask Siri, Alexa or another AI device to help.
Praying together
Thank you God that you sent Jesus to the earth. Thank you that he died and came alive again so that we can be right with you.
Thank you for sending the Holy Spirit to be with us.
Help us to know your love, comfort and power each day as we tell people about you.
Amen
Finishing together
The God of hope fill you with all joy and peace as you trust in him, that by the power of the Holy Spirit you may overflow with hope.
Blow out the candle.