minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Wrth y bwrdd gyda'n gilydd


Addoliad syml ar yr aelwyd ar gyfer teuluoedd ifanc


Dydd Gwener y Groglith


Ymlonyddu gyda'n gilydd

1. Ar ôl i chi oleuo'r gannwyll a darllen yr ysgrythur ceisiwch gadw pawb mor ddistaw â phosib mor hir â phosib

2. Goleuwch gannwyll.

3. Darllenwch Genesis 1: 3-5 a Salm 118: 24 o Feibl o'ch dewis

"A dywedodd Duw, “Bydded goleuni.” A bu goleuni. Gwelodd Duw fod y goleuni yn dda; a gwahanodd Duw y goleuni oddi wrth y tywyllwch. A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf."

"Dyma’r dydd y gweithredodd yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenhawn ynddo."


Darllen gyda'n gilydd

Ioan 18:1 - 19:42

Mae yna lawer o wahanol ffyrdd o helpu ein plant i glywed y stori hon. Fe allech chi:

  1. Ddarllen o Feibl o'ch dewis. Mae'n ddarn hir iawn felly efallai y byddwch chi'n cael trafferth darllen y cyfan os byddwch chi'n dewis Beibl safonol. Bydd Beibl i blant yn cyddwyso'r stori gryn dipyn: fodd bynnag, gall hyn olygu eich bod chi'n colli rhai rhannau o'r stori. Mae'r fersiwn sydd ym Meibl Newydd y Storïwr gan Bob Hartman yn un da a bydd y llyfr yn gyfarwydd i blant hun sydd yn yr ysgol gyda criw Agor y Llyfr.
  2. Gwylio fideo. Efallai bod gennych chi gopi o Gŵr y Gwyrthiau sy'n boblogaidd iawn. Mae ar gael ar S4C Clic yn Gymraeg - yn syml, bydd angen i chi gofrestru cyfrif. Mae fideo arall yma ar YouTube (ac ar dop y dudalen) - gwaith yr un artist a greodd y fideo Lasarus a ddefnyddiwyd gennym o'r blaen.
  3. Siarad amdano fel teulu gan ddefnyddio rhai lluniau. Adnodd gwych a rhad ac am ddim yw Free Bible Images.

Oedolion, rydych chi'n adnabod eich plant a beth rydych chi am iddyn nhw orfod wynebu. Dewiswch y ffordd orau i'ch teulu ymwneud â hyn. Bydd rhai plant yn 'mwynhau'r' golygfeydd gyda gwaed ond ni fydd eraill yn eu hoffi o gwbl. Mae yna amrywiaeth helaeth o fideos a delweddau felly treuliwch ychydig o amser ymlaen llaw yn dod o hyd i rywbeth sy'n eich bodloni. A pheidiwch ag anghofio, rydym eisoes yn gwybod sut mae'r stori hon yn dod i ben (er efallai na fydd ein plant) ac mae diweddglo hapus i ddod - ond nid heddiw. Os yw'ch plant wedi cynhyrfu gyda'r ffordd y mae heddiw'n dod i ben, gall fod yn bwysig ac yn angenrheidiol i roi cipolwg craff iddynt ar Newyddion Da Dydd Sul.


Trafod gyda'n gilydd

  1. Sut mae'r stori'n gwneud ichi deimlo?
  2. A wnaethoch chi sylwi nad oedd Iesu wedi ceisio dianc ac na wnaeth e sgrechian a gweiddi? Pa mor hawdd oedd hi i chi aros yn dawel wrth gynnau'r gannwyll? Roedd Iesu yn cael ei wawdio, ei bryfocio a'i frifo. Pam ydych chi'n meddwl iddo aros yn dawel?
  3. Pan fyddwn yn gorffen swydd, rydym yn aml yn dweud, "wedi gorffen o'r diwedd'. Dywedodd Iesu hyn ychydig cyn iddo farw. Pa swydd ydych chi'n meddwl ei fod wedi'i gwneud? Mae'r rhan fwyaf o oedolion yn ei chael hi'n anodd deall llwyrystyr hyn ac felly peidiwch â disgwyl y plant i'w 'gael' ond byddwch yn barod i synnu. Efallai yr hoffech chi ddefnyddio delweddau ac iaith sy'n cynnwys:
  • Cynllun achub
  • Pont rhyngom ni a Duw dros yr holl bethau drwg rydyn ni'n eu gwneud
  • Dileu'r holl dristwch yn y byd
  • Cymryd y bai am yr holl bethau anghywir yn y byd
  • Duw'n dioddef poen a loes i'r eithaf, ac yn deall ein poen a'n loes ni

Creu gyda'n gilydd

Croes

Bydd angen:

  • Papur plaen er bod cerdyn yn well. Efallai gallech chi ddefnyddio blwch grawnfwyd?
  • Tâp masgio - er y bydd 'sellotape' yn gweithio.
  • Paent cymysg parod
  • Bagiau bwyd mawr - rhai y gellir eu selio os yn bosib
  1. Sicrhewch y bydd y cerdyn yn ffitio y tu mewn i'r bag bwyd a'ch bod yn gallu cau neu selio'r bag.
  2. Yng nghanol y cerdyn gwnewch groes gan ddefnyddio'r tâp. Ceisiwch dynnu peth o'r gludiogrwydd oddi ar y tâp trwy ei lynu ar eich dillad neu ffabrig arall yn gyntaf (bydd angen i chi ei groenio oddi ar y papur unwaith y bydd y paent yn sych heb iddo adael marc neu rwygo'r papur).
  3. Dotiwch wahanol liwiau o baent ar wyneb y cerdyn ac yna ei roi yn y bag a'i selio.
  4. Gadewch i'r plant 'esmwytho' y paent o gwmpas i orchuddio'r papur ond ceisiwch ei achub rhag dod yn llanast brown.
  5. Tynnwch y cerdyn allan o'r bag gan adael iddo sychu (tan weithgaredd dydd Sul). Efallai bydd angen torri'r bag i osgoi sarnu'r lliwiau.
  6. Fel arall, fe allech chi ddefnyddio paent neu badiau inc ac olion bysedd i ddotio o amgylch ymyl y groes. Unwaith eto, gadewch i'r rhain sychu tan weithgaredd dydd Sul.

Gorffen gyda'n gilydd

"Bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith."

Daw'r gweddïau ar gyfer "Ymlonyddu gyda'n gilydd" a "Gorffen gyda'n gilydd" o Lyfr Gweddi Gyffredin yr Eglwys yng Nghymru: Gweddi Ddyddiol 2009. Os hoffech chi ddefnyddio gweddïau gwahanol gallwch ddod o hyd i'r amlinelliad llawn yma.

Rydym yn gobeithio cynhyrchu Wrth y bwrdd gyda'n gilydd bob wythnos tra'n bod yn ymatal rhag addoli ar y cyd. Ein gobaith yw cadw mor syml a phosib gan ddefnyddio gwrthrychau ac adnoddau sydd gan teuluoedd ifanc yn barod neu sy'n hawdd i'w hymgynnull. Os oes gennych unrhyw syniadau plîs anfonwch nhw at Naomi Wood.

Cymraeg

Together at the table


Simple worship at home for young families


Good Friday


Stilling together

1. Once you have lit the candle and read the scripture try and keep everyone as quiet as possible for as long as possible.

2. Light a candle.

3. Read Genesis 1: 3-5 and Psalm 118: 24 from a Bible of your choice.

"God said, ‘Let there be light’, and there was light, and God saw the light was good, and he separated light from darkness. So evening came, and morning came; it was the first day."

"This is the day which the Lord has made; let us rejoice and be glad in it."


Read together

John 18:1 - 19:42

There are many different ways of helping our children to hear this story. You could:

  1. Read from a Bible of your choice. It's a very long passage so you may struggle to read it all if you choose a standard Bible. A children's Bible will condense the story a fair bit, however this may mean you lose some parts of the story. The Lion Storyteller Bible has a good version and is familiar to older children who may have an Open the Book team in their school.
  2. Watch a video. You may have a copy of The Miracle Maker which is very popular. It's available on S4C Clic in Welsh - you'll simply need to register an account. Another video is here on YouTube (and at the top of the page), and is by the same artist that created the Lazarus video we used before.
  3. You could simply talk about it as a family using some pictures. A great free resource is Free Bible Images.

Adults, you know your children and what you want them to be exposed to. Please choose the best way for your family to approach this. Some children will 'enjoy' the scenes with blood but others will not like them at all. There is a vast array of videos and images so spend some time in advance finding something you are happy with. And, don't forget, we already know how this story ends (though our children might not) and there is a happy ending to come - but not today. If your children are upset by how today ends it may be important and necessary to give them a sneaky peek at Sunday's Good News.


Talk together

  1. How does the story make you feel?
  2. Did you notice that Jesus didn't fight to get away and didn't scream and shout? How easy was it for you to stay quiet when we lit the candle? Jesus was being shouted at, teased and hurt. Why do you think he stayed quiet?
  3. When we finish a job, we often say, "job done'. Jesus said this just before he died. What job do you think he had done? (Most adults struggle to grasp the full extent of this and so do not expect the children to 'get it' but be prepared to be surprised. You may want to use images and language that include:
  • A bridge between us and God over all the bad things we do
  • Taking away all the sadness in the world
  • Taking the blame for all the wrong things in the world
  • God experiencing awful suffering and loss, and understanding what our suffering and loss is like

Create together

Cross

You will need:

  • Plain paper although card is better. Perhaps you could use a cereal box?
  • Masking tape - though sellotape will work.
  • Ready mixed paint
  • Large Foodbags - preferably sealable

  1. Make sure the card will fit inside the food bag and that you can close or seal the bag.
  2. In the centre of the card make a cross using the tape. Try and take some of the stickiness off the tape by sticking it on your clothes or other fabric first (you'll need to peel it off the paper once the paint is dry without it leaving a mark or ripping the paper).
  3. Dot different colours of paint on the surface of the card and then place it in the bag and seal it.
  4. Let the children 'smoosh' the paint around to cover the paper, though try to avoid it becoming a brown mess.
  5. Take it out of the bag and leave to dry (until Sunday's activity). You may need to cut the bag to avoid smearing the colours.
  6. Alternatively you could use paint or ink pads and fingerprints to dot around the edge of the cross. Again, leave these to dry until Sunday's activity.

Finish together

"The God of hope fill you with all joy and peace as you trust in him, that by the power of the Holy Spirit you may overflow with hope."

Both the "Stilling together" and "Finish together" prayers are taken from the Church in Wales' Book of Common Prayer: Daily Prayer 2009. If you'd like to use a different prayer you can find the full outline here.


We hope to prepare Together at the table each week while public worship is suspended. Our aim is to make them as simple as possible using objects and items most young families may already have at home or can easily access. If you have any craft ideas or suggestions please do send them to Naomi Wood.